Scriptures
Geiriau Mormon 1


Geiriau Mormon.

Pennod Ⅰ.

Ac yn awr, gan fy mod i, Mormon, ynghylch cyflwyno y coflyfr yr hwn a fum yn wneuthur, i ddwylaw fy mab Moroni, wele, mi a welais braidd holl ddystryw fy mhobl, y Nephiaid. Ac yn mhen llawer o gannoedd o flynyddau ar ol dyfodiad Crist, yr wyf fi yn cyflwyno y cof-ysgrifau hyn i ddwylaw fy mab; a meddyliwyf y gwel efe hollol ddinystriad fy mhobl. Ond caniataed Duw iddo ef fyw ar eu hol, fel yr ysgrifeno rywfaint am danynt, a rhywfaint am Grist, fel ysgatfydd rhyw ddydd y llesolo hwynt.

Ac yn awr, mi a lefaraf rywfaint ynghylch yr hyn a ysgrifenais; canys ar ol i mi wneuthur talfyriad o lafnau Nephi, i lawr hyd deyrnasiad y brenin Benjamin hwn, am ba un y llefarodd Amaleki, mi a chwiliais yn mhlith y cof-ysgrifau a gyflwyn-wyd i’m dwylaw, ac a gefais y llafnau hyn, y rhai a gynnwysent yr hanes byr hwn o’r prophwydi, o Jacob i waered hyd deyrnasiad y brenin Benjamin hwn; ac hefyd lawer eiriau Nephi. Ac y mae’r pethau sydd ar y llafnau hyn yn foddhaol genyf, o herwydd y prophwydoliaethau am ddyfodiad Crist; ac y mae fy nhadau yn gwybod fod llawer o honynt wedi eu cyflawni; ïe, ac yr wyf finnau hefyd yn gwybod fod cynnifer o bethau ag sydd wedi eu prophwydo am danom ni i lawr hyd y dydd hwn, wedi eu cyflawni, ac fod yn rhaid i gynnifer ag a gyrhaeddnt yn mhellach nâ’r dydd hwn, ddyfod i ben yn ddiau; am hyny, yr wyf yn dewis y pethau hyn i orphen fy nghof-lyfr â hwynt, yr hwn weddill o’m cof-lyfr a gymmeraf o lafnau Nephi; ac nis gallaf ysgrifenu y ganfed ran o bethau fy mhobl.

Ond wele, mi a gymmeraf y llafnau hyn, y rhai a gynnwysant y prophwydoliaethau a’r dadguddiadau hyn, ac a’u gosodaf hwynt gyda gweddill fy nghof-lyfr, oblegid y maent yn ddewisol genyf fi; a gwn y byddant yn ddewisol gan fy mrodyr. Ac yr wyf yn gwneuthur hyn i ddyben doeth; canys felly y mae yn sibrwd i mi, yn ol gweithrediadau ysbryd yr Arglwydd yr hwn sydd ynof. Ac yn awr, nid wyf fi yn gwybod pob peth; ond y mae’r Arglwydd yn gwybod pob peth sydd i ddyfod; am byny, efe a weithreda ynof i wneuthur yn ol ei ewyllys ef. A’m gweddi ar Dduw sydd ynghylch fy mrodyr, fel y deuont unwaith drachefn i wybodaeth o Dduw; ïe, prynedigaeth Crist; fel y byddont unwaith etto yn bobl ddymunol.

Ac yn awr, yr wyf fi. Mormon yn myned rhagof i orphen fy nghof-lyfr, yr hwn a gymmeraf o lafnau Nephi; ac yr wyf yn ei wneuthur yn ol y wybodaeth a’r dealltwriaeth a gefais gan Dduw. Am hyny, dygwyddodd ar ol i Amaleki drosglwyddo y llafnau hyn i ddwylaw y brenin Benjamin, iddo eu cymmeryd a’u gosod gyda’r llafnau ereill, y rhai a gynnwysent gof-ysgrifau a drosglwyddwyd i waered gan y breninoedd, o genedlaeth i genedlaeth, hyd ddyddiau y brenin Benjamin; ac a drosglwyddwyd i waered oddiwrth y brenin Benjamin, o genedlaeth i genedlaeth, hyd nes y syrthiasant i’m dwylaw i. Ac yr wyf fi, Mormon, yn gweddio ar Dduw ar iddynt gael eu cadw o’r amser hwn allan. Ac mi a wn y cant eu cadw; canys y mae pethau mawrion yn ysgrifenedig arnynt, allan o ba rai y bernir fy mhobl i a’u brodyr, yn y dydd mawr diweddaf, yn ol gair Duw yr hwn sydd yn ysgrifenedig.

Ac yn awr, mewn perthynas i’r brenin Benjamin hwn: Efe a gafodd beth amrafaelion yn mysg ei bobl ei hnn. A bu hefyd, i fyddinoedd y Lamaniaid ddyfod i waered o dir Nephi, i ryfel yn erbyn ei bobl ef. Ond wele, y brenin Benjamin a gynnullodd ei fyddinoedd, ac a safodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a ymladdodd trwy nerth ei fraich ei hun, â chleddyf Laban; a thrwy nerth yr Arglwydd hwy a ymdrechasant yn erbyn eu gelynion, hyd nes iddynt ladd miloedd lawer o’r Lamaniaid. A bu iddynt ymdrechu yn erbyn y Lamaniaid, hyd nes yr ymlidiasant hwynt allan o holl diroedd eu hetifeddiaeth.

A dygwyddodd ar ol bod gau Gristiau, ac i’w geneuau gael eu cau, a hwythau eu cospi yn ol eu troseddiadau; ac ar ol bod gau-brophwydi, a gau bregethwyr ac athrawon yn mhlith y bobl, ac i’r holl rai hyn gael eu cospi yn ol eu troseddiadau; ac ar ol bod llawer o amrafaelion ac ymraniadau ymaith at y Lamaniaid, wele, dygwyddodd i’r brenin Benjamin, trwy gynnorthwy y prophwydi santaidd oedd yn mysg ei bobl; canys wele, yr oedd y brenin Benjamin yn ddyn santaidd, ac efe a deyrnasodd dros ei bobl mewn cyfiawnder. Ac yr oedd llawer o ddynion santaidd yn y tir; a hwy a lefarasant air Duw, gyda gallu ac awdurdod; ac a arferent lawer o erwindeb o herwydd gwargaledwch y bobl; am hyny, trwy gynnorthwy y rhai hyn, y brenin Benjamin, trwy lafurio â’i holl nerth corfforol, a galluoedd ei holl enaid ef, a’r prophwydi hefyd, a sefydlodd heddwch unwaith yn rhagor yn y tir.