Pennod ⅩⅧ.
Gorchymynion Alma i’w fab Shiblon.
Fy mab, rho glust i’m geiriau; canys yr wyf yn dywedyd wrthyt ti, megys ag y dywedais wrth Helaman, yn gymmaint ag y cedwi orchymynion Duw, y llwyddi yn y tir; ac yn gymmaint ag na chedwi orchymynion Duw, ti a fwrir ymaith o’i bresennoldeb. Ac yn awr, fy mab, yr wyf yn gobeithio y caf lawenydd mawr ynot ti o herwydd dy ddianwadalwch a’th ffyddlondeb i Dduw; canys megys ag y dechreuaist yn dy ieuenctyd, i edrych at yr Arglwydd dy Dduw, felly hefyd gobeithiaf y parhai i gadw ei orchymynion; oblegid gwynfyd yr hwn sydd yn parhau hyd y diwedd. Yr wyf yn dywedyd wrthyt ti, fy mab, fy mod wedi cael llawenydd mawr ynot ti yn barod, o herwydd dy ffyddlondeb, a’th ddiwydrwydd, a’th amynedd, a’th hir-ymaros yn mhlith pobl y Zoramiaid. Canys mi a wn i ti fod mewn rhwymau; ïe, ac mi a wn hefyd i ti gael dy luchio â cheryg er mwyn y gair; a dyoddefaist yr holl bethau hyn mewn amynedd, o herwydd yr oedd yr Arglwydd gyda thi; ac yn awr, ti a wyddost i’r Arglwydd dy waredi.
Ac yn awr, fy mab Shiblon, mi a ewyllysiwn i ti gofio, yn gymmaint ag y gosodi dy ymddiried yn Nuw, y gwareda efe di allan o’th dreialon, a’th drafferthion, a’th gystuddiau; a thi a ddyrchefir yn y dydd diweddaf. Yn awr, fy mab, ni ewyllysiwn i ti feddwl ygwn y pethau hyn o honof fy hun, eithr ysbryd Duw yr hwn sydd ynof, sydd yn gwneuthur y pethau yn hysbys i mi; canys oni bai fy mod wedi fy ngeni o Dduw, ni fuaswn yn gwybod y pethau hyn. Eithr, wele, yr Arglwydd yn ei fawr drugaredd, a anfonodd ei angel i’m hysbysu, fod yn rhaid i mi attal y gwaith o ddinystrio yn mhlith ei bobl; ïe, ac mi a welais angel wyneb yn wyneb; ac efe a lefarodd wrthyf, ac yr oedd ei lais fel taran, ac ysgydwodd yr holl ddaear.
A bu i mi fod dri niwrnod a thair noson yn y poenau mwyaf ac mewn ingoedd enaid; ac erioed, hyd nes y gwaeddais ar yr Arglwydd Iesu Grist am durgaredd, nis derbyniais fadeuant o’m pechodau. Eithr, wele, mi a waeddais arno, a chefais heddwch i’m henaid. Ac yn awr, fy mab, mi a fynegais hyn wrthyt, fel y dysgot ddoethineb, ac y dysgot genyf fi nad oes ffordd na moddion ereill, trwy y rhai y gall dyn gael ei achub, ond yn unig yn a thrwy Grist. Wele, efe yw bywyd a goleuni y byd. Wele, efe yw gair y gwirionedd a chyfiawnder. Ac yn awr, megys ag yr wyt wedi dechreu dysgu y gair, felly hefyd mi a ewyllysiwn i ti barhau i ddysgu; ac mi a fynwn i ti fod yn ddiwyd a chymmedrol yn mhob peth. Edrych na ymddyrchafech mewn balchder; ïe, edrych na ymffrostiech yn dy ddoethineb dy hun, nac yn dy gawr nerth; ymarfer eofndra, ond nid traws-arglwyddiaeth; ac edrych hefyd dy fod yn ffrwyno dy holl nwydau, fel y’th lanwer â chariad; edrych dy fod yn ymgadw rhag segurdod; na weddia fel y gwna y Zoramiaid, canys gwelaist eu bod hwy yn gweddio er mwyn cael eu clywed gan ddynion, a’u canmawl am eu doethineb. Na ddywed, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti, ein bod ni yn well nâ’n brodyr; eithr yn hytrach dywed, O Arglwydd, maddeu fy annheilyngdod, a chofia am fy mrodyr mewn turgaredd; ïe, cydnabydda dy annheilyngdod gerbron Duw bob amser. A bydded i’r Arglwydd fendithio dy enaid, a’th dderbyn yn y dydd diweddaf i’w deyrnas, i eistedd mewn heddwch. Yn awr, dos, fy mab, a dysga y gair i’r bobl hyn. Bydd sobr. Fy mab, ffarwel.