Pennod Ⅹ.
Yn awr, megys y dywedais ynghylch urdd santaidd yr archoffeiradaeth hon, yr oedd amryw wedi eu hordeinio a dyfod yn archoffeiriaid i Dduw; ac ar gyfrif eu ffydd fawr a’u hedifeirwch, a’u cyfiawnder gerbron Duw, a’u bod yn dewis edifarhau a gweithredu cyfiawnder, yn hytrach nâ chael eu cyfrgolli; am hyny, hwy a alwyd yn ol yr urdd santaidd hwn, ac a santeiddiwyd, a’u gwisgoedd a olchwyd yn wynion, trwy waed yr Oen. Yn awr, ar ol iddynt gael eu santeiddio trwy yr Ysbryd Glân, a’u gwisgoedd wedi eu cànu, gan fod yn bur a difrycheulyd gerbron Duw, nis gallent edrych ar bechod, ond gydag atgasrwydd; ac yr oedd llawer, ïe, llawer iawn, y rhai oeddynt wedi eu puro, ac wedi myned i mewn i orphwysfa yr Arglwydd eu Duw. Ac yn awr, fy mrodyr, mi a fynwn i chwi ymostwng gerbron Duw, a dwyn ffrwyth addas i edifeirwch, fel yr eloch chwithau hefyd i mewn i’r orphwysfa hono; ïe, ymostyngwch megys y bobl yn nyddiau Melchizedek, yr hwn oedd hefyd yn archoffeiriad yn ol yr urdd hwn am ba un y llefarais, yr hwn hefyd a gymmerodd arno yr archoffeiriadaeth yn dragywydd. A’r Melchizedek hwn oedd yr un y talodd Abraham ddegwm iddo: ïe, ein tad Abraham a dalodd ddegwm o’r hyn oll a feddai. Yn awr, yr ordinhadau hyn a roddwyd yn y dull hyn, fel trwy hyny y gallai dynion edrych yn mlaen ar Fab Duw, gan ei fod yn arwyddlun o’i urdd ef, neu mai ei urdd ef oedd; a hyn, fel yr edrychent yn mlaen ato ef am faddeuant o’u pechodau, fel y gallent fyned i mewn i orphwysfa yr Arglwydd.
Yn awr, yr oedd y Melchizedek hwn yn frenin ar dir Salem; ac yr oedd ei bobl wedi ymgryfhau mewn anwiredd a ffieidddra; ïe, yr oeddynt oll wedi myned ar gyfeiliorn; yr oeddynt yn llawn o bob math o ddrygioni: eithr Melchizedek, wedi ymarferyd ffydd gref, a derbyn swydd yr archoffeiriadaeth, yn ol urdd santaidd Duw, a bregethodd edifeirwch i’w bobl. Ac wele, hwy a edifarasant; a Melchizedek a sefydlodd heddwch yn y tir yn ei ddyddiau; am hyny, efe a alwyd yn dywysog heddwch, canys efe oedd brenin Salme; ac efe a deyrnasodd o dan ei dad. Yn awr, yr oedd llawer o’i flaen ef, ac yr oedd llawer hefyd ar ei ol, eithr nid oedd neb yn fwy; am hyny, y maent wedi crybwyll yn fwy neillduol am dano ef. Yn awr, nid oes achos ail-adrodd y mater; gall yr hyn a ddywedais fod yn ddigon. Wele, mae yr ysgrythyrau o’ch blaen; os gwyrdrowch hwynt, bydd hyny er eich dinystr eich hunain.
Ac yn awr, dygwyddodd, ar ol i Alma ddywedyd y geiriau hyn wrthynt, iddo estyn ei law atynt, a gwaeddi gyda llais nerthol, gan ddywedyd, Yn awr yw yr amser i edifarhau, canys y mae dydd iachawdwriaeth yn agoshau; ïe, ac y mae llais yr Arglwydd, trwy enau ei angylion, yn ei draethu wrth yr holl genedloedd; ïe, yn ei draethu, fel y caffont newyddion da o lawenydd mawr; ïe, ac y mae efe yn swnio y newyddion da yn mhlith ei holl bobl, ïe, hyd y nod wrth y rhai hyny sydd yn wasgaredig ar wyneb y ddaear; am hyny, hwy a ddaethant atom ninnau. A gwneir hwynt yn hysbys i ni mewn geiriau eglur, fel y deallom, ac na allom gyfeiliorni; a hyn oblegid ein bod yn grwydrwyr mewn gwlad estronol; gan hyny, yr ydym ni felly yn uchel-freintiog, canys y mae’r newyddion da hyn wedi eu traethu wrthym yn mhob rhan o’r winllan. Canys wele, y mae angylion yn eu traethu wrth lawer yr amser hwn yn ein tir ni; a hyn i’r dyben o barotoi calonau plant dynion i dderbyn ei air yn amser ei ddyfodiad yn ei ogoniant. Ac yn awr, nid ydym ond yn unig yn dysgwyl i glywed y newydd hyfryd yn cael ei draethu wrthym trwy enau angylion, am ei ddyfodiad; canys y mae’r amser yn dyfod, ac nis gwyddom pa mor fuan. Och Dduw na fyddai yn fy nydd i; eithr deued yn gynnarach neu ddiweddarach, mi a orfoleddaf ynddo. A gwneir yn hysbys i ddynion cyfiawn a santaidd, trwy enau angylion, yn amser ei ddyfodiad, fel y cyflawnir geiriau ein tadau, yn ol yr hyn a lefarasant am dano, yr hyn oedd yn ol ysbryd y brophwydoliaeth ag oedd ynddynt.
Ac yn awr, fy mrodyr, mi a ewyllysiwn o ddyfnder fy nghalon, ïe, gyda phryder mawr, hyd at boen, ar i chwi wrandaw fy ngeiriau, a bwrw ymaith eich pechodau, a pheidio cedi dydd eich edifeirwch; eithr ymostwng o honoch gerbron yr Arglwydd, a galw ar ei enw santaidd, gan wylio a gweddio yn wastadol, fel nas temtier chwi uwchlaw yr hyn a alloch ddyoddef, ac felly gael eich arwain gan yr Ysbryd Glân, gan ddyfod yn ostyngedig, addfwyn, ufydd, amyneddgar, llawn cariad, a phob hir-ymaros; yn meddu ffydd yn yr Arglwydd, a gobaith y derbyniwch fywyd tragywyddol; gan fod â chariad Duw yn wastadol yn eich calonau, fel y dyrchafer chwi yn y dydd diwedaf, ac yr eloch i mewn i’w orphwysfa ef: a rhodded yr Arglwydd edifeirwch i chwi, fel na thynoch ei ddigofaint arnoch, fel na rwymer chwi gan gadwynau uffern; fel na ddyoddefoch yr ail farwolaeth. Ac Alma a lefarodd lawer o eiriau yn ychwaneg wrth y bobl, y rhai nid ydynt wedi eu hysgrifenu yn y llyfr hwn.
A bu ar ol iddo orphen llefaru wrth y bobl, i laweroedd o honynt gredu ei eiriau, a dechreu edifarhau, a chwilio yr ysgrythyrau; eithr y rhan fwyaf o honynt a chwennychent ddyfetha Alma ac Amulek: canys yr oeddynt yn ddigllawn wrth Alma, o herwydd eglurdeb ei eiriau wrth Zeezrom; a hwy a ddywedent hefyd fod Amulek wedi dywedyd celwydd wrthynt, ac wedi cablu yn erbyn eu cyfraith, ac hefyd yn erbyn eu cyfreithwyr a’u barnwyr. Ac yr oeddynt hefyd yn ddigllawn wrth Alma ac Amulek: ac o herwydd eu bod wedi tystiolaethu mor eglur yn erbyn eu drygioni, hwy a geisiasant eu gyru ymaith yn ddirgelaidd. Ond dygwyddodd na wnaethant; eithr cymmerasant hwynt, ac a’u rhwymasant â rheffynau cryfion, ac a’u dygasant gerbron prif farnwr y tir. A’r bobl a aethant ac a dystiasant yn eu herbyn, gan ddywedyd eu bod wedi cablu y gyfraith, a’u cyfreithwyr a barnwyr y tir, ac hefyd yr holl bobl ag oedd yn y tir; a’u bod hefyd wedi tystiolaethu nad oedd ond un Duw, ac y danfonai efe ei Fab i blith y bobl, eithr na achubai hwynt; a llawer o bethau cyffelyb a dystiolaethodd y bobl yn erbyn Alma ac Amulek. Yn awr, hyn a wnaethwyd gerbron barnwr y tir. A dygwyddodd i Zeezrom ryfeddu wrth y geiriau a lefarwyd; ac efe a wyddai hefyd am y dallineb meddwl a achosodd yn mhlith y bobl trwy ei eiriau celwyddog; a’i enaid a ddechreuodd gael ei rwygo, o dan y cydwybodolrwydd o’i euogrwydd ei hun; ïe, efe a ddechreuodd gael ei amgylchynu gan boenau uffern.
A bu iddo ddechreu gwaeddi ar y bobl, gan ddywedyd, Wele, yr wyf fi yn euog, a’r dynion hyn ydynt ddifrycheulyd gerbron Duw. Ac efe a ddechreuodd ddadleu drostynt, o’r amser hwnw allan; eithr hwy a’i difenwent ef, gan ddywedyd. A wyt tithau hefyd wedi dy feddiannu gan y diafol? A hwy a boerasant arno, ac a’i bwriasant ef allan o’u mysg, ac hefyd yr holl rai a gredasent y geiriau a lefarwyd gan Alma ac Amulek: a hwy a’u bwriasant allan, ac a anfonasant wyr i daflu ceryg atynt. A hwy a ddygasant eu gwragedd a’u plant ynghyd, a phwy bynag a gredent, neu a ddysgwyd i gredu gair Duw, a achosent eu bwrw i’r tân hefyd, fel y llosgid ac y dinystrid hwynt â thân.
A bu iddynt gymmeryd Alma ac Amulek, a’u dwyn i’r lle o ferthyrdod, fel y gallent weled dinystr y rhai a losgid â thân. A phan welodd Amulek boenau y gwragedd a’r plant a losgid yn y tân, efe a boenwyd hefyd, ac efe a ddywedodd wrth Alma. Pa fodd y gallwn edrych ar yr olygfa arswydus hon? Am hyny, estynwn allan ein dwylaw, ac ymarferwn allu Duw, yr hwn sydd ynom, ac achubwn hwynt o’r fflamiau. Eithr Alma a ddywedodd wrtho, Yr ysbryd a’m rhwystra i beidio estyn allan fy llaw; canys wele, yr Arglwydd a’u deerbynia ato ei hun, mewn gogoniant; ac y mae efe yn eu goddef i wneuthur y peth hwn, neu i’r bobl wneuthur y peth hwn iddynt, yn ol caledwch eu calonau, fel y byddo y barnedigaethau a arfero efe tuag atynt yn ei lid, yn gyfiawn; a gwaed y gwirion a gaiff sefyll yn dystiolaeth yn eu herbyn yn y dydd diweddaf. Yn awr, Amulek a ddywedodd wrth Alma, Wele, efallai y llosgant ninnau hefyd. Ac Alma a ddywedodd, Bydded yn ol ewyllys yr Arglwydd. Ond wele, nid yw ein gwaith wedi ei orphen; gan hyny, nis llosgant ni.
Yn awr, dygwyddodd pan oedd cyrff y rhai a fwriwyd i’r tân, wedi eu llosgi, ac hefyd y cof-lyfrau a fwriwyd i mewn gyda hwynt, i brif farnwr y tir ddyfod a sefyll o flaen Alma ac Amulek, pan oeddynt yn rhwym; ac efe a’u cernodiodd hwynt, â’i law, ac a ddywedodd wrthynt, Ar ol yr hyn a welsoch, a bregethwch chwi etto wrth y bobl hyn, y bwrir hwynt i lyn o dân a brwmstan? Wele, gwelwch nad oedd gallu genych chwi i achub y rhai hyn a fwriwyd i’r tân; ac nid yw Duw wedi eu hachub hwynt, o herwydd eu bod o’ch ffydd chwi. A’r barnwr a’u cernodiodd drachefn, ac a ofynodd, Pa beth a ddywedwch chwi drosoch eich hunain? Yn awr, yr oedd y barnwr hwn yn ol urdd a ffydd Nahor, yr hwn a laddodd Gideon. A bu na atebodd Alma ac Amulek ddim iddo; ac efe a’u tarawodd hwynt drachefn, ac a’u traddododd hwynt i’r swyddogion i’w bwrw yn ngharchar. Ac wedi bod yn ngharchar am dri niwrnod, daeth amryw o gyfreithwyr, a barnwyr, ac offeiriaid, ac athrawon, y rhai oeddynt o’r un broffes â Nehor: a hwy a ddaethant i’r carchar i’w gweled hwynt, a’u cwestiyno ynghylch llawer o eiriau; eithr ni atebasant hwy ddim iddynt. A darfu i’r barnwr sefyll o’u blaen, a dywedyd, Paham na atebwch eiriau y bobl hyn? Ai ni wyddoch fod gallu genyf i’ch traddodi i’r fflamiau? Ac efe a orchymynodd iddynt lefaru; eithr ni atebasant hwy ddim.
A bu iddynt hwy ymadael, a myned i’w ffordd, eithr a ddaethant dranoeth drachefn; a’r barnwr hefyd a’u cernodiodd drachefn. A llawer a ddaethant hefyd, ac a’u cernodiasant, gan ddywedyd, A safwch chwi drachefn i farnu y bobl hyn, a chondemnio ein cyfraith? Os oes genych y fath allu mawr, paham na waredwch eich hunain? A llaweer o bethau cyffelyb a ddywedasant hwy wrthynt, gan rincian eu dannedd arnynt, a phoeri arnynt, a dywedyd, Pa fodd yr edrychwn ni wedi cael ein damnio? A llawer o bethau cyffelyb, ïe, pob math o bethau cyffelyb a ddywedasant hwy wrthynt; ac felly y gwatwarasant hwynt am ddyddiau lawer. A hwy a attaliasant fwyd iddynt, fel y newynent, a dwfr, fel y sychedent; ac hefyd hwy a gymmerasant oddiwrthynt eu dillad, fel y byddent yn noethion; ac felly yr oeddynt yn rhwymedig â rheffynau cryfion, ac yn nghadw yn ngharchar.
A bu ar ol iddynt ddyoddef felly am ddyddiau lawer (ac yr oedd ar y deuddegfed dydd, yn y degfed mis, yn y ddegfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi), i’r prif farnwr dros dir Ammonihah, a llawer o’u hathrawon a’u cyfreithwyr, fyned i mewn i’r carchar lle yr oedd Alma ac Amulek wedi eu rhwymo â rheffynau. A’r prif farnwr a safodd o’u blaen hwynt, ac a’u tarawodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Os oes genych allu Duw, gwaredwch eich hunain o’r rhwymau hyn, ac yna ni a gredwn y dinystria yr Arglwydd y bobl hyn yn ol eich geiriau. A bu iddynt oll fyned a’u taraw hwynt, gan ddywedyd yr un geiriau, hyd at y diweddaf; ac wedi i’r diweddaf lefaru wrthynt, gallu Duw a ddaeth ar Alma ac Amulek, a hwy a gyfodasant ac a safasant ar eu traed, ac Alma a waeddodd, gan ddywedyd, Pa hyd, O Arglwydd, y cawn ddyoddef y cystuddiau hyn? O, Arglwydd, dyro nerth i ni yn ol ein ffydd yn Nghrist, hyd at ymwared: a hwy a dorasant y rheffynau ag oedd yn eu rhwymo; a phan welodd y y bobl hyn, dechreuasant ffoi, rhag ofn fod dinystr wedi dyfod arnynt.
A dygwyddodd i’w hofn fod mor ddirfawr, fel y syrthiasant i’r llawr, ac ni chyrhaeddasant y drws nesaf allan; a’r ddaear a ysgydwodd yn enbyd, a muriau y carchar a ddrylliwyd, fel y syrthiasant i’r ddaear; a’r prif farnwr, a’r cyfreithwyr, a’r offeiriaid, a’r athrawon, y rhai a gernodiasant Alma ac Amulek, a laddwyd yn eu cwymp. Ac Alma ac Amulek a ddaethant allan o’r carchar, ac nid oeddynt wedi eu niweidio; canys yr oedd yr Arglwydd wedi rhoddi gallu iddynt, yn ol eu ffydd yr hon oedd yn Nghrist. Ac yn y fan hwy a ddaethant allan o’r carchar; ac yr oeddynt wedi eu rhyddhau o’u rhwymau; ac yr oedd y carchar wedi syrthio i’r ddaear, a phob enaid ag oedd o fewn ei furiau, oddieithr Alma ac Amulek, wedi eu lladd; ac yn y fan hwy a ddaethant i’r ddinas. Yn awr, gan fod y bobl wedi clywed twrf mawr, hwy a ddaethant gan gyd-redeg yn dorfeydd, i wybod yr achos o hono; a phan welsant Alma ac Amulek yn dyfod allan o’r carchar, a bod ei furiau wedi syrthio i’r ddaear, hwy a darawyd â syndod mawr, ac a ffoisant o wyddfod Alma ac Amulek, megys gafr yn ffoi â’i llwdn rhag dau lew; ac felly y ffoisant hwy o wyddfod Alma ac Amulek.
A bu i Alma ac Amulek gael eu gorchymyn i ymadael o’r ddinas hono; a hwy a ymadawsant, ac a ddaethant hyd y nod i dir Sidom; ac wele, cawsant yno yr holl bobl a ymadawsant o dir Ammonihah, y rhai a fwriwyd allan ac a luchiwyd â cheryg, o herwydd iddynt gredu geiriau Alma. A hwy a adroddasant wrthynt yr hyn oll a ddygwyddodd i’w gwragedd a’u plant, ac hefyd ynghylch eu hunain, ac am allu eu gwaredigaeth. Ac hefyd yr oedd Zeezrom yn gorwedd yn glaf yn Sidom, o dwymyn boeth, yr hon a achoswyd trwy fawr dristwch ei feddwl, oblegid ei ddrygioni, canys tybiai am Alma ac Amulek nad oeddynt mwyach; ac efe a dybiodd eu bod wedi eu lladd, o achos ei ddrygioni ef. Ac yr oedd y pechod mawr hwn, a’i amrywiol bechodau ereill, wedi rhwygo ei feddwl, hyd nes yr aeth yn dra blin, heb gael ymwared; am hyny, efe a ddechreuodd gael ei ysu gan wres llosgedig. Yn awr, pan glywodd fod Alma ac Amulek yn nhir Sidom, ei galon a ddechreuodd ymwroli; ac anfonodd genadwri atynt yn uniongyrchol, i ddymuno arnynt ddygod ato ef.
A bu iddynt ddyfod ato yn ddioed, gan ufyddhau i’r genadwri a anfonodd efe atynt; a hwy a aethant i mewn i’r tŷ at Zeezrom; a hwy a’i cawsant yn gorwedd ar ei glaf-wely, gan fod yn dra isel mewn twymyn boeth; ac yr oedd ei feddwl hefyd yn flin iawn o herwydd ei anwireddau; a phan welodd hwynt, efe a estynodd allan ei law, ac a ddeisyfodd arnynt ei iachâu.
A bu i Alma ddywedyd wrtho, gan ei gymmeryd wrth ei law, A wyt ti yn credu yn ngallu Crist i iachawdwriaeth? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ydwyf, yr wyf yn credu yr holl eiriau a ddysgaist ti. Ac Alma a ddywedodd, Os wyt yn credu yn mhrynedigaeth Crist, gelli gael dy iachâu. Ac efe a ddywedodd, Ië, yr wyf yn credu yn ol dy eiriau di. Ac yna Alma a alwodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Arglwydd ein Duw, trugarha wrth y dyn hwn, ac iachâ ef yn ol ei ffydd yn Nghrist. Ac wedi i Alma lefaru y geiriau hyn, Zeezrom a neidiodd ar ei draed, ac a ddechreuodd rodio; a hyn a wnaed er wyndod mawr i’r holl bobl; a’r wybodaeth am hyn a aeth trwy holl dir Sidom. Ac Alma a fedyddiodd Zeezrom i’r Arglwydd; ac efe a ddechreuodd bregethu i’r bobl o’r pryd hwnw glwydd; ac efe a ddechreuodd bregethu i’r bobl o’r pryd hwnw allan. Ac Alma a sefydlodd eglwys yn nhir Sidom, ac a gyssegrodd offeiriaid ac athrawon yn y tir, i fedyddio i’r Arglwydd bwy bynag a ewyllysient gael eu bedyddio.
A dygwyddodd eu bod yn llawer; canys hwy a dyrent i mewn o’r ardal oddiamgylch Sidom, ac a fedyddiwyd; eithr gyda golwg ar y bobl ag oedd yn nhir Ammonihah, arosent etto yn bobl galon-galed a gwrthnysig; ac ni edifarhaent am eu pechodau, gan briodoli holl allu Alma ac Amulek i’r diafol; canys yr oeddynt hwy o’r un broffes â Nehor, ac ni chredent mewn edifeirwch am eu pechodau.
A bu i Alma ac Amulek, gan fod Amulek wedi gadael ei holl aur, a’i arian, a’i bethau gwerthfawr, y rhai oeddynt yn nhir Ammonihah, er mwyn gair Duw, ac wedi cael ei wrthod gan y rhai a fu yn gyfeillion iddo unwaith, ac hefyd gan ei dad a’i berthynasau; gan hyny, ar ol i Alma sefydlu yr eglwys yn Sidom, a gweled attaliad mawr, ïe, gan weled fod y bobl wedi eu hattal gyda golwg ar falchder eu calonau, ac yn dechreu ymostwng gerbron Duw, a dechreu ymgynnull ynghyd yn eu cyssegrfeydd i addoli Duw gerbon yr allor, gan wylio a gweddio yn wastadol, fel y gwaredid hwynt rhag satan, rhag marwolaeth, a rhag dinystr;—ac yn awr, megys ag y dywedais, ar ol i Alma weled yr holl bethau hyn, am hyny, efe a gymmerth Amulek ac a ddaeth drosodd i dir Zarahemla, ac a’i cymmerodd i’w dŷ ei hun, ac a weinodd iddo yn ei gystuddiau, ac a’i cryfhaodd yn yr Arglwydd. Ac felly y terfynodd y ddegfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.