Pennod ⅩⅩⅢ.
Ac yn awr, dygwyddodd yn nechreu y bummed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi, fod heddwch wedi ei sefydlu rhwng pobl Nephi a phobl Morianton, ynghylch eu iroedd, a bod y bummed flwyddyn ar hugain yn cael ei dechreu mewn heddwch; er hyny, ni chadwasant heddwch hollol yn hir yn y tir, canys dechreuodd fod amrafael yn mhlith y bobl ynghylch y prif-farnwr, Pahoran; canys wele, yr oedd rhan o’r bobl yn chwennych cyfnewid ychydig o bynciau neillduol yn y gyfraith. Ond, wele, ni wnai Pahoran eu cyfnewid, ac ni oddefai i’r gyfraith gael ei chyfnewid; am hyny, ni wrandawodd efe ar y rhai a ddanfonent i mewn eu llais gyda’u deisebau, ynghylch cyfnewid y gyfraith; am hyny, yr oedd y rhai a chwennychent gyfnewid y gyfraith yn ddigllawn wrtho, ac yn dymuno na chai efe mwyach fod yn brif-farnwr ar y tir; gan hyny, cyfododd dadl boeth ynghylch y mater, eithr nid hyd at dywallt gwaed.
A bu i’r rhai a chwennychent ddiorseddu Pahoran o’r orsedd farnol, gael eu galw yn freninwyr, canys chwennychent gyfnewid y gyfraith yn y fath fodd ag i ddadymchwelyd y llywodraeth rydd, ac i sefydlu brenin ar y tir. A’r rhai a chwennychent i Pahoran aros yn brif-farnwr ar y tir, a gymmerent arnynt yr enw o ryddid-wyr; ac felly yr oedd yr ymraniad yn eu mysg: canys yr oedd y rhyddid-wyr wedi tyngu neu gyfammodi i amddiffyn eu hiawnderau, ynghyd â breintiau eu crefydd, trwy lywodraeth rydd.
A bu i’r pwne hwn o amrafael gael ei benderfynu, gan lais y bobl. A bu i lais y bobl ddyfod o blaid y rhyddid-wyr, a chafodd Pahoran gadw yr orsedd farnol, yr hyn a achosodd lawenydd mawr yn mhlith brodyr Pahoran, ac hefyd llawer o bobl rhyddid; y rhai hefyd a osodasant y breninwyr i ddystawrwydd, fel na feiddient wrthwynebu, eithr bod yn rhwym i amddiffyn achos rhyddid. Yn awr, yr oedd y rhai ag oeddynt o blaid breninoedd, o waedoliaeth uchel; a hwy a geisient fod yn freninoedd, o waedoliaeth uchel; a hwy a geisient fod yn freninoedd; a chynnorthwyid hwynt gan y rhai a geisient allu ac awdurdod dros y bobl. Eithr wele, yr oedd hwn yn amser peryglus i’r fath amrafaelion fod yn mhlith pobl Nephi: canys, wele, yr oedd Amalickiah drachefn wedi cyffroi calonau pobl y Lamaniaid yn erbyn pobl y Nephiaid, ac yr oedd yn casglu milwyr ynghyd, o bob rhan o’r wlad, ac yn eu harfogi, a’u parotoi i ryfel, gyda phob diwydrwydd; canys yr oedd wedi tyngu i yfed gwaed Moroni. Eithr wele, cawn weled fod yr addewid a wnaeth yn fyrbwyll; er hyny, efe a barotôdd ei hun a’i fyddinoedd, er dyfod i ryfel yn erbyn y Nephiaid. Yn awr, nid oedd ei fyddinoedd mor fawrion ag y buont o’r blaen, o herwydd y miloedd lawer a laddwyd trwy ddwylaw y Nephiaid; ond yn ngwyneb eu mawr golled, yr oedd Amalickiah wedi ymgasglu ynghyd fyddin ryfeddol o fawr, yn gymmaint ag na ofnai ddyfod i waered i dir Zarahemla. Ië, daeth hyd y nod Amalickiah ei hun i waered, o flaen y Lamaniaid. Ac yr oedd hyn yn y bummed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y barnwyr; ac yr oedd ar yr un amser ag y dechreuasant benderfynu achosion eu hamrafaelion ynghylch eu prif-farnwr Pahoran.
A bu pan glywodd y dynion a elwid breninwyr, fod y Lamaniaid yn dyfod i waered i ryfel yn eu herbyn hwynt, iddynt lawenychu yn eu calonau, a hwy a wrthodasant gymmeryd arfau; canys yr oeddynt hwy mor ddigllawn wrth y prif farnwr, ac hefyd wrth bobl rhyddid, fel na chymmerent i fyny arfau i amddiffyn eu gwlad. A bu pan welodd Moroni hyn, a gweled hefyd fod y Lamaniaid yn dyfod i gryffiniau y tir, iddo fod yn dra digllawn, o herwydd ystyfnigrwydd y bobl hyny, y llafuriodd efe gyda chymmaint o ddiwydrwydd i’w diogelu; ïe, yr oedd yn dra digllawn; yr oedd ei enaid yn llawn o ddigofaint yn eu herbyn. A bu iddo ddanfon deiseb, gyda llais y bobl, at lywodraethwr y tir, gan ddymuno arno ei darllen, a rhoddi iddo ef (Moroni) awdurdod i orfodi yr ymneillduwyr hyny i amddiffyn eu gwlad, neu eu gosod i farwolaeth; canys ei ofal cyntaf oedd rhoi terfyn ar y fath amrafaelion ac ymraniadau yn mhlith y bobl; canys wele, hyn hyd yma fu yr achos o’u holl ddinystr. A bu i hyny gael ei ganiatâu, yn ol llais y bobl.
A bu i Moroni orchymyn i’w fyddin fyned yn erbyn y breninwyr hyny, i ddarostwng eu balchder a’u mawredd, a’u gwneyd yn gyd-wastad â’r ddaear, neu fod iddynt gymmeryd arfau a chynnorthwyo achos rhyddid. A darfu i’r byddinoedd gychwyn yn eu herbyn hwynt: a darostwng eu balchder a’u mawredd, yn gymmaint nes iddynt, pan gyfodent eu harfau rhyfel i ymladd yn erbyn gwyr Moroni, gael eu tori i lawr a’u gwneyd yn gyd-wastad â’r ddaear. A bu i bedair mil o’r ymneillduwyr hyny gael eu tori i lawr gan y cleddyf; a’r cyfryw o’u blaenoriaid na laddwyd mewn rhyfel, a ddaliwyd ac a fwriwyd yn ngharchar, canys nid oedd amser i’w profi y pryd hwn; a’r gweddill o’r ymneillduwyr hyny, yn hytrach nâ chael eu taraw i’r ddaear gan y cieddyf, a ymostyngasant i luman rhyddid, ac a orfodwyd i chwifio y teitl o ryddid ar eu tyrau, ac yn eu dinasoedd, ac i gymmeryd arfau i amddiffyn eu gwlad. Ac felly y gosododd Moroni derfyn ar y breninwyr hyny, fel nad oedd neb yn adnabyddus wrth yr enw breninwyr; ac felly y gosododd efe derfyn ar ystyfnigrwydd a balchdeer y bobl a broffesent waedoliaeth uchel; eithr hwy a ddygwyd i ymostwng megys eu brodyr, ac i ymladd yn ddewr dros eu rhyddid oddiwrth gaethiwed.
Wele, dygwyddodd tra yr oedd moroni felly yn darostwng y rhyfeloedd a’r amrafaelion yn mhlith ei bobl ei hun, a’u dwyn i heddwch a gwareiddiad, ac yn gwneuthur trefniadau i barotoi i ryfel yn erbyn y Lamaniaid, wele, yr oedd y Lamaniaid wedi dyfod i dir Moroni, yr hwn oedd yn y cyffiniau, wrth làn y môr.
A dygwyddodd nad oedd y Nephiaid yn ddigon cryfion yn ninas Moroni: am hyny, Amalickiah a’u gyrodd hwynt, gan ladd llawer. A darfu i Amalickiah gymmeryd meddiant o’r ddinas; ïe, meddiant o’u holl amddiffynfeydd. A’r rhai a ffoisant allan o ddinas Moroni, a ddaethant i ddinas nephihah; ac hefyd yr oedd pobl dinas Lehi wedi ymgasglu ynghyd, a gwneuthur darpariadau, ac yn barod i dderbyn y Lamaniaid i ryfel.
Eithr dygwyddodd na oddefai Amalickiah o’r Lamaniaid fyned i ryfel yn erbyn dinas Nephihah, eithr cadwodd hwynt i lawr wwrth làn y môr, gan adael gwyr yn mhob dinas i’w chadw a’i hamddiffyn; ac felly yr aeth efe yn mlaen, gan gymmeryd meddiant o amryw ddinasoedd: dinas Nephihah, a dinas Nephi, a dinas Morianton, a dinas Omner, a dinas Gid, a dinas Mulek, y rhai oeddynt oll ar y cyffiniau dwyreiniol, wrth làn y môr. Ac felly yr ennillodd y Lamaniaid, trwy gyfrwysdra Amalickiah, gynnifer o ddinasoedd, trwy eu lluoedd dirifedi, y rhai oeddynt oll wedi eu hamddiffyn yn gadarn, yn oll dull amddiffynfeydd Moroni; yr oll o ba rai oeddynt yn leoedd cedyrn i’r Lamaniaid.
A dygwyddodd iddynt gychwyn i gyffiniau tir Llawnder, gan yru y Nephiaid o’u blaen, a lladd llawer. Ond dygwyddodd iddynt gael eu cyfarfod gan Teancum, yr hwn a laddodd Morianton, ac a ragflaenodd ei bobl yn ei ffoedigaeth. A bu iddo ragflaenu Amalickiah hefyd, fel yr oedd yn cychwyn gyda ei fyddin aneirif, fel y gallai feddiannu tir Llawnder, ac hefyd y tir gogleddol. Eithr wele, cyfarfyddodd â siomedigaeth, trwy gael ei wrthwynebu gan Teancum a’i wyr, canys yr oeddynt hwy yn ryfelwyr mawrion: canys yr oedd pob gwr o eiddo Teancum yn rhagori ar y Lamaniaid yn eu nerth, ac yn eu medrusrwydd i ryfela, yn gymmaint ag iddynt gael y treeha ar y Lamaniaid.
A bu iddynt eu blino hwynt, yn gymmaint ag iddynt eu lladd hyd nes yr aeth yn nos. A bu i Teancum a’i wyr godi eu pebyll ar gyffiniau tir Llawnder; ac Amalickiah a gododd ei bebyll yntau yn y cyffiniau ar y traeth wrth lân y môr, ac yn y modd hyn yr oeddynt wedi eu gyru.
A dygwyddodd pan aeth yn nos, i teancum a’i weision fyned allan yn lladradaidd liw nos, a myned i wersyll Amalickiah; ac wele, yr oeddynt hwy wedi eu gorchfygu gan gwsg, o herwydd eu mawr ludded, yr hwn a achoswyd gan flinderau a gwres y dydd.
A bu i Teancum fyned yn lladradaidd i babell y brenin, a gwanu gwaywffon i’w galon; ac efe a achosodd farwolaeth y brenin yn uniongyrchol, fel na ddeffrodd ei weision. Ac efe a ddychwelodd drachefn yn ddirgelaidd i’w wersyll ei hun, ac wele, yr oedd ei wyr yntau yn nghwsg; ae efe a’u deffrodd hwynt, ac a fynegodd wrthynt yr hyn oll a wnaethai. Ac efe a berodd i’w fyddinoedd fod mewn parodrwydd, rhag fod y Lamaniaid wedi deffroi, ac iddynt ddyfod arnynt. Ac felly y terfynodd y bummed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi: ac felly y terfynodd dyddiau Amalickiah.