Pennod ⅩⅠ.
A bu yn yr unfed flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, ar y pummed dydd o’r ail fis, ar ol bod heddwch mawr yn nhir Zarahemla; gan na fu rhyfeloedd nac amrafaelion am nifer o flynyddoedd, hyd y bummed dydd o’r ail fis, yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, i waedd rhyfel gael ei chlywed trwy yr holl dir; canys, wele, yr oedd byddinoedd y Lamaniaid wedi dyfod i mewn, yn ochr yr nialwch, i gyffiniau y tir, hyd at ddinas Ammonihah, a dechreu lladd y bobl a dinystrio y ddinas.
Ac yn awr, cyn y gallai y Nephiaid gyfodi byddin ddigonol i’w gyru allan o’r tir, yr oeddynt wedi dinystrio y bobl ag oedd yn ninas Ammonihah, a rhai hefyd oddiamgylch cyffiniau Noah, a chaethgludo ereill i’r anialwch.
Yn awr, dygwyddodd i’r Nephiaid chwennych cael yn ol y rhai a gaethgludwyd i’r anialwch; am hyny, yr hwn a benodwyd yn ben cad-ben ar fyddinoedd y Nephiaid (a’i enw oedd Zoram, ac yr oedd ganddo ddau fab, Lehi ac Aha), a chan ei fod ef a’i ddau fab yn gwybod fod Alma yn archoffeiriad dros yr eglwys, ac wedi clywed fod ganddo ysbryd y brophwydoliaeth, hwy a aethant ato, ac a ddymunasant gael gwybod ganddo pa un a oedd yr Arglwydd yn ewyllysio iddynt fyned i’r anialwch i chwilio am eu brodyr, y rhai a gaethgludwyd gan y Lamaniaid.
A bu i Alma ymofyn â’r Arglwydd ynghylch y mater. Ac Alma a ddychwelodd ac a ddywedodd wrthynt, Wele, y Lamaniaid a groesant yr afon Sidom yn yr anialwch deheuol, ychydig i fyny tuhwnt i gyffiniau tir Manti. Ac wele yno y cyfarfyddwch â hwynt, ar y tu deau i afon Sidom, ac yno y rhydd yr Arglwydd i ti dy frodyr, y rhai a gaethgludwyd gan y Lamaniaid.
A bu i Zoram a’i feibion groesi afon Sidom, gyda’u byddinoedd, a theithio ymaith tuhwnt i gyffiniau Manti, i’r anialwch deheuol, yr hwn oedd ar ochr ddwyreiniol i afon Sidom. A hwy a ddaethant ar fyddinoedd y Lamaniaid, a’r Lamaniaid a wasgarwyd ac a yrwyd i’r anialwch; a hwy a gymmerasant eu brodyr, y rhai a gaethgludwyd gan y Lamaniaid, ac ni chollwyd un enaid o’r rhai a gaethgludwyd. A hwy a ddygwyd gan eu brodyr i etifeddu eu tiroedd eu hunain. Ac felly y terfynodd yr unfed flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad y barnwyr, ar ol i’r Lamaniaid gael eu gyru allan o’r tir, ac i bobl Ammonihah gael eu dinystrio; ïe, pob enaid byw o’r Ammonihahaid a ddinystriwyd, ac hefyd eu dinas fawr, am yr hon y dywedent nas gallai Duw ei dinystrio o herwydd ei mawredd. Eithr wele, mewn un dydd y gadawyd hi yn anghyfannedd; a’r celaneddau a ddrylliwyd gan gwn ac anifeiliaid gwylltion o’r anialwch; er hyny, yn mhen llawer o ddyddiau, eu cyrff marwol a bentyrwyd ar wyneb y ddaear, ac a orchuddiwyd â thô tenau. Ac yn awr, yr oedd eu sawyr mor fawr, fel nad aeth y bobl i mewn i feddiannu tir Ammonihah am lawer o flynyddoedd. A gelwid ef Anghyfannedd-dra y Nehoriaid; canys yr oedd y rhai a laddwyd o’r un broffes â Nehor, a’u tiroedd a arosasant yn anghyfannedd. Ac ni ddaeth y Lamaniaid drachefn i ryfel yn erbyn y Nephiaid, hyd y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi. Ac felly am dair blynedd pobl Nephi a gawsant heddwch parhaus trwy yr holl dir.
Ac Alma ac Amulek a aethant i bregethu edifeirwch i’r bobl yn eu temlau, ac yn eu cyssegrfeydd, ac hefyd yn eu synagogau, y rhai oeddynt wedi eu hadeiladu yn ol dull yr Iuddewon. Ac i gynnifer a wrandawsent eu geiriau, y cyfranasant air Duw, yn ddidderbyn wyneb, yn wastadol. Ac felly yr aeth Alma ac Amulek allan, ac hefyd llawer yn ychwaneg, y rhai a ddewiswyd i’r gwaith, i bregethu y gair trwy yr holl dir. A daeth sefydliad yr eglwys yn gyffredinol trwy y tir, yn yr holl ardal oddiamgylch, yn mysg holl bobl y Nephiaid.
Ac nid oedd dim anghydraddoldeb yn eu mysg hwynt; ac yr oedd yr Arglwydd wedi tywallt ei ysbryd ar holl wyneb y tir, er parotoi meddyliau plant dynion, neu barotoi eu calonau i dderbyn y gair a gai ei ddysgu yn eu plith yn amser ei ddyfodiad, fel na chaledent yn erbyn ei air e, fel na fyddent anghrediniol, a myned yn mlaen i ddinystr, eithr y derbynient y gair gyda llawenydd, a chael eu himpio megys cangen i’r wir winwydden, fel yr elont i mewn i orphwysfa yr Arglwydd eu Duw.
Yn awr, yr offeiriaid hyny a aethent i blith y bobl, a bregethasant yn erbyn pob celwydd, a thwyll, a chenfigen, ac amryson, a malais, a chabledd, a lladrad, yspeiliad, anhraith, llofruddiaeth, godineb, a phob math o drythyllwch, gan floeddio na ddylai y pethau hyn fod felly; gan draethu pethau sydd i ddyfod ar fyrder; ïe, traethu am ddyfodiad Mab Duw, ei ddyoddefiadau a’i farwolaeth, ac hefyd adgyfodiad y meirw. A llawer o’r bobl a ymofynasant am y lle y denai Mab Duw; a dysgwyd hwynt yr ymddangosai efe iddynt ar ol ei adgyfodiad; a hyn a wrandawodd y bobl gyda llawenydd a gorfoledd mawr. Ac yn awr, ar ol i’r eglwys gael ei sefydlu trwy yr holl dir, wedi buddugoliaethu ar y diafol, a gair Duw wedi ei bregethu yn ei burdeb trwy yr holl dir, a’r Arglwydd yn tywallt ei feudithion ar ei bobl; ac felly y terfynodd y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.