Scriptures
Alma 6


Pennod Ⅵ.

A bu yn awr i Alma ddychwelyd o dir Gideon, ar ol dysgu i bobl Gideon lawer o bethau nas gellir eu hysgrifenu, a sefydlu trefn yr eglwys, megys ag y gwnaeth o’r blaen yn nhir Zarahemla; ïe, efe a ddychwelodd i’w dŷ ei hun yn Zarahemla, i ymorphwys oddiwrth y gwaith a gyflawnodd. Ac felly y terfynodd y nawfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.

A bu yn nechreu y ddegfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, i Alma fyned oddi yno, a chymmeryd ei daith drosodd i dir Melek, yn orllewinol i afon Sidon, yn y gorllewin, wrth gyffiniau yr anialwch: ac efe a ddechreuodd ddysgu y bobl yn nhir Melek, yn ol urdd santaidd Duw, trwy yr hwn oedd efe wedi ei alw; ac efe a ddechreuodd ddysgu y bobl trwy holl dir Melek.

A bu i’r bobl ddyfod ato trwy holl gyffiniau y tir, yr hwn oedd yn ochr yr anialwch. A hwy a fedyddiwyd trwy yr holl dir; felly pan orphenodd efe ei wraith yn Melek, cychwynodd oddi yno, a theithiodd daith tri niwrnod tua’r gogledd i dir Melek; ac efe a ddaeth at ddinas a elwid Ammonihah. Yn awr, yr oedd yn arferiad gan bobl Nephi, i alw eu tiroedd, a’u dinasoedd, a’u pentrefi, ïe, sef eu holl fân-bentrefi, ar enw yr hwn a’u meddiannodd gyntaf; ac felly yr oedd ynghylch tir Ammonihah.

A bu, ar ol i Alma ddyfod i ddinas Ammonihah, iddo ddechreu pregethu gair Duw wrthynt. Yn awr, yr oedd satan wedi cael gafael mawr ar galonau pobl dinas Ammonihah; am hyny, ni wrandawent ar eiriau Alma. Er hyny, Alma a lafuriodd lawer yn yr ysbryd, gan ymdrechu â Duw mewn gweddi nerthol, am iddo dywallt ei ysbryd ar y bobl y rhai oeddynt yn y ddinas; am iddo hefyd ganiatau iddo ef eu bedyddio i edifeirwch; er hyny, hwy a galedasant eu calonau, gan ddywedyd wrtho, Wele, ni a wyddom mai ti yw Alma; a gwyddom dy fod yn archoffeiriad dros yr eglwys yr hon a sefydlaist mewn amryw ranau o’r tir, yn ol eich traddodiad chwi; a nyni nid ydym o’th eglwys di, ac nid ydym yn credu yn y fath draddodiadau ffol. Ac yn awr, gan nad ydym o’th eglwys di, gwyddom nad oes genyt awdurdod arnom; ac yr wyt wedi rhoddi yr orsedd farnol i Nephihah; am hyny, nid tydi yw y prif-farnwr arnom. Yn awr, wedi i’r bobl ddywedyd hyn, a gwrthwynebu ei holl eiriau, a’i gablu, a phoeri arno, ac achosi ei fwrw allan o’u dinas, efe a ymadawodd oddi yno, ac a gymmerodd ei daith tua’r ddinas a elwid Aaron.

A bu tra yr oedd efe yn teithio tuag yno, wedi ymdrymhau gan dristwch, ac wedi myned trwy lawer o drallod ac ingoedd enaid, o herwydd drygioni y bobl ag oedd yn ninas Ammonihah, wele, dygwyddodd, tra yr oedd Alma wedi ymdrymhau felly gan dristwch, i angel yr Arglwydd ymddangos iddo, gan ddywedyd. Gwyn dy fyd di, Alma; am hyny, dyrchafa dy ben, a gorfoledda, canys y mae genyt achos mawr i orfoleddu: oblegid buost yn ffyddlawn i gadw gorchymynion Duw, o’r amser y derbyniaist y genadwri gyntaf oddiwrtho. Wele, myfi yw yr hwn a’i traethodd wrthynt; ac wele, anfonir fi i’th orchymyn i ddychwelyd i ddinas Ammonihah, a phregethu drachefn wrth bobl y ddinas, ïe, pregetha iddynt. Ië, dywed wrthynt, os na edifarhant, y bydd i’r Arglwydd Dduw eu dinystrio hwynt. Canys, wele, myfyriant yr amser hwn, fel y gallont ddinystrio rhyddid dy bobl (canys felly y dywed yr Arglwydd), yr hwn sydd yn groes i’r deddfan, a’r barnedigaethau, a’r gorchymynion a roddodd efe i’w bobl.

Yn awr, dygwyddodd wedi i Alma dderbyn ei genadwri oddiwrth angel yr Arglwydd, iddo ddychwelyd ar frys i dir Ammonihah. Ac efe a aeth i mewn i’r ddinas trwy ffordd arall, yr hon ffordd sydd ar y tu deau i ddinas Ammonihah. Ac fel yr oedd yn myned i mewn i’r ddinas, yr oedd yn newynog, ac efe a ddywedodd wrth ryw ddyn, A roddi di i was gostyngedig Duw rywbeth i fwyta? A’r dyn a ddywedodd wrthy, Myfi wyf Nephiad, ac mi a wn mai prophwyd samtaidd i Dduw wyt ti, canys tydi yw y dyn am yr hwn y dywedodd angel wrthyf mewn gweledigaeth, It a’i derbyni ef; am hyny, dos gyda mi i’m tŷ. A bu i’r dyn ei dderbyn ef i’w dŷ; ac enw y dyn oedd Amulek; ac efe a osododd gerbron fara a chig, ac a eisteddodd o flaen Alma.

A bu i Alma fwyta bara, a chael ei ddigoni; ac efe a fendithiod Amulek a’i dŷ, ac a ddiolchodd i Dduw. Ac wedi iddo fwyta a chael ei ddigoni, efe a ddywedodd wrth Amulek, Myfi yw Alma, a’r archoffeiriad dros eglwys Dduw trwy y tir. Ac wele, galwyd fi i bregethu gair Duw yn mhlith yr holl bobl hyn, yn ol ysbryd y dadguddiad a’r brophwydoliaeth; ac mi a fum yn y tir hwn, ac ni’m derbynient, eithr hwy a’m bwrient allan, ac yr oeddwn ynghylch troi fy nghefn ar y tir hwn yn dragywydd. Eithr wele, gorchymynwyd i mi droi yn ol drachefn, a phrophwydo wrth y bobl hyn; ïe, a thystiolaethu yn eu herbyn ynghylch eu hanwireddau. Ac yn awr, Amulek, am i ti fy mhorthi i a’m cymmeryd i mewn, gwynfydedig ydwyt; oblegid yr oeddwn yn newynog, am fy mod wedi ymprydio ddyddiau lawer. Ac Alma a arosodd gydag Amulek amryw ddyddiau, cyn iddo ddechreu pregethu wrth y bobl.

A bu i’r bobl ymgynnyddu yn eu hanwireddau. A’r gair a ddaeth at Alma, gan ddywedyd, Dos; a dywed hefyd wrth fy ngwas Amulek, Dos, a phrophwyda wrth y bobl hyn, gan ddywedyd, Edifarhewch, canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, oni edifarhewch, mi a ymwelaf â’r bobl hyn yn fy nigter; ïe, ac ni throaf fy nigter llidiog ymaith. Ac Alma a aeth, ac hefyd Amulek, i blith y bobl, i fynegi geiriau Duw wrthynt; ac yr oeddynt yn llawn o’r Ysbryd Glân; a rhoddwyd gallu iddynt, yn gymmaint ag nas gellid eu carcharu mewn daeardai; ac nid oedd yn bosibl i un dyn eu lladd hwynt; er hyny, ni ar ferasant eu gallu hyd nes iddynt gael eu gosod mewn rhwymau, a’u bwrw yn ngharchar. Yn awr, hyn a wnaethwyd fel y dangosai yr Arglwydd ei allu trwyddynt.

A bu iddynt fyned allan, a dechreu pregethu a phrophwydo wrth y bobl, yn ol yr ysbryd a’r gallu a roddodd yr Arglwydd iddynt.