Scriptures
Alma 30


Pennod ⅩⅩⅩ.

A bu yn nechreu yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, i Shiblon gymmeryd meddiant o’r pethau cyssegredig hyny a roddwyd i Helaman gan Alma; ac yr oedd efe yn ddyn cyfiawn, ac yn rhodio yn uniawn gerbron Duw; ac efe a ofalodd wneuthur daioni yn wastadol, i gadw gorchymynion yr Arglwydd ei Dduw; ac felly hefyd y gwnaeth ei frawd.

A dygwyddodd i Moroni farw hefyd. Ac felly y terfynodd yr unfed fiwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr. A bu yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr, i gwmpeini mawr o wyr, sef hyd y nod pum mil a phedwar cant o wyr, gyda’u gwragedd a’u plant, fyned allan o dir Zarahemla, i’r tir ag oedd yn ogleddol.

A dygwyddodd i Hagoth, gan ei fod yn wr tra chywrain, fyned ac adeiladu iddo ei hun long fawr, ar gyffiniau tir Llawnder, wrth dir Anghyfannedd dra, ac a’i gwthiodd allan i’r môr gorllewinol, ger y gwddf cul sydd yn arwain i’r tir gogleddol. Ac wele, yr oedd llawer o’r nephiaid a aethant i mewn iddi, ac a hwyliasant gyda llawer o luniaeth, ac hefyd lawer o wragedd a phlant; a hwy a gymmerasant eu cyfeiriad yn ogleddol. Ac felly y terfynodd y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain. Ac yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain, adeiladodd y dyn hwn longau ereill. A’r llong gyntaf a ddychwelodd hefyd, ac aeth llawer yn ychwaneg o bobl i mewn iddi; a hwythau hefyd a gymmerasant lawer o luniaeth, ac a aethant allan drachefn tua’r wlad ogleddol.

A bu na chlywyd byth am danynt mwyach. A meddyliwn ni iddynt foddi yn eigion y môr. A bu i long arall hefyd hwylio allan; ac i ba le yr aeth, nis gwyddom. A bu yn y flwyddyn hon, i lawer o bobl fyned allan i’r tir gogleddol. Ac felly y terfynodd y ddeunawfed flwyddyn ar hugain.

A dygwyddodd yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr, i Shiblon farw hefyd, ac yr oedd Corianton wedi myned allan i’r tir yn ogleddol, mewn llong, i gario lluniaeth allan i’r bobl ag oedd wedi myned i’r tir hwnw; am hyny, daeth yn anghenrheidiol i Shiblon i roddi y pethau cyssegredig hyny, cyn ei farwolaeth, i fab Helaman, yr hwn a elwid Helaman, gan gael ei alw yn ol enw er dad. Yn awr, wele, yr holl gerfladau hyny ag oeddynt yn meddiant Helaman, a ysgrifenwyd ac a ddanfonwyd yn mysg plant dynion trwy yr holl dir, oddieithr y rhanau hyny a orchymynodd Alma na chawsent fyned allan. Er hyny, yr oedd y pethau hyn i’w cadw yn gyssegredig, a’u trosglwyddo i waered o un genedlaeth i’r llall; am hyny, yn y flwyddyn hon, yr oeddynt wedi eu rhoddi i Helaman, cyn marwolaeth Shiblon. A dygwyddodd hefyd yn yr un flwyddyn fod rhai ymneillduwyr wedi myned at y Lamaniaid; a hwythau a gynhyrfwyd i fyny drachefn i ddigofaint yn erbyn y Nephiaid. Ac hefyd yn yr un flwyddyn, hwy a ddaethant i waered gyda byddin liosog i ryfel yn erbyn pobl Moronihah, neu yn erbyn byddin Moronihah, yn yr hyn y gorthrechwyd hwynt, ac y gyrwyd hwynt yn ol drachefn i’w tiroedd eu hunain, wedi dyoddef colled mawr. Ac felly y terfynodd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi. Ac felly y terfynodd hanes Alma, ac Helaman ei fab, ac hefyd Shiblon, yr hwn oedd ei fab.