Scriptures
Alma 5


Pennod Ⅴ.

Geiriau Alma, y rhai a draddododd wrth y bobl yn Gideon, yn ol ei gof-lyfr ef ei hun.

Wele, fy mrodyr anwyl, wrth ganfod fy mod wedi cael cenad i ddyfod atoch chwi, am hyny, mi a gynnygaf eich anerch yn fy iaith i; ïe, trwy fy ngenau fy hun, gan weled mai dyma y waith gyntaf i mi lefaru wrthych trwy eiriau fy ngenau, oblegid i mi fod wedi fy nghyfyngu yn gwbl i’r orsedd farnol, a chenyf gymmaint o waith fel nas gallwn ddyfod atoch; ac nis gallwn ddyfod hyd y nod ar yr amser hwn yn awr, oni bai fod yr orsedd farnol wedi ei rhoddi i arll, i deyrnasu yn fy lle; a’r Arglwydd yn ei fawr drugaredd a ganiataodd i mi ddyfod atoch. Ac wele, mi a ddeuais mewn mawr obaith a dymuniad y byddai i mi eich cael wedi ymostwng gerbron Duw, ac wedi parhau i ddeisyf ei ras ef, fel y caffwn chwi yn ddifai ger ei fron; fel y cawn allan nad oeddech yn y dyryswdch erchyll ag oedd ein brodyr ynddo yn Zarahemla; ond bendigedig fyddo enw Duw, ei fod wedi rhoi ar ddeall i mi; ïe, ei fod wedi rhoddi i mi y dirfawr lawenydd o wybod eu bod wedi eu sefydlu etto yn ffordd ei gyfiawnder ef. Ac yr wyf yn gobeithio, yn ol ysbryd Duw yr hwn sydd ynof, y bydd i mi hefyd gael llawenydd ynoch chwithau; etto, nid wyf yn dymuno y bydd i’m llawenydd ynoch chwi ddyfod trwy achosi cymmaint o ofid a thristwch ag a gefais oddiwrth fy mrodyr yn Zarahemla: canys, wele, yr oedd fy llawenydd ynddynt hwy yn dyfod, ar ol myned trwy lawer o ofid a thristwch. Ond wele, gobeithiaf nad ydych chwi mewn sefyllfa o gymmaint anghrediniaeth ag oedd eich brodyr ynddi; gobeithiaf nad ydych chwi wedi ymddyrchafu yn malchder eich calonau; ïe, gobeithiaf nad ydych chwi wedi gosod eich calonau ar gyfoeth, a gwag bethau y byd; ïe, gobeithiaf nad ydych chwi yn addoli eilunod, eithr eich bod yn addoli y gwir a’r bywiol Dduw, a’ch bod yn edrych yn mlaen am faddeuant o’ch pechodau, mewn ffydd annherfynol yn yr hyn sydd i ddyfod. Canys, wele, meddaf wrthych, y mae llawer o bethau i ddyfod. Canys, wele, meddaf wrthych, y mae llawer o bethau i ddyfod; ac wele, y mae un peth yn fwy ei bwys nâ’r oll o honynt; canys wele, nid yw yr amser yn neppell, pan y daw y Gwaredwr ac y triga yn mysg ei bobl. Wele, nid wyf yn dywedyd y daw i’n mysg ni yn amser ei breswyliad yn ei babell farwol; canys, wele, ni ddywedodd yr ysbryd wrthyf mai felly y byddai. Yn awr, gyda golwg ar y peth yma, nis gwn i; ond hyn a wn, fod yr Arglwydd Dduw yn alluog i wneuthur pob peth yn ol ei air. Eithr wele, yr ysbryd a fynegodd gymmaint â hyn wrthyf, gan ddywedyd, Gwaedda ar y bobl hyn, gan ddywedyd. Edifarhewch a pharotowch ffordd yr Arglwydd, a rhodiwch yn ei lwybrau, y rhai ydynt uniawn; canys, wele, y mae teyrnas nefoedd wrth law a Mab Duw yn dyfod ar eyneb y ddaear. Ac wele, efe a enir o Mair, yn Jerusalem, yr hon yw gwlad ein cyndadau; a morwyydd hi, a llestr etholedig a gwerthfawr, yr hon a gysgodir, ac a feichioga trwy allu yr Ysbryd Glân, ac a esgora ar fab, ïe, sef Mab Duw: ac efe a â allan, gan ddyoddef doluriau, a chystuddiau, a phrofedigaethau o bob math; a hyn fel y cyflawner y gair a ddywed, Efe a gymmer arno ddoluriau ac afiechyd ei bobl; ac a gymmer arno farwolaeth, fel y dattodo rwymau marwolaeth, y rhai sydd yn rhwymo ei bobl; ac efe a gymmer arno eu gwendidau, fel y llanwer ei ymysgaroedd o dosturi, yn ol y cnawd, fel y gwypo yn ol y cnawd pa fodd i amgeleddu ei bobl yn ol eu gwendidau. Yn awr, yr ysbryd a wyr bob peth; er hyny, Mab Duw a ddyoddefa yn ol y cnawd, fel y cymmero arno bechodau ei bobl, ac y dileuo eu troseddiadau, yn ol gallu ei waredigaeth; ac yn awr, wele, hon yw y dystiolaeth sydd ynof fi. Yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, fod yn rhaid i chwi edifarhau, a chael eich geni drachefn: canys yr ysbryd a ddywed, Oddieithr eich geni drachefn, nis gellwch fyned i mewn i deyrnas Ddnw; am hyny, deuwch, a bedyddier chwi i edifeirwch, fel y golcher chwi oddiwrth eich pechodau, ac y meddoch ffydd yn Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd, yr hwn sydd yn alluog i achub a glanhau oddiwrth bob anghyfiawnder; ïe, meddaf wrthych, deuwch ac nac ofnwch, a gosodwch o’r neilldu bob pechod sydd yn barod i’ch amgylchu, a’ch dwyn yn gaeth i ddinystr; ïe, deuwch, gan fyned allan, a dangos i’ch Duw eich bod yn foddlawn edifarhau am eich pechodau, ac ymgyfammodi ag ef i gadw ei orchymynion, a dygwch dystiolaeth o hyny wrtho ef y dydd hwn, trwy fyned i ddyfroedd bedydd; a phwy bynag a wnelo hyn, ac a gadwo orchymynion Duw o hyn allan, y cyfryw a gofia fy mod yn dywedyd wrtho, ïe, efe a gofia fy mod wedi dywedyd wrtho, y cai efe fywyd tragywyddol, yn ol tystiolaeth yr Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn tystiolaethu ynof. Ac yn awr, fy anwyl frodyr, a ydych chwi yn credu y pethau hyn? Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, Mi a wn eich bod yn eu credu; a’r ffordd y gwn eich bod yn eu credu yw, trwy eglurhad yr ysbryd yr hwn sydd ynof. Ac yn awr, o herwydd bod eich ffydd yn gref ynghylch hyna, ïe, ynghylch y pethau a lefarais, mawr yw fy llawenydd. Canys fel y dywedais wrthych o’r dechreu, fod mawr ddymuniad ynof nad oeddech mewn sefyllfa o ddyryswch megys eich brodyr, felly mi a gefais allan fod fy nymuniadau wedi eu boddloni. Oblegid mi a welaf eich bod yn llwybrau cyfiawnder; ïe, gwelaf eich bod yn y llwybr sydd yn arwain i deyrnas Dduw; ïe, canfyddaf eich bod yn gwneuthur ei lwybrau ef yn uniawn, a’i fod wedi ei ddadguddio i chwi, trwy dystiolaeth ei air, nas gellwch rodio mewn llwybrau ceimion; ac nid yw efe yn gwyro oddiwrth yr hyn a ddywedodd; ac nid oes iddo ef gysgod troedigaeth o’r deheu i’r aswy, neu o’r hyn sydd yn iawn i’r hyn sydd yn gyfeiliornus; am hyny, mae ei yrfa ef yn un cylchdro tragywyddol. Ac nid yw efe yn trigo mewn temlau halogedig; ac nis gall aflendid, na dim aflan, gael ei dderbyn i deyrnas Dduw; am hyny, yr wyf yn dywedyd wrthych, y daw yr amser, ïe, ac yn y dydd diweddaf y bydd, pan gaiff yr hwn sydd yn aflan aros yn ei aflendid.

Ac yn awr, fy anwyl frodyr, y pethau hyn a draethais wrthych, fel y deffrown chwi i ystyriaeth o’ch dyledswydd tuag at Dduw, ac y rhodiech yn ddifeius ger ei fron; fel y rhodiech yn ol urdd santaidd Duw, yn ol yr hwn yr ydych wedi eich derbyn. Ac yn awr, mi a fynwn i chwi fod yn ostyngedig, addfwyn, a boneddigaidd, hawdd eich trin, yn llawn amynedd, ac yn hir ymarhous; gan fod yn gymmedrol yn mhob peth; gan fod yn ddiwyd i gadw gorchymynion Duw bob amser; gan ofyn am ba beth bynag fydd arnoch ei eisieu, yn dymmorol ac ysbrydol; a diolch yn wastadol i Dduw am ba beth bynag a dderbyniwch; ac edrychwch fod genych ffydd, gobaith, a chariad, ac yna chwi a fyddwch o hyd yn helaethlawn mewn gweithredoedd da; a bydded i’r Arglwydd eich bendithio, a chadw eich gwisgoedd yn ddifrycheulyd, fel y dyger chwi yn y diwedd i eistedd i lawr gydag Abraham, Isaac, a Jacob, a’r prophwydi santaidd, a fu er dechreuad y byd, gan fod â’ch gwisgoedd yn ddifrycheulyd, megys y mae eu gwisgoedd hwythau yn ddifrycheulyd yn nheyrnas nefoedd, i fyned allan byth mwy.

Ac yn awr, fy anwyl frodyr, mi a lefarais y geiriau hyn wrthych, yn ol yr ysbryd yr hwn a dystiolaetha ynof; ac y mae fy enaid yn mawr-lawenhau, o herwydd y mawr ddyfalwch a’r ystyriaeth a dalasoch i’m gair. Ac yn awr, tangnefedd Duw a orphwyso aranoch, ac ar eich tai a’ch tiroedd, ac ar eich da a’ch defaid, a’r hyn oll a feddwch; ac ar eich gwragedd a’ch plant, yn ol eich ffydd a’ch gweithredoedd da, o’r amser hwn allan ac yn dragywydd. Ac felly y llefarais. Amen.