Pennod ⅩⅩⅣ.
Ac yn awr, dygwyddodd yn y chwechfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi, wele, pan ddeffrodd y Lamaniaid ar foreu cyntaf y mis cyntaf, cawsent Amalickiah yn farw yn ei babell ei hun; ac hefyd gwelsant fod Teancum yn barod i roi brwydr iddynt y dydd hwnw. Ac yn awr, pan welodd y Lamaniaid hyn, hwy a frawychwyd; a hwy a roddasasant i fyny eu bwriad i fyned i’r tir gogleddol, ac a giliasant yn ol â’u holl fyddin i ddinas Mulek, ac a geisiasant ddiogelwch yn eu hamddiffynfeydd.—A bu i frawd Amalickiah gael ei benodi yn frenin ar y bobl; a’i enw oedd Ammoron: felly y brenin Ammoron, brawd y brenin Amalickiah, a benodwyd i deyrnasu yn ei le.
A bu iddo ef orchymyn i’w bobl gadw y dinasoedd hyny a gymmerwyd trwy dywallt gwaed; canys ni chymmerasant unrhyw ddinasoedd, heb iddynt golli gwaed lawer. Ac yn awr, gwelodd Teancum fod y Lamaniaid yn benderfynol i gadw y dinasoedd hyny a gymmerasant, a’r rhanau hyny o’r wlad a feddiannasant; ac hefyd, gan weled lliosogrwydd eu rhifedi, tybiodd Teancum nad oedd yn ddoethineb iddo gynnyg ymosod arnynt yn eu hamddiffynfeydd; eithr efe a gadwodd ei wyr oddiamgylch, fel pe yn ymbarotoi i ryfel; ïe, ac yn wir yr oedd yn parotoi i amddiffyn ei hun yn eu herbyn hwynt, trwy gyfedi muriau o amgylch ogylch, a pharotoi ymghrch-fanau.
A darfu iddo ef barhau felly i ymbarotoi i ryfel, hyd nes yr anfonodd Moroni nifer fawr o wyr i nerthu ei fyddin; ac anfonodd Moroni hefyd orchymyn iddo gadw yr holl garcharorion ag oedd wedi syrthio i’w ddwylaw; o herwydd, gan fod y Lamaniaid wedi cymmeryd llawer o garcharorion, am iddo gadw holl garcharorion y Lamaniaid, fel pridwerth dros y rhai hyny a gymmerodd y Lamaniaid. Ac efe a ddanfonodd orchymyn iddo hefyd, am iddo amgaeru tir Llawnder, a sicrhau y fynedfa gul a arweiniai i’r tir gogleddol, rhag i’r Lamaniaid ennill y pwynt hwnw, a chael gallu i’w haflonyddu hwynt ar bob ochr. A danfonodd Moroni ato hefyd, i ddymuno arno fod yn ffyddlawn i amddiffyn y cwr hwnw o’r tir, ac am iddo geisio pob cyfleusdra i flino y Lamaniaid yn y cwr hwnw, gymmant ag oedd yn ei allu, fel y gallai drachefn, efallai, trwy ystranc neu ryw ffordd arall, gymmeryd y dinasoedd hyny a gymmerwyd allan o’u dwylaw; ac hefyd, am iddo amddiffyn a chadarnhau y dinasoedd oddiamgylch, y rhai nad oeddynt wedi syrthio i ddwylaw y Lamaniaid. Ac efe a ddywedodd wrtho hefyd, Mi a ddeuwn atat, eithr wele, mae y Lamaniaid arnom ni yn nghyffiniaû y tir wrth y môr gorllewinol; ac wele, yr wyf fi yn myned yn eu herbyn hwynt, am hyny ni allaf ddyfod atat ti.
Yn awr, yr oedd y brenin (Ammoron) wedi myned allan o dir Zarahemla, ac wedi hysbysu i’r frenines am farwolaeth ei frawd, ac wedi casglu nifer fawr o wyr, a myned allan yn erbyn y Nephiaid, ar y cyffiniau wrth y môr gorllewinol; ac felly yr oedd efe yn ymdrechu aflonyddu y Nephiaid, ac i dynu ymaith ran o’u galluoedd i’r rhan hono o’r tir, tra yr oedd wedi gorchymyn y rhai a adawodd i feddiannu y dinasoedd a gymmerodd, am iddynt hwythau hefyd aflonyddu y Nephiaid ar y cyffiniau wrth y môr dwyreiniol; a meddiannu eu tiroedd gymmaint ag oedd yn eu gallu, yn ol gallu eu byddinoedd. Ac felly yr oedd y Nephiaid yn yr amgylchiadau peryglus hyny, yn niwedd y chwechfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.
Eithr, wele, dygwyddodd yn y seithfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr, fod Moroni, yr hwn a osododd fyddinoedd i amddiffyn cyffiniau deheuol a gorllewinol y tir, wedi dechreu ei daith tua thir Llawnder, fel y gallai gynnorthwyo Teancum a’i wyr, i adgymmeryd y dinasoedd a gollasant. A dygwyddodd fod Teancum wedi cael gorchymyn i wneuthur ymosodiad ar ddinas Mulek, a’i hadgymmeryd os byddai yn bosibl.
A bu i Teancum wneuthur parotoiadau i ymosod ar ddinas Mulek, a chychwyn allan â’i fyddin yn erbyn y Lamaniaid; eithr efe a welodd ei fod yn anmhosibl iddo eu gorchfygu tra yr oeddynt yn eu hamddiffynfeydd; am hyny, efe a roddodd ei fwriad i fyny, ac a ddychwelodd drachefn i ddinas Llawnder, i ddysgwyl am ddyfodiad Moroni, fel y derbyniai gyfnerthiad i’w fyddin.
A darfu i Moroni ddyfod â’i fyddin i dir Llawnder, yn niwedd y seithfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi. Ac yn nechreu yr wythfed flwyddyn ar hugain. Moroni a Teancum, ac amryw o’r pen-cadbeniaid, a gynnaliasant gynghor rhyfel, pa beth a wnaethent i achosi y Lamaniaid i ddyfod allan yn eu herbyn i ryfel; neu fel y gallent trwy ryw foddion, eu denu hwynt allan o’u hamddiffynfeydd, fel y gallent gael mantais arnynt ac adgymmeryd dinas Mulek.
A bu iddynt ddanfon cenadwri at fyddin y Lamaniaid, yr hon a amddiffynai ddinas Mulek, at eu blaenor, enw yr hwn oedd Jacob, i ddymuno arno ddyfod â’i fyddinoedd i’w cyfarfod hwynt ar y gwastadedd, rhwng y ddwy ddinas. Eithr, wele. Jacob, yr hwn oedd Zoramiad, ni ddeuai allan â’i fyddin i’w cyfarfod hwynt ar y gwastadedd.
A dygwyddodd i Moroni, gan na feddai obaith i’w cyfarfod hwynt ar dir teg, benderfynu ar gynllun, fel y gallai hudo y Lamaniaid allan o’u hamddiffynfeydd. Am hyny, perodd i Teancum gymmeryd yehydig nifer o wyr, a myned i waered yn agos i làn y môr; a Moroni a’i fyddin, yn y nos, a deithiasant yn yr anialwch, ar y tu gorllewinol i ddinas Mulek; ac felly, yn y boreu, pan ganfyddodd gwylwyr y Lamaniaid Teancum, rhedasant i fynegi wrth Jacob, eu blaenor.
A bu i fyddinoedd y Lamaniaid fyned allan yn erbyn Teancum, gan dybied wrth eu rhifedi hwy, y gallent orchfygu Teancum, o herwydd bychander ei rifedi. A phan welodd Teancum fod yddinoedd y Lamaniaid yn dyfod allan yn ei erbyn, efe a ddechreuodd gilio i waered wrth làn y môr yn ogleddol.
A bu pan welodd y Lamaniaid ei fod yn dechreu ffoi, iddynt ymwroli a’u hymlid yn egniol. A thra yr oedd Teancum felly yn arwain ymaith y Lamaniaid ag oedd yn eu hymlid hwynt yn ofer, wele, Moroni a orchymynodd i ran o’i fyddin ag oedd gydag ef, i fyned i’r ddinas, a’i meddiannu. Ac felly y gwnaethant, a lladdasant yr holl rai a adawyd i amddiffyn y ddinas; ïe, yr holl rai na roddent i fyny eu harfau rhyfel. Ac felly y meddiannodd Moroni ddinas Mulek, â rhan o’i fyddin, tra yr aeth efe â’r gweddill i gyfarfod y Lamaniaid, pan ddychwelent o fod yn ymlid Teancum.
A bu i’r Lamaniaid ymlid Teancum hyd nes y daethant yn agos i ddinas Llawnder ac yna hwy a gyfarfuwyd gan Lehi, a byddin fechan, yr hon a adawyd i amddiffyn dinas Llawnder. Ac yn awr, wele, pan ganfyddodd pen-cadbeniaid y Lamaniaid fod Lehi a’i fyddin yn dyfod yn eu herbyn, hwy a ffoisant mewn dyryswch mawr, rhag ysgatfydd na chyrhaeddent ddinas Mulek, cyn y goddiweddai Lehi hwynt; canys yr oeddynt hwy yn flinedig o herwydd eu teithio, ac yr oedd gwyr Lehi yn ddiflino. Yn awr, ni wyddai y Lamaniaid fod Moroni ar eu hol gyda’i fyddin; a’r oll a ofnent hwy, oedd Lehi a’i wyr. Yn awr, nid oedd Lehi yn chwennych eu goddiweddyd, hyd nes y cyfarfyddent Moroni a’i fyddin. A bu cyn i’r Lamaniaid gilio yn mhell, iddynt gael eu hamgylchynu gan y Nephiaid; gan wyr Moroni ar un llaw, a chan wyr Lehi ar y llall, yr oll o ba rai oeddynt yn ddiflino ac yn llawn nerth; eithr yr oedd y Lamaniaid yn flinedig, o herwydd eu taith hirfaith. A gorchymynodd Moroni i’w wyr syrthio arnynt, hyd nes y rhoddent i fyny eu harfau rhyfel.
A bu i Jacob, yr hwn oedd eu blaenor, gan fod yn Zoramiad, ac yn meddu ar ysbryd anorchfygol, arwain y Lamaniaid i ryfel, mewn ffyrnigrwydd mawr, yn erbyn Moroni. A chan fod Moroni ar lwybr eu hymdaith, yr oedd Jacob yn benderfynol i’w lladd hwynt, a thori eu ffordd trwyddynt i ddinas Mulek. Eithr, wele, yr oedd Moroni a’i wyr yn fwy galluog; am hyny, ni roisant ffordd o flaen y Lamaniaid.
A bu iddynt ymladd ar bob ochr gyda ffyrnigrwydd mawr; a lladdwyd llawer o bob tu; ïe, a chlwyfwyd Moroni, a lladdwyd Jacob. A gwasgodd lehi y rhoddodd y Lamaniaid yn y tu ol eu harfau rhyfel i fyny; a’r gweddill o honynt, gan fod wedi eu dyrysu yn fawr, ni wyddent pa un a elent neu aros. Yn awr, Moroni, wrth weled eu dyryswch, a ddywedodd wrthynt, Os dygwch allan eich arfau rhyfel, a’u rhoddi i fyny, wele, nyni a attaliwn dywallt eich gwaed. A bu pan giywodd y Lamaniaid y geiriau hyn, i’w pen-cadbeniaid, yr holl rai nad oeddynt wedi eu lladd, ddyfod yn mlaen a thaflu eu harfau rhyfel i lawr wrth draed Moroni, a gorchymynasant i’w gwyr hefyd wneuthur yr un modd; eithr wele, yr oedd llawer na wnaent hyny; a’r rhai na roddent i fyny eu cleddyfau, a ddaliwyd ac a rwymwyd, a’u harfau rhyfel a gymmerwyd oddiwrthynt, a gorfodwyd hwynt i fyned gyda’u brodyr i dir Llawnder. Ac yn awr, yr oedd rhifedi y carcharorion a gymmerwyd, yn fwy na rhifedi y rhai a laddwyd; ïe, yn fwy na’r rhai a laddwyd o bob ochr.
A bu iddynt osod gwylwyr ar garcharorion y Lamaniaid, a’u gorfodi hwynt i fyned a chladdu eu meirw; ïe, ac hefyd feirw y Nephiaid a laddwyd; a gosododd Moroni wyr i’w gwylio hwynt tra y cyflawnent eu gwaith. A Moroni a aeth i ddinas Mulek gyda Lehi, ac a gymmerodd lywodraeth y ddinas, ac a’i rhoddodd i Lehi. Yn awr, wele, yr oedd y Lehi hwn yn ddyn ag a fu gyda Moroni yn y rhan fwyaf o’i holl frwydrau; ac yr oedd efe yn ddyn tebyg i Moroni; a hwy a lawenychent yn niogelwch eu gilydd; ïe, yr oeddynt yn caru eu gilydd, ac yn cael eu caru hefyd gan holl bobl Nephi.
A bu ar ol i’r Lamaniaid orphen claddu eu meirw, ac hefyd feirw y Nephiaid, iddynt gael eu danfon yn ol i dir Llawnder;
Teancum, trwy orchymyn Moroni, a berodd iddynt ddechreu gweithio i gloddio ffos oddiamgylch y tir, neu ddinas Llawnder; ac efe a berodd iddynt adeiladu bronwaith o goed ar glawdd tufewnol y ffos; a hwy a fwriasant i fyny y pridd o’r ffos yn erbyn y bronwaith o goed; ac felly y perasant i’r Lamaniaid weithio hyd nes yr oeddynt wedi amgau dinas Llawnder oddiamgylch â mur cadarn o goed a phridd i uchder mawr. A daeth y ddinas hon yn amddiffynfa gadarn byth ar ol hyny; ac yn y ddinas hon y gwylient garcharorion y Lamaniaid; ïe, sef o fewn mur, yr hwn a berasant iddynt hwy ei adeiladu â’u dwylaw eu hunain. Yn awr, gorfodid Moroni i beri i’r Lamaniaid weithio, o herwydd yr oedd yn rhwydd i’w gwylio tra wrth eu gwaith; ac efe a ddewisai gael ei holl alluoedd, pan yr ymosodai ar y Lamaniaid.
A bu i Moroni felly ennill buddugoliaeth ar un o fyddinoedd mwyaf y Lamaniaid, a chael meddiant o ddinas Mulek, yr hon oedd yn un o amddiffynfeydd cadarnaf y Lamaniaid yn nhir Nephi; ac felly hefyd yr adeiladodd amddiffynfa i gadw ei garcharorion. A bu na chynnygiodd efe mwyach ryfela â’r Lamaniaid yy y flwyddyn hono; eithr efe a osododd ei wyr ar waith i barotoi i ryfel; ïe, ac i wneuthur amddiffynfeydd i wylio rhag y Lamaniaid; ïe, ac hefyd i waredu eu gwragedd a’u plant rhag newyn a chystudd, a darparu lluniaeth i’w byddinoedd.
Ac yn awr, dygwyddodd i fyddinoedd y Lamaniaid, wrth y môr gorllewinol, yn ddeheuol, tra yn absennoldeb Moroni, o achos rhyw gynllwyn yn mhlith y Nephiaid, yr hyn a achosodd ymraniadau yn eu plith, ennill rywfaint o dir ar y Nephiaid, ïe, yn gymmaint ag iddynt feddiannu nifer o’u dinasoedd yn y rhan hono o’r tir; ac felly o herwydd anwiredd yn mhlith eu hunain, ïe, o herwydd ymraniadau a chynllwynion yn mhlith eu hunain, hwy a osodwyd yn yr amgylchiadau mwyaf peryglus.
Ac yn awr, wele, y mae genyf rywfaint i ddywedyd ynghylch pobl Ammon, y rhai yn y dechreuad, oeddynt Lamaniaid; eithr trwy Ammon a’i frodyr, neu yn hytrach trwy allu a gair Duw, yr oeddynt wedi eu dychwelyd at yr Arglwydd: ac yr oeddynt wedi eu dwyn i waered i dir Zarahemla, ac wedi eu hamddiffyn byth oddiar hyny gan y Nephiaid; ac o herwydd eu llw, yr oeddynt wedi eu cadw rhag cymmeryd i fyny arfau yn erbyn eu brodyr; canys yr oeddynt wedi gwneuthur llw, na thywalltent waed byth mwyach; ac yn ol eu llw, buasent wedi trengu; ïe, buasent wedi goddef i’w hunain syrthio i ddwylaw eu brodyr, oni bai y tosturi a’r cariad mawr ag oedd gan Ammon a’i frodyr tuag atynt; ac o herwydd hyn, dygwyd hwynt i wared i dir Zarahemla; a chawsant eu hamddiffyn o hyd gan y Nephiaid.
Eithr dygwyddodd, pan welsant y perygl, a’r amryw gystuddiau a thrallodion ag oedd y Nephiaid yn dyoddef drostynt, iddynt gael eu cyffroi gan dosturi, a chwennych cymmeryd i fyny arfau i amddiffyn eu gwlad. Eithr, wele, pan oeddynt ynghylch cymmeryd eu harfau rhyfel, hwy a orthrechwyd gan gynghorion Helaman a’i frodyr, canys yr oeddynt ynghylch tori y llw a wnaethant; ac Helaman a ofnai rhag, trwy wneuthur felly, y collent eu heneidiau; am hyny, yr holl rai ag oeddynt wedi ymgyfammodi fel hyn, a orfodwyd i edrych ar eu brodyr yn myned trwy eu cystuddiau, yn eu hamgylchiadau peryglus, yr amser hwn. Eithr wele, dygwyddodd fod ganddynt lawer o feibion, ag nad oeddynt wedi ymgyfammodi na chymmerent eu harfau rhyfel i amddiffyn eu hunain rhag eu gelynion; am hyny, hwy a ymgynnullasant ynghyd yr amser hwn, gynnifer ag oedd yn alluog i gymmeryd i fyny arfau; a hwy a alwasant eu hunain yn Nephiaid; ac ymgyfammodasant i ymladd dros ryddid y Nephiaid; ïe, i amddiffyn y tir hyd at roddi i lawr eu bywydau; ïe, ymgyfammodasant na roddasent eu rhyddid i fyny byth, eithr yr ymladdent yn mhob achos er cadw y Nephiaid a’u hunain o gaethiwed.
Yn awr, wele, yr oedd dwy fil o’r gwyr ieuainc hyny wedi ymgyfammodi fel hyn, ac wedi cymmeeryd eu harfau rhyfel i amddiffyn eu gwlad. Ac yn awr, wele, gan na fuont erioed hyd yma yn anfantais i’r Nephiaid, daethant yn awr yn yr amser hwn yn gynnorthwy mawr hefyd; canys hwy a gymmerent eu harfau rhyfel, ac a fynent i Helaman fod yn flaenor iddynt. Ac yr oeddynt oll yn wyr ieuainc, ac yn dra dewr mewn gwroldeb, ac hefyd mewn nerth a bywiogrwydd; eithr wele, nid hyn oedd y cyfan: yr oeddynt yn ddynion ag oedd yn ffyddlawn bob amser yn mha bethau bynag a ymddiriedid iddynt; ïe, yr oeddynt yn ddynion geirwir a sobr, canys hwy a ddysgwyd i gadw gorchymynion Duw, ac i rodio yn unawn ger ei fron.
Ac yn awr, dygwyddodd i Helaman fyned o flaen ei ddwy fil o filwyr ienainc, i gynnorthwyo y bobl yn nghyffiniau y tir ar y deau wrth y môr gorllewinol. Ac felly y terfynodd yr wythfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, &c.