Scriptures
Mosiah 1


Llyfr Mosiah.

Pennod Ⅰ.

Ac yn awr nid oedd dim amrafael mwyach yn holl dir Zarahemla, yn mysg yr holl bobl a berthynent i’r brenin Benjamin; felly cafodd y brenin Benjamin heddwch parhaus holl weddill ei ddyddiau. A bu iddo dri o feibion; ac efe a alwodd eu henwau Mosiah, a Heolrum, a Helaman. A pherodd iddynt gael eu dysgu yn holl iaith ei dadau, fel y byddent wyr o ddealltwriaeth; ac fel y gwybyddent ynghylch y prophwydoliaethau a lefarwyd trwy eneuau eu tadau, y rhai a roddwyd iddynt hwy trwy law yr Arglwydd. Ac efe a’u dysgodd hefyd ynghylch y cof-ysgrifau oeddynt yn gerfiedig ar y llafnau pres, gan ddywedyd, Fy meibion, mi a fynwn i chwi gofio, oni bai y llafnau hyn, y rhai a gynnwysent y cof-ysgrifau hyn a’r gorchymynion hyn, y buasem ni wedi dyoddef mewn anwybodaeth, hyd yr amser presennol, heb wybod dirgelion Duw; canys ni fuasai yn bosibl i’n tad Lehi allu cofio yr holl bethau yma er eu dysgu hwynt i’w blant, heb gynnorthwy y llafnau hyn; o herwydd, gan ei fod ef wedi ei ddysgu yn iaith yr Aifftiaid, efe a allai ddarllen y cerfiadau hyn, a’u dysgu hwynt i’w blant, fel y gallent hwy eu dysgu i’w plant hwythau, ac felly gyflawni gorchymynion Duw, ïe, i waered hyd yr amser presennol. Yr wyf yn dywedyd i chwi, fy meibion, oni bai y pethau hyn, y rhai gadwyd ac a ddiogelwyd gan law Duw, fel y gallem ddarllen a deall ei ddirgelion ef, a chael ei orchymynion o hyd o flaen ein llygaid, y methai hyd y nod ein tadau mewn anghrediniaeth, a buasem ninnau yn gyffelyb i’n brodyr, y Lamaniaid, y rhai ni wyddant ddim ynghylch y pethau hyn; ïe, ni chredant hwynt pan eu dysgir iddynt, o herwydd traddodiadau eu tadau, y rhai nid ydynt gywir. O, fy meibion, mi a ewyllysiwn i chwi gofio fod y geiriau hyn yn wir; ac hefyd, fod y cof-lyfrau hyn yn wir. Ac wele hefyd lafnau Nephi, y rhai a gynnwysent gof-lyfrau a geiriau ein tadau o’r amser y gadawsant Jerusalem hyd yn awr; ac y maent hwythau yn wir; ac ni a allwn wybod am eu gwirionedd, o herwydd y maent genym o flaen ein llygaid. Ac yn awr, fy meibion, mi a fynwn i chwi eu dyfal chwilio, rel y derbynioch leshad oddi wrthynt; ac mi a fynwn i chwi gadw gorchymynion Duw, fel y llwyddoch yn y tir yn ol yr addewidion a wnaeth yr Arglwydd i’n tadau. A llawer o bethau yn ychwaneg a ddysgodd y brenin Benjamin i’w feibion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

A bu wedi i’r brenin Benjamin orphen dysgu ei feibion, iddo heneiddio; ac efe a welodd y byddai raid iddo yn fuan fyned ar hyd ffordd yr holl ddaear; o ganlyniad barnodd yn anghenrheidiol i gyflwyno ei deyrnas i un o’i feibion. Gan hyny, efe a barodd ddwyn Mosiah o’i flaen ef; a’r rhai hyn yw y geiriau a lefarodd efe wrtho, gan ddywedyd, Fy mab, mi a ewyllysiwn i ti gyhoeddi trwy yr holl dir hwn, yn mysg yr holl bobl hyn, neu bobl Zarahemla, a phobl Mosiah, y rhai a drigant yn y tir, fel yr ymgynnullont ynghyd; canys y fory mi a gyhoeddaf wrth fy bobl hyn â’m genau fy hun, dy fod di yn frenin ac yn llywodraethwr ar y bobl hyn, y rhai a roddodd yr Arglwydd ein Duw i ni. Ac yn mhellach, mi a roddaf i’r bobl hyn enw, fel y gwahanieithir hwynt uwchlaw yr holl bobl a ddygodd yr Arglwydd Dduw alian o wlad Jerusalem; ac hyn wyf yn ei wneuthur, o herwydd iddynt fod yn bobl ddiwyd i gadw gorchymynion yr Arglwydd. Ac mi a roddaf enw iddynt na ddileir, oddieithr trwy droseddiadau. Ië, a thrachefn meddaf i chwi, pe syrthiai y bobl uchel-freintiog hyn o eiddo yr Arglwydd i droseddiadau, a myned yn bobl ddrwg a godinebus, yr Arglwydd a’u traddodai hwynt i fyny, fel yr elent yn weinion megys eu brodyr; ac ni chadwai efe hwynt mwyach, trwy ei allu digyffelyb a rhyfedd, megys hyd yn hyn y cadwodd ein tadau. Canys meddaf i chwi, ped nad estynasai efe ei fraich i gadw ein tadau, hwy a syrthiasent i ddwylaw y Lamaniaid, ac a aethent yn ysglyfaeth i’w casineb.

A bu ar ol i’r brenin Benjamin orphen yr ymadroddion hyn wrth ei fab, iddo roddi gofal holl achosion ei deyrnas iddo ef. Ac yn mhellach, efe a roddodd hefyd yn ei ofal ef y cof-ysgrifau sydd yn gerfiedig ar y llafnau pres; ac hefyd lafnau Nephi; ac hefyd, gleddyf Laban, a’r belen neu’r cyfarwyddydd, a arweiniai ein tadau trwy yr anialwch, ac a barotowyd gan law yr Arglwydd, fel yr arweinid hwynt ganddo, pob un yn ol yr ystyriaeth a’r dyfalwch a dalent iddo. O ganlyniad, o herwydd eu hanffyddlondeb, ni lwyddiasant ar eu taith, eithr a yrwyd yn ol, a thynasant arnynt anfoddlonrwydd Duw; a chan hyny, tarawyd hwynt gan newyn a chystuddiau blin, er eu cyffroi i gofio eu dyledswyddau.

Ac yn awr, darfu i Mosiah fyned a gwneuthur megys y gorchymynodd ei dad iddo, a chyhoeddodd wrth yr holl bobl oedd yn nhir Zarahemla, fel yr ymgynnullent ynghyd, i fyned fyny i’r deml er clywed y geiriau a lefarai ei dad wrthynt.

A bu ar ol i Mosiah wneuthur megys y gorchymynodd ei dad iddo, a chyhoeddi trwy yr holl dir, i’r bobl ymgynnull ynghyd trwy yr holl dir, er myned i fyny i’r deml i glywed y geiriau a lefarai y brenin Benjamin wrthynt. Ac yr oeddynt yn nifer fawr, hyd y nod nas darfu iddynt eu rhifo hwynt; canys yr oeddynt wedi lliosogi yn fawr, ac wedi cynnyddu yn y tir. A hwy hefyd a gymmersant flaenffrwyth eu defaid, fel yr offryment aberthau a phoeth-offrymau, yn ol cyfraith Moses; ac hefyd, fel y diolchent i’r Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u dygodd allan o wlad Jerusalem, ac a’u gwaredodd o ddwylaw eu gelynion, ac a benododd ddynion cyfiawn yn ddysgawdwyr iddynt: ac hefyd ddyn cyfiawn yn frenin arnynt, yr hwn a sefydlodd heddwch yn nhir Zarahemla, ac a ddysgodd iddynt gadw gorchymynion Duw, fel y gorfoleddent, ac y llenwid hwynt â ehariad tuag at Dduw a phob dyn.

A darfu pan ddaethant i fyny i’r deml, iddynt godi eu pebyll oddi amgylch, pob dyn yn ol ei deulu, yn cynnwys ei wraig, a’i feibion, a’i ferched, a’n meibion a’u merched hwythau, o’r henaf i lawr at yr ieuengaf, pob teulu ar wahan oddiwrth eu gilydd; a hwy a godasant eu pebyll oddi amgylch y deml, pob dyn yn gosod ei babell a’i drws tuag at y deml, fel trwy hyny yr arosent yn eu pebyll, a chlywed y geiriau a lefarai y brenin Benjamin wrthynt; canys yr oedd y dyrfa mor fawr, fel nas gallai y brenin Benjamin eu dysgu hwynt oll tufewn muriau y deml; o ganlyniad efe a berodd adeiladu twr, fel y clywai ei bobl y geiriau a lefarai efe wrthynt.

A bu iddo ef ddechreu llefaru wrth ei bobl o’r twr; ac ni allent oll glywed ei eiriau ef, o herwydd bod y dyrfa mor fawr; am hyny, efe a achosodd i’r geiriau a lefarai gael eu hysgrifenu a’u danfon allan i blith y rhai nad oeddynt dan sŵn ei leferydd, fel y derbynient hwythau hefyd ei eiriau ef. A dyma y geiriau a lefarodd ac a achosodd efe gael eu hysgrifenu, gan ddywedyd; Fy mrodyr, chwi y rhai oll a ymgynnullasoch ynghyd, y rhai a ellwch glywed fy ngeiriau y rhai a lefaraf wrthych y dydd hwn; canys ni orchymynais i chwi ddyfod i fyny yma i gellwair â’r geiriau a lefaraf, eithr fel y gwrandawoch arnaf, ac yr agoroch eich clustiau fel y clywoch, a’ch calonau fel y dealloch, a’ch meddyliau fel yr amlyger i chwi ddirgelion Duw. Ni orchymynais i chwi ddyfod i fyny yma i’m hofni i, nac i dybied fy mod, o ran fy hun, yn fwy nâ dyn marwol; eithr cyffelyb wyf i chwithau, yn agored i bob math o wendidau mewn corff a meddwl; etto, gan i mi gael fy newis gan y bobl hyn, a’m cyssegru gan fy nhad, a’m dyoddef gan law yr Arglwydd, i fod yn llywodraethwr a brenin ar y bobl hyn; ac wedi fy nghadw a’m diogelu gan ei allu digyffelyb ef, i’ch gwasanaethu chwi â’r holl allu, meddwl, a nerth, a roddodd yr Arglwydd i mi; wele, meddaf i chwi, gan y dyoddefwyd i mi dreullo fy nyddiau yn eich gwasanaeth, ïe, hyd yr amser hwn, ac na cheisiais nac aur nac arian, nac un math o gyfoeth oddi wrthych; ac na ddyoddefais ychwaith eich carcharu mewn daeardai, na gwneuthur o honoch gaethion o’ch gilydd, na llofruddio, neu yspeilio, neu ladrata, neu odinebu; ïe, ni ddyoddefais i chwi gyflawni un math o ddrygioni, eithr mi a’ch dysgais i gadw gorchymynion yr Arglwydd, yn mhob peth a orchymynodd i chwi; ac hyd y nod myfi fy hun a weithiais â’m dwylaw fy hunan, fel y gwasanaethwn chwi, ac na’ch llwythid â threthi, ac na ddelai arnoch ddim anhawdd ei ddwyn; ac o’r holl bethau hyn a lefarais, yr ydych chwi eich hunain yn dystion y dydd hwn. Er hyny, fy mrody r, ni wnaethym y pethau hyn fel yr ymffrostiwn, ac nid wyf yn eu mynegi er eich cyhuddo chwithau; eithr yr wyf yn mynegi y pethau hyn wrthych, fel y gwypoch y medraf ateb cydwybod lân gerbron Duw y dydd hwn. Wele, meddaf i chwi, o herwydd i mi ddywedyd wrthych dreulio o honof fy nyddiau yn eich gwasanaeth, ni ddymunaf ymffrostio, canys ni fum ond yn unig yn ngwasanaeth Duw. Ac wele, yr wyf yn mynegi y pethau hyn wrthych fel y dysgoch ddoethineb; fel y dysgoch, tra yr ydych yn ngwasanaeth eich cyd-ddynion, nad ydych ond yn unig yn ngwasanaeth Duw. Wele, galwasoch fi yn frenin i chwi; ac os wyf fi, yr hwn a alwch eich brenin, yn gweithio er eich gwasanaethu chwi, yna ai ni ddylech chwithau weithio er gwasanaethu y naill y llall? Ac wele hefyd, os wyf fi, yr hwn a alwch eich brenin, yr hwn a dreuliodd ei ddyddiau yn eich gwasanaeth chwi, ac a fu er hyny yn ngwasanaeth Duw, yn teilyngu diolchgarwch oddi wrthych, O pa faint a ddylech ddiolch i’ch Brenin nefol! Yr wyf yn dywedyd wrthych, fy mrodyr, pe rhoddech yr holl ddiolchgarwch a’r mawl a allai eich holl eneidiau feddu, i’r Duw hwnw a’ch creodd, ac a’ch cadwodd ac a’ch diogelodd, ac a berodd i chwi orfoleddu, ac a ganiataodd o honoch fyw mewn heddwch gyda’ch gilydd; ïe, meddaf wrthych, pe gwasanaethech ef yr hwn a’ch creodd o’r dechreuad, ac a’ch cadwodd o ddydd i ddydd, trwy roddi anadl i chwi, fel y galloch fyw a symud, a gwneuthur yn ol eich ewyllys eich hunain, ac hyd y nod yn eich cynnorthwyo o un fynyd i’r llall; ïe, meddaf, pe gwasanaethech ef â’ch holl enaid, etto gweision anfuddiol fyddech. Ac wele, yr oll a ofyna efe oddiwrthych, yw cadw ei orchymynion; ac efe a addawodd i chwi, os cadwech ei orchymynion, y llwyddech yn y tir; ac ni ŵyra efe byth oddiwrth yr hyn a ddywedodd; gan hyny, os ydych yn cadw ei orchymynion, y mae efe yn eich llwyddo a’ch bendithio.

Ac yn awr, yn y lle cyntaf, efe sydd wedi eich creu, a rhoddi i chwi eich bywydau, am yr hyn yr ydych yn ddyledus iddo ef. Ac yn ail: y mae efe yn gofyn genych i wneuthur fel y gorchymynodd; am yr hyn, os gwnewch, y mae yn eich bendithio yn ddioed; ac o ganlyniad, talodd chwi. A chwithau ydych yn ddyledus iddo ef o hyd, ac a fyddwch yn oes oesoedd; gan hyny, am ba beth yr ymffrostiwch chwi? Ac yn awr gofynaf, a ellwch chwi ddim dywedyd rhywbeth am danoch eich hunain? Atebaf, na ellwch. Ni ellwch ddywedyd eich bod gymmaint â llwch y ddaear: etto, fe’ch crewyd o lwch y ddaear: eithr wele, perthyna i’r hwn a’ch creodd. A minnau, ïe, minnau, yr hwn a alwch eich brenin, nid wyf well nag ydych eich hunain; canys yr wyf finnau hefyd o’r llwch. A gwelwch fy mod i yn hen, ac ar roddi i fyny y corff marwol hwn i’w fam ddaear, gan hyny, megys y dywedais wrthych i mi eich gwasanaethu, gan rodio â chydwybod lân gerbron Duw, felly hefyd y pryd hwn, mi a berais ymgynnull o honoch ynghyd, fel y ceffid fi yn ddifeïus, ac fel na ddeuai eich gwaed arnaf, pan y safaf i’m barnu gan Dduw, am y pethau a orchymynodd i mi o’ch plegid chwi. Ië, meddaf i chwi, perais ymgynnull o honoch ynghyd, fel y glanhawn fy ngwisgoedd oddiwrth eich gwaed, yn yr adeg bresennol, pan wyf ar fyned i lawr i’m bedd, fel yr elwyf i lawr mewn heddwch, ac yr uno fy ysbryd anfarwol â’r corau fry i ganu moliant Duw cyfiawn. Ac etto, meddaf i chwi, perais ymgynnull o honoch ynghyd, fel y mynegwn wrthych nas gallaf fi fod yn ddysgawdwr na brenin i chwi yn hwy; canys, hyd y nod yr amser hwn, fy nghorff a gryna yn ddirfawr, tra yn ceisio llefaru wrthych; eithr y mae yr Arglwydd Dduw yn fy nghynnal, ac wedi dyoddef i mi lefaru wrthych, a’m gorchymyn i’ch hysbysu y dydd hwn, fod fy mab Mosiah yn frenin a llywodraethwr arnoch.

Ac yn awr, fy mrodyr, mi a ewyllysiwn i chwi wneuthur megys y gwnaethoch hyd yma. Megys y cadwasoch fy ngorchymynion i, ac hefyd orchymynion fy nhad, ac y llwyddasoch, ac y cadwyd chwi rhag syrthio i ddwylaw eich gelynion, felly hefyd os cadwch orchymynion fy mab, neu orchymynion Duw, y rhai a roddir i chwi trwyddo ef, chwi a lwyddwch yn y tir, ac ni chaiff eich tgelynion awdurdod arnoch. Ond, O, fy mhobl, gochelwch na chyfyd amrafaelion yn eich mysg, ac i chwi wrandaw ac ufyddhau i’r ysbryd drwg, am yr hwn y llefarodd fy nhad Mosiah. Canys wele, cyhoeddir gwae ar yr hwn a wrandawo ac a ufyddhao i’r ysbryd hwnw; oblegid os gwrandawa ac ufyddhau iddo, ac aros a marw yn ei bechodau, y cyfryw a ŷf ddamnedigaeth i’w enaid ei hun; canys derbynia yn gyflog gosp ddiddiwedd, gan iddo droseddu cyfraith Duw, yn groes i’w wybodaeth ei hun. Ië, meddaf wrthych, nid oes neb yn eich plith, heblaw eich plant bychain, nad ydynt wedi eu dysgu ynghylch y pethau hyn; na wyddant eich bod yn dragywyddol ddyledus i’ch Tad nefol, i roddi iddo yr oll sydd genych, a’ch bod yn cael, ac wedi cael eich dysgu hefyd, ynghylch y cof-ysgrifau a gynnwysant y prophwydoliaethau a lefarwyd gan y prophwydi santaidd, hyd y nod i lawr o’r amser y gadawodd ein tad Lehi Jerusalem; ac hefyd, yr oll a lefarwyd gan ein tadau hyd yn awr. Ac wele, hefyd, llefarant yr hyn o orchymynwyd iddynt gan yr Arglwydd; am hyny, y maent yn gywir a ffyddlawn.

Ac yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, fy mrodyr, ar ol i chwi ddyfod i wybod, a chael eich dysgu yn yr holl bethau hyn, os troseddwch, a myned yn groes i’r hyn a lefarwyd, yr ydych yn ymgilio oddiwrth Ysbryd yr Arglwydd, fel na chaffo le ynoch i’ch arwain yn llwybrau doethineb, fel y bendithier, y llwydder, ac y cadwer chwi. Ië, meddaf wrthych, y dyn a wnelo hyn, y cyfryw sydd yn dyfod allan mewn gwrthryfel agored yn erbyn Suw; am hyny y mae efe yn gwrandaw ac yn ufyddhau i’r ysbryd drwg, ac yn myned yn elyn pob cyfiawnder; gan hyny, nid oes i’r Arglwydd le ynddo, oblegid ni thriga efe mewn temlau halogedig. Am hyny, os na edifara y dyn hwnw, eithr aros a marw yn elyn i Dduw, y mae gofynion dwyfol gyfiawnder yn deffroi ei enaid anfarwol i deimlad bywiog o’i hunan-euogrwydd, yr hyn a bair iddo gilio mewn braw o bresennoldeb yr Arglwydd, ac a leinw ei fron ag euogrwydd, a phoen, ac ing, yr hyn sydd fel tân anniffoddadwy, fflamau yr hwn a esgynant i fyny yn oes oesoedd. Ac yn awr, dywedaf wrthych, nid oes hawl gan drugaredd ar y dyn hwnw; am hyny, ei dynghed ddiweddaf yw dyoddef poen diddiwedd.

O, chwi, holl henafgwyr, a gwyr ieuainc, a chwithau blant bychain, y rhai a elwch ddeall fy ngeiriau (canys mi a lefarais yn eglur wrthych, fel y deallech), gweddiwyf ar i chwi ddeffroi i goffadwriaeth am sefyllfa ddychrynllyd y rhai hyny a syrthiasant i drosedd; ac yn mhellach, mi a ddymunwn arnoch i ystyried cyflwr gwynfydedig ac hapus y rhai a gadwant orchymynion Duw. Canys wele, bendithiwyd hwynt yn mhob peth, yn dymmorol ac ysbrydol; ac os daliant allan hyd y diwedd, derbynir hwynt i’r nef, fel y trigont gyda Duw mewn cyflwr o ddedwyddwch diddiwedd. O, cofiwch, cofiwch, fod y pethau hyn yn wir; canys yr Arglwydd Dduw a’u llefarodd.

A thrachefn, fy mrodyr, mi a ewyllysiwn alw eich sylw, canys y mae genyf rywfaint yn ychwaneg i lefaru wrthych; canys wele, y mae genyf bethau i’w mynegi i chwi am yr hyn sydd i ddyfod; a’r pethau a fynegaf a wnaed yn hysbys i mi gan angel oddiwrth Dduw. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Deffro; ac mi a ddeffroes; ac wele, yr oedd yn sefyll o’m blaen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Deffro, a chlyw y geiriau a fynegaf wrthyt; canys, wele, mi a ddaethym i fynegi wrthyt newyddion da o lawenydd mawr. Canys yr Arglwydd a wrandawodd dy weddiau, ac a farnodd am dy gyfiawnder, ac a’m hanfonodd i fynegi wrthyt y gelli orfoleddu; ac y gelli fynegi i’th bobl, fel y llanwer hwythau hefyd â llawenydd. Canys wele, mae yr amser yn dyfod, ac nid yw yn mhell, y daw gyda gallu, yr Arglwydd Hollalluog, yr hwn sydd yn teyrnasu, yr hwn oedd, a’r hwn sydd o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb, i waered o’r nef, i blith plant dynion, ac a driga mewn pabell bridd, ac a â allan yn mhlith dynion, gan gyfiawni gwyrthiau nerthol, megys iachâu y claf, cyfodi y meirw, peri i’r cloffion gerdded, y deillion i dderbyn eu golwg, a’r byddariaid i glywed, ac iachâu pob math o glefydau; ac efe a fwrw allan gythreuliaid, neu yr ysprydion drwg a drigant yn nghalonau plant dynion. Ac wele, efe a ddyoddefa demtasiynau, a phoen corfforol, newyn, syched, a lludded, hyd y nod mwy nag y gall dyn ddyoddef, oddieithr i farwolaeth; canys wele, y gwaed a ddylifa drwy bob chwys-dwll, gan mor fawr ei wasgfa o herwydd drygioni a ffieidd-dra ei bobl. A gelwir ef Iesu Grist, Mab Duw, Tad nef a daear, a Chreawdwr pob peth, o’r dechreuad; a’i fam ef a elwir Mair. Ac wele, y mae yn dyfod at yr eiddo ei hun, fel y deuai iachawdwriaeth i blant dynion, trwy ffydd yn ei enw; ac hyd y nod ar ol hyn oll, ystyriant ef megys dyn, gan ddywedyd fod ganddo ddiafol, a ffrewyllant ef, ac a’i croeshoeliant. Ac efe a gyfyd y trydydd dydd oddiwrth y meirw; ac wele, y mae yn sefyll i farnu y byd; ac wele, yr holl bethau hyn a wneir, fel y delo barn gyflawn ar blant dynion. Canys wele hefyd, y mae ei waed yn rhoddi iawn dros bechodau y rhai a syrthiasant trwy drosedd Adda, y rhai a fuont feirw heb wybod ewyllys Duw o’u plegid, neu a bechasant mewn anwybodaeth. Ond gwae, gwae yr hwn a wyr ei fod yn gwrthryfela yn erbyn Duw; canys nid oes iachawdwriaeth yn dyfod at neb o’r cyfryw, oddieithr trwy edifeirwch a ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist. A’r Arglwydd Dduw a anfonodd ei brophwydi santaidd i blith holl blant dynion i draethu y pethau hyn i bob llwyth, cenedl, ac iaith, fel y caffai y sawl a gredai y deuai Crist, faddeuant o’u pechodau, a gorfoleddu gyda llawenydd mawr iawn, ïe, megys pe byddai eisoes wedi dyfod i’w mysg. Etto, yr Arglwydd Dduw a ganfu mai pobl wargaled oedd ei bobl ef, ac efe a ordeiniodd gyfraith iddynt, sef cyfraith Moses. Ac efe a ddangosodd iddynt lawer o arwyddion, a rhyfeddodau, ac arddangosiadau, a chysgodau, am ei ddyfodiad; ac hefyd y prophwydi santaidd a lefarasant wrthynt am ei ddyfodiad; ac er hyny, hwy a galedasant eu calonau, ac ni ddeallent nad yw cyfraith Moses yn lleshau dim, oddieithr trwy iawn ei waed ef; ac hyd y nod pe byddai bosibl i blant bychain bechu, na ellid eu hachub; eithr yr wyf yn dywedyd wrthych mai gwynfydedig ydynt hwy; canys wele, megys yn Adda, neu wrth natur y syrthiant, felly hefyd y mae gwaed Crist yn rhoi iawn am eu pechodau. A thrachefn, meddaf wrthych, ni fydd enw arall wedi ei roddi, nac unrhyw ffordd neu foddion trwy ba rai y gall iachawdwriaeth ddyfod i blant dynion, ond yn unig yn a thrwy enw Crist, yr Arglwydd Hollalluog. Canys wele, y mae efe yn barnu, a’i farn sydd yn gyfiawn; ac ni chyfrgollir y baban sydd yn marw yn ei fabandod; eithr dynion a yfant ddamnedigaeth i’w heneidiau eu hunain, oddieithr iddynt ymostwng a dyfod megys plant bychain, a chredu fod iachawdwriaeth wedi, ac yn bod, ac i fod, yn a thrwy waed iawnol Crist, yr Arglwydd Hollalluog; canys y mae’r dyn anianol yn elyn i Dduw, ac wedi bod felly oddiar gwymp Adda, ac a fydd yn oes oesoedd; eithr os ymollynga i gymhelliadau yr Ysbryd Glân, a rhoddi heibio y dyn anianol, a dyfod yn sant, trwy iawn Crist yr Arglwydd, a dyfod megys plentyn, yn ufydd, addfwyn, gostyngedig, amyneddgar, yn llawn cariad, yn barod i ymostwng i bob peth a welo yr Arglwydd yn addas i osod arno, megys yr ymostynga plentyn i’w dad. A thrachefn, meddaf wrthych, daw yr amser, pan y lledaena gwybodaeth am Iachawdwr trwy bob cenedl, llwyth, iaith, a phobl. Ac wele, pan ddaw yr amser hwnw, ni cheir neb yn ddifai gerbron Duw, oddieithr plant bychain, ond yn unig trwy edifeirwch a ffydd yn enw yr Arglwydd Dduw Hollalluog; ac hyd y nod yr amser hwn, wedi i ti ddysgu dy bobl yn y pethau a orchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, yna nid ydynt mwyach yn ddifai yn ngolwg Duw, ond yn unig yn ol y geiriau a lefarais wrthyt.

Ac yn awr, mi a lefarais y geiriau a orchymynodd yr Arglwydd Dduw i mi. Ac fel hyn y dywed yr Arglwydd: Hwy a safant megys tystiolaeth eglur yn erbyn y bobl hyn, yn nydd y farn; am yr hyn y bernir hwy, pob dyn yn ol ei weithredoedd, pa un a fyddant ai da ai drwg; ac os byddant ddrwg, trosglwyddir hwynt i olygfa ddychrynllyd o’u heuogrwydd a’u ffieidd-dra eu hunain, yr hyn a achosa iddynt gilio mewn braw o wyddfod yr Arglwydd, i gyflwr o drueni a phoen diddiwedd, o ba le nis gallant ddychwelyd mwyach; am hyny, yfasant ddamnedigaeth i’w heneidiau eu hunain. Gan hyny, yfasant o gwpan digofaint Duw, yr hwn ni allai cyfiawnder mwyach ei wrthod iddynt, mwy na allai wrthod i Adda syrthio, o herwydd iddo gymmeryd o’r ffrwyth gwaharddedig; am hyny, ni allai trugaredd gael hawl ynddynt hwy byth mwyach. A’u poen sydd megys llyn o dân a brwmstan, fflamiau yr hon ydynt yn anniffoddadwy, a’i mwg yn esgyn i fyny yn oes oesoedd. Felly y gorchymynodd yr Arglwydd i mi. Amen.