Scriptures
Alma 3


Pennod Ⅲ.

Y geiriau a draddododd Alma, yr Archoffeiriad, yn ol urdd santaidd Duw, i’r bobl yn eu dinasoedd a’u pentrefi trwy y tir.

Yn awr, dygwyddodd i Alma ddechreu traddodi gair Duw wrth y bobl, yn gyntaf yn nhir Zarahemla, ac oddi yno trwy yr holl dir. A’r rhai hyn yw y geiriau a lefarodd efe wrth bobl yr eglwys ag oedd wedi ei sefydlu yn ninas Zarahemla, yn ol ei gof-lyfr ei hun, an ddywedyd: Myfi, Alma, wedi fy nghyssegru gan fy nhad Alma, i fod yn archoffeiriad dros eglwys Dduw, gan ei fod ef wedi derbyn gallu ac awdurdod oddiwrth Dduw i wneuthur y pethau hyn, wle, meddar wrthych, iddo ef ddechreu sefydlu eglwys yn y tir yr hwn oedd ar gyffiniau Nephi; ïe, y tir a elwid yn dir Mormon; ïe, ac efe a fedyddiodd ei frodyr yn nyfroedd Mormon. Ac wele, meddaf wrthych, hwy a waredwyd o ddwylaw pobl y brenin Noah, trwy drugaredd a gallu Duw. Ac wele, ar ol hyny, hwy a ddygwyd i gaethiwed trwy ddwylaw y Lamaniaid yn yr anialwch; ïe, meddaf wrthych, hwy a fuont mewn caethiwed, a thrachefn yr Arglwydd a’u gwaredodd hwynt o gaethiwed trwy allu ei air; ac ni a ddygwyd i’r tir hwn, ac yma y dechreuasom sefydlu eglwys Dduw trwy y tir hwn hefyd. Ac yn awr, wele, meddaf wrthych, fy mrodyr, y rhai a berthynwch i’r eglwys hon, a ydych chwi yn ddigonol wedi cadw yn eich cof gaethiwed eich tadau? Ië, ac a ydych yn ddigonol wedi cadw yn eich cof ei drugaredd a’i hir-amynedd tuag atynt? Ac yn mhellach, a ydych yn ddigonol wedi cadw yn eich cof ei fod wedi gwaredu eu heneidiau rhag uffern? Wele, efe a gyfnewidiodd eu calonau; ïe, efe a’u deffrodd hwynt o drwmgwsg, a deffroisant i Dduw. Wele, yr oeddynt yn nghanol tywyllwch: er hyny, eu heneidiau a oleuwyd gan oleuni y gair tragywyddol; ïe, hwy a amgylchwyd gan rwymau marwolaeth a chadwyni uffern, ac yr oedd dinystr tragywyddol yn eu haros. Ac yn awr, gofynaf i chwi, fy mrodyr, A ddinystriwyd hwynt? Wele, meddaf wrthych, naddo. A thrachefn gofynaf. A ddrylliwyd rhwymau marwolaeth, ac a rhyddhawyd cadwynau uffern ag oedd yn eu hamgylchynu? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Do, hwy a ryddhawyd, a’u heneidiau a ymëangasant, ac a ganasant am gariad gwaredigol. Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, eu bod hwy wedi eu hachub. Ac yn awr, gofynaf i chwi, ar ba ammodau y maent yn cael eu hachub? Ië, pa sail oedd ganddynt i obeithio am iachawdwriaeth? Pa beth yw yr achos eu bod wedi eu rhyddhau o rwymau marwolaeth? ïe, a chadwynau uffern hefyd? Wele, mi a fedraf fynegi wrthych; oni chredodd fy nhad Alma y geiriau a draethwyd trwy enau Abinadi? Ac onid oedd efe yn brophwyd santaidd? Ai ni lefarodd efe eiriau Duw, ac i’m tad Alma eu credu hwynt? Ac yn ol ei ffydd, gweithredwyd cyfnewidiad mawr yn ei galon. Wele, meddaf wrthych, mae hyn oll yn wir. Ac wele, efe a bregethodd y gair wrth eich tadau, a gweithredwyd cyfnewidiad mawr hefyd yn eu calonau hwythau, a hwy a ymostyngasant, ac a osodasant eu hymddiried yn y gwir a’r bywiol Dduw. Ac wele, buont ffyddlawn hyd y diwedd; am hyny, hwy a achubwyd. Ac yn awr, wele, gofynaf i chwi, fy mrodyr yn yr eglwys, A anwyd chwi yn ysbrydol o Dduw? A ydych wedi derbyn ei ddelw yn eich gwynebpryd? A ydych wedi profi y cyfnewidiad mawr hwn yn eich calonau? A ydych yn edrych yn mlaen â llygad ffydd, ac yn gweled y corff marwol hwn yn cael ei gyfodi mewn anfarwoldeb, a’r llygredig hwn yn cael ei gyfodi mewn anllygredigaeth, i sefyll gerbron Duw, i’w farnu yn ol y gweithredoedd a wnaed yn y corff marwol? Ië, meddaf wrthych, a ellwch chwi ddychymmygu ynoch eich hunain eich bod yn clywed llef yr Arglwydd yn dywedyd wrthych, yny dydd hwnw, Deuwch ataf, chwi rai gwynfydedig, canys wele, eich gweithredoedd a fuont yn weithredoedd cyfiawnder ar ayneb y ddaear? Neu, a ydych yn dychymmygu ynoch eich hunain y gellwch draethu celwydd wrth yr Arglwydd yn y dydd hwnw, a dywedyd, Arglwydd, ein gweithredoedd ni a fuont weithredoedd cyfiawn ar wyneb y ddaear, ac y gwna efe eich achub? Neu, ynte, a ellwch ddychymmygu eich hunain wedi eich dwyn gerbron brawdle Duw, a’ch eneidiau yn llawn euogrwydd a chnofeydd; a chenych gof am eich holl euogrwydd; ïe, a pherffaith gof am eich holl ddrygioni; ïe, cof eich bod wedi herio gorchymynion Duw? Ië, meddaf wrthych, a ellwch chwi edrych i fyny at Dduw yn y dydd hwn, gyda chalon bur a dwylaw glân? Ië, meddaf wrthych, a ellwch chwi edrych i fyny, a chenych ddelw Duw wedi ei hargarffu ar eich gwynebpryd? Ië, meddaf wrthych, a ellwch chwi feddwl am gael eich achub, pan yr ydych wedi ymroddi eich hunain yn ddeiliaid i’r diafol? Eithr yr wyf yn dywedyd wrthych, y gwybyddwch chwi y dydd hwnw, nas gellir eich achub; canys ni all un dyn gael ei achub, oddieithr fod ei wisgoedd wedi eu cànu; ïe, rhaid i’w wisgoedd gael eu puro hyd nes y glanhaer hwynt oddiwrth bob brycheuyn, trwy waed yr hwn y llefarwyd am dano gan ein tadau, yr hwn a ddeuai i wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. Ac yn awr, gofynaf i chwi, fy mrodyr, pa fodd y teimla rhai o honoch chwi, os cewch sefyll gerbron brawdle Duw, a’ch gwisgoedd wedi eu hystaenio â gwaed, ac â phob math o aflendid? Wele, pa beth a dystiolaetha y pethau hyn yn eich erbyn? Wele, ai ni thystiolaethant eich bod yn llofruddion, ïe, ac hefyd eich bod yn euog o bob math o ddrygioni? Wele, fy mrodyr, a ydych chwi yn meddwl y caiff y fath un le i eistedd i lawr yn nheyrnas Dduw, gydag Abraham, gydag Isaac, a chyda Jacob, ac hefyd yr holl brophwydi santaidd, gwisgoedd y rhai a lanhawyd ac ydynt ddifrycheulyd, pur, a gwynion? Na chaiff, meddaf wrthych; oddieithr i chwi wneuthur ein Creawdwr yn gelwyddwr o’r dechreuad, neu dybied ei fod yn gelwyddwr o’r dechreuad, nis gellwch feddwl y gall y cyfryw gael lle yn nheyrnas nefoedd, eithr y bwrir hwy allan, canys plant teyrnas y diafol ydynt hwy. Ac yn awr, wele, meddaf i chwi, fy mrodyr, Os ydych chwi wedi profi cyfnewidiad calon, ac os ydych wedi teimlo i ganu cân cariad gwaredigol, mi a ewyllysiwn ofyn i chwi, a ellwch chwi deimlo felly yn awr? A ydych wedi rhodio, gan gadw eich hunain yn ddifai o flaen Duw? A allech ddywedyd ynoch eich hunain, pe gelwid arnoch i farw y pryd hwn, i chwi fod yn ddigon gostyngedig? Fod eich gwisgoedd wedi eu golchi a’u cànu, trwy waed Crist, yr hwn a ddaw i wared ei bobl oddiwrth eu pechodau? Wele, a ydych wedi ymddiosg oddiwrth falchder? Yr wyf yn dywedyd wrthych, os nad ydych, nid ydych yn barod i gyfarfod Duw. Wele, rhaid i chwi barotoi ar frys, canys y mae teyrnas nefoedd yn agos wrth law, ac nid oes i’r cyfryw un fywyd tragywyddol. Wele, meddaf, a oes un yn eich plith heb ymddiosg oddiwrth genfigen? Yr wyf yn dywedyd wrthych, nid yw y cyfryw un yn barod, ac mi a fynwn iddo barotoi ar frys, canys y mae’r awr yn agos wrth law, ac ni wyr efe pa bryd y daw yr amser; canys y cyfryw un ni cheir yn ddieuog.

A thrachefn, meddaf wrthych, A oes neb yn eich plith yn gwneuthur gwawd o’i frawd, neu yn cruglwytho erlidiau arno? Gwae y cyfryw un, canys nid yw ef yn barod, ac y mae yr amser wrth law y rhaid iddo edifarhau, neu nis gellir ei achub; ïe, gwae holl weithredwyr anwiredd; edifarhewch, edifarhewch, oblegid yr Arglwydd Dduw a’i llefarodd. Wele, efe a enfyn wahoddiad at bob dyn; canys y mae breichiau trugaredd yn estynedig tuag atynt, c efe a ddywed, Edifarhewch, a myfi a’ch derbyniaf; ïe, efe a ddywed, Deuwch ataf, a chwi a gewch gyfranogi o ffrwyth pren y bywyd; ïe, chwi a gewch fwyta ac yfed o fara a dwfr y bywyd yn rhad; ïe, deuwch ataf, a dygwch weithredoedd cyfiawnder, ac ni chewch eich tori i lawr a’ch taflu i’r tân; canys, wele, mae yr amser gerllaw, pwy bynag ni ddygo ffrwyth da, neu pwy bynag ni wnelo weithredoedd cyfiawnder, y mae gan y cyfryw achos i wylofain a galaru. Ow! Chwi weithredwyr anwiredd; y rhai ydych wedi ymchwyddo yn ngwag bethau y byd; y rhai ydych wedi proffesu adwaen ffyrdd cyfiawnder, er hyny wedi myned ar gyfeiliorn megys defaid heb fugail, er bod bugail wedi galw ar eich ol, ac etto yn galw ar eich ol, eithr ni wrandewch ar ei lasi. Wele, meddaf wrthych, y mae’r bugail da yn eich galw; ïe, ac yn ei enw ei hun y’ch galwa, yr hwn yw enw Crist; ac os na wrandewch ar lais y bugail da, wrth yr enw ar ba un y’ch gelwir, wele, nid chwi yw defaid y bugail da. Ac yn awr, os nid chwi yw defaid y bugail da, o ba gorlan ydych? Wele, meddaf wrthych, y diafol yw eich bugail chwi, ac yr ydych o’i gorlan ef; ac yn awr, pwy a all wadu hyn? Wele, meddaf wrthych, pwy bynag a wado hyn, sydd yn gelwyddwr, ac yn blentyn i ddiafol; canys meddaf i chwi, pa beth bynag sydd dda, o Dduw y mae; a pha beth bynag sydd ddrwg, o’r diafol y mae; am hyny, os dwg dyn weithredoedd da, y mae yn gwrandaw ar lais y bugail da, ac y mae yn ei ganlyn; eithr pwy bynag a ddwg weithredoedd drwg, mae y cyfryw yn dyfod yn blentyn i ddiafol; o herwydd y mae yn gwrandaw ar ei lais, ac yn ei ganlyn. A phwy bynag a wnelo hyn, a raid dderbyn ei gyflog, gyda golwg ar bethau yn perthyn i gyfiawnder, gan fod yn farw i bob gweithred dda. Ac yn awr, fy mrodyr, mi a ewyllysiwn i chwi wrandaw arnaf, oblegid yr wyf yn llefaru yn ngrymusder fy enaid; canys wele, mi a lefarais wrthych yn eglur, fel nas gellwch gyfeiliorni, neu mi a lefarais wrthych yn unol â gorchymynion Duw. Canys yr wyf fi wedi fy ngalw i lefaru yn y modd hyn, yn ol urdd santaidd Duw, yr hwn sydd yn Nghrist Iesu; ïe, gorchymyniwyd i mi sefyll a thystiolaethu wrth y bobl hyn y pethau a lefarwyd gan ein tadau, ynghylch y pethau sydd i ddyfod. Ac nid hyn yw y cyfan. Ai nid ydych yn tybied fy mod i yn gwybod am y pethau hyn fy hunan? Wele, yr wyf yn tystiolaethu wrthych, fy mod yn gwybod fod y pethau hyn am ba rai y llefarais, yn wir. A pha fodd yr ydych yn tybied fy mod yn gwybod am eu sicrwydd? Wele, meddaf wrthych, hysbysir hwynt i mi gan ysbryd santaidd Duw Wele, mi a ymprydiais ac a weddiais am ddyddiau lawer, fel y gwypwn y pethau hyn o honof fy hun. Ac yn awr mi a wn o honof fy hun eu bod yn wir; canys yr Arglwydd Dduw a’u hamlygodd i mi trwy ei ysbryd santaidd; a hwn yw ysbryd y dadguddiad yr hwn sydd ynof. Ac yn mhellach, meddaf wrthych, yn gymmaint â’i fod wedi ei ddadguddio i mi, fod y geiriau a lefarwyd gan ein tadau yn wir; felly hefyd, yn ol ysbryd y brophwydoliaeth y hwn sydd ynof, yr hwn hefyd sydd trwy eglurhad ysbryd Duw, yr wyf yn dywedyd wrthych, fy mod yn gwybod o honof fy hun fod pa beth bynag a lefaraf wrthych ynghylch yr hyn sydd i ddyfod, yn wir; ac yr wyf yn dywedyd wrthych, y gwn y daw Iesu Grist; ïe, y Mab, unig-anedig y Tad, yn llawn gras, trugaredd, a gwirionedd. Ac wele, efe sydd yn dyfod i gymmeryd ymaith bechodau y byd; ïe, pechodau pob dyn sydd yn credu yn ddiysgog yn ei enw.

Ac yn awr, meddaf wrthych, hwn yw yr furdd yn ol pa un y cefais fy ngalw; ïe, i bregethu i’m brodyr anwyl; ïe, ac i bob un sydd yn tirog yn y tir; ïe, i bregethu wrth bawb, hen ac ieuanc, caeth a rhydd; ïe, yr wyf yn dywedyd wrthych chwi yr oedranus, ac hefyd y canol oed, a’r tô ieuainc; ïe, i waeddi arnynt hwy, fod yn rhaid iddynt edifarhau, a chymmeryd eu geni drachefn; ïe, fel hyn medd yr Ysbryd, Edifarhewch, holl derfynau y ddaear, canys y mae teyrnas nefoedd yn agos wrth law; ïe, y mae Mab Duw yn dyfod yn ei ogoniant, ei nerth, ei fawrhydi, ei allu, a’i lywodraeth. Ië, fy mrodyr anwyl, yr wyf yn mynegi wrthych, fod yr ysbryd yn dywedyd, Wele, ogoniant brenin yr holl ddaear; ac hefyd Brenin y nefoedd yn dra buan a ddyscleiria allan yn mysg holl blant dynion: ac hefyd yr ysbryd a ddywed wrthyf, ïe, gwaedda arnaf â llais nerthol, gan ddywedyd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Edifarhewch, canys oni edifarhewch, nis gellwch mewn un modd etifeddu teyrnas nefoedd. A thrachefn, meddaf wrthych, mae yr ysbryd yn dywedyd, Wele, y fwyell a osodwyd ar wreiddyn y pren; gan hyny, pob pren nad yw yn dwyn ffrwyth da, a dorir i lawr, ac a fwrir i’r tân nas gellir ei ddifa; ïe, tân anniffoddadwy. Wele, cofiwch mai y Sanct a’i llefarodd. Ac yn awr, fy mrodyr anwyl, yr wyf yn dywedyd wrthych, A ellwch chwi wrthsefyll y geiriau hyn? ïe, a ellwch chwi osod y pethau hyn o’r neilldu, a sathru y Sanct dan eich traed? ïe, a ellwch chwi ymchwyddo yn malchder eich calonau? ïe, a barhewch chwi mewn gwisgo dillad costfawr, a gosod eich calonau ar wag-bethau y byd, ac ar eich cyfoeth? ïe, a barhewch chwi i feddwl eich bod yn well nâ’ch gilydd? ïe, a barhewch chwi i erlid eich brodyr, y rhai a ymostyngant, ac a rodiant yn ol urdd santaidd Duw, trwy yr hwn y dygwyd hwynt i’r eglwys hon, wedi eu santeiddio gan yr ysbryd santaidd? ac y maent hwy yn dwyn gweithredoedd addas i edifeirwch: ïe, a barhewch chwi i droi eich cefnau ar y tlawd, a’r anghenog, ac i attal eich eiddo oddi wrthynt? Ac yn ddiweddaf, chwi yr holl rai a barhewch yn eich drygioni, yr wyf yn dywedyd wrthych, mai y rhai hyn yw y rhai a dorir i lawr, ac a fwrir i’r tân, oni edifarhant ar frys.

Ac yn awr, meddaf wrthych chwi, y rhai oll a ddymunwch ganlyn llais y bugail da, Deuwch allan oddiwrth y drygionus, a byddwch ar wahan, ac na chyffyrddwch eu pethau aflan hwynt; ac wele, eu henwau a ddileir, fel na chyfrifer enwau y drygionus yn mhlith enwau y rhai cyfiawn, fel y cyflawner gair Duw, yr hwn a ddywed, Ni chymmysgir enwau y drygionus gydag enwau fy mhobl i. Canys enwau y cyfiawn a ysgrifenir yn llyfr y bywyd; ac iddynt hwy y rhoddaf etifeddiaeth ar fy neheulaw. Ac yn awr, fy mrodyr, pa beth sydd genych ddywedyd yn erbyn hyn? Yr wyf yn dywedyd wrthych, os dywedwch yn ei erbyn, nid yw wahaniaeth, canys rhaid i air Duw gael ei gyflawni. Canys pa fugail sydd yn eich plith chwi, a chanddo lawer o ddefaid, nad yw yn gwylio drostynt, fel na ddelo y bleiddiaid i mewn a dyfetha ei braidd? Ac wele, os bydd blaidd yn dyfod i mewn i’w gorlan, onid yw efe yn ei yru allan? Ië, ac yn y diwedd, os gall, efe a’i dyfetha. Ac yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, fod y bugail da yn galw ar eich ol chwi; ac os gwrandewch ar ei lais, efe a’ch dwg i’w gorlan, a chwi ydych ei ddefaid; ac y mae yn gorchymyn i chwi na oddefoch i un blaidd rheibus ddyfod i’ch plith, fel na ddyfether chwi.

Ac yn awr, yr wyf fi, Alma, yn gorchymyn i chwi, yn iaith yr hwn a’m gorchymynodd i, gofio gwneuthur o honoch y geiriau a lefarais wrthych. Yr wyf yn llefaru mewn ffordd o orchymyn wrthych chwi y rhai a berthynwch i’r eglwys; ac wrth y rhai ni pherthynant i’r eglwys, yr wyf yn llefaru mewn ffordd o wahoddiad, gan ddywedyd, Deuwch, a bedyddier chwi i edifeirwch, fel y byddoch chwithau hefyd yn gyfranogion o ffrwyth pren y bywyd.