Llyfr Jarom.
Pennod Ⅰ.
Yn awr, wele, yr wyf fi, Jarom, yn ysgrifenu ychydig o eiriau, yn ol gorchymyn fy nhad Enos, fel y cedwid ein hachyddiaeth. A chan fod y llafnau hyn yn fychain, a’r pethau hyn yn cael eu hysgrifenu i’r dyben o leshau ein brodyr y Lamaniaid, am hyny, anghenrhaid yw i mi ysgrifenu ychydig; eithr ni ysgrifenaf bethau fy mhrophwydoliaethau, na’m dadguddiadau. Canys pa beth a allaswn i ysgrifenu yn ychwaneg nag a ysgrifenodd fy nhadau? Canys oni ddadguddiasant hwy drefn yr iachawdwriaeth? Do, meddaf i chwi; ac y mae hyn yn ddigon genyf.
Wele, y mae yn anghenrheidiol i lawer gael ei wneuthur yn mysg y bobl hyn, o herwydd caledwch eu calonau, a byddarwch eu clustiau, a dallineb eu meddyliau, a sythder eu gwarau; er hyny, y mae Duw yn dra thrugarog tuag atynt, ac nid yw hyd yma wedi eu hysgubo hwynt oddiar wyneb y tir. Ac y mae llawer yn ein mysg a gawsant amryw ddadguddiadau; canys nid ydynt oll yn wargaled. A chynnifer nad ydynt yn wargaled a chanddynt ffydd, a gyfrinachant â’r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn egluro i blant dynion yn ol eu ffydd.
Ac yn awr, wele, yr oedd dau gan mlynedd wedi myned heibio, ac yr oedd pobl Nephi wedi myned yn gryfion yn y tir. Yr oeddynt yn cadw cyfraith Moses, a’r dydd Sabboth yn santaidd i’r Arglwydd. Ni halogasant ac ni chablasant ychwaith. Ac yr oedd cyfreithiau y tir yn gaeth iawn. Ac yr oeddynt yn lled wasgaredig ar wyneb y tir; a’r Lamaniaid hefyd. Ac yr oeddynt hwy yn llawer mwy lliosog na’r Nephiaid; a charent lofruddiaeth, ac yfent waed anifeiliaid.
A bu iddynt ddyfod laweroedd o weithiau yn ein herbyn ni, y Nephiaid, i ryfel. Eithr yr oedd ein breninoedd a’n penaethiaid ni yn ddynion galluog yn ffydd yr Arglwydd; a hwy a ddysgasant y bobl yn ffyrdd yr Arglwydd; am hyny, darfu i ni wrthsefyll y Lamaniaid, a’u hysgubo hwynt ymaith o’n tir, ac a ddechreuasom amgaeru ein dinasoedd, neu pa le bynag y preswyliem. A darfu i ni liosogi yn fawr, a lledu ar wyneb y tir, a daethom yn gyfoethog iawn mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pethau gwerthfawr, ac mewn hardd-waith coed, mewn adeiladau, ac mewn peirian-waith, ac hefyd mewn haiarn a chopr, a phres a dur, gan wneuthur pob math o offerynau i drin y ddaear, ac arfau rhyfel; ïe, y saeth flaenllym, y gawell, y bicell, y waywffon, a phob parotoiadau rhyfel; a chan ein bod felly yn barod i gyfarfod y Lamaniaid, ni lwyddasant yn ein herbyn. Eithr gair yr Arglwydd a wiriwyd, yr hwn a lefarodd wrth ein tadau, gan ddywedyd, Yn gymmaint ag y cadwch fy ngorchymynion, chwi a lwyddwch yn y tir.
A darfu i brophwydi yr Arglwydd fwgwth pobl Nephi, yn ol gair Duw, os na chadwent ei orchymynion ef, eithr syrthio i drosedd, y dinystrid hwynt oddiar wyneb y tir; am hyny, y prophwydi, a’r offeiriaid, a’r dysgawdwyr, a lafurient yn ddiwyd, gan annog y bobl gyda phob hit-ymaros, i ddiwydrwydd; gan ddysgu cyfraith Moses, a’r dyben i ba un ei rhoddwyd; gan eu hannog hwynt i edrych yn mlaen at y Messiah, a chredu ei fod yn dyfod megys pe eisoes wedi dod. Ac yn y modd hyn y dysgasant hwynt. A bu, wrth wneuthur felly iddynt eu cadw hwynt rhag cael eu dyfetha ar wyneb y tir canys dwysbigwyd hwynt ganddynt yn eu calonau â’r gair, gan eu cyffroi yn barhaus i edifeirwch.
A bu i ddau gant a thair blynedd ar bymtheg ar hugain fyned heibio ar ddull rhyfeloedd, ac amrafaelion, ac ymraniadau am yspaid llawer o amser. Ac nid wyf fi, Jarom, yn ysgrifenu ychwaneg, canys y mae’r llafnau yn fychain. Ond wele, fy mrodyr, chwi a ellwch fyned at lafnau ereill Nephi; canys wele, arnynt hwy y mae hanes ein rhyfeloedd yn gerfiedig, yn ol ysgrifeniadau y breninoedd, neu y rhai a berodd eu hysgrifenu. Ac yr wyf fi yn cyflwyno y llafnau hyn i ddwylaw fy mab Omni, fel y cadwer hwynt yn ol gorchymynion fy nhadau.