Pennod Ⅳ.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i Alma orphen llefaru wrth bobl yr eglwys, yr hon oedd wedi ei sefydlu yn ninas Zarahemla, iddo ordeinio offeiriaid ac henuriaid, trwy osodiad ei ddwylaw, yn ol urdd Duw, i lywyddu a gwylio dros yr eglwys. A bu i bwy bynag o’r rhai ni pherthynent i’r eglwys, a edifarhaent am eu pechodau, gael eu bedyddio i edifeirwch, a’n derbyn i’r eglwys. A bu hefyd i bwy bynag a berthynent i’r eglwys, na edifarhaent am eu drygioni, ac na ymostyngent gerbron Duw; meddyliwyf y rhai hyny oedd wedi ymddyrchafu yn malchder eu calonau; y cyfryw a wrthodwyd, a’u henwau a ddilëwyd, fel na chyfrifid eu henwau yn mhlith y rhai cyfiawn; ac felly y dechreuasant sefydlu trefn yn yr eglwys yn ninas Zarahemla. Yn awr, mi a fynwn i chwi ddeall fod gair Duw yn rhad i bawb; nad oedd neb yn cael ei amddifadu o’r fraint o ymgynnull ynghyd i wrandaw gair Duw; er hyny, gorchymynid i blant Duw ymgynnull ynghyd yn fynych, ac ymuno mewn ympryd a thaer weddi, ar ran iachawdwriaeth eneidiau y rhai nad adwaenent Dduw.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i Alma wneuthur y trefniadau hyn, iddo ymadael oddi wrthynt, ïe, o’r eglwys ag oedd yn ninas Zarahemla, ac efe a aeth drosodd ar y tu dwyreiniol i afon Sidon, i ddyffryn Gideon, lle yr oedd dinas wedi ei hadeiladu yr hon a elwid dinas Gideon, yr hon oedd yn y dyffryn a elwid Gideon, yr hwn a elwid ar enw y dyn a laddwyd gan law Nehor â’r cleddyf. Ac Alma a aeth ac a ddechreuodd draethu gair Duw i’r eglwys oedd wedi ei sefyldlu yn nyffryn Gideon, yn ol dadguddiad gwirionedd y gair a lefarwyd gan ei dadau, ac yn ol ysbryd y brophwydoliaeth ag oedd ynddo, yn ol tystiolaeth Iesu Grist, Mab Duw, yr hwn a ddeuai i wared ei bobl oddiwirth eu pechodau, ac yn ol yr urdd santaidd wrth ba un ei galwyd. Ac felly y mae yn ysgrifenedig. Amen.