Pennod ⅩⅩⅠ.
Hanes pobl Nephi, a’u rhyfeloedd a’u hymraniadau, yn nyddiau Helaman, yn ol cof-ysgrif Helaman, yr hon a gadwodd efe yn ei ddyddiau.
Wele, yn awr, dygwyddodd i bobl Nephi lawenhau yn fawr, o herwydd i’r Arglwydd eu gwaredu hwynt drachefn allan o ddwylaw eu gelynion; am hyny, hwy a ddiolchasant i’r Arglwydd eu Duw; ïe, ac a ymprydiasant lawer, ac a weddiasant lawer, ac a addolasant Dduw mewn llawenydd mawr iawn.
A bu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi, i Alma ddyfod at ei fab Helaman, a dywedyd wrtho, A wyt ti yn credu y geiriau a lefarais wrthyt ynghylch y cof-lyfrau hyny a gadwyd? Ac Helaman a ddywedodd wrtho, Ydwyf, yr wyf yn credu. A dywedodd Alma drachefn, A wyt ti yn credu yn Iesu Grist, yr hwn a ddaw? Ac yntau a ddywedodd, Ydwyf, yr wyf yn credu yr holl eiriau a lefaraist ti. Ac Alma a ddywedodd wrtho drachefn, A gedwi di fy nghorchymynion? Ac yntau a ddywedodd, Gwnaf, mi a gadwaf dy orchymynion â’m holl galon. Yna Alma a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di; a’r Arglwydd a’th lwydda di yn y tir hw. Eithr, wele, y mae genyf rywfaint i brophwydo wrthyt; eithr yr hyn a brophwydaf wrthyt, ni chai ei hysbysu; ïe, yr hyn a brophwydaf wrthyt, ni chai ei hysbysu, hyd nes y cyflawner y brophwydoliaeth; am hyny, ysgrifena y geiriau a gaf ddywedyd. A’r rhai hyn yw y geiriau: Wele, yr wyf yn rhagweled, y bydd i’r holl bobl hyn, y Nephiaid, yn ol ysbryd y dadguddiad yr hwn sydd ynof, mewn pedwar can mlynedd o’r amser yr amlyga Iesu Grist ei hun iddynt, fethu mewn anghrediniaeth; ïe, ac yna cant weled rhyfeloedd a heintiau, ïe, a newyn a thywalltiad gwaed, hyd nes y difodir pobl Nephi; ïe, a hyn o herwydd y methant mewn anghrediniaeth, ac y syrthiant i weithredoedd o dywyllwch a thrythyllwch, a phob math o anwireddau; ïe, meddaf wrthyt, mai o herwydd y pechant yn erbyn goleuni a gwybodaeth mor fawr; ïe, meddaf wrthyt, mai o’r dydd hwnw, nid â y bedwaredd genedlaeth oll heibio, cyn y daw yr anwiredd mawr hwn; a phan ddelo y dydd mawr hwnw, wele, daw yr amseer yn fuan iawn na fydd y rhai ag ydynt yn awr, neu had y rhai ag ydynt yn awr yn cael eu cyfrif yn mhlith pobl Nephi, yn cael eu cyfrif yn mhlith pobl Nephi yn hwy; eithr pwy bynag a erys, ac ni ddyfethir yn y dydd mawr ac ofnadwy hwnw, a gyfrifir yn mhlith y Lamaniaid, ac a ddeuant yn debyg iddynt hwy, oll, oddieithr ychydig, y rhai a elwir dyscyblion yr Arglwydd; a’r rhai hyny a ymlidia y Lamaniaid, hyd nes y difodir hwythau. Ac yn awr, o herwydd anwiredd, caiff y brophwydoliaeth hon ei chyflawni.
A bu ar ol i Alma ddywedyd y pethau hyn wrth helaman, iddo ei fendithio ef, ac hefyd ei feibion ereill; ac efe a fendithiodd y ddaear hefyd, er mwyn y cyfiawn. Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: Melldigedig fydd y tir, ïe, y tir hwn, i bob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, hyd at ddinystr, y rhai a wnant ddrygioni, pan fyddant yn llwyr addfed; ac megys y dywedais, felly y bydd: canys hyn yw melldith a bendith Duw ar y tir, canys nis gall yr Arglwydd edrych ar bechod gydag un gradd o oddefiad. Ac yn awr, wedi i Alma ddywedyd y geiriau hyn, efe a fendithiodd yr eglwys, ïe, yr holl rai a safent yn ddisigl yn y ffydd, o’r amser hwnw allan; ac wedi i Alma wneuthur hyn, efe a ymadawodd allan o dir Zarahemla, fel pe yn myned i dir Melek. A dygwyddodd na chlywyd am dano byth mwyach; a chyda golwg ar ei farwolaeth neu ei gladdedigaeth, nis gwyddom ddim. Wele, hyn a wyddom, ei fod yn ddyn chfiawn; a’r dywediad a aeth ar led yn yr eglwys, ei fod wedi ei gymmeryd i fyny gan yr ysbryd, neu wedi ei gladdu gan law yr Arglwydd, fel Moses. Eithr wele, dywed yr ysgrythyr i’r Arglwydd gymmeryd Moses ato ei hun; a meddyliwn ei fod hefyd wedi cymmeryd Alma yn yr ysbryd, ato ei hun; am hyny, o herwydd hyn, nis gwyddom ddim am ei farwolaeth a’i gladdedigaeth.
Ac yn awr, dygwyddodd yn nechreu y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi, i Helaman fyned allan i blith y bobl i draethu y gair iddynt; canys wele, o herwydd eu rhyfeloedd gyda’r Lamaniaid, a’r aml ymraniadau a therfysgoedd bychain a fu yn mhlith y bobl, daeth yn anghenrheidiol i air Duw gael ei dreathu yn eu mysg; ïe, a bod rheoleiddiad yn cael ei wneuthur trwy yr eglwys; o ganlyniad, aeth Helaman a’i frodyr i sefydlu yr eglwys drachefn yn yr holl dir, ïe, yn mhob dinas trwy yr holl dir a feddiannid gan bobl Nephi. A bu iddynt benodi offeiriaid ac athrawon trwy yr holl dir, dros yr holl eglwysi.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i Helaman a’i frodyr benodi offeiriaid ac athrawon dros yr eglwysi, i ymraniad gyfodi yn eu plith, ac ni ystyrient eiriau Helaman a’i frodyr; eithr hwy a aethant yn feilchion, gan ymchwyddo yn eu calonau, o herwydd eu dirfawr gyfoeth; am hyny, aethant yn gyfoethog yn eu golwg eu hunain, ac ni ystyrient eu geiriau hwy, i rodio yn uniawn gerbron Duw.
A bu i gynnifer na wrandawent ar eiriau Helaman a’i frodyr, gael eu casglu ynghyd yn erbyn eu brodyr. Ac yn awr, wele, yr oeddynt hwy yn dra digllawn, yn gymmaint nes yr oeddynt yn benderfynol i’w lladd hwynt. Yn awr, blaenor y rhai ag oeddynt yn ddigllawn wrth eu brodyr, oedd ddyn mawr a chryf; a’i enw oedd Amalickiah. Ac yr oedd Amalickiah yn chwennych bod yn frenin; ac yr oedd y bobl ag oeddynt yn ddigllawn, yn chwennych hefyd iddo fod yn frenin arnynt: a’r rhan fwyaf o honynt oeddynt is-farnwyr y tir; ac yr oeddynt yn ymgeisio am awdurdod. A chawsent eu harwain trwy weniaith Amalickiah, os byddai iddynt ei gynnorthwyo ef, a’i sefydlu yn frenin arnynt, y gwnelai yntau hwynt yn lywodraethwyr ar y bobl. Felly yr arweinid hwynt ymaith gan Amalickiah, i ymraniadau, yn ngwyneb pregethu Helaman a’i frodyr; ïe, yn ngwyneb eu gofal mawr hwy dros yr eglwys, canys yr oeddynt yn archoffeiriaid dros yr eglwys. Ac yr oedd llawer yn yr eglwys yn credu yn ngeiriau gwenieithgar Amalickiah; am hyny, hwy a ymranasant hyd y nod oddiwrth yr eglwys; ac felly yr oedd achosion pobl Nephi yn dra ansefydlog a pheryglus, er y fuddugoliaeth fawr a gawsant ar y Lamaniaid, a’r llawenydd mawr a gawsant, o herwydd cael eu gwaredu trwy ddwylaw yr Arglwydd. Felly gwelwn mor gyflym y mae plant dynion yn anghofio yr Arglwydd eu Duw: ïe, mor gyflym i weithredu anwiredd, ac i gael eu harwain ymaith gan yr un drwg; ïe, a gwelwn y drygioni mawr a all un dyn tra drygionus achosi i gymmeryd lle yn mhlith plant dynion: ïe, gwelwn fod Amalickiah, o herwydd ei fod yn ddyn cynllwyngar, ac yn ddyn o eiriau gwenieithgar, yn arwain ymaith galonau llawer o bobl i weithredu yn ddrygionus: ïe, ac i geisio dinystrio eglwys Dduw, ac i ddinystrio y sylfaen o ryddid a roddodd Duw iddynt, neu yr hon fendith a anfonodd Duw ar wyneb y tir, er mwyn y cyfiawn.
Ac yn awr, dygwyddodd, ar ol i Moroni, yr hwn oedd brif lywydd byddinoed y Nephiaid, glywed am yr ymraniadau hyn, iddo fod yn ddigllawn wrth Amalickiah. A bu iddo ef rwygo ei wisg; ac efe a gymmerodd ddarn o honi, ac a ysgrifenodd arno, Er cof am ein Duw, ein crefydd, a’n rhyddid, a’n heddwfch, ein gwragedd, a’n plant; ac efe a’i sicrhaodd ar ben pawl. Ac efe a sicrhaodd ei helm, a’i ddwyfroneg, a’i darianau, ac a wregysodd ei arfogaeth o amgylch ei lwynau; ac efe a gymmerodd y pawl, ar ben yr hwn yr oedd darn ei wisg (ac efe a’i galwodd y teitl o ryddid), ac a ymgrymodd i’r ddaear, ac a weddiodd yn nerthol ar ei Dduw am i fendithion rhyddid orphwys ar ei frodyr cyhyd ag y buasai cyfundeb o Gristionogion yn aros i etifeddu y tir; canys felly yr oedd yr holl wir gredinwyr yn Nghrist, y rhai a berthynent i eglwys Dduw, yn cael eu galw gan y rhai ni pherthynent i’r eglwys; ac yr oedd y rhai a berthynent i’r eglwys yn ffyddlawn; ïe, yr holl rai ag oeddynt yn wir gredinwyr yn Nghrist, a gymmerasant arnynt, yn llawen, enw Crist, neu Gristionogion, megys y gelwid hwynt, o herwydd eu crediniaeth yn Nghrist, yr hwn a ddeuai; ac am hyny, ar yr amser hwn, gweddiodd Moroni ar i achos y Cristionogion, a rhyddid y tir, gael ei ffafrio.
A bu ar ol iddo dywallt allan ei enaid wrth Dduw, iddo ef roddi yr holl dir ag oedd yn ddeheuol i dir Anghyfanedd-dra; ïe, ac yn fyr, yr holl dir, ar y gogledd ac ar y deu, yn dir dewisol, ac yn dir o ryddid. Ac efe a ddywedodd, Diau na oddefa Duw i ni, y rhai a ddirmygir o herwydd ein bod wedi oddefa Duw i ni, y rhai a ddirmygir o herwydd ein bod wedi cymmeryd arnom enw Crist, gael ein sathru i lawr a’n dyfetha, hyd nes y tynwn hyny arnom, trwy ein troseddau ein hunain. Ac wedi i Moroni ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan yn mhlith ei bobl, gan chwifio y dernyn o’i wisg yn yr awyr, fel y gallai pawb weled yr ysgrifen a ysgrifenodd efe ar y dernyn, a gwaeddi â llef uchel, gan ddywedyd, Wele, pwy bynag a amddiffyno y tietl hwn ar y tir, bydded iddynt ddyfod allan yn nerth yr Arglwydd, ac ymgyfammodi y gwnant amddiffyn eu hiawnderau, a’u crefydd, fel y bendithio yr Arglwydd Dduw hwynt.
A bu ar ol i Moroni gyhoeddi y geiriau hyn, wele, y bobl a ddaethant gan gydredeg, a’u harfogaeth wedi ei gwregysu o amgylch eu lwynau, gan rwygo eu dillad fel arwydd, neu gyfammod, na adawent yr Arglwydd eu Duw; neu, mewn geiriau ereill, os troseddent orchymynion Duw, neu syrthio i drosedd, a chywilyddio cymmeryd arnynt enw Crist, y gwnai yr Arglwydd eu rhwygo hwynt megys y rhwygasant hwythau eu dillad. Yn awr, dyma y cyfammod a wnaethant; a hwy a fwriasant eu dillad wrth draed Moroni, gan ddywedyd, Yr ydym yn ymgyfammodi â’n Duw, y cawn ein dinystrio, megys ein brodyr yn y tir yn ogleddol, os bydd i ni syrthio i drosedd; ïe, gall efe ein bwrw wrth draed ein gelynion, megys y bwriasom ni ein dillad wrth dy draed di i’w mathru dan draed, os bydd i ni syrthio i drosedd. A Moroni a ddywedodd wrthynt, Wele, nyni ydym weddill o had Jacob; ïe, nyni ydym weddill o had Joseph, siaced yr hwn a rwygwyd gan ei frodyr, i lawer o ddarnau; ïe, ac yn awr, wele, gadewch i ni gofio cadw gorchymynion Duw, neu ein dillad ninnau a gant eu rhwygo gan ein brodyr, a ninnau ein bwrw yn ngharchar, neu ein gwerthu, neu ein lladd; ïe, gadewch i ni gadw ein rhyddid, megys gweddill Joseph; ïe, gadewch i ni gofio geiriau Jacob, cyn ei farwolaeth; canys, wele, efe a ganfyddodd fod rhan o weddill siaced Joseph wedi ei chadw, ac heb bydru. Ac efe a ddywedodd, Megys y mae’r gweddill hwn o ddillad fy meibion wedi ei gadw, felly hefyd y cedwir gweddill o had fy meibion trwy law Duw, ac y cymmerir hwynt ato ef ei hun, tra y caiff y gweddill o had Joseph eu dyfetha, megys gweddill ei ddilledyn. Yn awr, wele, rhydd hyn dristwch i’m henaid: er hyny, mae fy enaid yn cael gorfoledd yn fy mab, o herwydd y rhan hono o’i had a gymmerir at Dduw. Yn awr, wele, hyn oedd iaith Jacob. Ac yn awr, pwy a ŵyr nad gweddill had Joseph, y rhai a ddyfethir fel ei ddilledyn, yw y rhai sydd wedi ymranu oddiwrthym ni; ïe, a nyni a fyddant, os na aroswn yn ddisigl yn ffydd Crist.
A bu ar ol i Moroni ddywedyd y geiriau hyn, iddo fyned allan, ac hefyd anfon allan trwy yr holl ranau o’r tir lle yr oedd ymraniadau, a chasglu ynghyd yr holl bobl a chwennychent amddiffyn eu rhyddid, i sefyll yn erbyn Amalickiah, a’r rhai ag oedd wedi ymranu, y rhai a elwid Amalickiahaid.
A bu pan welodd Amalickiah fod pobl Moroni yn fwy lliosog nâ’r Amalickiahaid,—a gweled hefyd fod ei bobl ef yn ammheus ynghylch cyfiawnder yr achos a gymmerasant arnynt; o ganlyniad, gan ofni na ennillai ei bwnc, efe a gymmerodd y cyfryw o’i bobl a ewyllysient fyned, ac a gychwynodd i dir Nephi.
Yn awr, tybiodd Moroni nad oedd yn fuddiol fod i’r Lamaniaid gael dim nerth yychwanegol; am hyny, efe a feddyliodd am dori ymaith bobl Amalickiah, neu eu cymmeryd a’u dwyn yn ol, a gosod Amalickiah i farwolaeth; ïe, canys efe a wyddai y cynhyrfai ef y Lamaniaid i ddigofaint yn eu herbyn hwynt, ac achosi iddynt ddyfod i ryfel yn eu herbyn; ac efe a wyddai y buasai Amalickiah yn gwneuthur hyn, fel y gallai gyrhaedd ei amcanion; am hyny, tybiodd Moroni yn fuddiol iddo gymmeryd ei fyddinoedd, y rhai oeddynt wedi ymgasglu ynghyd, ac wedi ymarfogi, ac wedi ymgyfammodi i gadw yr heddwch. A bu iddo gymmeryd ei fyddin, a chychwyn i’r anialwch, i dori ymaith gwrs Amalickiah yn yr anialwch.
A bu iddo wneuthur yn ol ei ddymuniadau, a chychwyn i’r anialwch, a rhagflaenu byddinoedd Amalickiah. A bu i Amalickiah ffoi gyda nifer fychan o’i wyr, a’r gweddill a roddwyd i fyny i ddwylaw Moroni, ac a ddygwyd yn ol i dir Zarahemla. Yn awr, gan fod Moroni yn ddyn ag oedd wedi ei benodi gan y prif farnwyr a chan lais y bobl, yr oedd ganddo awdurdod i wneuthur yn ol ei ewyllys â byddinoedd y Nephiaid, i sefydlu ac ymarfer awdurdod drostynt.
A dygwyddodd, pwy bynag o’r Amalickiahaid na ymgyfammodent i gynnorthwyo achos rhyddid, fel y gallent amddiffyn llywodraeth rydd, efe a achosodd iddynt gael eu gosod i farwolaeth; ac nid oedd ond ychydig a wadent y cyfammod o ryddid.
A dygwyddodd hefyd, iddo achosi i’r teitl o ryddid gael ei godi ar ben pob tŵr ag oedd yn yr holl dir, yr hwn a feddiennid gan y Nephiaid; ac felly y sefydlodd Moroni luman rhyddid yn mhlith y Nephiaid; ac felly y sefydlodd Moroni luman rhyddid yn mhlith y Nephiaid. A hwy a ddechreuasant gael heddwch drachefn yn y tir; ac felly y cadwasant heddwch yn y tir, hyd yn agos i ddiwedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad y barnwyr. Ac Helaman a’r archoffeiriaid a gadwasant drefn hefyd yn yr eglwys; ïe, am yspaid pedair blynedd, hwy a gawsant lawer o heddwch a llawenydd yn yr eglwys.
A bu i laweer farw, gan sicr obeithio fod eu heneidiau wedi eu hachub gan yr Arglwydd Iesu Grist; felly hwy a aethant allan o’r byd dan orfoleddu. Ac yr oedd rhai yn marw o dwymynon, ag oeddynt ar rai tymmorau o’r flwyddyn yn dra aml yn y tir; eithr nid cymmaint felly o dwymynon, o herwydd rhinweddau rhagorol yr amryw lysiau a gwreiddiau, y rhai oedd Duw wedi barotôi, i symud y clefydau i ba rai yr oedd dynion yn agored, gan natur yr hinsawdd. Eithr yr oedd llawer yn marw o henaint; ac mae y rhai a fuont feirw yn rffydd Crist, yn ddedwydd ynddo, fel y mae yn rhaid i ni feddwl. Yn awr, ni a ddychwelwn yn ein hanes, at Amalickiah, a’r rhai a ffoisant gydag ef i’r anialwch: canys, wele, yr oedd efe wedi cymmeryd y rhai a aethant gydag ef, a myned i fyny i dir Nephi, i blith y Lamaniaid, a chyffroi y Lamaniaid i ddigofaint yn erbyn pobl Nephi, yn gymmaint ag i frenin y Lamaniaid ddanfon cyhoeddiad trwy ei holl dir, yn mhlith ei holl bobl, am iddynt ymgasglu ynghyd drachefn, er myned i ryfel yn erbyn y Nephiaid.
A dygwyddodd ar ol i’r cyhoeddiad fyned allan i’w plith hwynt, iddynt fod yn dra ofnog; ïe, hwy a ofnent anfoddloni y brenin, ac ofnent hefyd fyned i ryfel yn erbyn y Nephiaid, rhag iddynt golli eu bywydau. A bu na wnaent, neu na wnai y rhan fwyaf o honynt, ufyddhau i orchymynion y brenin.
Ac yn awr, darfu i’r brenin ddiglloni, o herwydd eu hanufydd-dod; am hyny, efe a roddodd i Amalickiah lywyddiaeth y rhan hono o’i fyddin ag oedd yn ufydd i’w orchymynion, ac a archodd iddo fyned allan a’u gorfodi i gymmeryd arfau. Yn awr, wele, hyn oedd dymuniad Amalickiah: canys, gan ei fod yn ddyn cyfrwys i wneuthur drygioni, efe a gynllwyniodd yn ei galon i ddiorseddu brenin y Lamaniaid. Ac yn awr, yr oedd efe wedi cael llywyddiaeth y rhai hyny o’r Lamaniaid ag oeddynt yn ffafr y brenin; ac efe a geisiodd ennill ffafr gan y rhai nad oeddynt yn ufydd; gan hyny, efe a aeth yn mlaen i’r lle a elwid Onidah, canys yno yr oedd yr holl Lamaniaid wedi ffoi; canys hwy a welsant y fyddin yn dyfod, a chan feddwl eu bod yn dyfod i’w dinystrio, hwy a ffoisant i Onidah, i’r arf-le. Ac yr oeddynt wedi penodi dyn i fod yn frenin a blaenor arnynt, ac wedi gwneyd penderfyniad diysgog yn eu meddyliau, na chymmerent eu darostwng i fyned yn erbyn y Nephiaid.
A dygwyddodd eu bod wedi ymgasglu ynghyd ar ben y mynydd, yr hwn a elwid Antipas, mewn parotoad i ryfel. Yn awr, nid bwriad Amalickiah oedd ymladd â hwynt, yn ol gorchymynion y brenin; eithr, wele, ei fwriad ef oedd ennill ffafr byddinoedd y Lamaniaid, fel y gallai osod ei hun yn ben arnynt, a diorseddu y brenin, a chymmeryd meddiant o’r deyrnas. Ac wele, darfu iddo achosi i’w fyddin godi eu pebyll yn y dyffryn ag oedd yn agos i fynydd Antipas. A bu pan aeth yn nos, iddo ddanfon dirgel genadwri i fynydd Antipas, i erfyn ar flaenor y rhai ag oeddynt ar y mynydd, enw yr hwn oedd Lehonti, i ddyfod i waered i odreu y mynydd, o herwydd ei fod ef yn chwennych ymddyddan ag ef.
A bu pan dderbyniodd lehonti y genadwri, na feiddiai fyned i waered i odreu y mynydd. A bu i Amalickiah ddanfon drachefn yr ail waith, i ddymuno arno ddyfod i waered. A bu i Lehonti ballu: ac efe a ddanfonodd drachefn y drydedd waith. A bu pan welodd Amalickiah nas gallai gael gan Lehonti i ddyfod i waered o’r mynydd, iddo ef fyned i fyny i’r mynydd, yn agos i wersyll Lehonti; ac efe a ddanfonodd drachefn y bedwaredd waith, ei genadwri at Lehonti, i ddymuno arno ddyfod i waered, ac am iddo ddwyn ei warchodlu gydag ef.
A dygwyddodd pan ddaeth Lehonti i waered gyda’i warchodlu at Amalickiah, i Amalickiah ddymuno arno ddyfod i waered â’i fyddin yn y nos, ac amgylchynu y gwyr hyny yn eu gwersyll, dros ba rai y rhoddodd y brenin awdurdod iddo ef, ac y traddodai yntau hwynt i ddwylaw Lehonti, os byddai iddo ei wneyd ef (Amalickiah) yn ail-flaenor ar yr holl fyddin.
A bu i Lehonti ddyfod i waered â’i wyr, ac amgylchynu gwyr Amalickiah; felly yr oeddynt cyn deffroi ar doriad y dydd, wedi eu hamgylchynu gan fyddinoedd Lehonti. A bu pan welsant eu bod wedi eu hamgylchynu, iddynt ymbil ag Amalickiah i’w goddef i ymuno â’u brodyr, fel na ddyfethid hwynt. Yn awr, dyma y peth ag oedd Amalickiah yn ddymuno.
A bu iddo ef roi ei wyr i fyny, yn groes i orchymynion y brenin. Yn awr, hyn oedd y peth ag a ddymunai Amalickiah, fel y gallai gyflawni ei fwriadau i ddiorseddu y brenin. Yn awr, yr oedd yn arferiad yn mhlith y Lamaniaid, pan leddid eu prif flaenor, i benodi yr ail flaenor i fod iddynt yn brif flaenor.
A bu i Amalickiah beri i uno o’i weision roi gwenwyn yn raddol i Lehonti, fel y bu farw. Yn awr, wedi i Lehonti farw, y Lamaniaid a benodasant Amalickiah yn flaenor ac yn brif lywydd iddynt. A darfu i Amalickiah gychwyn â’i fyddinoedd (canys ur oedd wedi cael ei ddymuniadau) i dir Nephi, i ddinas Nephi, yr hon oedd y brif ddinas. A’r brenin a ddaeth allan i’w gyfarfod ef, gyda’i warchodiu; canys meddyliai fod Amalickiah wedi cyflawni ei orchymynion, a bod Amalickiah wedi casglu ynghyd fyddin mor fawr, er myned yn erbyn y Nephiaid i ryfel. Ond wele, fel yr oedd y brenin yn dyfod allan i’w gyfarfod ef, perodd Amalickiah i’w weision fyned i gyfarfod y brenin. A hwy a aethant ac a ymgrymasant gerbron y brenin, fel o barch iddo, o herwydd ei fawredd. A bu i’r brenin estyn allan ei law i’w codi hwynt, fel yr oedd yn arferiad gyda’r Lamaniaid, fel arwydd o heddwch, yr hwn arferiad a gymmerasant oddiwrth y Nephiaid. A dygwyddodd pan oedd wedi cyfodi y cyntaf o’r llawr, wele, efe a drywanodd y brenin i’w galon; ac efe a syrthiodd i’r ddaear. Yn awr, gweision y brenin a ffoisant; a gweision Amalickiah a godasant lef, gan ddywedyd, Wele, gweision y brenin a’i trywanasant ef i’w galon, ac y mae wedi syrthio, a hwythau wedi ffoi; wele, deuwch a gwelwch.
A bu i Amalickiah orchymyn i’w fyddinoedd gychwyn yn mlaen, ac edrych pa beth oedd wedi dygwydd i’r brenin; ac wedi iddynt ddyfod i’r man, a chael y brenin yn gorwedd yn ei waed, Amalickiah a ffygiodd fod yn ddigllawn, ac a ddywedodd, Pwy bynag oedd yn caru y brenin, bydded iddo fyned ac ymlid ei weision, fel y lladder hwynt.
A bu i’r holl rai a garent y brenin, pan glywsant y geiriau hyn, fyned ac ymlid ar ol gweision y brenin. Yn awr, pan welodd gweision y brenin fyddin yn eu hymlid hwynt, hwy a ddychrynwyd drachefn, ac a ffoisant i’r anialwch, ac a ddaethant drosodd i dir Zarahemla, ac a ymunasant â phobl Ammon; a’r fyddin a’u hymlidiodd hwynt, a ddychwelodd, ar ol eu hymlid hwynt yn ofer: ac felly Amalickiah, trwy ei ddichell, a ennillodd galonau y bobl.
A bu dranoeth, iddo fyned i mewn i ddinas Nephi, â’i fyddinoedd, a meddiannu y ddinas. Ac yn awr, dygwyddodd i’r frenines, ar ol iddi glywed fod y brenin wedi ei ladd: canys yr oedd Amalickiah wedi danfon cenadwri at y frenines, i’w hysbysu fod y brenin wedi ei ladd gan ei weision; ei fod ef wedi eu hymlid hwynt â’i fyddin, eithr yn ofer, a’u bod hwy wedi dianc; am hyny, pan dderbyniodd y frenines y genadwri hon, hi a ddanfonodd at Amalickiah, i ddymuno arno arbed pobl y ddinas; a hi a ddymunodd arno hefyd i ddyfod i mewn ati hi; a hi a ddymunodd arno hefyd i ddwyn tystion gydag ef, i dystiolaethu ynghylch marwolaeth y brenin.
A bu i Amalickiah gymmeryd yr un gwas ag a laddodd y brenin, a’r holl rai ag oedd gydag ef, a myned i mewn at y grenines, i’r lle yr eisteddai; a hwy a dystiasant oll wrthi i’r brenin gael ei ladd gan ei weision ei hun; a hwy a ddywedasant hefyd, Hwy a ffoisant; ai nid yw hyn yn tystiolaethu yn eu herbyn hwynt? A hwy a foddlonasant y frenines ynghylch marwolaeth y brenin.
A bu i Amalickiah geisio ffafr y frenines, a’i chymmeryd ato ei hun yn wraig; ac felly, trwy ei ddichell, a thrwy gynnorthwy ei weision cyfrwys, efe a ennillodd y deyrnas; ïe, cydnabyddwyd ef yn frenin trwy yr holl dir, yn mhlith holl bobl y Lamaniaid, y rhai a gynnwysent y Lamaniaid, a’r Lemueliaid, a’r Ishmaeliaid, a holl ymneillduwyr y Nephiaid, o deyrnasiad Nephi i lawr hyd yr amser presennol. Yn awr, yr oedd yr ymneillduwyr hyn wedi cael yr un addysg a’r un hyfforddiad â’r Nephiaid; ïe, wedi ei haddysgu yn yr un wybodaeth am yr Arglwydd; er hyny, y mae yn syn i adrodd, heb fod yn hir ar ol eu hymraniadau, hwy a aethant yn galetach, a mwy anedifeiriol, a gwyllt, drygionus, a chreulawn, nâ’r Lamaniaid; gan ddrachtio i mewn o draddodiadau y Lamaniaid, ac ymollwng i se guryd, a phob math o drythyllwch; ïe, gan gwbl anghofio yr A rglwydd eu Duw.
Ac yn awr, dygwyddodd, mor fuan ag y cafodd Amalickiah y deyrnas, iddo ef ddechreu cyffroi calonau y Lamaniaid yn erbyn pobl Nephi; ïe, efe a benododd ddynion i lefaru wrth y Lamaniaid o’u tyrau, yn erbyn y Nephiaid; ac felly y cynhyrfodd efe eu calonau yn erbyn y Nephiaid, nes tua diwedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad y barnwyr, gan ei fod ef wedi cyflawni ei fwriadau can belled; ïe, wedi cael ei wneuthur yn frenin ar y Lamaniaid, efe a geisiodd hefyd deyrnasu dros yr holl dir; ïe, a’r holl bobl ag oedd yn y tir, y Nephiaid yn gystal â’r Lamaniaid; am hyny, yr oedd efe wedi cyflawni ei fwriad, canys yr oedd wedi caledu calonau y Lamaniaid, a dallu eu meddyliau, a’u cyffroi hwynt i ddigofaint, yn gymmaint ag iddo gasglu ynghyd lu mawr, er myned i ryfel yn erbyn y Nephiaid. Canys yr oedd efe yn benderfynol, o herwydd lliosogrwydd rhifedi ei bobl, i orchfygu y Nephiaid, a’u dwyn i gaethiwed; ac felly efe a benododd ben-cadbeniaid o’r Zoramiaid, gan mai hwy oedd fwyaf hysbys o gryfdwr y Nephiaid, a’u hymgyrch-fanau, a’r rhanau gwanaf o’u dinasoedd; am hyny, efe a’u penododd hwynt i fod yn ben-cadbeniaid ar ei fyddinoedd.
A bu iddynt gymmeryd eu gwersyll, a symud yn mlaen tua thir Zarahemla, yn yr anialwch. Yn awr, dygwyddodd tra y bu Amalickiah felly yn ennill gallu trwy ddichell a thwyll, bu Moroni, ar y llaw arall, yn parotoi meddyliau y bobl i fod yn ffyddlawn i’r Arglwydd eu Duw; ïe, bu yn cyfnerthu byddinoedd y Nephiaid, ac yn cyfodi amgarerau bychain, neu ymghyrchfanau; gan daflu i fyny gloddiau o bridd o amgylch, i amgau ei fyddinoedd, ac hefyd yn adeiladu muriau ceryg i’w hamgylchynu hwynt, o amgylch ogylch eu dinasoedd, a cyffiniau eu tiroedd; ïe, yn gwbl o amgylch ogylch y tir: ac yn eu hamgaerau gwanaf y gosododd efe y nifer fwyaf o wyr; ac felly yr amgaerodd ac y cadarnhaodd efe y tir yr hwn a feddiannid gan y Nephiaid. Ac felly yr oedd yn parotoi i amddiffyn eu rhyddid, eu tiroedd, eu gwragedd, a’u plant, a’u heddwch, ac fel y gallent fyw i’r Arglwydd eu Duw, ac fel y gallent amddiffyn yr hyn a elwid gan eu gelynion yn achos y Cristionogion. Ac yr oedd Moroni yn ddyn cryf a galluog; yr oedd yn ddyn o berffaith ddealltwriaeth; ïe, yn ddyn nad oedd yn ymhyfrydu mewn tywallt gwaed; dyn ag oedd â’i enaid yn gorfoleddu yn rhyddid ei wlad, ac yn rhyddhad ei frodyr oddiwrth gaethiwed a chaethwasanaeth; ïe, dyn ag oedd â’i galon yn llawn diolchgarwch i’w Dduw, am yr aml freintiau a bendithion a gyfranodd i’w bobl; dyn ag a lafuriodd yn fawr er llwyddiant a diogelwch ei bobl; ïe, a dyn oedd ag a fu yn gadarn yn ffydd Crist, ac a dyngodd lw i amddiffyn ei bobl, ei iawnderau, a’i wlad, a’i grefydd, hyd at golli ei waed. Yn awr, dysgid y Nephiaid i amddiffyn eu hunain yn erbyn eu gelynion, hyd at dywallt gwaed, os byddai anghenrheidrwydd; ïe, a dysgid hwynt hefyd i beidio byth rhoi tramgwydd; ïe, i beidio byth cyfodi y cleddyf, oddieithr yn erbyn gelyn, oddieithr er diogelu eu bywydau: ac hyn oedd eu ffydd, mai wrth wneuthur felly, y llwyddai Duw hwynt yn y tir; neu mewn geiriau ereill, os byddent yn ffyddlawn i gadw gorchymynion Duw, y gwnai efe eu llwyddo hwynt yn y tir; ïe, eu rhybyddio i ffoi, neu ymbarotoi i ryfel, yn ol eu perygl; ac hefyd, yr hysbysai Duw iddynt, i ba le yr elent i amddiffyn eu hunain yn erbyn eu gelynion: a thrwy wneuthur felly, y gwaredai yr Arglwydd hwynt; a hyn oedd ffydd Moroni; ac yr oedd ei galon yn ymorfoleddu ynddi; nid mewn tywallt gwaed, eithr mewn gwneuthur daioni, mewn diogelu ei bobl; ïe, mewn cadw gorchymynion Duw; ïe, a gwrthwynebu anwiredd. Ië, yn wir, yn wir, meddaf i chwi, pe buasai pob dyn wedi bod, ac yn bod, ac yn bod byth, yn gyffelyb i Moroni, wele, buasai nerthoedd uffern wedi eu hysgwyd yn dragywydd; ïe, ni chawsai y diafol awdurdod ar galonau plant dynion. Wele, yr oedd efe yn ddyn cyffelyb i Ammon, mab Mosiah, ïe, ac hyd y nod meibion ereill Mosiah; ïe, ac hefyd Alma a’i feibion, canys yr oeddynt oll yn wyr Duw. Yn awr, wele, nid oedd Helaman a’i frodyr yn llai gwasanaethgar i’r bobl, nag oedd Moroni; canys hwy a bregethasant air Duw, ac a fedyddiasant er edifeirwch bob dyn a wrandawai ar eu geiriau. Ac felly yr aethant allan, a’r bobl a ymostyngasant o herwydd eu geiriau, nes y cawsant ffafr gan yr Arglwydd; ac felly yr oeddynt yn rhydd oddiwrth ryfeloedd ac amrafaelion yn mhlith en hunain; ïe, sef am yspaid pedair blynedd. Eithr megys y dywedais, tua diwedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg; ïe, er eu heddwch yn mhlith eu hunain, hwy a orfodwyd yn anewyllysgar i ymladd â’r brodyr, y Lamaniaid; ïe, ac yn fyr, ni pheidiodd eu rhyfeloedd â’r Lamaniaid, am yspaid llawer o flynyddau, er eu mawr anewyllysgarwch. Yn awr, yr oedd yn flin ganddynt i gymmeryd arfau yn erbyn y Lamaniaid, o herwydd nad oeddynt yn ymhyfrydu mewn tywallt gwaed; ïe, ac nid hyn oedd y cyfan; yr oedd yn flin ganddynt i fod yn foddion i ddanfon cynnifer o’u brodyr allan o’r byd hwn i fyd tragywyddol, yn anmharod i gyfarfod â’u Dnw; er hyny, ni allent oddef rhoi eu bywydau i lawr, fel y byddai i’w gwragedd a’u plant gael eu cigyddio trwy grenlondeb barbaraidd y rhai a fu yn frodyr iddynt unwaith, ïe, ac wedi ymneillduo o’u heglwys, ac wedi eu gadael hwynt, ac wedi myned i’w dinystrio hwynt, trwy ymuno â’r Lamaniaid; ïe, nis gallent oddef i’w brodyr orfoleddu dros waed y Nephiaid, cyhyd ag y buasai rhywrai yn cadw gorchymynion Duw, canys addewid yr Arglwydd oedd, os cadwent ei orchymynion, y llwyddent yn y tir.
Ac yn awr, dygwyddodd yn yr unfed mis ar ddeg o’r bedwaredd flwyddyn ar bymtheg, i fyddinoedd y Lamaniaid gael eu gweled yn neshau tua thir Ammonihah. Ac wele, yr oedd y ddinas wedi ei hail-adeiladu, a Moroni wedi lleoli byddin ar gyffiniau y ddinas, ac yr oeddynt wedi taflu pridd i fyny o amgylch ogylch, i’w hamdiffyn hwynt rhag saethau a cheryg y Lamaniaid; canys, wele, ymladdent a cheryg, ac a saethau. Wele, mi a ddywedais fod dinas Ammonihah wedi ei hail-adeiladu. Yr wyf yn dywedyd wrthych, ïe, ei bod mewn rhan wedi ei hail-adeildu; ac o herwydd fod y Lamaniaid wedi ei dinystrio unwaith oblegid anwiredd y bobl, tybient y gallai ddyfod drachefn yn ysglyfaeth rwydd iddynt. Eithr, wele, mor fawr oedd eu siomedigaeth; canys, wele, yr oedd y Nephiaid wedi cloddio i fyny glawdd mawr pridd oddiamgylch iddynt, yr hwn oedd mor uchel fel nas gallai y Lamaniaid daflu eu ceryg a’u saethau atynt, fel ag i gymmeryd effaith, ac nis gallent ddyfod arnynt ychwaith, oddieithr trwy eu mynedfa. Yn awr, ar yr amser hwn, yr oedd pen-cadbeniaid y Lamaniaid yn rhyfeddu yn fawr, o herwydd doethineb y Nephiaid yn parotoi eu lleoedd o ddiogelwch. Yn awr, meddyliai blaenoriaid y Lamaniaid, o herwydd lliosogrwydd eu rhifedi; ïe, meddylient y caent y fraint o ddyfod arnynt megys y daethant o’r blaen; ïe, ac yr oeddynt hefyd wedi parotoi eu hunain â tharianau, ac â dwyfronegau; ac yr oeddynt hefyd wedi parotoi eu hunain â dillad o grwyn; ïe, â dillad trwchus iawn, er cuddio eu noethni. A chan eu bod wedi ymbarotoi felly, meddylient y gorthrechent yn rhwydd ac y darostyngent eu brodyr dan iau caethiwed, neu eu lladd a’u cigyddio yn ol eu hewyllys. Eithr, wele, er eu dirfawr syndod, yr oeddynt hwy wedi parotoi ar eu cyfer, mewn modd na fu erioed yn hysbys yn mhlith plant Lehi. Yn awr, yr oeddynt hwy yn barod at y Lamaniaid, i ryfela, yn ol cyfarwyddiadau Moroni. A dygwyddodd fod y Lamaniaid, neu yr Amalickiahaid, yn rhyfeddu yn fawr oblegid eu dull o barotoi i ryfel. Yn awr, pe buasai y brenin Amalickiah wedi dyfod i waered o dir Nephi, o flaen ei fyddin, dichon yr achosai i’r Lamaniaid ymosod ar y Nephiaid yn ninas Ammonihah; canys, wele, nid oedd ef yn prisio dim am waed ei bobl. Ond, wele, ni ddaeth Amalickiah i waered ei hun, i ryfel. Ac wele, ni feiddiai ei ben-cadbeniaid ef ymosod ar y Nephiaid yn ninas Ammonihah, canys yr oedd Moroni wedi cyfnewid trefn pethau yn mhlith y Nephiaid, yn gymmaint ag i’r Lamaniaid gael eu siomi o berthynas i’w lleoedd o ddiogelwch, ac nis gallent ddyfod arnynt; am hyny, hwy a giliasant i’r anialwch, ac a gymmerasant eu gwersyll, ac a gychwynasant tua thir Noah, gan dybiee mai hwnw oedd y lle goreu nesaf iddynt ddyfod yn erbyn y Nephiaid; canys ni wyddent fod Moroni wedi amgaeru, neu wedi adeiladu amddiffynfeydd o ddiogelwch i bob dinas yn yr holl dir o amgylch ogylch; am hyny, hwy a gychwynasant yn mlaen i dir Noah, gyda phenderfyniaid diysgog; ïe, eu pen-cadbeniaid a ddaethant yn mlaen, ac a wnaethant lw y dinystrient bobl y ddinas hono. Eithr wele, er eu syndod, yr oedd dinas Noah, yr hon a fu o’r blaen, yn le egwan, wedi dyfod yn awr, trwy offeryngarwch Moroni, yn gadarn; ïe, yn rhagori ar gadernid dinas Ammonihah. Ac yn awr, wele, yr oedd hyn yn ddoethineb yn Moroni: canys efe a feddyliodd y cawsent eu dychrynu wrth ddinas Ammonihah; a chan mai dinas Noah hyd yma oedd wedi bod y rhan wanaf o’r tir, hwy a gychwynent yno i ryfel; ac felly y bu, yn ol ei ddymuniadau. Ac wele, Moroni a benododd Lehi i fod yn ben-cadben ar y gwyr yn y ddinas hono; a’r Lehi hwnw oedd ag a fu yn ymladd â’r Lamaniaid yn y dyffryn, ar y tu dwyreiniol i afon Sidon.
Ac yn awr, wele, dygwyddodd, pan gafodd y Lamaniaid fod Lehi yn llywodraethu y ddinas, iddynt gael eu siomi drachefn, canys yr oeddynt yn ofni Lehi yn fawr; er hyny, yr oedd eu pen-cadbeniaid wedi tyngu llw, i ymosod ar y ddinas; am hyny, hwy a ddygasant i fyny eu byddinoedd. Yn awr, wele, nis gellai y Lamaniaid fyned i’w hamddiffynfeydd o ddiogelwch, trwy un ffordd arall ond trwy y fynedfa, o herwydd uchder y clawdd ag oedd wedi ei daflu i fyny, a dyfndeer y ffos ag oedd wedi ei chloddio oddiamgylch, oddieithr trwy y fynedfa. Ac felly yr oedd y Nephiaid yn barod i ddyfetha pawb a gynnygient ddringo er myned i mewn i’r amddiffynfa unrhyw ffordd arall, trwy daflu ceryg a saethau atynt. Felly yr oeddynt wedi ymbarotoi, ïe, llu o’u gwyr cadarnaf, â’u cleddyfau, a’u ffyn-tafl, i daraw i lawr bawb a gynnygient ddyfod i’w lle o ddiogelwch, trwy y fynedfa; ac felly yr oeddynt wedi parotoi i amddiffyn eu hunain rhag y Lamaniaid. A bu i gadbeniaid y Lamaniaid ddwyn i fyny eu byddinoedd o flaen y fynedfa, a dechreu ymladd â’r Nephiaid, er myned i’w lle o ddiogelwch; eithr, wele, gyrwyd hwynt yn ol o bryd i bryd, hyd nes iddynt gael eu lladd â lladdfa fawr. Yn awr, pan gawsant allan nad allent orthrechu y Nephiaid wrth y fynedfa, hwy a ddechreuasant dynu i lawr eu cloddiau pridd, fel y gallent gael mynedfa at eu byddinoedd, fel y caent yr un chwarae teg i ymladd; eithr wele, yn y cynnygion hyn, hwy a ysgubwyd ymaith gan y ceryg a’r saethau a deflid atynt; ac yn lle llanw i fyny eu ffosydd trwy dynu i lawr eu cloddiau pridd, llenwid hwynt i raddau gan eu meirw a’u cyrff clwyfedig hwy. Felly yr oedd gan y Nephiaid bob gallu ar eu gelynion; ac felly y cynnygiodd y Lamaniaid i ddinystrio y Nephiaid, nes i’w holl ben-cadbeniaid gael eu lladd; ïe, a chafodd mwy nâ mil o’r Lamaniaid eu lladd; tra ar y llaw arall, nad oedd un enaid o’r Nephiaid wedi ei ladd. Yr oedd oddeutu deg a deugain wedi eu clwyfo, y rhai a fuont yn agored i saethau y Lamaniaid trwy y fynedfa, eithr yr oeddynt yn cael eu cadw gan eu tarianau, a’u dwyfronegau, a’u helmau, hyd nes mai ar eu coesau yr oedd eu clwyfau, llawer o ba rai oeddynt yn ddolurus iawn.
A bu, pan welodd y Lamaniaid fod eu pen-gadbeniaid oll wedi eu lladd, hwy a ffoisant i’r anialwch. A bu iddynt ddychwelyd i dir Nephi, i hysbysu eu brenin, Amalickiah, yr hwn oedd yn Nephiad o enedigaeth, am eu mawr golled. A dygwyddodd iddo ef fod yn dra digllawn wrth ei bobl, oblegid nad oedd wedi cael ei ddymuniad ar y Nephiaid—nad oedd wedi eu darostwng hwynt dan iau caethiwed; ïe, yr oedd yn dra digllawn, ac efe a felldithiodd Dduw, a Moroni hefyd, ac a dyngodd lw yr yfai ei waed ef; a hyn o herwydd i Moroni gadw gorchymynion Duw, trwy barotoi er diogelwch ei bobl. A bu, ar y llaw arall, i bobl Nephi ddiolch i’r Arglwydd eu Duw, o herwydd ei allu digyffelyb yn eu gwaredu hwynt o ddwylaw eu gelynion. Ac felly y terfynodd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi: ïe, ac yr oedd heddwch gwastadol yn eu plith, a llwyddiant mawr iawn yn yr eglwys, o herwydd yr ystyriaeth a’r dyfalwch a roddasant i air Duw, yr hwn a draethwyd iddynt gan Helaman, a Shiblon, a Corianton, ac Ammon, a’i frodyr, &c.: ïe, a chan yr holl rai a ordeiniwyd trwy urdd santaidd Duw, gan fod wedi eu bedyddio i edifeirwch, a’u danfon allan i bretethu yn mhlith y bobl, &c.