Llyfr Omni.
Pennod Ⅰ.
Wele, darfu i mi, Omni, gael gorchymyn gan fy nhad Jarom, i ysgrifenu rhywfaint ar y llafnau hyn, er cadw ein hachyddiaeth; am hyny, mi a ewyllysiwn i chwi wybod, i mi, yn fy nyddiau, ryfela llawer â’r cleddyf er cadw fy mhobl, y Nephiaid, rhag syrthio i ddwylaw eu gelynion, y Lamaniaid. Ond, wele, myfi, o ran fy hun, ydwyf ddyn drygionus, ac ni chedwais ddeddfau a gorchymynion yr Arglwydd megys y dylaswn.
A bu i ddau gant ac un flynedd ar bymtheg a thriugain fyned heibio, ac ni a gawsom lawer tymmor o heddwch; ac ni a gawsom lawer tymmor o ryfel prysur a thywallt gwaed. Ië, ac yn fyr, yr oedd dau gant a dwy flynedd a phedwar ugain wedi myned heibio, ac mi a gedwais y llafnau hyn yn ol gorchymynion fy nhadau; ac mi a’u cyflwynais hwynt i’m mab Amaron. Ac yr wyf fi yn diweddu.
Ac yn awr, yr wyf finnau, Amaron, yn ysgrifenu pa bethau bynag a ysgrifenaf, y rhai ydynt ychydig, yn llyfr fy nhad. Wele, dygwyddodd fod tri chant ac ugain mlynedd wedi myned heibio, ac yr oedd y rhan fwyaf drygionus o’r Nephiaid wedi eu dyfetha: canys ni ddyoddefai yr Arglwydd, ar ol iddo eu harwain hwynt allan o wlad Jerusalem, a’u cadw a’u diogelu rhag sythio i ddwylaw eu gelynion; ïe, ni ddyoddefai efe na chawsai ei eiriau eu gwirio, y rhai a lefarodd wrth ein tadau, gan ddywedyd, Yn gymaint ag na chadwch fy ngorchymynion, ni lwyddwch yn y tir. Am hyny yr Arglwydd a ymwelodd â hwynt mewn barn fawr; er hyny, efe a arbedodd y cyfiawn, fe na ddyfethid hwynt, ac a’u gwaredodd hwynt allan o ddwylaw eu gelynion. A darfu i mi gyflwyno y llafnau i’m brawd Chemish.
Yn awr, yr wyf finnau, Chemish, yn ysgrifenu yr ychydig a ysgrifenaf, yn yr un llyfr â’m brawd; canys wele, mi a welais yr olaf a ysgrifenodd efe, iddo ei ysgrifenau â’i law ei hun; ac efe a’i hysgrifeodd yn y dydd cyflwynodd ef i mi. Ac yn y modd hyn y cadwn y cof-lyfrau, canys y mae yn ol gorchymynion ein tadau. Ac yr wyf fi yn diweddu.
Wele, minnau, Abinadom, ydwyf fab Chemish. Wele, darfu i mi weled llawer o ryfel ac amrafael rhwng fy mhobl, y Nephiaid, a’r Lamaniaid; a myfi, â’m cleddyf fy hun, a gymmerais fywydau llawer o’r Lamaniaid wrth amdeifyyn fy mrodyr. Ac wele, y mae hanes y bobl hyn yn gerfledig ar lafnau sydd i’w cael gan y breninoedd, yn ol y cenedlaethau; ac nis gwn i am un dadguddiad, oddieithr yr hyn sydd ysgrifenedig, na phrophwydoliaeth; am hyny, y mae digon yn ysgrifenedig. Ac yr wyf fi yn diweddu.
Wele, myfi wyf Amaleki, mab Abinadom. Wele, mi a lefaraf rywfaint wrthych ynghylch Mosiah, yr hwn a wnaed yn frenin ar dir Zarahemla; canys wele, efe a rybyddiwyd gan yr Arglwydd i ffoi allan o dir Nephi, a chynnifer ag a wrandawent ar leferydd yr Arglwydd, oeddynt i ffoi allan o’r tir gydag ef, i’r anialwch. A bu iddo wneuthur megys y gorchymynodd yr Arglwydd iddo. A hwy a aethant allan o’r tir i’r anialwch, cynnifer ag a wrandawent ar leferydd yr Arglwydd. A hwy a arweiniwyd trwy lawer o bregethu a phrophwydo. A cheryddwyd hwynt yn barhaus gan air Duw: ac arweiniwyd hwynt trwy nerth ei fraich ef, trwy yr anialwch, hyd nes y daethant i waered i’r tir yr hwn a elwir tir Zarahemla. A hwy a gawsant allan bobl, y rhai a elwid pobl Zarahemla. Yn awr, yr oedd llawenydd mawr yn mysg pobl Zarahemla. Yn awr, yr oedd llawenydd mawr yn mysg pobl Zarahemla; ac yr oedd Zarahemla hefyd yn llawenychu yn fawr, o herwydd fod yr Arglwydd wedi anfon pobl Mosiah â’r llafnau pres a gynnwysent hanes yr Iuddewon.
Wele, myfi wyf Amaleki, mab Abinadom. Wele, mi a lefaraf rywfaint wrthych ynghylch Mosiah, yr hwn a wnaed yn frenin ar dir Zarahemla; canys wele, efe a rybyddiwyd gan yr Arglwydd i ffoi allan o dir Nephi, a chynnifer ag a wrandawent ar leferydd yr Arglwydd, oeddynt i ffoi allan o’r tir gydag ef, i’r anialwch. A bu iddo wneuthur megys y gorchymynodd yr Arglwydd iddo. A hwy a aethant allan o’r tir i’r anialwch, cynnifer ag a wrandawent ar leferydd yr Arglwydd. A hwy a arweiniwyd trwy lawer o bregethu a phrophwydo. A cheryddwyd hwynt yn barhaus gan air Duw; ac arweiniwyd hwynt trwy nerth ei fraich ef, trwy yr anialwch, hyd nes y deathant i waered i’r tir yr hwn a elwir tir Zarahemla. A hwy a gawsant allan bobl, y rhai a elwid pobl Zarahemla. Yn awr, yr oedd llawenydd mawr yn mysg pobl Zarahemla; ac yr oedd Zarahemla hefyd yn llawenychu yn fawr, o herwydd fod yr Arglwydd wedi anfon pobl Mosiah â’r llafnau pres a gynnwysent hanes yr Iuddewon.
Wele, dygwyddodd i Mosiah gael allan i bobl Zarahemla ddyfod allan o Jerusalem yn yr amser y cafodd Zedekiah, brenin Judah, ei gaethgludo i Babilon. A hwy a deithiasant yn yr anialwch, ac a ddygwyd gan law yr Arglwydd yn groes i’r dyfroedd mawrion, i’r tir y darganfyddwyd hwynt gan Mosiah; a hwy a drigasant yno o’r amser hwnw allan. Ac yn yr amser y darganfyddwyd hwynt gan Mosiah, yr oeddynt wedi dyfod yn dra lliosog. Er hyny, cawsant lawer o ryfeloedd ac amrafaelion pwysig, a syrthiasant trwy y cleddyf o o bryd i bryd; ac yr oedd eu hiaith wedi llygru; ac ni ddygasant ddim cof-lyfrau gyda hwynt; a hwy a wadent fodoliaeth eu Creawdwr; ac ni allasai Mosiah, na phobl Mosiah, eu deall hwynt.
Eithr darfu i Mosiah bery iddynt gael eu dysgu yn ei iaith ef. A bu ar ol iddynt gael eu dysgu yn iaith Mosiah, i Zarahemla roddi achyddiaeth ei dadau, yn ol fel y cofiai; ac y maent yn ysgrifenedig, ond nid ar y llafnau hyn.
A bu i bobl Zarahemla a phobl Mosiah, ymuno ynghyd; a phenodwyd Mosiah yn frenin arnynt. A dygwyddodd yn nyddiau Mosiah, i gareg fawr gael ci dwyn ato ef, a cherfiadau arni; ac efe a gyfieithodd y cerfiadau trwy ddawn a gallu Duw.
A hwy a roddasant hanes am un Coriantumr, a lladdedigion ei bobl. A Coriantumr a ddarganfuwyd gan bobl Zarahemla: ac efe a drigodd gyda hwynt am yspaid naw lleuad. Llefarent hefyd ychydig o eiriau mewn perthynas i’w dadau. A’i rieni cyntaf ef a ddaethant allan o’r twr, yn yr amser y cymmysgodd yr Arglwydd iaith y bobl; a thoster yr Arglwydd a syrthiodd arnynt, yn ol ei farnedigaethau, y rhai ydynt gyfiawn; a’u hesgyrn a orweddent yn wasgaredig yn y tir tua’r gogledd.
Wele, myfi, Amaleki, a anwyd yn nyddiau Mosiah; a bum fyw i weled ei farwolaeth ef; a Benjamin, ei fab, a deyrnasa yn ei le. Ac wele, mi a welais, yn nyddiau y brenin Benjamin, ryfel prysur, a llawer o dywallt gwaed, rhwng y Nephiaid a’r Lamaniaid. Ond wele, y Nephiaid a gawsant y trechaf arnynt; ïe, yn gymmaint ag i’r brenin Benjamin eu gyru hwynt allan o dir Zarahemla.
A bu i mi ddechreu heneiddio; a chan nad oes genyf had, a’m bod yn gwybod fod y brenin Benjamin yn ddyn cyfiawn gerbron yr Arglwydd, am hyny mi a gyflwynaf y llafnau hyn iddo ef, gan annog pob dyn i ddyfod at Dduw, Sanct Israel, a chredu mewn prophwydoliaethau, a dadguddiadau, a gweinidogaeth angylion; ac yn y ddawn o lefaru â thafodau, ac yn y ddawn o gyfieithu ieithoedd, ac yn mhob peth sydd yn dda; canys nid oes dim yn dda, oddieithr ei fod yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd; a’r hyn sydd yn ddrwg, a ddeillia oddiwrth y diafol.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, mi a fynwn i chwi ddyfod at Grist, yr hwn yw Sanct Israel, a chyfranogi o’i iachawdwr-iaeth ef, a gallu ei brynedigaeth. Ië, deuwch ato, ac offrymwch eich holl eneidiau yn offrwm iddo, a glynwch i ymprydio a gweddio, a pharhewch hyd y diwedd; ac fel mai byw yr Arglwydd, chwi a achubir.
Ac yn awr, mi a lefaraf rywfaint mewn perthynas i ryw nifer a aethant i fyny i’r anialwch, er dychwelyd i dir Nephi; canys yr oedd nifer fawr yn chwennych meddiannu tir eu hetifeddiaeth; am hyny hwy a aethant i fyny i’r anialwch. A chan fod eu blaenor yn ddyn cryf a galluog, ac yn ddyn gwargaled, am hyny efe a achosodd amrafael yn eu mysg hwynt; a hwy a laddwyd oll, oddieithr deg a deugain, yn yr anialwch, ac a ddychwelasant drachefn i dir Zarahemla.
A bu iddynt hefyd gymmeryd ereill hyd at nifer fawr, a chymmeryd eu taith drachefn i’r anialwch. Ac yr oedd genyf finnau, Amaleki, frawd, yr hwn a aeth hefyd gyda hwynt; ac oddiar hyny ni wn ddim am danynt. Ac yr wyf fi ynghylch myned i orwedd yn fy medd; a’r llafnau hyn ydynt yn llawnion; a minnau wyf yn gorphen llefaru.