Pennod ⅩⅤ.
Yn awr, dygwyddodd ar ol i’r Lamaniaid hyny a aethant i ryfel yn erbyn y Nephiaid, gael allan, ar ol eu hymdrechiadau mynych i’w dyfetha hwynt, mai ofer oedd iddynt geisio eu dinystrio, hwy a ddychwelasant drachefn i dir Nephi. A dygwyddodd fod yr Amalekiaid, o herwydd eu colled, yn dra digllawn. A phan welsant nas gallent gael ymddial ar y Nephiaid, hwy a ddechreuasant gyffroi y bobl i ddigofaint yn erbyn eu brodyr, pobl Anti-Nephi-Lehi; am hyny, hwy a ddechreuasant eu dyfetha hwy drachefn. Yn awr, gwrthododd y bobl hyn drachefn gymmeryd eu harfau, a dyoddefasant i’w hunain gael eu lladd yn ol dymuniadau eu gelynion. Yn awr, pan welodd Ammon a’i frodyr y difrod-waith hwn yn mhlith y rhai a garent mor anwyl, ac yn mhlith y rhai a’u carent hwy mor anwyl; canys ymddygwyd tuag atynt megys pe byddent yn angylion, wedi eu danfon oddiwrth Dduw i’w hachub hwy rhag dinystr tragywyddol; am hyny, pan welodd Ammon a’i frodyr y difrod-waith mawr hwn, hwy a gynhyrfwyd o dosturi, ac a ddywedasant wrth y brenin, Gadewch i ni gasglu ynghyd y bobl hyn o eiddo yr Arglwydd, a myned i waered i dir Zarahemla, at ein brodyr y Nephiaid, a ffoi allan o ddwylaw ein gelynion, fel na ddyfether ni. Ond y brenin a ddywedodd wrtho, Wele, y Nephiaid a’n dyfethant ni, o herwydd y llofruddiaethau a’r pechodau aml a gyflawnasom yn eu herbyn. Ac Ammon a ddywedodd, Mi a âf, ac a ymofynaf â’r Arglwydd, ac os dywed efe wrthym, Ewfch i waered at eich brodyr, a wnewch chwi fyned? A’r brenin a ddywedodd wrtho, Gwnawn: os yr Arglwydd a ddywed wrthym, Ewch, ni a awn i waered at ein brodyr, ac a fyddwn yn gaethion iddynt hyd nes yr ad-dalwn iddynt am y llofruddiaethau a’r pechodau aml a gyflawnasom yn eu herbyn. Eithr Ammon a ddywedodd wrtho, Y mae yn groes i gyfraith ein brodyr, yr hon a sefydlwyd gan fy nhad, fod neb caethion yn eu mysg; am hyny, gadewch i ni fyned i waered, ac ymddibynu ar drugaredd ein brodyr. Eithr y brenin a ddywedodd wrtho, Ymofyna â’r Arglwydd, ac os dywed efe wrthym, Ewch, ni a awn; onide, ni a drengwn yn y tir.
A bu i Ammon fyned ac ymofyn â’r Arglwydd, a dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dwg y bobl hyn allan o’r tir hwn, fel na ddyfether hwynt, canys y mae gan satan afael mawr ar galonau yr Amalekiaid, y rhai a gyffroant y Lamaniaid i ddigofaint yn erbyn eu brodyr i’w lladd hwynt; am hyny, dos di allan o’r tir hwn; a gwyn fyd y bobl hyn yn y genedlaeth hon, canys mi a’u diogelaf hwynt.
Ac yn awr, darfu i Ammon fyned a mynegi i’r brenin yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrtho. A hwy a gasglasant ynghyd eu holl bobl; ïe, holl bobl yr Arglwydd, a chasglasant ynghyd eu holl dda a defaid, ac a ymadawsant o’r wlad, ac a ddaethant i’r anialwch sydd yn rhanu tir Nephi oddiwrth dir Zarahemla, ac a ddaethant drosodd yn agos i gyffiniau y tir.
A bu i Ammon ddywedyd wrthynt, Wele, myfi a’m brodyr a awn yn mlaen i dir Zarahemla, a chwithau a gewch aros yma hyd nes y dychwelwn; ac ni a brofwn galonau ein brodyr, pa un a ewyllysiant i chwi ddyfod i’w tir.
A dygwyddodd fel yr oedd Ammon yn myned i’r tir, iddo ef a’i frodyr gyfarfod ag Alma, drosodd yn y lle am ba un y llefarwyd; ac wele, yr oedd hwn yn gyfarfod gorfoleddus. Yn awr, yr oedd llawenydd Ammon mor fawr nes yr oedd yn gyflawn; ïe, yr oedd wedi ei lyncu i fyny yn ngorfoledd ei Dduw, hyd at wanhau ei nerth; ac efe a syrthiodd drachefn i’r ddaear. Yn awr, ai nid oedd hyn yn lawenydd mawr. Wele, llawenydd yw hwn nad yw neb yn ei dderbyn, ond y gwir edifeiriol a’r chwiliwr gostyngedig am ddedwyddwch. Yn awr, yr oedd llawenydd Alma wrth gyfarfod ei frodyr yn wir fawr, ac hefyd lawenydd Aaron, Omner, ac Himni; eithr wele, nid oedd eu lawenydd hwy yn fwy nâ’u nerth.
Ac yn awr, darfu i Alma dywys ei frodyr yn ol i dir Zarahemla, ïe, i’w dŷ ei hun. A hwy a aethant ac a fynegasant i’r prif farnwr yr holl bethau a ddygwyddodd iddynt yn nhir Nephi, yn mhlith eu brodyr y Lamaniaid.
A bu i’r prif farnwr ddanfon cyhoeddiad trwy yr holl dir, gan ddymuno llais y bobl ynghylch derbyn eu brodyr, y rhai oeddynt bobl Anti-Nephi-Lehi. A bu i lais y bobl ddyfod, gan ddywedyd, Wele, ni a roddwn i fyny dir Jershon, yr hwn sydd ar y dwyrain wrth y môr, yr hwn sydd yn cydio â thir Llawnder, ac ar y deau i dir Llawnder; a’r tir Jershon hwn yw y tir a roddwn i’n brodyr yn etifeddiaeth. Ac wele, ni a osodwn ein byddinoedd rhwng tir Jershon a thir Nephi, fel yr amddiffynom ein brodyr yn nhir Jershon; a hyn a wnawn er mwyn ein brodyr, o herwydd eu hofn i gymmeryd i fyny arfau yn erbyn eu brodyr, rhag iddynt gyflawni pechod; a’u hofn mawr hwn a ddaeth, o herwydd eu hedifeirwch blin yr hwn a gawsant oblegid eu llofruddiaethau aml a’u drygioni erchyll. Ac yn awr, wele, hyn a wnawn i’n brodyr, fel yr etifeddont dir Jershon; ac ni a’u gwyliwn hwynt rhag eu gelynion a’u byddinoedd, ar yr ammod o fod iddynt hwy roddi cyfran o’u heiddo i’n cynnorthwyo ni, fel y cynnaliom ein byddinoedd.
Yn awr, dygwyddodd ar ol i Ammon glywed hyn, iddo ddychwelyd at bobl Anti-Nephi-Lehi, ac hefyd Alma gydag ef, i’r anialwch, lle y codasant eu pebyll, a gwneuthur yn hysbys iddynt yr holl bethau hyn. Ac Alma hefyd a adroddodd wrthynt am ei ymddyddan ef ag Ammon, ac Aaron a’i frodyr. A dygwyddodd i hyn achosi llawenydd mawr yn eu mysg. A hwy a aethant i waered i dir Jershon, ac a gymmerasant feddiant o dir Jershon; a hwy a alwyd gan y Nephiaid yn bobl Ammon: am hyny, hwy a wahan aethwyd wrth yr enw hwnw byth ar ol hyny; ac yr oeddynt yn mhlith pobl Nephi, ac hefyd yn cael eu cyfrif yn mhlith y bobl ag oedd o eglwys Dduw. Ac yr oeddynt yn cael eu gwahaniaethu hefyd o herwydd eu sel tuag at Dduw, ac hefyd tuag at ddynion; canys yr oeddynt yn berffaith onest ac uniawn yn mhob peth; ac yr oeddynt yn ddisigl yn ffydd Crist, hyd y diwedd. At hwy a edrychasant ar dywalltiad gwaed eu brodyr gyda’r atgasrwydd mwyaf, ac nis gellid byth eu perswadio i gymmeryd i fyny arfau yn erbyn eu brodyr; ac ni edrychasant erioed ar farwolaeth gydag un gradd o ddychryn, o herwydd eu gobaith a’u golygiadau am Grist a’r adgyfodiad; am hyny, angeu a lyncwyd iddynt hwy trwy fuddugoliaeth Crist arno; am hyny, hwy a ddyoddefent farwolaeth yn y modd mwyaf bln a phoenus a ellid ddyfeisio gan eu brodyr, cyn y cymmerent y cleddyf neu y crymgledd i’w taraw hwynt. Ac felly yr oeddynt yn bobl selog a chariadus, a phobl uchel-freintiog yr Arglwydd.
Ac yn awr, dygwyddodd, ar ol i bobl Ammon ymsefydlu yn nhir Jershon, ac i eglwys gael ei sefydlu hefyd yn nhir Jershon; ac i fyddinoedd y Nephiaid gael eu gosod oddiamgylch tir Jershon; ïe, yn yr holl gyffiniau oddiamgylch tir Zarahemla; wele, yr oedd byddinoedd y Lamaniaid wedi canlyn eu brodyr i’r wybuwyd erioed am ei bath yn mysg yr holl bobl yn y tir, o’r amser y gadawodd Lehi Jerusalem; ïe, a degau o filoedd o’r Lamaniaid a laddwyd ac a wasgarwyd. Ië, ac hefyd bu lladdfa enbyd yn mysg pobl Nephi; er hyny, y Lamaniaid a yrwyd ac a wasgarwyd, a phobl Nephi a ddychwelasant drachefn i’w tir. Ac yn awr, yr oedd hwn yn amser pan oedd galar mawr ac wylofain i’w clywed trwy yr holl dir, yn mhlith holl bobl Nephi; ïe, amser difrifol, ac amser o fawr ympryd a gweddi; ac felly y terfynodd y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi; a hyn ydyw hanes Ammon a’i frodyr, eu teithiau yn nhir Nephi, eu dyoddefiadau yn y tir, en trallodion, a’u cystuddiau, a’u llawenydd anamgyffredadwy, a derbyniad a diogeliad y brodyr yn nhir Jershon. Ac yn awr, bydded i’r Arglwydd, Gwaredwr pob dyn, fendithio eu heneidiau yn dragywydd. A hyn ydyw hanes y rhyfeloedd a’r amrafaelion yn mhlith y Nephiaid, ac hefyd y rhyfeloedd rhwng y Nephiaid a’r Lamaniaid: ac y mae y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad y barnwyr wedi terfynu; ac o’r flwyddyn gyntaf hyd y bymthegfed, dygwyd oddiamgylch ddinystr llawer o filoedd o fywydau; ïe, dygwyd oddiamgylch olyfa erchyll o dywalltiad gwaed; ac y mae cyrff miloedd lawer wedi eu rhoddi yn isel yn y llwch, tra y mae cyrff miloedd lawer yn braenu yn bentyrau ar wyneb y ddaear; ïe, ac y mae miloedd lawer yn galaru oblegid colli eu perthynasau, o herwydd y mae ganddynt achos i ofni, yn ol addewidion yr Arglwydd, eu bod wedi eu trosglwyddo i sefyllfa o wae diddarfod; tra y mae miloedd lawer o rai ereill yn galaru yn ddiau oblegid colli eu perthynasau, etto y maent yn gor foleddu ac yn llawenychu yn y gobaith, ac y maent hyd y nod yn gwybod, yn ol addewidion yr Arglwydd, eu bod hwy wedi eu dyrchafu i drigo ar ddeheulaw Duw, mewn sefyllfa o ddedwyddwch diddiwedd: ac felly gwelwn pa mor fawr yw anghydraddoldeb dyn, o herwydd pechod a throsedd, a gallu y diafol, yr hwn sydd yn dyfod trwy y cynlluniau cyfrwys a ddyfeisiodd i rwydo calonau dynion; ac felly gwelwn y galwad mawr am ddiwydrwydd dynion i lafurio yn ngwinllanoedd yr Arglwydd; ac felly gwelwn yr achos mawr o dristwch, ac hefyd o orfoledd; tristwch, o herwydd marwolaeth a dinystr yn mysg dynion, a gorfoledd o herwydd goleuni Crist er bywyd. O na fuaswn i yn angel, a chael o honof ddymuniad fy nghalon, fel yr elwn allan a llefaru gydag udgorn Duw, gyda llais i grynu y ddaear, a gwaeddi edifeirwch wrth bob pobl, ïe, mi a fynegwn wrth bob enaid, megys â llais taran, am edifeirwch, a’r cynllun o brynedigaeth, y dylent edifarhau a dyfod at Dduw, fel na fyddai rhagor o dristwch ar holl wyneb y ddaear. Eithr wele, dyn wyf fi, ac yn pechu yn fy nymuniad; canys mi a ddylwn fod yn foddlawn ar y pethau a benododd yr Arglwydd i mi. Ni ddylwn, yn fy nymuniadau, dori gosodiad disyfl Duw cyfiawn, canys mi a wn ei fod ef yn rhoddi i ddynion yn ol eu dymuniad, pa un bynag ai er marwolaeth neu er bywyd; ïe, mi a wn ei fod yn penodi i ddynion, yn ol eu hewyllys; pa un bynag a fyddo er iachawdwriaeth neu er dinystr; ïe, ac mi a wn fod da a drwg yn dyfod gerbron pob dyn; neu ynte, mae yr hwn nad yw yn adnabod y da oddiwrth y drwg yn ddifai; eithr i’r hwn sydd yn adnabod da a drwg, y rhoddir iddo yn ol ei ddymuniadau; pa un bynag a ddymuno dda neu ddrwg, bywyd neu farwolaeth, llawenydd neu gnofeydd cydwybod. Yn awr, gan weled fy mod yn gwybod y pethau hyn, paham y dymunaf fwy nâ chyflawni y gwaith at ba un y’m galwyd? Paham yr ewyllysiwn fy mod yn angel, fel y llefarwn wrth holl derfynau y ddaear? Canys wele, mae yr Arglwydd yn caniatâu i bob cenedl, rai o’u cenedl a’u hiaith eu hun, i ddysgu ei air; ïe, mewn doethineb, yr hyn oll a welo efe yn addas iddynt i’w gael; am hyny, gwelwn fod yr Arglwydd yn cynghori mewn doethineb, yn ol yr hyn sydd uniawn a chywir. Yr wyf yn gwybod yr hyn a orchymynodd yr Arglwydd i mi, ac yr wyf yn gorfoleddu ynddo; nid wyf yn gorfoleddu am fy hun, eithr yn gorfoleddu yn yr hyn a orchymynodd yr Arglwydd i mi; ïe, a hyn yw fy ngorfoledd, fel y gallwn ysgatfydd fod yn offeryn yn nwylaw Duw, i ddwyn rhyw enaid i edifeirwch; a hyn yw fy llawenydd. Ac wele, pan ganfyddaf lawer o’m brodyr yn wir edifeiriol, ac yn dyfod at yr Arglwydd eu Duw, yna mae fy enaid yn cael ei lanw o lawenydd; yna yr wyf yn cofio yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi; ïe, sef ei fod ef wedi gwrandaw fy ngweddi; ïe, yna yr wyf yn cofio am ei fraich drugarog yr hon a estynodd ataf; ïe, ac yr wyf yn cofio hefyd am gaethiwed fy nhadau; canys mi a wn yn ddiau i’r Arglwydd eu gwaredu hwy o gaethiwed, a thrwy hyn y sefydlodd ei eglwys; ïe, yr Arglwydd Dduw, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, a’u gwaredodd hwy o gaethiwed; ïe, mi a gofiais yn wastadol am gaethgludiad fy nhadau; a’r un Duw a’u gwaredodd hwy allan o ddwylaw yr Aifftiaid, a’u gwaredodd hwythau allan o gaethiwed; ïe, a’r un Duw a sefydlodd ei eglwys yn eu plith hwynt; ïe, a’r un Duw hefyd a’m galwodd innau â galwedigaeth santaidd, i bregethu y gair wrth y bobl hyn, ac a roddodd i mi y fath lwyddiant, yn yr hwn y mae fy llawenydd yn gyflawn; ond nid wyf yn llawenhau yn fy llwyddiant fy hun yn unig, eithr y mae fy llawenydd yn fwy cyflawn o herwydd llwyddiant fy mrodyr, y rhai a fuont i fyny yn nhir Nephi. Wele, y maent wedi llafurio yn fawr, ac wedi dwyn ffrwyth lawer; a pha mor fawr fydd eu gwobr. Yn awr, pan feddyliwyf am lwyddiant fy mrodyr hyn, mae fy enaid yn cael ei gymmeryd ymaith, hyd at ymwahanu oddiwrth y corff, fel pe byddai, gan mor fawr yw fy llawenydd.
Ac yn awr, caniatäed Duw i’m brodyr hyn, iddynt gael eistedd i lawr yn nheyrnas Dduw; ïe, ac hefyd yr holl rai ag ydynt yn ffrwyth en llafur, fel nad elont allan mwyach, eithr fel y moliannont ef yn dragywydd. A chaniatäed Duw i hyn gymmeryd lle yn ol fy ngeiriau, ïe, megys y llefarais. Amen.