Wele, yr wyf fi, Moroni, yn gorphen cof-lyfr fy nhad, Mormon. Wele, nid oes genyf ond ychydig o bethau i’w hysgrifenu, yr hyn bethau a orchymynwyd i mi gan fy nhad. Ac yn awr, dygwyddodd ar ol y frwydr fawr ac enbyd yn Cumorah, i’r Nephiaid y rhai a ddiangasant i’r wlad yn ddeheuol, gael eu hymlid gan y Lamaniaid, hyd nes iddynt gael eu dyfetha oll; a’m tad hefyd a laddwyd ganddynt, a myfi yn unig sydd yn aros i ysgrifenu hanes galarus dinystr fy mhobl. Eithr wele, y maent hwy wedi myned, ac yr wyf finnau yn cyflawni gorchymyn fy nhad. A pha un a laddant finnau, nis gwn; am hyny, mi a ysgrifenaf ac a guddiaf y cof-lyfrau yn y ddaear, a pha le yr âf fi nid yw wahaniaeth. Wele, fy nhad a wnaeth y cof-lyfr hwn, ac a ysgrifenodd y cynllun o hono. Ac wele, mi a’i hysgrifenwn ef hefyd, pe buasai genyf le ar y llafnau; eithr nid oes genyf; a mŵn nid oes genyf ddim, oblegid yr wyf yn unig; mae fy nhad wedi ei ladd yn y frwydr, a’m holl berthynasau, ac nid oes genyf gyfeillion na lle i fyned; a pha cyhyd y goddefa yr Arglwydd i mi fyw, nis gwn. Wele, y mae pedwar can mlynedd wedi myned heibio oddiar ddyfodiad ein Harglwydd a’n Hiachawdwr. Ac wele, y mae’r Lamaniaid wedi ymlid fy mhobl i, y Nephiaid, i waered o ddinas i ddinas, ac o le i le, hyd nes nad ydynt mwyach; a mawr fu eu cwymp hwynt: ïe, mawr a rhyfedd yw dinystr fy mhobl y Nephiaid. Ac wele, llaw yr Arglwydd a’i gwnaeth. Ac wele, hefyd, y mae’r Lamaniaid mewn rhyfel â’u gilydd: ac y mae holl wyneb y tir hwn yn un cylchdro parhaus o lofruddiaeth a thywallt gwaed; ac nis gŵyr neb am derfyn y rhyfel. Ac yn awr, wele, nid wyf yn dywedyd ychwaneg am danynt hwy, canys nid oes neb, oddieithr y Lamaniaid a’r yspeilwyr, yn bodoli ar wyneb y tir; ac nid oes neb ag ydynt yn adwaen y gwir Dduw, oddieithr dyscyblion yr Iesu, y rhai a drigent yn y tir hyd nes yr oedd drygioni y bobl mor fawr, fel na oddefai yr Arglwydd iddynt aros gyda’r bobl; a pha le y maent ar wyneb y tir, nis gŵyr neb. Eithr, wele, mae fy nhad a minnau wedi eu gweled, a hwy a weiniasant i ni. A phwy bynag a dderbynio y cof-lyfr hwn, ac nis condemnia ef oblegid yr anmherffeithderau ag sydd ynddo, y cyfryw a gaiff wybod am bethau mwy nâ’r rhai hyn. Wele, myfi yw Moroni; a phe buasai yn bosibl, mi a hysbyswn bob peth i chwi. Wele, yr wyf yn gorphen llefaru am y bobl hyn. Myfi yw mab Mormon, ac yr oedd fy nhad yn ddisgynydd o Nephi; a myfi yw yr hwn sydd yn cuddio y cof-lyfr hwn i’r Arglwydd; ac nid yw ei lafnau ef o ddim gwerth, oblegid gorchymyn yr Arglwydd. Canys yn ddiau efe a ddywedodd na chai neb hwynt i elwa: eithr y mae eu hanes o werth mawr; a phwy bynag a’i dygo i oleuni, hwnw a fendithia yr Arglwydd. Canys ni all neb gael gallu i’w ddwyn i oleuni, oddiethr ei roddi iddo gan Dduw; canys Duw a fyn iddo gael ei wneuthur gyda golwg sengl ar ei ogoniant, neu leshad hen bobl hir-wasgaredig a chyfammodol yr Arglwydd. A gwyn fyd yr hwn a ddwg y peth hwn i oleuni; canys dygir ef allan o dywyllwch i oleuni, yn ol gair Duw; ïe, dygir ef allan o’r ddaear, a chaiff ddysclaerio alan o dywyllwch, a dyfod i wybodaeth y bobl; a chaiff ei wneuthur trwy allu Duw; ac os bydd beiau, beiau dyn fyddant. Eithr wele, ni wyddom ni am un bai. Er hyny, y mae Duw yn gwybod pob peth; am hyny, yr hwn sydd yn condemnio, gocheled rhag iddo fod yn euog o dân uffern. A’r hwn a ddywedo, Dangos i mi, onide tarewir di, gocheled rhag iddo orchymyn yr hyn a waherddir gan yr Arglwydd. Canys wele, yr hwn sydd yn barnu yn fyrbwyll, a fernir yn fyrbwyll drachefn; canys yn ol ei waith y bydd ei gyflog; am hyny, yr hwn sydd yn taraw, a darewir drachefn gan yr Arglwydd. Wele, pa beth a ddywed yr ysgrythyr, Ni chaiff dyn daraw, nac ychwaith farnu; canys barn sydd eiddof fi, a dial sydd eiddof fi hefyd, ac mi a ad-dalaf. A’r hwn a fygythio lid ac amrysonau yn erbyn gwaith yr Arglwydd, ac yn erbyn pobl gyfammodol yr Arglwydd, y rhai ydynt dŷ Israel, ac a ddywedo, Ni a ddinystriwn waith yr Arglwydd, a’r Arglwydd ni chofia ei gyfammod yr hwn a wnaeth â thŷ Israel, sydd yn euog o gael ei dori i lawr a’i fwrw yn tân; canys bwriadau tragywyddol yr Arglwydd a dreiglant yn mlaen, hyd nes y caffo ei holl addewidion eu cyflawni. Chwiliwch brophwydoliaethau Isaiah. Wele, nis gallaf eu hysgrifenu hwynt. Ië, wele, yr wyf yn dywedyd i chwi, y bydd i’r saint hyny a aethant o’m blaen i, y rhai a etifeddent y tir hwn, waeddi; ïe, hyd y nod o’r llwch y gwaeddant ar yr Arglwydd; ac fel mai byw yr Arglwydd, efe a gofia y cyfammod yr hwn a wnaeth â hwynt. Ac efe a wyr am eu gweddiau, eu bod ar ran eu brodyr. Ac y mae yn adwaen eu ffydd hwynt; canys yn ei enw ef y gallent symud mynyddoedd; ac yn ei enw ef y gallent achosi i’r ddaear grynu; a thrwy allu ei air yr achosent i garcharau i ymdreiglo i’r ddaear; ïe, nis gallai hyd y nod y ffwrn dân eu niweidio hwynt; nac ychwaith fwystfilod gwylltion, na seirff gwenwynllyd, o herwydd gallu ei air. Ac wele, yr oedd eu gweddiau hefyd ar ran yr hwn a oddefai yr Arglwydd i ddwyn y pethau hyn allan. Ac nid oes rhaid i neb ddywedyd, na chânt ddyfod, canys yn ddiau hwy a gânt, canys y mae’r Arglwydd wedi ei lefaru; canys allan o’r ddaear y deuant, trwy law yr Arglwydd, ac nis gall neb eu lluddias; a hwy a ddeuant mewn dydd pan y dywedir fod gwyrthiau wedi darfod; a hwy a ddeuant megys pe byddai un yn llefaru oddiwrth y meirw. A hyn a ddaw mewn dydd pan fydd gwaed y saint yn gwaeddi ar yr Arglwydd, oblegid cydfwriadau dirgel a gweithredoedd y tywyllwch; ïe, daw mewn dydd pan y gwadir gallu Duw, ac y bydd eglwysi yn halogedig, ac wedi ymddyrchafu yn malchder eu calonau; ïe, mewn dydd pan fydd blaenoriaid eglwysi, ac athrawon, yn malchder eu calonau, hyd y nod yn cenfigenu wrth y rhai a berthynant i’w heglwysi; ïe, daw mewn dydd pan glywir am dân, a thymhestloedd, a tharth mwg mewn gwledydd pellenig; a chlywir hefyd am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, a daeargrynfaäu mewn amryw fanau; ïe, daw mewn dydd pan fydd halogrwydd mawr ar wyneb y ddaear; a bydd llofruddiaethau, ac yspeiliadau, a chelwydd, a thwyll, a phuteindra, a phob math o ffieidd-dra; pan fydd llawer a ddywedant, Gwnewch hyn, neu gwnewch hyna, ac nid oes wahaniaeth, canys yr Arglwydd a gynnal y cyfryw yn y dydd diweddaf. Eithr gwae y cyfryw rai, canys y maent mewn bustl chwerwder a rhwymau anwiredd. Ië, daw mewn dydd pan fydd eglwysi wedi eu cyfodi ag a ddywedant, Deuwch ataf fi, ac am eich arian chwi a gewch faddeuant o’ch pechodau. O chwi bobl ddrygionus, gwrthnysig, a gwargaled, paham y cyfodasoch eglwysi i chwi eich hunain er mwyn elw? Paham y cyfnewidiasoch air santaidd Duw, fel y dygech ddinystr i’ch eneidiau? Wele, edrychwch i ddadguddiadau Duw. Canys wele, mae yr amser yn dyfod yn y dydd hwnw, pan y rhaid i’r holl bethau hyn gael eu cyflawni. Wele, mae yr Arglwydd wedi dangos i mi bethau mawrion a rhyfedd ynghylch yr hyn a raid ddyfod ar fyrder yn y dydd hwnw pan ddaw y pethau hyn allan yn eich plith chwi. Wele, yr wyf yn llefaru wrthych chwi megys pe byddech yn bresennol, ac etto nid ydych. Eithr, wele, y mae Iesu Grist wedi eich dangos chwi i mi, ac yr ydwyf yn adwaen eich ymarweddiad; ac mi a wn eich bod yn rhodio yn malchder eich calonau; ac pid oes neb, oddieithr ychydig yn unig, ag nad ydynt yn ymddyrchafu yn malchder eu calonau, i wisgo dillad gwychion, a meithrin cenfigen, ac amryson, a malais, ac erlidigaethau, a phob math o anwireddau; ac y mae eich eglwysi, ïe, bob un, wedi myned yn halogedig oblegid balchder eich calonau. Canys wele, yr ydych yn caru arian, a’ch eiddo, a’ch dillad gwychion, ac addurniad eich eglwysi, yn fwy nag yr ydych yn caru y tlawd a’r anghenog, y claf a’r cystuddiedig. O, chwi halogwyr, chwi ragrithwyr, chwi athrawon, y rhai a ymwerthwch am yr hyn sydd yn difa, paham y halogasoch eglwys santaidd Duw? Paham y cywilyddiwch gymmeryd arnoch enw Crist? Paham na feddyliwch mai mwy yw gwerth dedwyddwch diddiwedd, nâ’r trueni hwnw nad yw byth yn marw, oblegid clod y byd? Paham yr addurnwch eich hunain â’r hyn nad oes bywyd ynddo, ac etto yn gadael i’r newynog, a’r anghenus, a’r noeth, a’r claf, a’r cystuddiedig i fyned heibio i chwi yn ddisylw? Ië, paham y cyfodwch i fyny eich dirgel ffieidd-dra, er elwa, ac achosi i wragedd gweddwon alaru gerbron yr Arglwydd, ac i rai amddifaid hefyd alaru gerbron yr Arglwydd; ac hefyd i waed eu tadau a’u gwyr priod waeddi ar yr Arglwydd o’r ddaear, am ddialedd ar eich penau. Wele, y mae cleddyf dialedd yn hongian uwch eich penau; ac y mae yr amser yn dyfod ar fyrder pan y diala efe waed ei saint arnoch, canys ni oddefa efe eu llef yn hwy.