Scriptures
4 Nephi 1


Llyfr Nephi,
Yr Hwn Yw Mab Nephi, Un O Ddyscyblion Iesu Grist.

Hanes pobl Nephi, yn ol ei gof-lyfr ef.

Pennod Ⅰ.

A bu i’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg ar hugain fyned heibio, ac hefyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain, ac wele yr oedd dyscyblion yr Iesu wedi ffurfio eglwys Crist yn yr holl diroedd oddi amgylch. A chynnifer ag a ddaethant atynt, ac a wir edifarhaent am eu pechodau, a fedyddiwyd yn enw yr Iesu; a hwy hefyd a dderbyniasant yr Ysbryd Glân.

A dygwyddodd yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain, fod y bobl oll wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd, ar hyd holl wyneb y tir, y Nephiaid a’r Lamaniaid, ac nid oedd dim amrafaelion ac ymddadleu yn eu plityh, ac ymddygai pob dyn yn gyfiawn at y naill a’r llall; ac yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin yn eu mysg, o ganlyniad nid oedd cyfoethog a thlawd, caeth a rhydd, eithr gwnaethwyd hwynt oll yn rhyddion, ac yn gyfranogion o’r rhodd nefol.

A bu i’r ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain fyned heibio hefyd, ac yr oedd heddwch yn parhau o hyd yn y tir. A gweithredoedd mawrion a rhyfedd a gyflawnwyd gan ddyscyblion yr Iesu, yn gymmaint ag iddynt iachâu y cleifion, a chyfodi y marw, ac achosi i’r cloffion gerdded, a’r deillion i dderbyn eu golwg, a’r byddariaid i glywed; a phob math o wyrthiau a gyflawnasant hwy yn mhlith plant dynion; ac ni chyflawnent hwy ddim gwyrthiau, ond yn enw yr Iesu. Ac felly yr aeth y ddeunawfed flwyddyn ar hugain heibio, ac hefyd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain, a’r unfed a deugain, a’r ddwyfed a deugain; ïe, hyd nes yr oedd y nawfed flwyddyn a deugain wedi myned heibio, ac hefyd yr unfed ar ddeg a deugain, a’r ddeuddegfed a deugain; ïe, ac hyd nes yr oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg a deugain wedi myned heibio; a’r Arglwydd a’u llwyddodd hwynt yn ddirfawr yn y tir; ïe, yn gymmaint ag iddynt lanw dinasoedd drachefn, lle yr oedd dinasoedd wedi eu llosgi; ïe, hyd y nod y ddinas fawr Zarahemla a achosent i gael eu hadeiladu drachefn. Eithr yr oedd amryw ddinasoedd wedi cael eu soddi, a dyfroedd wedi dyfod i fyny yn eu lle; o ganlyniad, nis gallai y dinasoedd hyn gael eu hadnewyddu.

Ac yn awr, wele, dygwyddodd i bobl Nephi gryfhau, a lliosogi yn gyflym iawn, a dyfod yn bobl brydferth a dymunol iawn. A hwy a briodent ac a roddent mewn priodas, ac a fendithiwyd yn ol amlder yr addewidion a wnaeth yr Arglwydd iddynt. Ac ni rodiasant hwy mwyach yn ol cyflawniadau ac ordinhadau cyfraith Moses, eithr hwy a rodiasant yn ol y gorchymynion a dderbyniasant oddiwrth eu Harglwydd a’u Duw, gan barhau mewn ympryd a gweddi, a chyd-ymgynnull yn fynych, i weddio ac i wrandaw gair yr Arglwydd. A bu nad oedd dim amrafael yn mhlith yr holl bobl, trwy yr holl dir, eithr yr oedd gwyrthiau nerthol yn cael eu cyflawni yn mhlith dyscyblion yr Iesu.

A bu i’r unfed flwyddyn ar ddeg a thrugain fyned heibio, ac hefyd y ddeuddegfed flwyddyn a thrugain; ïe, ac yn fyr, aeth heibio y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg a thrugain; ïe, yr oedd can mlynedd wedi myned heibio, ac yr oedd dyscyblion yr Iesu, y rhai a ddewisodd efe, oll wedi myned i baradwys Duw, oddieithr y tri a gaent aros; a chafodd dyscyblion ereill eu hordeinio yn eu lle; ac hefyd yr oedd llawer o’r genedlaeth hono ag oedd wedi myned heibio. A bu nad oedd dim amrafael yn y tir, oblegid cariad Duw yr hwn oedd yn trigo yn nghalonau y bobl. Ac nid oedd dim cenfigen, nac anghydfod, na therfysgoedd, na phuteindra, na chelwydd, na llofruddiaeth, nac un math o drythyllwch; ac yn ddiau nis gallai fod pobl ddedwyddach yn mhlith yr holl bobl ag a grewyd gan law Duw; nid oedd yspeilwyr, na llofruddion, ac nid oedd ychwaith Lamaniaid, nac un math o iaid; eithr yr oeddynt yn un, yn blant Crist, ac yn etifeddion teyrnas Dduw; ac mor wynfydedig oeddynt, canys yr oedd yr Arglwydd yn eu bendithio yn eu holl weithrediadau; ïe, yr oeddynt wedi eu bendithio a’u llwyddo, hyd nes yr oedd cant a deg mlynedd wedi myned heibio; ac yr oedd y genedlaeth gyntaf er Crist wedi myned heibio, ac nid oedd dim amrafael yn yr holl dir.

A bu i Nephi farw, yr hwn a gadwai y cof-lyfr diweddaf hwn (ac efe a’i cadwai ar lafnau Nephi), a’i fab Amos a’i cadwodd ef yn ei le; ac efe a’i cadwodd ef ar lafnau Nephi hefyd; ac efe a’i cadwodd ef am bedair mlynedd a phedwar ugain, ac yr oedd heddwch o hyd yn y tir, oddieithr rhyw gyfran fychan o’r bobl ag oeddynt wedi gwrthgilio o’r eglwys, a chymmeryd arnynt yr enw Lamaniaid; o ganlyniad dechreuodd fod Lamaniaid drachefn yn y tir.

A bu i Amos farw hefyd (ac yr oedd yn gant a phedair blynedd ar bymtheg a phedwar ugain oddiar ddyfodiad Crist), a’i fab Amos a gadwai y cof-lyfr yn ei le; ac efe hefyd a’i cadwodd ar lafnau Nephi; ac yr oedd yn ysgrifenedig hefyd yn llyfr Nephi, yr hwn yw y llyfr hwn. A bu i ddau can mlynedd fyned heibio, ac yr oedd yr ail genedlaeth wedi myned oll heibio oddieithr ychydig. Ac yn awr, myfi, Mormon, a fynwn i chwi wybod fod y bobl wedi lliosogi, yn gymmaint â’u bod wedi ymwasgaru ar hyd holl wyneb y tir, ac wedi dyfod yn dra chyfoethog, o herwydd eu llwyddiant yn Nghrist. Ac yn awr, yn yr unfed flwyddyn a dau gant, dechreuodd fod yn eu plith hwynt y rhai hyny ag oeddynt wedi ymddyrchafu mewn balchder, y fath ag yw gwisgo dillad costfawr, a phob math o berlau teg, a gwych bethau y byd. Ac o’r amser hwnw allan nid oedd eu nwyddau a’u heiddo mwyach yn gyffredin yn eu mysg, a hwy a ddechreuasant ymranu yn ddosparthiadau, a dechreuasant adeiladu eglwysi iddynt eu hunain, i gael elw, a dechreu gwadu gwir eglwys Crist.

A dygwyddodd ar ol i ddau gant a deg mlynedd fyned heibio, fod llawer o eglwysi yn y tir; ïe, yr oedd llawer o eglwysi y rhai a broffesent adnabod y Crist, ac etto gwadent y rhan fwyaf o’i efengyl, yn gymmaint ag iddynt dderbyn pob math o ddrygioni, a gweinyddu yr hyn ag oedd yn gyssegredig i’r hwn y gwaharddwyd ef iddo, o herwydd annheilyngdod. A’r eglwys hon a liosogodd yn fawr, o herwydd anwiredd, ac o herwydd gallu satan yr hwn oedd wedi gafaelu yn eu calonau. A thrachefn, yr oedd eglwys arall ag oedd yn gwadu y Crist; a hwy a erlidient wir eglwys Crist, o herwydd eu gostyngeiddrwydd, a’u crediniaeth yn Nghrist; a diystyrent hwynt, o herwydd yr amryw wyrthiau a gyflawnid yn eu mysg; am hyny, hwy a arferent allu ac awdurdod ar ddyscyblion yr Iesu y rhai a drigent gyda hwynt, ac a’u bwrient yn ngharchar: eithr trwy allu gair Duw, yr hwn oedd ynddynt, y carcharau a rwygid yn y canol, a hwythau a aethant allan gan wneuthur gwyrthiau nerthol yn eu mysg hwynt. Etto, er yr holl wyrthiau hyn, y bobl a galedent eu calonau, ac a geisient eu lladd hwynt, megys y ceisiai yr Iuddewon yn Jerusalem ladd yr Iesu, yn ol ei air ef; a hwy a’u bwrient i ffwrneisiau tân, a daethent allan heb dderbyn un niwed; ac hefyd hwy a’u bwrient i ffauau o fwystfilod gwylltion, a hwythau a chwareuent â’r bwystfilod gwylltion, fel plentyn gyda’r oen; a hwy a ddaethant allan o’u plith hwynt, heb dderbyn un niwed. Er hyny, y bobl a galedent eu calonau, canys hwy a arweinid gan lawer o offeiriaid a gau-brophwydi i adeiladu llawer o eglwysi, ac i weithredu pob math o anwiredd. A hwy a darawent bobl yr Iesu; eithr pobl yr iesu ni tharawent dracherfn. Ac felly y methasant mewn anghrediniaeth a drygioni, o flwyddyn i flwyddyn, hyd nes yr oedd dau gant a deg mlynedd ar hugain wedi myned heibio. Ac yn awr, dygwyddodd yn y flwyddyn hon, ïe, yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain a dau gant, fod ymraniad mawr yn mhlith y bobl. A bu yn y flwyddyn hon i bobl gyfodi y rhai a elwid Nephiaid, ac yr oeddynt hwy yn wir gredinwyr yn Nghrist; ac yn eu mysg hwynt yr oedd y rhai a elwid gan y Lamaniaid, yn Jacobiaid, a Josephiaid, a Zoramiaid; am hyny, y gwir gredinwyr yn Nghrist, a gwyr addolwyr Crist (yn mhlith pa rai yr oedd tri dyscybl Crist y rhai a gaent aros), a elwid Nephiaid, a Jacobiaid, a Josephiaid, a Zoramiaid. A dygwyddodd fod y rhai a wrthodent yr efengyl, yn cael eu galw yn Lamaniaid, a Lemueliaid, ac ishmaeliaid; ac ni fethasent hwy mewn anghrediniaeth, eithr hwy a wrthryfelent yn wirfoddol yn erbyn efengyl Crist; a hwy a ddysgent eu plant na chredent, megys ag y methodd eu tadau o’r dechreuad. Ac yr oedd hyn oblegid drygioni a ffieidd-dra eu tadau hwy, megys ag yr oedd yn y dechreuad. A hwy a ddysgid i gasâu plant Duw, megys y dysgwyd y Lamaniaid i gasâu plant Nephi, o’r dechreuad.

A bu i ddau gant a phedwar ugain a phedair mlynedd fyned heibio hefyd, ac felly yr oedd achosion y bobl. A’r rhan fwyaf drygionus o’r bobl a gryfhaent, ac a ddaethant yn llawer mwy lliosog nag oedd pobl Dduw. A hwy a barhausant adeiladu eglwysi iddynt eu hunain, a’u haddurno hwynt â phob math o bethau gwerthfawr. Ac felly yr aeth dau gant a deng mlynedd a deugain heibio, ac hefyd dau gan mlynedd a thrugain. A bu i’r rhan fwyaf drygionus o’r bobl ddechreu drachefn adferu llwon a chydfwriadau dirgelaidd Gadianton. Ac hefyd y bobl y rhai a elwid yn bobl Nephi, a ddechreuasant fod yn feilchion yn eu calonau, o herwydd eu mawr gyfoeth, a myned yn ofer, yn gyffelyb i’w brodyr, y Lamaniaid. Ac oddiar yr amser hwn, y dyscyblion a ddechreuasant dristâu oblegid pechodau y byd.

A dygwyddodd ar ol i dri chan mlynedd fyned heibio, fod pobl Nephi a’r Lamaniaid wedi myned yn dra drygionus, y naill fel y llall. A bu i yspeilwyr Gadianton ymledaenu dros holl wyneb y tir; ac nid oedd neb ag oedd yn gyfiawn, ond dyscyblion yr Iesu. Ae aur ac arian a ystorient mewn cyflawnder, a masgnachent mewn pob math o fasgnach.

A bi ar p; o dri chant a phum mlynedd fyned heibio (ac yr oedd y bobl etto yn parhau mewn drygioni), i Amos farw, a’i frawd Ammaron a gadwai cof-lyfr yn ei le. A dygwyddodd, ar ol i dri chant ac ugain mlynedd fyned heibio, i Ammaron, gan gael ei ddirgymhell gan yr Ysbryd Glân, guddio y cof-lyfrau ag oeddynt yn gyssegredig; ïe, sef yr holl gof-lyfrau ag a drosglwyddwyd i lawr o genedlaeth i genedlaeth, y rhai oeddynt gyssegredig, hyd yr ugeinfed flwyddyn a thri chant er dyfodiad Crist. Ac efe a’u cuddiodd hwynt i’r Arglwydd, fel y denent drachefn i weddill tŷ Jacob, yn ol prophwydoliaethau ac addewidion yr Arglwydd. Ac fel hyn y mae diwedd cof-lyfr Ammaron.