Pennod ⅩⅩⅥ.
Ac yn awr, dygwyddodd yn nechreu y ddegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr, ar yr ail ddydd, yn y mis cyntaf, i Moroni dderbyn epistol oddiwrth Helaman, yn hysbysu am achosion y bobl yn y cŵr hwnw o’r tir. A’r rhai hyn yw y geiriau a ysgrifenodd efe, gan ddywedyd, Fy anwyl garuaidd frawd, Moroni, yn gystal yn yr Arglwydd ag yn nhrallodion ein milwriaeth; wele, fy anwyl frawd, y mae genyf rywfaint i ddywedyd wrthyt ynghylch ein milwriaeth ni yn y rhan hon o’r tir. Wele, ddwy fil o feibion y dynion hyny a ddygodd Ammon i waered o dir Nephi. Yn awr, ti a wyddost fod y rhai hyn yn ddisgynyddion o Laman, yr hwn oedd fab henaf ein tad Lehi. Yn awr, nid oes achos i mi adrodd wrthyt ti am eu traddodiadau neu eu hanghrediniaeth, canys ti a wyddost yr holl bethau hyn; am hyny, meddyliwyf i ddywedyd wrthyt fod dwy fil o’r gwyr ieuainc hyn wedi cymmeryd eu harfau rhyfel, ac wedi ewyllysio i mi fod yn flaenor arnynt ac yr ydym ni wedi dyfod allan i amddiffyn ein gwlad. Ac yn awr, ti a wyddost hefyd am y cyfammod a wnaeth eu tadau, na chymmerent i fyny eu harfau rhyfel yn erbyn eu brodyr i dywallt gwaed. Ond yn y chwechfed flwyddyn ar hugain, pan welsant ein cystuddiau a’n trallodion ni drostynt, yr oeddynt ynghylch tori y cyfammod a wnaethant, a chymmeryd i fyny eu harfau rhyfel er ein hamddiffyn. Eithr ni oddefaswn iddynt dori y cyfammod hwn a wnaethant, gan feddwl y nerthai Duw ni, yn gymmaint ag na ddyoddefem fwy o herwydd cyflawni y llw a wnaethant. Ond wele, dyma un peth yn yr hwn y gallwn gael llawenydd mawr. Canys, wele, yn y chwechfed flwyddyn ar hugain, myfi, Helaman, a flaenorais y ddwy fil gwyr ieuainc hyn i ddinas Judea, i gynnorthwyo Antipus, yr hwn a benodaist ti yn flaenor ar y bobl yn y rhan hono o’r wlad. Ac mi a unais fy nwy fil meibion (canys teilyngant gael eu galw yn feibion) â byddin Antipus, yn yr hwn nerth y gorfoleddai Antipus yn fawr; canys, wele, yr oedd ei fyddin ef wedi ei lleihau gan y Lamaniaid, o herwydd fod eu galluoedd hwy wedi lladd nifer ddirfawr o’n gwyr ni, am yr hyn mae genym achos i alaru. Er hyny, gallwn gysuro ein hunain yn y peth hwn, eu bod wedi marw yn achos eu gwlad a’u Duw, ïe, ac y maent yn ddedwydd. Ac yr oedd y Lamaniaid hefyd wedi cadw llawer o garcharorion, yr oll o ba rai ydynt ben-cadbeniaid, canys ni arbedasant fywyd neb arall. Ac yr ydym yn tybied eu bod hwy yn awr yr amser hwn yn nhir Nephi; felly y mae, os na laddwyd hwynt. Ac yn awr, y rhai hyn ydynt y dinasoedd a feddiannodd y Lamaniaid trwy dywallt gwaed cynnifer o’n gwyr dewr; tir Manti, neu ddinas manti, a dinas Zeezrom, a dinas Cumeni, a dinas Antiparah. A’r rhai hyn ydynt y dinasoedd a feddiannent pan ddaethym i ddinas Judea; ac mi a gefais Antipus a’i wyr yn llafurio â’u holl nerth i amgaeru y ddinas; ïe, ac yr oeddynt yn wasgedig mewn corff yn gystal ag mewn ysbryd, canys yr oeddynt wedi ymladd yn ddewr y dydd, a llafurio y nos i amddiffyn eu dinasoedd; ac felly y dyoddefasant gystuddiau mawrion o bob math; ac yn awr yr oeddynt yn benderfynol i goncwero yn y lle hwn, neu drengu; gan hyny, hawdd y gellwch dybied i’r gallu bychan hwn a ddygais genyf, ïe, y meibion hyny o’m heiddo, roddi iddynt fawr obaith a llawenydd.
Ac yn awr, dygwyddodd pan welodd y Lamaniaid fod Antipus wedi derbyn nerth mwy at ei fyddin, hwy a orfodwyd, try orchymyn Ammoron, i beidio dyfod yn erbyn dinas Judea, neu yn ein herbyn ni, i ryfel. Ac felly y cawsom ffafr gan yr Arglwydd; canys pe deuent arnom yn ein gwendid hwn, efallai y gallent ddinystrio ein byddin fechan; eithr felly y cadwyd ni. Gorchymynwyd hwynt gan Moroni i gadw y dinasoedd hyny a gymmerasant. Ac felly y terfynodd y chwechfed flwyddyn ar hugain. Ac yn nechreu y seithfed flwyddyn ar hugain, yr oeddym wedi parotoi ein dinas a’n hunain er amddiffyn. Yn awr, ni a chwennychem i’r Lamaniaid ddyfod arnom; canys nid oeddem yn ewyllysio ymosod arnynt hwy yn eu hamddiffynfeydd. A bu i ni gadw ysbïwyr allan oddiamgylch, i wylio symudiadau y Lamaniaid, fel nad elent heibio i ni yn y nos na’r dydd, er ymosod ar ein dinasoedd ereill ag oedd yn ogleddol; canys gwyddem nad oeddynt yn ddigon nerethol yn y dinasoedd hyny i’w cyfarfod hwynt; am hyny, ni a ewyllysiem, ped elent heibio i ni, i syrthio arnynt ar eu tu ol, ac felly eu dwyn i fyny yn y tu ol, ar yr un amser ag y cyfarfyddid a hwynt yn y tu blaen. Meddyliem y gallem eu gorchfygu hwynt; eithr, ni a siomwyd yn ein dymuniad hwn. Ni feiddient fyned heibio i ni a’u holl fyddin, ac ni feiddient gyda rhan, rhag na fyddent yn ddigon galluog, ac iddynt syrthio. Ac ni feiddient fyned i waered yn erbyn dinas Zarahemla; ac ni feiddient groesi pen Sidon, drosodd i ddinas Nephihah. Ac felly, a’u galluoedd, penderfynasant i gadw y dinasoedd hyny a gymmerasant.
Ac yn awr, dygwyddodd, yn yr ail fis o’r flwyddyn hon, i lawer o luniaeth gael ei ddwyn i ni, oddiwrth dadau fy nwy fil meibion hyny. Ac hefyd danfonwyd dwy fil o wyr atom o dir Zarahemla. Ac felly yr oeddym wedi ein parotoi a deg mil o wyr, ynghyd â lluniaeth iddynt hwy, ac hefyd i’w gwragedd a’u plant. A’r Lamaniaid, gan weled felly ein galluoedd yn cynnyddu yn feunyddiol, a lluniaeth yn dyfod er ein cynnaliaeth, a ddechreuasant ofni, a dechreu rhuthro allan, pe byddai yn bosibl, er rhoi attalfa arnom i dderbyn llnniaeth a nerth. Yn awr, pan welsom ni y Lamaniaid yn dechreu myned yn anesmwyth yn y modd hyn, ni a chwennychem ddwyn ystranc i weithrediad arnynt; o ganlyniad Antipus a aarchodd i mi fyned allan â’m meibion bychain i ddinas gymmydogaethol, megys pe byddem yn cludo lluniaeth i ddinas gymmydogaethol. Ac yr oeddym i fyned yn agos i ddinas Antiparah, megys pe byddem yn myned i’r ddinas tu hwnt, yn y cyffiniau wrth lân y môr. A bu i ni fyned allan, megys pe guasai ein lluniaeth genym, er myned i’r ddinas hono. A bu i Antipus fyned allan, gyda rhan o’i fyddin, gan adael y gweddill i amddiffyn y ddinas. Eithr nid aeth efe allan, hyd nes ar ol i mi fyned allan â’m byddin fechan, a dyfod yn agos i ddinas Antiparah. Ac yn awr, yn ninas Antiparah, yr oedd byddin gryfaf y Lamaniaid yn aros; ïe, y fwyaf lliosog. A bu pan hysbyswyd hwynt gan eu hysbïwyr, iddynt ddyfod allan â’u byddin, a dyfod yn ein herbyn ni.
A bu i ni ffoi o’u blaen hwynt, yn ogleddol. Ac felly yr arweiniasom ymaith fyddin alluocaf y Lamaniaid; ïe, i gryn bellder, yn gymmaint na ddarfu iddynt, pan weisant fyddin Antipus yn eu hymlid hwynt â’u holl nerth, droi ar y deau na’r aswy, eithr dilyn eu taith mewn cyfeiriad cywir ar ein hol ni; ac fel y meddyliwn, eu bwriad oedd ein lladd cyn y goddiweddai Antipus hwynt, ac hyn fel na amgylchynid hwynt gan ein pobl ni. Ac yn awr, Antipus, gan weled ein perygl, a frysiodd fynediad ei fyddin. Ond wele, yr oedd yn nos; o ganlyniad, ni oddiweddasant ni, ac ni oddiweddodd Antipus hwynt; am hyny, ni a wersyllasom dros y nos.
A dygwyddodd cyn toriad y wawr, wele, fod y Lamaniaid yn ein hymlid. Yn awr, nid oeddym ni yn ddigon cryf i ymladd â hwynt; ïe, nis goddefwn i i’m meibion bychain syrthio i’w dwylaw; am hyny, ni a barhausom ein taith; ac ni a gymmerasom ein taith i’r anialwch. Yn awr, ni feiddient hwy droi ar y deau na’r aswy, rhag iddynt gael eu hamgylchynu; ac ni wnawn innau droi ar y deau na’r aswy, rhag iddynt hwy fy ngoddiweddyd, ac i ninnau fethu sefyll yn eu herbyn hwynt, eithr cael ein lladd, ac i hwythau ddianc; ac felly y ffoisom yr holl ddiwrnod yn yr anialwch, hyd nes yr oedd yn dywyll.
A bu drachefn pan oleuodd y wawr, i ni weled y Lamaniaid arnom, ac ni a ffoisom o’u blaen. Eithr dygwyddodd na ymlidiasant ni yn mhlell, cyn iddynt aros; ac yr oedd ar foreu y trydydd dydd, yn y seithfed mis. Ac yn awr, pa un a oddiweddwyd hwynt gan Antipus, nis gwyddem, eithr mi a ddywedais wrth fy ngwyr, Wele, nis gwyddom nad ydynt wedi aros i’r dyben i ni ddyfod yn eu herbyn hwynt, fel y daliont ni yn eu magl; gan hyny, beth meddwch chwi, fy meibion, a ewch chwi yn eu herbyn hwynt i ryfel? Ac yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthyt ti, fy anwyl frawd Moroni, na welais i erioed y fath wroldeb mawr, naddo, ddim yn mhlith yr holl Nephiaid. Canys megys ag y gelwais i hwynt erioed fy meibion (oblegid yr oedd yr oll o honynt yn dra ieuainc), felly hefyd y dywedasant hwythau wrthyf fi, Ein tad, wele, ein Duw sydd gyda ni, ac nis goddefa i ni syrthio; yna gadewch i ni fyned allan; nis lladdem ni ein brodyr, pe gadawent ni yn llonydd; gan hyny, gadewch i ni fyned, rhag iddynt orchfygu byddin Antipus. Yn awr, nid oeddynt hwy wedi ymladd erioed, etto ni ofnent farwolaeth; ac yr oeddynt yn meddwl mwy am ryddid eu tadau, nag yr oeddynt am eu bywydau eu hun; ïe, yr oeddynt wedi eu dysgu gan eu mamau, os na ammheuent ddim, y gwaredai Duw hwynt. A hwy a adroddasant wrthyf eiriau eu mamau, gan ddywedyd, Nid ydym yn ammau nad oedd ein mamau yn gwybod hyny.
A bu i mi ddychwelyd gyda’m dwy fil, yn erbyn y Lamaniaid hyn ag oedd yn ein hymlid. Ac yn awr, wele, yr oedd byddinoedd Antipus wedi eu goddiweddyd hwynt, ac yr oedd brwydr ddychrynllyd wedi dechreu. Yr oedd byddin Antipus, gan fod yn flinedig o herwydd eu hir daith mewn amser mor fyr, ynghylch syrthio i ddwylaw y Lamaniaid, a phe na fuaswn i wedi dychwelyd gyda’m dwy fil, hwy a fuasent wedi cael eu hamcan; canys yr oedd Antipus wedi syrthio trwy y cleddyf, a llawer o’i flaenoriaid, o herwydd eu lludded, yr hwn a achoswyd gan fuandra eu taith; am hyny, gwyr Antipus, trwy fod yngythryblus o herwydd cwymp eu blaenoriaid, a ddechreuasant roddi ffordd o flaen y Lamaniaid.
A bu i’r Lamaniaid ymwroli, a dechreu eu hymlid hwynt; ac felly yr oedd y Lamaniaid yn eu hymlid hwynt yn egniol iawn, pan ddaeth Helaman ar eu tu hol gyda’i ddwy fil, a dechreu eu lladd hwynt yn enbyd, yn gymmaint ag i holl fyddin y Lamaniaid aros, a throi ar Helaman. Yn awr, pan ganfu pobl Antipus fod y Lamaniaid wedi ymdroi o amgylch, hwy a gasglasant ynghyd eu gwyr, ac a ddaethant drachefn ar du ol y Lamaniaid.
Ac yn awr, dygwyddodd i ni, pobl Nephi, pobl Antipus, a minnau â’m dwy fil, amgylchynu y Lamaniaid, a’u lladd hwynt; ïe, yn gymmaint ag iddynt gael eu gorfodi i roddi i fyny eu harfau rhyfel, a’u hunain hefyd fel carcharorion rhyfel.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol iddynt draddodi eu hunain i fyny i ni, i mi rifo y gwyr ieuainc hyny a ymladdasant gyda mi, gan ofni rhag fod llawer o honynt wedi eu lladd. Eithr wele, er fy mawr lawenydd, nid oedd un ednaid o honynt wedi syrthio i’r ddaear; ïe, ac yr oeddynt wedi ymladd megys pe gyda nerth Duw; ïe, ni adnabuwyd gwyr erioed a ymladdasant gyda’r fath nerth gwyrthiol; a chyda y fath allu mawr y syrthiasant ar y Lamaniaid, fel y dychrynasant hwynt; ac o herwydd hyn y traddododd y Lamaniaid eu hunain i fyny fel carcharorion rhyfel. A chan nad oedd genym ni le i’n carcharorion, fel y gallem eu gwylio hwynt a’u cadw rhag byddinoedd y Lamaniaid, ni a’u danfonasom hwynt i dir Zarahemla, a rhan o’r gwyr hyny o eiddo Antipus na laddwyd, gyda hwynt; a’r gweddill a gymmerais ac a unais â’m Ammoniaid ieuainc, ac a gymmerasom ein taith yn ol i ddinas Judea.
Ac yn awr, dygwyddodd i mi ddeerbyn epistol oddiwrth Ammoron, y brenin, yn hysbysu os rhoddwn i fyny y carcharorion rhyfel hyny a gymmerasom, y rhoddai yntau ddinas Antiparah i fyny i ni. Eithr mi a ddanfonais epistol at y brenin, ein bod yn sicr fod ein galluoedd ni yn ddigon i gymmeryd dinas Antiparah trwy ein gallu; a thrwy roddi y carcharorion i fyny am y ddinas hono, ni a ystyriem ein hunain yn annoeth; ac na roddem ni ein carcharorion i fyny ond yn unig er eu cyfnewid. Ac Ammoron a wrthododd fy epistol i, canys ni chyfnewidiai efe garcharorion; o ganlyniad, ni a ddechreuasom ymbarotoi i fyned yn erbyn dinas Antiparah. Eithr pobl Antiparah a adawsant y ddinas, ac a ffoisant i’w dinasoedd ereill, y rhai a feddiannent, i’w hamgaeru hwynt; ac felly y syrthiodd dinas Antiparah i’n dwylaw ni. Ac felly y terfynodd yr wythfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr.
A bu yn nechreu y nawfed flwyddyn ar hugain, i ni dderbyn rhagor o luniaeth, ac hefyd ychwanegiad at ein byddin, o dir Zarahemla, ac o’r wlad oddiamgylch, hyd at y rhifedi o chwe mil o wyr, heblaw trugain o feibion yr Ammoniaid, y rhai a ddaethant i uno â’u brodyr, fy llu bychan o ddwy fil. Ac yn awr, wele, yr oeddym yn gryfion, ïe, ac yr oedd genym hefyd ddigon o luniaeth wedi ei ddwyn i ni.
A bu mai ein dymuniad oedd brwydro â’r fyddin a osodwyd i amddiffyn dinas Cumeni. Ac yn awr, wele, mi a ddangosaf i ti i ni yn fuan gyflawni ein hewyllys; ïe, â’n llu nerthol, neu â rhan o’n llu nerthol, yr amgylchynasom ddinas Cumeni yn y nos, ychydig cyn eu bod i dderbyn diwalliad o luniaeth. A bu i ni wersyllu oddiamgylch y ddinas am amryw nosweithiau; eithr ni a gysgasom ar ein cleddyfau, ac a gadwasom wylwyr, fel nas gallai y Lamaniaid ddyfod arnom yn y nos a’n lladd, yr hyn a gynnygiasant laweroedd o weithiau; eithr cynnifer o weithiau ag y cynnygiasant hyn, y tywalltwyd eu gwaed. O’r diwedd daeth eu lluniaeth, ac yr oeddynt ynghylch myned i mewn i’r ddinas yn y nos. A nyni, yn lle bod yn Lamaniaid, oeddym Nephiaid; am hyny, ni a’u cymmerasom hwynt a’u lluniaeth. Ac er fod y Lamaniaid wedi eu tori ymaith oddiwrth eu lluniaeth yn y modd hyn, yr oeddynt o hyd yn benderfynol i gadw y ddinas; gan hyny, daeth yn anghenrheidiol i ni gymmeeryd y lluniaeth hyny, a’i ddanfon i Judea, a’n carcharorion i dir Zarahemla.
A bu nad aeth llawer o ddyddiau heibio cyn i’r Lamaniaid ddechreu colli pob gobaith am gymhorth; am hyny, hwy a roddasant i fyny y ddinas i’n dwylaw ni; ac felly y cyflawnasom ni ein bwriadau, wrth ennill dinas Cumeni. Eithr dygwyddodd fod ein carcharorion mor lliosog, er mor ddirfawr oedd ein rhifedi, nes yr oedd yn rhaid i ni ddefnyddio ein holl filwyr i’w cadw hwynt, neu eu gosod i farwolaeth. Canys, wele, hwy a dorent allan yn rhifedi mawrion, ac a ymladdent â cheryg, ac â phastynau, neu pa beth bynag a allent gael yn eu dwylaw, yn gymmaint ag i ni ladd dros ddwy fil o honynt, ar ol iddynt roddi eu hunain i fyny yn garcharorion rhyfel; o ganlyniad, daeth yn anghenrheidiol i ni osod terfyn ar eu bywydau, neu eu gwylio â chleddyf mewn llaw, i waered i dir Zarahemla; ac hefyd nid oedd ein lluniaeth yn ddim mwy nâ digon i’n pobl ein hunain, er yr hyn a gymmerasom oddiwrth y Lamaniaid. Ac yn awr, dan yr amgylchiadau cyfyng hyn, daeth yn fater pwysig iawn i benderfynu ynghylch y carcharorion rhyfel hyn; er hyny, penderfynasom eu danfon hwynt i waered i dir Zarahemla; o ganlyniad, ni a ddewisasom ran o’n gwyr, ac a roddasom ein carcharorion yn eu gofal, er myned i waered i dir Zarahemla.
Eithr dygwyddodd dranoeth, iddynt ddychwelyd. Ac yn awr, wele, ni ofynasom iddynt ynghylch y carcharorion; canys wele, yr oedd y Lamaniaid arnom, a dychwelasant hwythau mewn pryd i’n hachub rhag syrthio i’w dwylaw. Canys, wele, yr oedd Ammoron wedi danfon i’w cymhorth ddiwalliad newydd o luniaeth, ac hefyd fyddin lliosog o wyr.
A bu i’r gwyr hyny a ddanfonasom gyda’r carcharorion, gyrhaedd yno mewn pryd i’w rhwystro, pan yr oeddynt ynghylch ein gorchfygu ni. Eithr, wele, fy llu bychan o ddwy fil a thrugain, a ymladdasant yn enbyd iawn; ïe, yr oeddynt yn gadarn o flaen y Lamaniaid, ac yn gweinyddu marwolaeth i’r holl rai a’u gwrthwynebent; ac fel yr oedd gweddill ein byddin ynghylch rhoddi ffordd o flaen y Lamaniaid, wele, yr oedd y dwy fil a thrugain hyny yn gaearn a diofn; ïe, a hwy a ufyddasant, gan ofalu cyflawni pob gair o orchymyn gyda manylrwydd; ïe, ac yn ol eu ffydd y bu iddynt; ac yr oeddwn yn cofio y geiriau y rhai a ddywedent wrthyf i’w mamau eu dysgu iddynt. Ac yn awr, wele, i’r rhai hyn, fy meibion a’r gwyr hyny a ddewiswyd i fyned â’r carcharorion, yr ydym yn ddyledus am y fuddugoliaeth fawr hon; canys hwy ddarfu orthrechu y Lamaniaid; am hyny, gyrwyd hwynt yn ol i ddinas Manti. Ac ni a gadwasom ein dinas Cumeni, ac ni ddyfethwyd ni oll trwy y cleddyf; er hyny, dyoddefasom golled mawr,
A bu ar ol i’r Lamaniaid ffoi, i mi roddi gorchymyn yn union i’m gwyr clwyfedig, gael eu cymmeryd o blith y meirw, ac achosais i’w clwyfau gael eu trin. A dygwyddodd fod dan gant, allan o’m dwy fil a thrugain, wedi llewygu o herwydd colli gwaed; er hyny, yn ol daioni Duw, ac er ein mawr syndod ni, ac hefyd gelynion ein holl fyddin, nid oedd un enaid o honynt wedi trengu; ïe, ac nid oedd un enaid yn eu plith ag nad oedd wedi derbyn llawer o glwyfau. Ac yn awr, yr oedd eu cadwraeth yn rhyfeddod i’n holl fyddin; ïe, eu bod hwy yn cael eu harbed, tra yr oedd mil o’n brodyr wedi eu lladd. Ac yr ydym ni yn ei briodoli yn gyfiawn i allu gwyrthiol Duw, o herwydd eu mawr ffydd yn yr hyn y dysgwyd hwynt i’w gredu, sef fod Duw cyflawn; a phwy bynag ni ammheuent, y cedwid hwynt trwy ei allu rhyfeddol ef. Yn awr, dyma oedd ffydd y rhai hyn y llefarais am danynt; y manet yn ieuainc, ac y mae eu meddyliau yn sefydlog; a gosodasant eu hymddiried yn barhaus yn Nuw.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i ni felly gymmeryd gofal o’n gwyr clwyfedig, a chladdu ein meirw ni, ac hefyd feirw y Lamaniaid, y rhai oeddynt lawer, wele, ni a ofynasom i Gid ynghylch y carcharorion a gychwynasant er myned â hwy i waered i dir Zarahemla. Yn awr, Gid oedd y pen-cadben ar y llu a benodwyd i’w dwyn hwynt i waered i’r tir. Ac yn awr, y rhai hyn yw y geiriau a ddywedodd Gid wrthyf, Wele, ni a gychwynasom i fyned i waered i dir Zarahemla â’n carcharorion. A bu i ni gyfarfod ag yspïwyr ein byddinoedd, y rhai a ddanfonwyd allan i wylio gwersyll y Lamaniaid. A hwy a waeddasant arnom, gan ddywedyd, Wele, y mae lluoedd y Lamaniaid yn myned tua dinas Cumeni; ac wele, hwy a syrthiant arnynt, ïe, ac a ddyfethant ein pobl.
A dygwyddodd i’n carcharorion glywed eu gwaedd, yr hyn a achosodd iddynt ymwroli; a hwy a gyfodasant mewn gwrthryfel yn ein herbyn. A bu oblegid eu gwrthryfel, i ni achosi i’n cleddyfau ddyfod arnynt. A bu iddynt gyd-redeg ar ein cleddyfau, trwy yr hyn y cafodd y rhan fwyaf o honynt eu lladd; a’r gweddill o honynt a dorasant trwom, ac a ffoisant oddiwrthym. Ac wele, ar ol iddynt ffoi, fel na allem eu goddiweddyd, ni a gychwynasom ar frys tua dinas Cumeni; ac wele, cyrhaeddasom mewn pryd fel y gallem gynnorthwyo ein brodyr i gadw y ddinas. Ac wele, ni a waredwyd drachefn allan o ddwylaw ein gelynion. A bendigedig yw enw ein Duw; canys efe a’n gwaredodd, ïe, ac a wnaeth y peth mawr hwn drosom.
Yn awr, dygwyddodd pan glywais i, Helaman, y geiriau hyn gan Gid, i mi gael fy llanw â llawenydd mawr, oblegid daioni Duw yn ein cadw, fel na ddyfethid ni oll; ïe, a gobeithiaf fod eneidiau y rhai hyny a laddwyd, wedi myned i orphwysfa eu Duw.
Ac wele, yn awr, dygwyddodd mai ein pwnc nesaf oedd ennill dinas Manti; eithr wele, nid oedd ffordd y gallem eu harwain hwynt allan o’r ddinas â’n minteioedd bychain. Canys, wele, yr oeddynt yn cofio yr hyn a wnaethom o’r blaen; gan hyny, nis gallem eu hudo hwynt ymaith o’u hamddiffynfeydd; ac yr oeddynt yn gymmaint lliosocach nâ’n byddin ni, fel na feiddiem fyned allan ac ymosod arnynt yn eu hamddiffynfeydd. Ië, a daeth yn anghenrheidiol i ni ddefnyddio ein gwyr, er cadw y rhanau hyny o’r wlad, ag oeddem wedi ailfeddiannu; o ganlyniad, daeth yn anghenrheidiol i ni aros, fel y derbyniem ragor o nerth o dir Zarahemla, ac hefyd ddiwalliad newydd o ymborth.
A bu i mi felly ddanfon cenadwri at lywodraethwr ein tir, i’w hysbysu ef ynghylch achosion ein pobl. A bu i ni aros i dderbyn lluniaeth a nerth, o dir Zarahemla. Eithr wele, ni fu hyn o nemawr leshad i ni; canys yr oedd y Lamaniaid hefyd yn derbyn cryfder mawr, o ddydd i ddydd, ac hefyd lawer o luniaeth; ac felly yr oedd ein hamgylchiadau ar yr amser hwn. Ac yr oedd y Lamaniaid, o bryd i bryd, yn rhuthro allan yn ein herbyn, gan benderfynu trwy ddichell ein dyfetha; er hyny, ni allem gael rhyfel â hwynt, o herwydd eu henciliadau a’u hamddiffynfeydd.
A bu i ni aros dan yr amgylchiadau dyrus hyn, am yspaid amryw fisoedd, hyd nes yr oeddem ar drengu o eisieu ymborth. Eithr dygwyddodd i ni dderbyn ymborth, yr hwn a ddygid i ni gan fyddin o ddwy fil o wyr, i’n cynnorthwyo; a dyma yr holl gynnorthwy a dderbyniasom, er amddiffyn ein hunain a’n gwlad rhag syrthio i ddwylaw ein gelynion; ïe, er ymladd â gelynion ag oedd yn ddirifedi. Ac yn awr, yr achos o’n trafferthion hyn, neu yr achos na ddanfonasant ragor o nerth atom, nis gwyddom ni; am hyny, ni a ofidiwyd, ac a lanwyd hefyd gan ofn, rhag mewn rhyw fodd i farnedigaethau Duw ddyfod ar ein tir, er ein dadymchweliad a’n llwyr ddinystr; am hyny, ni a dywalltasom ein heneidiau mewn gweddi at Dduw, am iddo ef ein nerthu a’n gwaredu allan o ddwylaw ein gelynion; ïe, ac hefyd am iddo roddi nerth i ni, fel y cadwem ein dinasoedd, a’n tiroedd, a’n meddiannau, er cynnaliaeth ein pobl. Ië, a darfu i’r Arglwydd ein Duw ymweled â ni â sicrwydd y gwaredai ni; ïe, yn gymmaint ag iddo lefaru heddwch wrth ein heneidiau, a rhoddi i ni ffydd fawr, a pheri i ni obeithio am ein gwaredigaeth trwyddo ef; a darfu i ni ymwroli gyda’n llu bychan a ddeerbyniasom, ac yr oeddym yn ddiysgog ein penderfyniad i orchfygu ein gelynion, ac i amddiffyn ein tiroedd, a’n meddiannau, a’n gwragedd, a’n plant, ac achos ein rhyddid. Ac felly yr aethom allan â’n holl nerth yn erbyn y Lamaniaid, y rhai oeddynt yn ninas Manti; ac ni a godasom ein pebyll wrth ochr yr anialwch, yr hwn oedd yn agos i’r ddinas. A bu dranoeth, pan welodd y Lamaniaid ein bod yn y cyffiniau wrth yr anialwch, yr hwn oedd yn agos i’r ddinas, hwy a ddanfonasant yspïwyr o amgylch ogylch i ni, fel y gallent ganfod nifer a chryfdwr ein byddin.
A bu pan welsant nad oeddym yn gryfion, yn ol ein rhifedi, a chan ofni y torem hwynt ymaith oddiwrth eu cynnaliaeth, os na ddeuant allan i ryfel yn ein herbyn, a’n lladd; a chan dybied hefyd y gallent ein dyfetha yn rhwydd â’u lluoedd lliosog, hwy a ddechreuasant ymbarotoi i ddyfod allan i ryfel yn ein herbyn. A phan welsom ni eu bod yn ymbarotoi i ddyfod allan yn ein herbyn, wele, mi a berais i Gid, ynghyd â nifer o wyr, i guddio eu hunain yn yr anialwch, ac i Teomner hefyd, ynghyd â nifer o wyr, i guddio eu hunain hefyd yn yr anialwch. Yn awr, yr oedd Gid a’i wyr ar y deau, a’r lleill ar yr aswy; ac wedi iddynt hwy ymguddio felly, wele, mi a arosais gyda gweddill fy myddin, yn yr un lle ag y codasom ein pebyll gyntaf, erbyn yr amser y deuai y Lamaniaid allan i ryfel.
A bu i’r Lamaniaid ddyfod allan â’u byddin liosog yn ein herbyn ni. Ac wedi iddynt ddyfod, a phan oeddynt ynghylch syrthio arnom â’r cleddyf, mi a berais i’m gwyr, y rhai oeddynt gyda mi, i gilio i’r anialwch.
A bu i’r Lamaniaid ganlyn ar cin hol gyda brys mawr, canys hwy a chwennychent yn fawr i’n dal, fel y gallent ein lladd; am hyny, hwy a’n canlynasant i’r anialwch; ac ni a aethom heibio rhwng Gid a Teomner, yn gymmaint ag nas canfyddwyd hwynt gan y Lamaniaid.
A dygwyddodd wedi i’r Lamaniaid fyned heibio, neu wedi i’r fyddin fyned heibio, i Gid a Teomner gyfodi o’u dirgel fanau, a thori ymaith yspiwyr y Lamaniaid fel na ddychwelent i’r ddinas. A bu wedi iddynt eu tori ymaith, redeg o honynt i’r ddinas, a syrthio ar y gwylwyr a adawyd i wylio y ddinas, yn gymmaint ag iddynt eu dyfetha, a meddiannu y ddinas. Yn awr, gwnaethwyd hyn trwy i’r Lamaniaid oddef i’w holl fyddin, oddieithr ychydig o wylwyr yn unig, gael eu harwain ymaith i’r anialwch.
A bu i Gid a Teomner, trwy y ffordd hon, gael meddiant o’u hamddiffynfeydd. A darfu i ni gymmeryd ein cyfeiriad, ar ol teithio llawer yn yr anialwch, tua thir Zarahemla. A phan welodd y Lamaniaid eu bod yn teithio tua thir Zarahemla, hwy a ofnent yn fawr, rhag fod cynllun wedi ei osod i’w harwain hwynt i ddinystr; am hyny, dechreuasant encilio i’r anialwch drachefn, ïe, sef yn ol ar hyd yr un ffordd ag y daethant. Ac wele, yr oedd yn nos, a hwy a godasant eu pebyll, canys pencadbeniaid y Lamaniaid a dybient fod y Nephiaid yn flinedig oblegid eu taith; a chan dybied eu bod wedi gyru eu holl fyddin hwy, ni feddyliasant ddim ynghylch dinas Manti.
Yn awr, dygwyddodd pan oedd yn nos, i mi beri i’m gwyr beidio cysgu, eithr teithio o honynt yn mlaen ffordd arall, tua thir Manti. A thrwy ein taith hon yn y nos, wele, yn y boreu yr oeddym y tu hwnt i’r Lamaniaid, yn gymmaint ag i ni gyrhaedd o’u blaen hwynt i ddinas Manti. A bu felly, trwy y ddyfais hon, i ni feddiannu dinas Manti heb dywallt gwaed.
A bu pan ddaeth byddinoedd y Lamaniaid yn agos i’r ddinas, a gweled ein bod ni yn barod i’w cyfarfod, iddynt synu yn ddirfawr a chael eu taraw gan fawr ddychryn, yn gymmaint ag iddynt ffoi i’r anialwch. Ië, a bu i fyddinoedd y Lamaniaid ffoi allan o’r holl gŵr hwn o’r tir. Eithr wele, hwy a ddygasant ganddynt lawer o wragedd a phlant allan o’r tir. A’r dinasoedd hyny ag a gymmerwyd gan y Lamaniaid, yr oll o honynt, ydynt ar yr amser hwn yn ein meddiant ni; ac y mae ein tadau, a’n gwragedd, a’n plant, yn dychwelyd i’w cartrefleoedd, oll oddieithr y rhai a gymmerwyd yn garcharorion ac a ddygwyd ymaith gan y Lamaniaid. Eithr wele, mae ein byddinoedd yn fychain er amddiffyn nifer mor fawr o ddinasoedd, a meddiannau mor fawr. Eithr wele, yr ydym ni yn ymddiried yn ein Duw, yr hwn a roddodd i ni fuddugoliaeth ar y tiroedd hyny, yn gymmaint ag i ni ennill y dinasoedd a’r tiroedd, y rhai oeddynt ein heiddo ein hunain. Yn awr, nis gwyddom ni yr achos nad yw y llywodraeth yn rhoddi i ni fwy o nerth; ac ni ŵyr y gwyr hyny a ddaethant i fyny atom paham nad ydym wedi derbyn rhagor o nerth. Wele, nis gwyddom ni nad ydych chwi yn aflwyddiannus, a’ch bod wedi tynu y galluoedd ymaith i’r cwr hwna o’r tir; os felly, ni chwennychwn rwgnach. Ac os nid felly y mae, wele, ofnwn fod rhyw ymraniad yn y llywodraeth, fel na ddanfonant ychwaneg o wyr i’n cynnorthwy; canys gwyddom eu bod yn fwy lliosog nâ’r hyn a ddanfonasant. Eithr, wele, nid yw wahaniaeth: hyderwn y gwareda Duw ni, yn ngwyneb gwendid ein byddinoedd, ïe, ac y gwareda ni allan o ddwylaw ein gelynion. Wele, hon yw y nawfed flwyddyn ar hugain, yn ei diwedd, ac yr ydym ni mewn meddiant o’n tiroedd; ac y mae’r Lamaniaid wedi ffoi i dir Nephi. Ac y mae’r meibion hyny o eiddo pobl Ammon, am y rhai y llefarais mor ganmoladwy, gyda mi yn ninas Manti; ac y mae yr Arglwydd wedi eu cynnal hwynt, ïe, ac wedi eu cadw rhag syrthio trwy y cleddyf, yn gymmaint ag nad oes un enaid wedi ei ladd. Eithr, wele, y maent wedi derbyn llawer o archollion; er hyny, safant yn gadarn yn y rhyddid hwnw â pha un y rhyddhaodd Duw hwynt; ac y maent yn fanwl i gofio yr Arglwydd eu Duw, o ddydd i ddydd; ïe, cofiant gadw ei ddeddfau, a’i farnedigaethau, a’i orchymynion, yn wastadol; ac y mae eu ffydd yn gadarn yn y prophwydoliaethau am yr hyn sydd i ddyfod. Ac yn awr, fy anwyl frawd Moroni, boed i’r Arglwydd ein Duw, yr hwn a’n gwaredodd ac a’n rhyddhaodd, dy gadw di yn wastadol yn ei bresennoldeb; ïe, a boed iddo ffafrio y bobl hyn, fel y llwyddoch i feddiannu yr oll a gymmerodd y Lamaniaid oddiwrthym, yr hyn oedd er ein cynnaliaeth. Ac yn awr, wele, yr wyf yn terfynu fy epistol. Myfi yw Helaman, fab Alma.