Scriptures
Mosiah 11


Pennod ⅩⅠ.

Hanes Alma a phobl yr Arglwydd, y rhai a yrwyd i’r anialwch ga bobl y brenin Noah.

Yn awr, wedi i Alma gael ei rybyddio gan yr Arglwydd fod byddinoedd y brenin Noah yn dyfod arnynt, ac iddo hysbysu hyny i’w bobl, hwy a gasglasant ynghyd eu deadelloedd, ac a gymmerasant eu ŷd, ac a ymadawsant i’r anialwch o flaen byddinoedd y brenin Noah. A’r Arglwydd a’u nerthodd hwynt, fel nad allai pobl y brenin Noah eu dal, i’w dyfetha hwynt. A hwy a ffoisant daith wyth niwrnod i’r anialwch; a daethant at dir, ïe, sef tir hyfrydol a dymunol iawn; tir dwfr pur. A hwy a godasant eu pebyll, ac a ddechreuasant lafurio y ddaear, a dechreu cyfodi adeiladau, &c.; ïe, yr oeddynt yn ddiwyd, ac yn dra gweithgar. A’r bobl a ddymunent i Alma fod yn frenin iddynt, canys efe a gerid gan ei bobl. Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Wele, nid yw yn fuddiol i ni gael brenin; canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Na chyfrifwch un cnawd yn uwch nâ’r llall, neu na thybied un dyn ei hun yn uwch nâ’r llall; am hyny, yr wyf yn dywedyd wrthych, Nid yw yn fuddiol i chwi gael brenin. Er hyny, pe byddai yn bosibl y gallech gael bob amser ddynion cyfiawn i fod yn freninoedd arnoch, buasai yn dda i chwi gael brenin. Ond cofiwch am anwiredd y brenin Noah a’i offeiriaid: a minnau fy hun a faglwyd, ac a wnaethym lawer o bethau ag oedd yn ffiaidd yn ngolwg yr Arglwydd, yr hyn a achosodd i mi edifeirwch blin: er hyny, ar ol llawer o drallod, yr Arglwydd a wrandawodd fy llef, ac a atebodd fy ngweddiau, ac a’m gwnaeth yn offeryn yn ei law, i ddwyn cynnifer o honoch chwi i wybodaeth o’i wirionedd. Etto, yn hyn nid wyf yn ymffrostio, canys nid wyf ti deilwng i ymffrostio am fy hunan. Ac yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, eich bod wedi eich gorthrymu gan y brenin Noah, ac wedi bod mewn caethiwed iddo ef a’i offeiriaid, ac wedi eich dwyn ganddynt i ddrygioni; am hyny, yr oeddech wedi eich rhwymo â rhwymau anwiredd. Ac yn awr, gan eich bod wedi eich gwaredu trwy allu Duw, allan o’r rhwymau hyn; ïe, sef allan o ddwylaw y brenin Noah a’i bobl, ac hefyd o rwymau anwiredd; felly hefyd m a fynwn i chwi sefyll yn ddisigl yn y rhyddid hwn â pha un y rhyddhawyd chwi, ac na ymddiriedoch un dyn i fod yn frenin arnoch; ac hefyd, na ymddiriedoch un dyn i fod yn athraw nac yn weinidog i chwi, os na fydd yn wr Duw, yn rhodio yn ei ffyrdd, ac yn cadw ei orchymynion. Felly y dysgodd Alma ei bobl, fod i bob dyn garu ei gymydog megys efe ei hun; ac na fyddai amrafaelion yn eu mysg. Ac yn awr, Alma oedd eu harchoffeiriad, gan mai efe oedd sylfaenydd eu heglwys. A bu na dderbyniai neb awdurdod i bregethu neu ddysgu, oddieithr iddo ei chael gan Dduw. Gan hyny, efe a gyssegrodd eu holl offeiriaid, a’u holl athrawon, ac ni chyssegrid neb oddieithr eu bod yn ddynion cyfiawn. Am hyny, hwy a wyliasant dros y bobl, ac a’u meithrinasant â phethau perthynol i gyfiawnder. A darfu iddynt ddechreu llwyddo yn fawr yn y tir; a galwasant y tir yn Helam. A bu iddynt liosogi a llwyddo yn fawr yn nhir Helam; a hwy a adeiladasant ddinas, yr hon a alwasant yn ddinas Helam. Etto, mae yr Arglwydd yn gweled yn addas i geryddu ei bobl; ïe, y mae efe yn profi eu hamynedd a’u ffydd. Er hyny, yr hwn a osodo ei ymddiried ynddo ef, y cyfryw a ddyrchefir yn y dydd diweddaf. Ië, ac felly yr oedd gyda y bobl hyn. Canys, wele, mi a ddangosaf i chwi iddynt gael eu dwyn i gaethiwed, ac nad allai neb eu gwaredu ond yr Arglwydd eu Duw; ïe, sef Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob. A bu iddo ef eu gwaredu, a dangos iddynt ei ryfeddol allu; a mawr oedd eu gorfoledd.

Canys, wele, dygwyddodd tra yr oeddynt yn nhir Helam, ïe, yn ninas Helam, ac yn llafurio y tir oddiamgylch, wele fyddin o’r Lamaniaid ar gyffiniau y tir. Yn awr, darfu i frodyr Alma ffoi o’u meusydd, ac ymgasglu ynghyd i ddinas Helam; a hwy a frawychwyd yn fawr o herwydd ymddangosiad y Lamaniaid. Ond Alma a aeth ac a safodd yn eu mysg, ac a’u hannogodd i beidio dychrynu, eithr am gofio yr Arglwydd eu Duw, ac efe a’u gwaredai hwynt; o ganlyniad hwy a attalient eu hofnau, ac a ddechreuasant alw ar yr Arglwydd, am iddo feddalhau calonau y Lamaniaid, fel yr arbedent hwynt, a’u gwragedd, a’u plant. A darfu i’r Arglwydd feddalhau calonau y Lamaniaid. Ac Alma a’i frodyr a draddodasant eu hunain i’w dwylaw; a’r Lamaniaid a gymmerasant feddiant o dir Helam. Yn awr, byddinoedd y Lamaniaid, y rhai a ddilynasant bobl y brenin Limhi, a fuont ar goll yn yr anialwch am ddyddiau lawer. Ac, wele, cawsent afael yn yr offeiriaid hyny o eiddo y brenin Noah, mewn lle a alwent Amulon; ac yr oeddynt wedi dechreu meddiannu tir Amulon, ac wedi dechreu llafurio y ddaear. Yn awr, enw penaeth yr offeiriaid hyny oedd Amulon. A bu i Amulon ymbil â’r Lamaniaid; ac anfonodd hefyd eu gwragedd, y rhai oeddynt ferched y Lamaniaid, i ymbil â’r Lamaniaid, ac yr oeddynt yn teithio yn yr anialwch mewn ymchwiliad am dir Nephi, pan ganfyddasant dir Helam, yr hwn a feddiennid gan Alma a’i frodyr. A darfu i’r Lamaniaid addaw wrth Alma a’i frodyr, os dangosent iddynt hwy y ffordd a arwelniai i dir Nephi, y caniatasent iddynt eu bywydau a’u rhyddid. Eithr wedi i Alma ddangos iddynt y ffordd a arweiniai i dir Nephi, ni chadwai y Lamaniaid eu haddewid; eithr hwy a osodent wylwyr oddiamgylch tir Helam, ar Alma a’i frodyr. A’r gweddill o honynt a aethant i dir Nephi: a rhan o honynt a ddychwelasant i dir Helam, ac a ddygasant gyda hwynt wragedd a phlant y gwylwyr a adawyd yn y tir. A brenin y Lamaniaid a wnaeth Amulon yn frenin a llywodraethwr ar ei bobl, y rhai oedynt yn nhir Helam; er hyny, ni chafodd awdurdod i wneuthur dim yn groes i ewyllys brenin y Lamaniaid.

A bu i Amulon ennill ffafr yn ngolwg brenin y Lamaniaid; am hyny, brenin y Lamaniaid a ganiataodd iddo ef a’i frodyr, gael eu penodi yn athrawon i’w bobl: ïe, i’r bobl y rhai oeddynt yn nhir Shemlon, ac yn nhir Shilom, ac yn nhir Amulon: canys yr oedd y Lamaniaid wedi meddiannu yr holl diroedd hyn; am hyny, yr oedd brenin y Lamaniaid wedi penodi breninoedd ar yr holl diroedd hyn. Ac yn awr, enw brenin y Lamaniaid oedd Laman, gan gael ei alw yn ol enw ei dad; ac am hyny, galwyd ef y brenin Laman. Ac yr oedd efe yn frenin ar bobl lliosog; ac efe a benododd athrawon allan o frodyr Amulon, yn mhob tir a feddiannid gan ei bobl: ac felly y dechreuodd iaith Nephi gael ei dysgu yn mhlith holl bobl y Lamaniaid. Ac yr oeddynt hwy yn bobl cyfeillgar i’w gilydd; er hyny nid adwaenent Dduw; ac ni ddysgodd brodyr Ammon ddim iddynt ynghylch yr Arglwydd eu Duw, nac ychwaith gyfraith Moses; ac ni ddysgasant iddynt eiriau Abinadi; eithr hwy a ddysgasant iddynt gadw eu cof-lyfr, ac fel y gallent ysgrifenu at eu gilydd. Ac felly y Lamaniaid a ddechreuasant gynnyddu mewn cyfoeth, a dechreu masgnachu â’u gilydd, a myned yn fawr, a dechreu dyfod yn bobl cyfrwys a doeth, gyda golwg ar ddoethineb y byd; ïe, yn bobl cyfrwys iawn; yn ymhyfrydu yn mhob math o ddrygioni ac anrhaith, oddieithr yn mhlith eu brodyr eu hun.

A bu i Amulon ddechreu tra-arglwyddiaethu ar Alma a’i frodyr, a dechreu ei erlid ef, a pheri i’w blant erlid ei blant ef: canys yr oedd Amulon yn adnabod Alma, iddo fod yn un o offeiriaid y brenin, ac mai efe a gredodd eiriau Abinadi, ac a yrwyd allan o wydd y brenin; am hyny, yr oedd efe yn ddigllawn wrtho; ac er ei fod yntau wrth reolaeth y brenin Laman, etto efe a dra-arglwyddiaethodd arnynt hwy, ac a osododd dasg-waith iddynt, ac a osododd dasg-feistri arnynt. A dygwyddodd fod eu cystuddiau mor fawr, fel y dechreuasant alw yn nerthol ar Dduw. Ac Amulon a orchymynodd iddynt attal eu cri; ac efe a osododd wylwyr arnynt i’w gwylio, fel y gosodid pwy bynag a geid yn galw ar Dduw, i farwolaeth. Ac Alma a’i bobl ni ddyrchafasant eu llef at yr Arglwydd eu Duw, eithr a dywalltasant eu calonau o’i flaen; ac efe a wyddai feddyliau eu calonau.

A bu i lais yr Arglwydd ddyfod atynt yn eu cystuddiau, gan ddywedyd, Dyrchefwch eich penau, ac ymgysurwch, canys mi a wn y cyfammod a wnaethoch â mi; ac mi a ymgyfammodaf â’m pobl, ac a’u gwaredaf o gaethiwed. Ac hefyd, mi a esmwythâf y beichiau a osodir ar eich ysgwyddau, fel nas teimloch hwynt ar eich cefnau, ïe, tra yr ydych mewn caethiwed; a hyn wyf yn ei wneuthur, fel y safoch yn dystion i mi yn ol llaw, ac fel y gwypoch mewn sicrwydd fy mod i, yr Arglwydd Dduw, yn ymweled â’m pobl yn eu cystuddiau. A dygwyddodd i’r beichiau a osodwyd ar Alma a’i frodyr, gael eu hysgafnhau; ïe, yr Arglwydd a’u nerthodd hwynt fel y gallent ddwyn eu beichiau yn rhwydd, a hwy a ymostyngasant yn siriol ac amyneddgar i holl ewyllys yr Arglwydd.

A dygwyddodd fod eu ffydd a’u hamynedd mor fawr, fel y daeth llais yr Arglwydd atynt drachefn, gan ddywedyd, Ymgysurwch, canys y fory mi a’ch gwaredaf o gaethiwed. Ac efe a ddywedodd wrth Alma, Ti a gai fyned o flaen y bobl hyn, ac mi a âf gyda thi, a gwaredu y bobl hyn o gaethiwed.

Yn awr, darfu i Alma a’i bobl yn y nos, gasglu eu deadelloedd ynghyd, ac hefyd eu ŷd; ïe, trwy gydol y nos yr oeddynt yn casglu eu deadelloedd ynghyd. Ac yn y boreu, yr Arglwydd a achosodd i drwmgwsg ddyfod ar y Lamaniaid, ïe, a’u holl dasg-feistri oedd yn cysgu yn drwm. Ac Alma a’i bobl a ymadawsant i’r anialwch; ac wedi iddynt deithio trwy y dydd, hwy a godasant eu pebyll mewn dyffryn, a galwasant y dyffryn yn Alma, oblegid mai efe a dywysodd eu ffordd i’r anialwch; ïe, ac yn nyffryn Alma hwy a dalasant ddiolchgarwch i Dduw am iddo fod yn drugarog tuag atynt, ac esmwythâu eu beichiau, a’u gwaredu o gaethiwed; canys yr oeddynt mewn caethiwed, ac nis gallai neb eu gwaredu, oddieithr yr Arglwydd eu Duw. A hwy a roddasant ddiolch i Dduw; ïe, eu holl wyr, a’u holl wragedd, a’u holl blant, a fedrent lefaru, a ddyrchafasant eu llef i glodfori eu Duw.

Ac yn awr, yr Arglwydd a ddywedodd wrth Alma, Brysia, a dos di â’r bobl hyn allan o’r tir hwn, canys y mae’r Lamaniaid wedi deffroi, ac yn dy ddilyn di; am hyny, dos allan o’r tir hwn, ac mi a attaliaf y Lamaniaid yn y dyffryn hwn, fel na ddelont yn mhellach ar ol y bobl hyn. A bu iddynt ymadael o’r dyffryn, a chymmeryd eu taith i’r anialwch. Ac ar ol iddynt fod yn yr anialwch ddeuddeg niwrnod, cyrhaeddasant dir Zarahemla; a’r brenin Mosiah hefyd a’u derbyniodd hwy gyda llawenydd. Ac yn awr, y brenin Mosiah a berodd i’r holl bobl ymgynnull ynghyd. Yn awr, nid oedd cymmaint o blant Nephi, neu gymmaint o’r rhai oeddynt yn ddisgynyddion o Nephi, ag oedd o bobl Zarahemla, yr hwn oedd yn ddisgynydd o Mulok, a’r rhai a ddaeth gydag ef i’r anialwch: ac nid oedd cymmaint o bobl Nephi, ac o bobl Zarahemla, ag oedd o’r Lamaniaid; ïe, nid oeddynt yn hanner mor lliosog. Ac yn awr yr oedd holl bobl Nephi wedi ymgynnull ynghyd, ac hefyd holl bobl Zarahemla; ac yr oeddynt wedi ymgynnull ynghyd yn ddwy dyrfa.

A bu i Mosiah ddarllen, ac achosi cael eu darllen, gof-ysgrifau Zeniff i’w bobl; ïe, efe a ddarllenodd gof-ysgrifau pobl Zeniff, o’r amser y gadawsant dir Zarahemla, hyd nes y dych welasant drachefn. Ac efe a ddarllenodd hefyd hanes Alma a’i frodyr, a’u holl gystuddiau, o’r amser y gadawsant dir Zarahemla, hyd yr amser y dychwelasant drachefu. Ac yn awr, pan orphenodd Mosiah ddarllen y cof-ysgrifau, ei bobl ef y rhai a drigent yn y tir, a darawyd â syndod a rhyfeddod, canys ni wyddent pa beth i feddwl; oblegid pan ganfyddent y rhai a waredwyd o gaethiwed, hwy a lanwyd â llawenydd mawriawn. A thrachefn, pan feddylient am eu brodyr y rhai a laddwyd gan y Lamaniaid, hwy a lanwyd â thristwch, ac a dywalltasant lawer o ddagrau tristwch; a thrachefn, pan feddylient am ddaioni uniongyrchol Duw, a’i allu yn gwaredu Alma a’i frodyr o ddwylaw y Lamaniaid, ac o gaethiwed, hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a ddiolchasant i Dduw. A thrachefn, pan feddylient ynghylch y Lamaniaid, y rhai oeddynt eu brodyr, ac am eu sefyllfa bechadurus a llygredig, hwy a lanwyd â phoen ac ing ynghylch iachawdwriaeth eu heneidiau.

A dygwyddodd i’r rhai oeddynt blant Amulon a’i frodyr, y rhai a gymmerasant ferched y Lamaniaid yn wragedd, fod yn anfoddlawn i ymddygiad eu tadau, ac ni fynent gael eu galw mwyach wrth enw eu tadau; gan hyny, cymmerasant arnynt enw Nephi, fel y gelwid hwynt yn blant Nephi, ac y cyfrifid hwynt yn mhlih y rhai a elwid yn Nephiaid. Ac yn awr, holl bobl Zarahemla a gyfrifwyd gyda’r Nephiaid, a hyn am nad oedd y deyrnas wedi ei rhoddi i neb ond i’r rhai oeddynt yn ddisgynyddion o Nephi.

Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i Mosiah orphen llefaru a darllen i’r bobl, iddo ddymuno ar Alma hefyd i lefaru wrth y bobl. Ac Alma a lefarodd wrthynt, pan wedi ymgynnull ynghyd yn dorfeydd mawrion, ac efe a aeth o un dyrfa i’r llall, gan bregethn i’r bobl edifeirwch a ffydd yn yr Arglwydd. Ac efe a annogodd bobl Limhi a’i frodyr, a’r holl rai a waredwyd o gaethiwed, y dylent gofio mai yr Arglwydd a’u gwaredodd. A bu ar ol i Alma ddysgu y bobl lawer o bethau, a gorphen llefaru wrthynt, i’r brenin Limhi ddymuno cael ei fedyddio; a’i holl bobl ef a ddymunent gael eu bedyddio hefyd. Gan hyny, aeth Alma i’r dwfr, ac a’u bedyddiodd hwynt; ïe, efe a’u bedyddiodd yn yr un modd â’i frodyr yn nyfroedd Mormon; ïe, a chynnifer ag a fedyddiodd, a berthynent i eglwys Dduw, a hyn o herwydd eu crediniaeth o eiriau Alma.

A darfu i’r brenin Mosiah ganiatâu i Alma sefydlu eglwysi trwy holl dir Zarahemla; ac a roddodd iddo awdurdod i ordeinio offeiriaid ac athrawon yn mhob eglwys. Yn awr, hyn a wnaed am na allai cynnifer o bobl gael eu llywodraethu oll gan un athraw; ac ni allent oll wrandaw gair Duw mewn un gynnulleidfa; am hyny hwy a ymgynnullent ynghyd yn gynnulleidfaoedd gwahanol, y rhai a elwid yn eglwysi; pob eglwys i feddu ei hoffeiriaid a’i hathrawon, a phob offeiriad i bregethu y gair megys y cai ei roddi iddo trwy enau Alma; ac felly, er fod llawer o eglwysi, yr oeddynt oll yn un eglwys; ïe, sef eglwys Dduw; canys nid oedd dim yn cael ei bregethu yn yr holl eglwysi ond edifeirwch a ffydd yn Nuw. Ac yn awr, yr oedd saith o eglwysi yn nhir Zarahemla. A bu, i bwy bynag a ddymunent gymmeryd arnynt enw Crist, neu Dduw, ymuno ag eglwysi Duw; a hwy a elwid yn bobl Dduw. A’r Arglwydd a dywalltodd ei ysbryd arnynt, a hwy a fendithiwyd, ac a lwyddasant yn y tir.

Yn awr, dygwyddodd nad oedd llawer o’r genedlaeth ag oedd yn cyfodi, yn deall geiriau y brenin Benjamin, gan eu bod yn blant bychain yn yr amser y llefarodd efe wrth ei bobl; ac nid oeddynt hwy yn credu traddodiad eu tadau. Nid oeddynt yn credu yr hyn a ddywedwyd am adgyfodiad y meirw, nac yn credu ychwaith ynghylch dyfodiad Crist. Ac yn awr, o herwydd eu hanghrediniaeth, ni allent ddeall gair Duw; a’u calonau oeddynt wedi ymgaledu. Ac ni fynent gale eu bedyddio; ac ni ymunent â’r eglwys. Ac yr oeddynt hwy yn bobl wahanol o ran eu ffydd, ac a arosasant felly byth wed’yn, ïe, yn eu sefyllfa gnawdol a phechadurus; canys ni alwent ar yr Arglwydd eu Duw. Ac yn awr, yn nheyrnasiad Mosiah, nid oeddynt hanner mor lliosog â phobl Dduw; eithr o herwydd yr ymraniadau yn mhlith y brodyr, hwy a ddaethant yn fwy lliosog. Canys dygwyddodd iddynt dwyllo llawer â’u geiriau gwenieithus, y rhai oeddynt yn yr eglwys, ac achosi iddynt gyflawni llawer o bechodau; am hyny, daeth yn anghenrheidiol i’r rhai ag oeddynt yn yr eglwys, a gyflawnent bechod, gael eu ceryddu gan yr eglwys.

A bu iddynt gael eu dwyn gerbron yr offeiriaid, a’u traddodi i fyny i’r offeiriaid gan yr athrawon; a’r offeiriaid a’u dygasant hwynt gerbron Alma, yr hwn oedd yn archoffeiriad. Yn awr, yr oedd y brenin Mosiah wedi rhoddi i Alma awdurdod dros yr eglwys, A dygwyddodd nad oedd Alma yn gwybod pa beth a wnelai iddynt, canys yr oedd llawer o dystion yn eu herbyn hwynt; ïe, yr oedd y bobl yn sefyll ac yn tystiolaethu am eu haml anwireddau. Yn awr, nid oedd dim cyffelyb o’r blaen wedi dygwydd yn yr eglwys; am hyny, Alma a gythryblwyd yn ei ysbryd, ac a berodd eu dwyn hwynt gerbron y brenin. Ac efe a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae yma amryw wedi eu dwyn ger dy fron, y rhai a gyhuddir gan eu brodyr; ïe, maent wedi eu dal mewn llawer math o anwireddau. Ac nid ydynt yn edifarhau am eu hanwireddau; am hyny, ni a’u dygasom hwynt ger dy fron di, fel y barnot hwynt yn ol eu troseddau. Eithr y brenin Mosiah a ddywedodd wrth Alma, Wele, nid wyf fi yn eu barnu; am hyny, yr wyf yn eu rhoddi i’th ddwylaw di i’w barnu. Ac yn awr, ysbryd Alma a gythryblwyd drachefn; ac efe a aeth ac a ymofynodd â’r Arglwydd pa beth a wnai ynghylch y mater hwn, canys efe a ofnai wneuthur ar gam yn ugolwg Duw.

A bu ar ol iddo dywallt ei holl enaid o flaen Duw, i lais yr Arglwydd ddyfod ato, gan ddywedyd, Gwyn dy fyd di, Alma, a gwyn eu byd hwythau a fedyddiwyd yn nyfroedd Mormon. Yr wyt ti yn wynfydedig o herwydd dy ffydd gref yn ngeiriau fy ngwas Abinadi yn unig. A gwynfydedig ydynt hwythau o herwydd eu ffydd gref yn y geiriau a lefaraist ti yn unig wrthynt. A gwyn dy fyd di am dy fod wedi sefydlu eglwys yn inhlith y bobl hyn; a hwy a sicrheir, ac a gant fod yn bobl i mi. Ië, gwyn fyd y bobl hyn, y rhai ydynt yn foddlawn dwyn fy enw; canys ar fy enw i y gelwir hwynt; a’m heiddo i ydynt. Ac o herwydd dy fod wedi ymofyn â mi ynghylch y troseddwr, gwyn dy fyd. Fy ngwas ydwyt; ac yr wyf yn ymgyfammodi â thi, y bydd i ti gael bywyd tragywyddol; a thi a’m gwasanaethi i, ac a ai allan yn fy enw, ac a gesgli ynghyd fy nefaid. A’r neb a wrandawo fy llais, a fydd yn un o’m defaid; a hwnw a dderbyniwch i’r eglwys, a hwnw a dderbyniaf finnau hefyd. Canys wele, hon yw fy eglwys; pwy bynag a fedyddier, a fedyddir i edifeirwch. A phwy bynag a dderbyniwch a gaiff gredu yn fy enw i; ac i’r cyfryw y maddeuaf yn rhwydd; canys myfi sydd yn cymmeryd arnaf bechodau y byd; canys myfi a’u creodd hwynt; a myfi sydd yn rhoddi i’r hwn a gredo, yn y diwedd, le ar fy neheulaw. Canys, wele, ar fy enw i y gelwir hwynt; ac os adwaenant fi, hwy a ddeuant ac a gant le yn dragywyddol ar fy neheulaw. A bydd pan udgano yr ail udgorn, yna y rhai nid adwaenent fi erioed, a ddeuant ac a safant ger fy mron; ac yna y gwybyddant mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw, mai myfi yw eu Gwaredwr; eithr ni fynent hwy gael eu gwaredu. Ac yna y cyffesaf wrthynt, nas adnabum hwynt crioed; a hwy a gant fyned i’r tân tragywyddol, yr hwn a barotowyd i’r diafol a’i angylion. Am hyny, yr wyf yn dywedyd wrthych, Y neb ni wrandawo ar fy llais i, na dderbyniwch i’m heglwys, canys y cyfryw ni dderbyniaf fi yn y dydd diweddaf; am hyny, yr wyf yn dywedyd wrthych. Ewch; a phwy bynag a droseddo yn fy erbyn, y cyfryw a fernwch yn ol y pechodau a gyflawnodd; ac os cyffesa ei bechodau o’ch blaen chwi a minnau, ac edifarhau mewn cywirdeb calon, chwi a faddeuwch iddo, a minnau a faddeuaf iddo hefyd; ïe, ac mor fynych ag yr edifarhao fy mhobl, y maddeuaf iddynt eu troseddau ynfy erbyn. A chwi a gewch faddeu troseddau eich gilydd; canys, yn wir meddaf i chwi, Yr hwn ni faddeuo droseddau ei gymmydog, pan y dywed ei fod yn edifarhau, mae y cyfryw wedi dwyn ei hunan dan gondemniad. Yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, Ewch; a phwy bynag ni edifaro am ei bechodau, y cyfryw ni chyfrifir yn mhlith fy mhobl; a hyn a gedwir o’r amser hwn allan.

A bu, ar ol i Alma glywed y geiriau hyn, iddo eu hysgrifenu i lawr, fel y buasent gydag ef, ac fel y gallai farnu pobl yr eglwys hono, yn ol gorchymynion Duw.

A bu i Alma fyned a barnu y rhai a ddaliwyd mewn anwiredd, yn ol gair yr Arglwydd. A phwy bynag a edifarhaent am eu pechodau, ac a’u cyffesent, a gyfrifai efe yn mhlith pobl yr eglwys; a’r rhai na chyffesent eu pechodau, ac edifarhau am eu hanwiredd, ni chyfrifid yn mhlith pobl yr eglwys, a’u henwau a ddilëwyd. A darfu i Alma reoleiddio holl achosion yr eglwys, a hwy a ddechreuasant gael heddwch a llwyddiant mawr yn achosion yr eglwys; gan rodio yn wyliadwrus gerbron Duw; gan dderbyn llawer, a bedyddio llawer. Ac yn awr, yr holl bethau hyn a wnaeth Alma a’i gyd-weithwyr, y rhai oeddynt dros yr eglwys; gan rodio yn dra diesgeulus, a dysgu gair Duw yn mhob peth; gan ddyoddef pob math o gystuddiau, a chael eu herlid gan yr holl rai na pherthynentli eglwys Dduw. A hwy a rybyddient eu brodyr; a hwythau a rybyddiwyd hefyd, pob un gan air yr Arglwydd, yn ol ei bechodau, neu y pechodau a gyflawnodd, gan gael gorchymyn gan yr Arglwydd i weddio yn ddibaid, a rhoddi diolch yn mhob peth. Ac yn awr, dygwyddodd fod yr erlidigaethau a gyfodwyd yn erbyn yr eglwys gan yr anghredinwyr, mor enbyd, nes i’r eglwys ddechreu grwgnach, ac achwyn wrth eu blaenoriaid ynghylch y mater; a hwythau a achwynasant wrth Alma. Ac Alma a osododd yr achos o flaen eu brenin, Mosiah. A Mosiah a ymgynghorodd â’i offeiriaid.

A darfu i’r brenin Mosiah anfon cyhoeddiad trwy y tir oddiamgylch, na fuasai i un anghredadyn erlid neb o’r rhai a berthynent i eglwys Dduw; ac yr oedd gorchymyn caeth trwy yr holl eglwysi, na fyddai erlidigaethau yn eu mysag hwynt; y dylai cydraddoldeb fod yn mysg pawb; na ddylent adael i falchder nac ucheideer aflonyddu eu heddwch; y dylai pob dyn barchu ei gymydog fel efe ei hun, gan weithio â’u dwylaw eu hunain am eu cynnaliaeth; ïe, a’u holl offeiriaid a’u hathrawon a ddylent weithio â’u dwylaw eu hunain am eu cynnaliaeth, yn mhob amgylchiad, oddieithr mewn afiechyd, neu fawr anghenoctyd; ac wrth wneuthur y pethau hyn, hwy a orlenwyd â grâs Duw. A dechrenodd fod heddwch mawr yn y tir drachefn; a dechreuodd y bobl fod yn lliosog iawn, a dechreu gwasgaru ar led ar wyneb y ddaear, ïe, ar y gogledd, ac ar y deau, ar y dwyrain ac ar y gorllewin, gan adeiladu dinasoedd mawrion a phenain ac ar y gorilewin, gan adeiladu dinasoedd mawrion a phentrefi yn mhob cwr o’r til. A’r Arglwydd a ymwelodd â hwynt, ac a’u llwyddodd, a hwy a ddaethant yn bobl lliosog a chyfoethog.

Yn awr, yr oedd meibion Mosiah yn cael eu cyfrif yn mhlith yr anghredinwyr; ac hefyd yr oedd un o feibion Alma yn cael ei gyfrif yn eu plith hwynt; gelwid ef yn Alma, ar ol ei dad; er hyny efe a aeth yn ddyn tra drygionus ac eilun-addolgar. Ac yr oedd efe yn ddyn aml-eiriog, ac yn llefaru llawer o weniaith wrth y bobl; am hyny, efe a arweiniodd lawer o’r bobl i wneuthur yn ol ei anwireddau ef. Ac efe a aeth yn rhwystr mawr i eglwys Dduw; gan ladrata ymaith galonau y bobl; ac achosi cryn ymraniad yn mhlith y bobl; gan roddi cyfleusdra i elyn Duw i arfer ei awdurdod arnynt.

A dygwyddodd, tra yr oedd yn myned o amgylch yn ddirgelaidd i ddinystrio eglwys Dduw; canys yr oedd efe yn myned o amgylch yn ddirgelaidd gyda meibion Mosiah, i geisio dinystrio yr eglwys, ac arwain pobl yr Arglwydd ar gyfeiliorn, yn groes i orchymynion Duw, neu y brenin; ac megys y dywedais wrthych, Fel yr oeddynt yn myned o amgylch, gan wrthryfela yn erbyn Duw, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt; ac efe a ddisgynodd megys mewn cwmwl; ac efe a lefarodd gyda llais taran, yr hwn a achosodd i’r ddaear a safent arni grynu; a chan mor fawr oedd eu braw, hwy a syrthiasant i’r ddaear, ac ni ddeallasant y geiriau a lefarodd wrthynt. Er hyny, efe a waeddodd drachefn, gan ddywedyd, Alma, cyfod a saf, canys paham yr erlidi di eglwys Dduw? Oblegid y mae yr Arglwydd wedi dywedyd, Hon yw fy eglwys, ac mi a’i cadarnhaf; ac ni chaiff dim ei dymchwelyd, oddieithr trrosedd fy mhobl. A thrachefn, yr angel a ddywedodd, Wele, yr Arglwydd a wrandawodd weddiau ei bobl, ac hefyd weddiau ei was Alma, yr hwn yw dy dad: canys efe a weddiodd yn dra ffyddiog o’th blegid, fel y dygid di i wybodaeth o’r gwiionedd; am hyny, i’r dyben yma y daethym i’th argyhoeddi o allu ac awdurdod Duw, fel yr atebid gweddiau ei weision yn ol eu ffydd. Ac yn awr, wele, a ellwch chwi ammau gallu Duw? Canys wele, ai nid yw fy llais yn siglo y ddaear? Ac ai ni ellwch hefyd fy nghanfod o’ch blaen? Ac yr wyf wedi cael fy nanfon gan Dduw. Yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthyt. Dos, a chofia gaethiwed dy dadau yn nhir Helam, ac yn nhir Nephi; a chofia y fath bethau mawrion a wnaeth efe erddynt: canys yr oeddynt hwy mewn caethiwed, ac yntau a’u gwaredodd. Ac yn awr yr wyf yn dywedyd wrthyt ti, Alma, Dos i’th ffordd, ac na cheisia mwyach ddinystrio yr eglwys, fel yr ateber ei gweddiau; a hyn hyd y nod pe byddai i ti, o ran dy hun, gael dy fwrw ymaith.

Ac yn awr dygwyddodd mai dyma y geiriau olaf a lefarodd yr angel wrth Alma, ac efe a ymadawodd. Ac yn awr, Alma, a’r rhai oedd gydag ef, a syrthiasant drachefn i’r ddaear, canys mawr oedd eu dychryn; o herwydd â’u llygaid eu hunain y gwelsant angel yr Arglwydd; a’i lais oedd megys taran, yr hwn a grynodd y ddaear; a hwy a wyddent nad allai dim ond gallu Duw, ysgwyd y ddaear ac achosi iddi grynu, megys pe ymrwygai. Ac yn awr, yr oedd dychryn Alma mor fawr, fel yr aeth yn fud, ac nas gallai agor ei enau; ïe, ac efe a aeth yn wan, fel nas gallai hyd y nod symud ei ddwylaw; am hyny, efe a gymmerwyd gan y rhai oedd gydag ef, ac a ddygwyd yn analluog, hyd nes y gosodwyd ef o flaen ei dad. A hwy a adroddasant i’w dad yr hyn oll a ddygwyddodd iddynt; a’i dad a lawenychodd, canys efe a wyddai mai gallu Duw oedd. Ac efe a achosodd i dyrfa ymgasglu ynghyd, fel y gwelent yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i’w fab, ac hefyd i’r rhai ag oedd gydag ef. Ac efe a berodd i’r offeiriaid ymgynnull ynghyd; a hwy a ddechreuasant ymprydio, a gweddio ar yr Arglwydd eu Duw, am iddo agoryd genau Alma, fel y llefarai; ac hefyd, fel y derbyniai nerth yn ei aelodau, ac yr agorid llygaid y bobl i weled a gwybod am ddaioni a gogoniant Duw.

A bu, wedi iddynt ymprydio a gweddio am yspaid dau ddiwrnod a dwy noswaith, i aelodau Alma dderbyn eu nerth, ac efe a safodd i fyny ac a ddechreuodd lefaru wrthynt, gan erchi iddynt ymgysuro: canys, eb efe, mi a edifarheais am fy mhechodau, ac a waredwyd gan yr rglwydd; wele, ganwyd fi o’r ysbryd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na ryfedda fod yn rhaid i holl ddynolryw, ïe, gwyr a gwragedd, pob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, gael eu geni drachefn; ïe, eu geni o Dduw, cu cyfnewid o’u sefyllfa gnawdol a syrthiedig i sefyllfa o gyflawndere, gan gael eu gwaredu gan yr Arglwydd, a dyfod yn feibion ac yn ferched iddo; ac felly y maent yn dyfod yn greaduriaid newydd; ac oddieithr iddynt wneuthur hyn, nis gallent mewn un modd etifeddu teyrnas Dduw. Yr wyf yn dywedyd wrthych, Os mai nid felly mae, y rhaid eu bwrw hwynt ymaith; a hyn a wn i, am i mi fod yn debyg o gael fy mwrw ymaith. Er hyny, ar ol crwydro trwy drallod lawer, gan edifarhau yn agos i farwolaeth, yr Arglwydd a welodd yn addas i’m cipio i allan o dân tragywyddol, c mi a anwyd o Dduw; fy enaid a achubwyd o fustl chwerwedd a rhwymau anwiredd. Mi a fum yn y cadduglyn tywyllaf, eithr yn awr yr wyf yn canfod rhyfeddol oleuni Duw. Fy enaid a ddrylliwyd gan boenau tragywyddol; eithr mi a gipiwyd, a’m henaid ni phoenir mwyach. Mi a wrthodais fy Ngwaredwr, ac a wadais yr hyn a lefarwyd gan ein tadau; eithr yn awr, fel y rhagwelont y bydd iddo ef ddyfod, a’i fod yn cofio pob creadur o’i wneuthuriad, efe a wna ei hun yn amlwg i bawb; ïe, pob glin a blygant, a phob tafod a gyffesant ger ei fron ef. Ië, yn y dydd diweddaf, pan y saif pob dyn i gael ei farnu ganddo, yna y cyffesant mai efe sydd Dduw; yna y eyffesant hwy, y rhai sydd heb Dduw yn y byd, fod barnedigaeth cosp dragywyddol yn gyfiawn arnynt; a hwy a grynant, ac a ddychrynant, ac a giliant mewn braw o dan drem ei lygad holldreiddgar ef.

Ac yn awr, dygwyddodd i Alma, o’r amser hwn allan, ynghyd â’r rhai oedd gydag Alma ar y pryd yr ymddangosodd yr angel iddynt, ddechreu dysgu y bobl, gan deithio oddiamgylch trwy yr holl wlad, a chyhoeddi wrth yr holl bobl y pethau oeddynt wedi glywed a gweled, a phregethu gair Duw mewn mawr drallod, gan gael eu herlid yn enbyd gan y rhai oeddynt yn anghredinwyr, a’u taraw gan lawer o honynt; ond er hyn oll, hwy a roddasant lawer o ddyddanwch i’r eglwys, gan gadarnhau eu ffydd, a’u hannog trwy hir-ymaros a lludded mawr, i gadw gorchymynion Duw. A phedwar o houynt oeddynt feibion Mosiah; a’u henwau oedd Ammon, ac Aaron, ac Omner, a Himni: dyna oedd enwau meibion Mosiah. A hwy a deithiasant trwy holl dir Zarahemla, ac yn mhlith yr holl bobl oedd dan deyrnasiad y brenin Mosiah, gan ymdrechu yn selog i ddileu yr holl niwed a wnaetheut i’r eglwys: gan gyffesu eu holl bechodau, a chyhoeddi yr holl bethau a welsent, ac egluro y prophwydoliaethau a’r ysgrythyrau wrth bawb a ewyllysient eu gwrandaw: ac felly buont yn offerynau yn llaw Duw, i ddwyn llaweroedd i wybodaeth o’r gwirionedd, ïe, i wybodaeth o’u Gwaredwr. Ac O, mor wynfydedig ydynt! Canys hwy a gyhoeddasant heddwch; hwy a fynegasant ddaioni; ac a gyhoeddasant wrth y bobl fod yr Arglwydd yn teyrnasu.