Pennod ⅩⅩⅦ.
Yn awr, dygwyddodd yn y ddegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, ar ol i Moroni dderbyn a darllen epistol Helaman, iddo lawenhau yn fawr oblegid y ffyniant, ïe, y llwyddiant mawr, a gafodd Helaman, wrth ennill y tiroedd hyny a gollwyd; ïe, ac efe a’i hysbysodd i’w holl bobl, yn yr holl dir oddiamgylch yn y parth hwnw lle yr oedd efe, fel y gallai ei bobl lawenhau hefyd.
A bu iddo ef yn uniongyrchol ddanfon epistol at Pahoran, i ddymuno arno beri casglu gwyr ynghyd i nerthu Helaman, neu fyddinoedd Helaman, fel y gallai gadw yn rhwydd y rhan hono o’ir tir y llwyddwyd ef mor wyrthiol i’w hadgymmeryd. A bu wedi i Moroni ddanfon yr epistol hwn i dir Zarahemla, iddo ddechreu drachefn osod cynllun fel yr ennillai y gweddill o’r tiroedd a’r dinasoedd hyny a gymmerodd y Lamaniaid oddiwrthynt.
A dygwyddodd tra yr oedd Moroni yn ymbarotoi i fyned yn erbyn y Lamaniaid i ryfel, wele, i bobl Nephihah, y rhai oeddynt wedi ymgynnull ynghyd o ddinas Moroni, a dinas Lehi, a dinas Morianton, dderbyn ymosodiad oddiwrth y Lamaniaid; ïe, yr oedd y rhai hyny a orfodwyd i ffoi o dir Manti, ac o’r wlad oddiamgylch, wedi dyfod drosodd ac ymuno â’r Lamaniaid yn y rhan hon o’r tir; ac felly trwy fod yn dra lliosog, ïe, a derbyn nerth o ddydd i ddydd, trwy orchymyn Ammoron, daethant allan yn erbyn pobl Nephihah, a dechreuasant eu lladd hwynt â lladdfa fawr iawn. Ac yr oedd eu byddinoedd mor lliosog, fel y gorfu i weddill pobl Nephihah ffoi o’u blaen hwynt; a hwy a ddaethant drosodd ac a ymunasant â byddin Moroni. Ac yn awr, gan fod Moroni wedi meddwl y danfonid gwyr i ddinas Nephihah, i gynnorthwyo y bobl i gadw y ddinas hono, a chan wybod fod yn haws cadw y ddinas rhag syrthio i ddwylaw y Lamaniaid nâ’i hadgymmeryd oddiwrthynt, efe a feddyliodd y cadwent hwy y ddinas hono yn rhwydd; am hyny, efe a gadwodd ei holl alluoedd i gadw y lleoedd hyny ag oedd wedi ad-ennill.
Ac yn awr, pan welodd Moroni fod dinas Nephihah wedi ei cholli, efe a dristaodd yn fawr, ac a ddechreuodd ammau, o herwydd drygioni y bobl, y buasent yn syrthio i ddwylaw eu brodyr. Yn awr, fel hyn yr oedd gyda’i holl ben-cadbeniaid. Hwythau a ammheuent ac a ryfeddent hefyd, o herwydd drygioni y bobl; a hyn o herwydd llwyddiant y Lamaniaid arnynt. A bu i Moroni fod yn ddigllawn wrth y llywodraeth, o herwydd eu diiofalwch ynghylch rhyddid eu gwlad.
A bu iddo ef ysgrifenu drachefn at lywodraethwr y tir, yr hwn oedd Pahoran, a’r rhai hyn yw y geiriau a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Wele, yr wyf yn cyfeirio fy epistol at Pahoran, yn ninas Zarahemla, yr hwn yw y prif farnwr a’r llywodraethwr ar y tir, ac hefyd at yr holl rai a ddewiswyd gan y bobl hyn i lywodraethu a threfnu ahcosion y rhyfel hwn; canys wele, y mae genyf rywbeth i ddywedyd wrthynt, mewn ffordd o gondemniad; canys wele, chwi a wyddoch eich hunain i chwi gael eich penodi i gasglu gwyr yngnyd, a’u harfogi â chleddyfau, ac â chrymgleddyfau, ac â phob math o arfau rhyfel, o bob dull, a’u danfon allan yn erbyn y Lamaniaid, yn mha gwr bynag y deuent i’n tir. Ac yn awr, wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, fy mod i fy hun, a’m gwyr hefyd, ac hefyd Helaman a’i wyr, wedi dyoddef dyoddefiadau mawrion iawn; ïe, sef newyn, syched, a lludded, a phob math o gystuddiau. Eithr wele, pe hyn fuasai y cyfan a ddyoddefasom, ni rwgnachem nac achwyn; eithr wele, mawr fu y lladdfa yn mysg ein pobl; ïe, y mae miloedd wedi syrthio trwy y cleddyf, tra y gallasai fod fel arall, pe rhoddasech chwi i’n byddinoedd ddigon o nerth a chymhorth. Ië, mawr fu eich esgeulusdod tuag atom. Ac yn awr, wele, dymunwn wybod yar achos o’r esgeulusdod mawr hwn; ïe, dymunwn wybod yr achos o’ch cyflwr anystyriol. A ellwch chwi feddwl eistedd ar eich gorseddau mewn cyflwr o hurtrwydd anystyriol, tra y mae eich gelynion yn taenu gwaith marwolaeth o’ch hamgylch? Ië, tra y maent yn llofruddio miloedd o’ch brodyr; ïe, sef y rhai a edrychasant i fyny atoch chwi am amddiffyniad, ïe, ac a’ch gosodasant chwi mewn sefyllfa fel y gallech eu noddi hwynt; ïe, gallasech chwi fod wedi danfon byddinoedd atynt, i’w nerthu, ac achub miloedd o honynt rhag syrthio trwy y cleddyf. Eithr wele, nid hyn yw’r cyfan; chwi a gadwasoch eich lluniaeth oddiwrthynt, yn gymmaint ag i lawer ymladd a gwaedu allan eu bywydau, o herwydd eu mawr ddymuniadau dros lwyddiant y bobl hyn; ïe, a gwnaethant hyn pan yr oeddynt yn nghylch trengu o newyn, o herwydd eich esgeulusdod mawr chwi tuag atynt. Ac yn awr, fy ngharuaidd frodyr, canys chwi a ddylech gael eich caru; ïe, a chwi a ddylech gyffroi eich hunain i fwy o ddiwydrwydd dros lwyddiant a rhyddid y bobl hyn; eithr, wele, darfu i chwi eu hesgeuluso, yn gymmaint ag y bydd i waed miloedd ddyfod ar eich penau chwi i ymddial; ïe, canys hysbys i Dduw oedd eu holl riddfanau, a’u holl ddyoddefiadau. Wele, a allech chwi dybied y gallech eistedd ar eich gorseddau, ac o herwydd mawr ddaioni Duw na allech chwi wneuthur dim, ac y gwaredai efe chwi? Wele, os tybiasoch hyn, chwi a dybiasoch yn ofer:—a ydych chwi yn tybied hyna, o herwydd fod cynnifer o’ch brodyr wedi eu lladd oblegid eu drygioni? Yr wyf yn dywedyd wrthych, os tybiasoch hyn, chwi a dybiasoch yn ofer: canys, meddaf wrthych, y mae llaweroedd wedi syrthio trwy y cleddyf; ac wele, y mae er eich condemniad chwi; canys y mae yr Arglwydd yn goddef i’r cyfiawn gael eu lladd, fel y delo ei gyfiawnder a’i farnedigaeth ar y drygionus; am hyny, nid oes anghen i chwi feddwl fod y cyfiawn yn golledig, o herwydd eu bod yn cael eu lladd; eithr wele, y maent hwy yn myned i mewn i orphwysfa yr Arglwydd eu Duw. Ac yn awr, wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, ofnwyf yn fawr y daw barnedigaethau Duw ar y bobl hyn, o herwydd eu mawr ddiogi; ïe, sef diogi ein llywodraeth, a’u difaterwch mawr tuag at eu brodyr, ïe, tuag at y rhai a laddwyd: canys oni bai y drygioni a ddechreuodd yn gyntaf yn ein pen, gallem fod wedi gwrthsefyll ein gelynion, fel nad allent gael un awdurdod drosom; ïe, oni bai y rhyfel a dorodd allan yn mysg ein hunain; ïe, oni bai y rhyfel a dorodd allan yn mysg ein hunain; ïe, oni bai y breninwyr hyny, y rhai a achosent gymmaint o dywallt gwaed yn ein plith ein hunain; ïe, yn yr amser yr oeddem yn amryson yn ein plith ein hunain, pe buasem wedi uno ein nerth megys y gwnaethem hyd hyny; ïe, oni bai yr awydd am allu ac awdurdod a feddai y breninwyr hyny arnom; pe buasent yn ffyddlawn dros achos ein rhyddid, ac ymuno â ni, a myned allan yn erbyn ein gelynion, yn lle cymmeryd eu cleddyfau yn ein herbyn ni, yr hyn a fu yn achos o gymmaint tywallt gwaed yn ein plith ein hunain; ïe, pe buasem wedi myned allan yn eu herbyn hwynt yn nerth yr Arglwydd, buasem wedi gwasgaru ein gelynion; canys cawsai ei wneuthur yn ol cyflawniad ei air ef. Eithr, wele, yn awr, mae y Lamaniaid yn dyfod arnom, ac yn lladd ein pobl â’r cleddyf; ïe, ein gwragedd a’n plant; gan gymmeryd meddiant o’n tiroedd, ac hefyd eu dwyn hwythau ymaith yn gaeth, gan achosi iddynt ddyoddef pob math o gystuddiau; a hyn o herwydd drygioni mawr y rhai hyny a geisiant allu ac awdurdod; ïe, sef y breninwyr hyny. Eithr paham y dywedaf lawer ynghylch y mater hwn, canys nis gwyddom ni nad ydych chwi eich hunain yn ceisio awdurdod? Nis gwyddom ni nad ydych chwithau yn fradwyr i’ch gwlad? Neu, a ydych wedi ein hesgeuluso ni o herwydd eich bod chwi yn nghanol-bwynt ein gwlad, ac yn cael eich amgylchynu gan ddiogelwch, fel nad ydych yn peri i ymborth gael ei ddanfon i ni, a gwyr hefyd i nerthu ein byddinoedd? A ydych chwi wedi anghofio gorchymynion yr Arglwydd eich Duw? Ië, a ydych wedi anghofio caethwed eich tadau? A ydych wedi anghofio yr amryw weithiau gwaredwyd ni allan o ddwylaw ein gelynion? Neu, a ydych yn tybied y gwareda yr Arglwydd ni o hyd, tra yr eisteddwn ar ein gorseddau, ac heb ddefnyddio y moddion hyny a ddarparodd yr Arglwydd er ein mwyn? Ië, a eisteddwch chwi mewn segurdod, tra yr amgylchynir chwi gan filoedd, ïe, a degau o filoedd, o’r rhai hyny a eisteddant mewn segurdod hefyd, tra y mae miloedd oddiamgylch ar gyffiniau y tir yn syrthio trwy y cleddyf, ïe, yn archolledig a gwaedlyd? A ydych chwi yn tybied yr edrych Duw arnoch fel rhai dienog, tra yr eisteddwch yn llonydd a gweled y pethau hyn? Wele, meddaf wrthych, na wna. Yn awr, mi a ewyllysiwn i chwi gofio fod Duw wedi dywedyd, Y llestr tufewnol a lanheir yn gyntaf, ac yna y llestr allanol a lanheir hefyd. Ac yn awr, os nad ydych yn edifarhau am yr hyn â wnaethoch, a dechreu ymysgwyd, a danfon allan ymborth a gwyr i ni, ac hefyd i Helaman, fel yr amddiffyno efe y rhanau hyny o’n gwlad ag y mae wedi adgymmeryd, ac fel yr adferom ninnau hefyd y gweddill o’n etifeddiaethau yn y parthau hyn, wele, doethach fydd i ni beidio ymladd rhagor â’r Lamaniaid, hyd nes y byddom yn gyntaf wedi glanhau ein llestr tufewnol; ïe, sef pen mawr ein llywodraeth; ac oddieithrt i chwi ganiatâu i mi fy epistol, a dyfod allan a dangos i mi wir ysbryd rhyddid, ac ymdrechu nerthu a chadarnhau ein byddinoedd, a rhoddi ymborth iddynt er eu cynnahaeth, wele, mi a adawaf ran o’m rhyddid-wyr i gadw y cwr hwn o’n tir, ac a adawaf nerth a bendithion Duw arnynt, fel nas medro un gallu arall weithio yn eu herbyn; a hyn o herwydd eu mawr ffydd, a’u hamynedd yn eu trallodion; ac mi a ddeuaf atoch chwi, ac os bydd rhywrai yn eich plith yn chwennych rhyddid, ïe, os bydd hyd y nod gwreichionen o ryddid yn aros, wele, mi a gyffroaf derfysgoedd yn eich plith, hyd nes y difoder y rhai hyny a chwennychant draws-feddiannu gallu ac awdurdod; ïe, wele, nid wyf fi yn ofni eich gallu na’ch awdurdod, eithr fy Nuw yw yr hwn a ofnwyf, acyn ol ei orchymynion ef yr wyf yn cymmeryd fy nghleddyf i amddiffyn achos fy ngwlad, ac o herwydd eich drygioni chwi y dyoddefasom gymmaint o golled. Wele, y mae yn amser, ïe, mae yr amser yn awr wrth law, os na chyffrowch chwi eich hunain er amddiffyn eich gwlad, a’ch rhai bychain, i gleddyf cyfiawnder fod yn hongiedig uwch eich penau; ïe, ac efe a syrthia arnoch ac a ymwel â chwi er eich llwyr ddinystr. Wele, yr wyf fi yn dysgwyl am gynnorthwy oddiwrthych, ac, oddieithr i chwi weinyddu i’n cymhorth, wele, mi a ddeuaf atoch chwi, ïe, yn nhir Zarahemla, ac a’ch tarawaf â’r cleddyf, yn gymmaint ag nas gellwch gael rhagor o allu i rwystro ffyniant y bobl hyn yn achos ein rhyddid; canys, wele, ni oddefa yr Arglwydd i chwi fyw ac ymgryfhau yn eich anwireddau i ddinystrio ei bobl gyfiawn ef. Wele, a ellwch chwi dybied yr arbeda yr Arglwydd chwi, a dyfod allan mewn barn yn erbyn y Lamaniaid, pan mai traddodiad eu tadau hwy sydd wedi achoi eu casineb; ïe, ac y mae wedi ei ddyblu gan y rhai a ymneillduasant oddiwrthym ni; tra y mae eich anwiredd chwithau yn cael ei achosi trwy eich awydd am ogoniant, a gwag bethau y byd. Chwi a wyddoch eich bod yn troseddu cyfreithiau Duw, ac yr ydych yn gwybod eich bod yn eu sathru dan eich traed. Wele, dywed yr Arglwydd wrthyf, Os nad yw y rhai a benodasoch yn llywodraethwyr arnoch yn edifarhau am eu pechodau a’u hanwireddau, ti a gai fyned i frwydr yn eu herbyn hwynt. Ac yn awr, wele, yr wyf fi, Moroni, yn rhwymedig, yn ol y cyfammod a wnaethym i gadw gorchymynion fy Nuw; o ganlyniad, mi a ewyllysiwn i chwi lynu wrth air Duw, a danfon o’ch lluniaeth ac o’ch gwyr i mi ar frys, ac i Helaman hefyd. Ac wele, os na wnewch hyn, yr wyf yn dyfod atoch ar frys; canys, wele, ni oddefa Duw i ni farw o newyn; am hyny, efe a rydd i ni o’ch ymborth chwi, ïe, os bydd raid, trwy y cleddyf. Yn awr edrychwch ar gyflawni o honoch air Duw. Wele, myfi yw Moroni, eich pen-cadben. Nid wyf yn ymgeisio am awdurdod, eithr i’w ddarostwng. Nid wyf yn ymgeisio am anrhydedd y byd, eithr am ogoniant fy Nuw, a rhyddid a llwyddiant fy ngwlad. Ac felly yr wyf yn terfynu fy epistol.