Scriptures
Alma 20


Pennod ⅩⅩ.

Ac yn awr, dygwyddodd i feibion Alma fyned allan i blith y bobl, i draethu y gair iddynt. Ac Alma ei hun, hefyd, ni allai orphwys, ac efe a aeth allan hefyd. Ac yn awr, ni ddywedwn ychwaneg am eu pregethu, oddieithr iddynt bregethu y gair, a’r gwirionedd, yn ol ysbryd y brophwydoliaeth a dadguddiad; a hwy a bregethasant yn ol urdd santaidd Duw, trwy yr hwn yr oeddynt wedi eu galw.

Ac yn awr, mi a ddychwelaf at hanes y rhyfeloedd rhwng y Nephiaid a’r Lamaniaid, yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad y barnwyr. Canys wele, darfu i’r Zoramiaid ddyfod yn Lamaniaid; am hyny, yn nechreu y ddeunawfed flwyddyn, canfyddodd pobl y Nephiaid fod y Lamaniaid yn dyfod arnynt; am hyny, hwy a barotoisant i ryfel; ïe, hwy a gasglasant ynghyd eu byddinoedd yn nhir Jershon. A bu i’r Lamaniaid ddyfod gyda’u miloedd; a hwy a ddaethant i dir Antionum, yr hwn oedd tir y Zoramiaid; a dyn o’r enw Zerahemnah oedd eu blaenor. Ac yn awr, gan fod yr Amalekiaid o duedd fwy drygionus a llofruddiog, nag oedd y Lamaniaid, o honynt eu hunain, Zerahemnah a benododd ben-cadbeniaid ar y Lamaniaid, ac Amalekiaid a Zoramiaid oeddynt oll. Yn awr, hyn a wnaeth efe fel y gallai eu cadw hwy yn eu casineb tuag at y Nephiaid; fel y gallai eu dwyn hwynt yn ddarostyngedig, er cyflawniad ei fwriadau: canys, wele, ei fwriadau ef oedd cyffroi y Lamaniaid i ddigofaint yn erbyn y Nephiaid; a hyn a wnaeth fel y traws-feddiannai awdurdod mawr arnynt, ac hefyd fel y gallai ennill awdurdod ar y Nephiaid, trwy eu dwyn hwynt i gaethiwed, &c. Ac yn awr, bwriad y Nephiaid oedd amddiffyn eu tiroedd, a’u tai, a’u gwragedd, a’u plant, fel y cadwent hwynt o ddwylaw eu gelynion, ac hefyd fel y cadwent eu hiawnderau a’u breintiau; ïe, ac hefyd eu rhyddid, fel y gallent addoli eu Duw yn ol eu dymuniadau; canys gwyddent pe cwympent i ddwylaw y Lamaniaid, y cawsai pwy bynag a addolai Dduw, mewn ysbryd a gwirionedd, y gwir a’r bywiol Dduw, ei ddinystrio gan y Lamaniaid; ïe, a gwyddent hefyd am ddigofaint dirfawr y Lamaniaid tuag at eu brodyr, y rhai oeddynt bobl Anti-Nephi-Lehi; y rhai a elwid pobl Ammon; ac ni chymmerent hwy arfau i fyny; ïe, yr oeddynt wedi myned i gyfammod, ac ni wnaent ei dòri; am hyny, pe syrthient i ddwylaw y Lamaniaid, hwy a ddyfethid. Ac ni oddefai y Nephiaid iddynt gael eu dyfetha; am hyny, hwy a roddasant diroedd iddynt yn etifeddiaeth. A rhoddodd pobl Ammon ran fawr o’u heiddo i’r Nephiaid, i gynnal eu byddinoedd; ac felly y gorfodwyd y Nephiaid, yn unig i wrthsefyll y Lamaniaid, y rhai oeddynt gymmysgedd o Laman a Lemuel, a meibion Ishmael, a’r holl rai ag oedd wedi ymneillduo oddiwrth y Nephiaid, y rhai oeddynt Amalekiaid a Zoramiaid, a disgynyddion offeiriaid Noah. Yn awr, yr oedd y disgynyddion hyny mor lliosog, yn agos, ag oedd y Nephiaid; ac felly y gorfodwyd y Nephiaid i ymdrechu a’u brodyr, hyd at dywallt gwaed.

A bu fel yr oedd byddinoedd y Lamaniaid wedi ymgasglu ynghyd i dir Antionum, wele, yr oedd byddinoedd y Nephiaid yn barod i’w cyfarfod hwynt yn nhir Jershon. Yn awr, blaenor y Nephiaid, neu y dyn a benodwyd i fod yn ben-cadben ar y Nephiaid, a gymmerodd lywodraethiad holl fyddinoedd y Nephiaid; a’i enw oedd Moroni; a chymmerodd Moroni yr holl awdurdod, a llywodraethiad eu rhyfeloedd. Ac nid oedd efe ond pum mlwydd ar hugain oed pan y penodwyd ef yn bencadben ar fyddinoedd y Nephiaid.

A bu iddo ef gyfarfod a’r Lamaniaid ar gyffiniau Jershon, ac yr oedd ei bobl wedi eu harfogi â chleddyfau, a chrymgleddyfau, a phob math o offerynau rhyfel. A phan welodd byddinoedd y Lamaniaid fod pobl Nephi, neu fod Moroni wedi parotoi ei bobl â dwyfronegau, ac â braich-darianau, ac hefyd â tharianau i amddiffyn eu penau; ac hefyd yr oeddynt wedi ymwisgo mewn dillad trwchus. Yn awr, nid oedd byddin Zerahemnah wedi ei pharotoi ag un peth o’r fath. Nid oedd ganddynt hwy ond eu cleddyfau, a’u crymgleddyfau, eu bwaau a’u saethau, eu ceryg a’u ffyn-tafl; ac yr oeddynt hwy yn noethion, oddieithr croen ag oedd wedi ei wregysu o amgylch ei lwynau; ïe, yr oeddynt oll yn noethion, oddieithr y Zoramiaid a’r Amalekiaid. Eithr nid oeddynt hwy wedi eu harfogi â dwyfronegau, na tharianau; am hyny, yr oeddynt yn mawr ofni byddinoedd y Nephiaid, o herwydd eu harfogaeth, er fod eu rhifedi gymmaint yn fwy nâ’r Nephiaid.

Wele, yn awr, dygwyddodd, na feiddient hwy ddyfod yn erbyn y Nephiaid yn nghyffiniau Jershon: am hyny, hwy a aethant allan o dir Antionum, i’r anialwch, ac a gymmerasant eu taith oddiamgylch yn yr anialwch, ymaith wrth ben yr afon Sidon, fel y gallent ddyfod i dir Manti, a meddiannu y tir; canys ni feddylient y buasai byddinoedd Moroni yn gwybod pa le yr aethant. Eithr dygwyddodd, mor fuan ag yr ymadawsant i’r anialwch, i Moroni anfon yspïwyr i’r anialwch, i wylio eu gwersyll; a Moroni hefyd, gan wybod am brophwydoliaethau Alma, a ddanfonodd ryw ddynion ato, i ddymuno arno ymofyn â’r Arglwydd pa un a ddylai byddinoedd y Nephiaid fyned i amddiffyn eh hunain yn erbyn y Lamaniaid. A bu i air yr Arglwydd ddyfod at Alma, ac Alma a hysbysodd genadon Moroni fod byddinoedd y Lamaniaid yn teithio oddiamgylch yn yr anialwch, fel y gallent ddyfod drosodd i dir Manti, fel y gallent ddechreu ymosodiad ar y rhan wanaf o’r bobl. A’r cenadon hyny a aethant ac a fynegasant y genadwri i Moroni.

Yn awr, Moroni, gan adael rhan o’i fyddin yn nhir Jershon, rhag mewn rhyw fodd, i ran o’r Lamaniaid ddyfod i’r tir hwnw a meddiannu y ddinas, a gymmerodd y rhau weddilledig o’i fyddin ac a gychwynodd drosodd i dir Manti. Ac efe a achosodd i’r holl bobl yn y cwr hwnw o’r wlad, i ymgasglu ynghyd i ryfel yn erbyn y Lamaniaid, i amddiffyn eu tiroedd a’u gwlad, eu hiawnderau a’u rhyddid; am hyny, yr oeddynt yn barod erbyn amser dyfodiad y Lamaniaid. A dygwyddodd i Moroni achosi i’w fyddin gael eu celu yn y dyffryn ag oedd yn agos i làn yr afon Sidon, yr hwn oedd ar y gorllewin i afon Sidon yn yr anialwch. A Moroni a osododd yspïwyr oddiamgylch, fel y gallai wybod pa bryd y deuai gwersyll y Lamaniaid.

Yn awr, gan fod Moroni yn gwybod bwriad y Lamaniaid, mai eu bwriad oedd dinystrio eu brodyr, neu eu darostwng a’u dwyn i gaethiwed, fel y gallent sefydlu teyrnas iddynt eu hunain, dros yr holl dir; a chan ei fod ef hefyd yn gwybod mai unig ddymuniad y Nephiaid oedd cadw eu tiroedd, a’u rhyddid, a’u heglwys, meddyliodd na fuasai yn un pechod pe amddiffynai hwynt trwy ddichell; gan hyny cafodd allan, trwy ei yspïwyr, pa gyfeiriad oedd y Lamaniaid i gymmeryd. Am hyny, efe a ranodd ei fyddin, ac a ddygodd ran drosodd i’r dyffryn, ac a’u celodd hwynt ar y dwyrain, ac ar y deau i fryn Riplah; a’r gweddill a gelodd yn y dyffryn gorllewinol, ar y tu gorllewinol i afon Sidon, ac felly i waered i gyffiniau tir Manti. Ac felly wedi lleoli ei fyddin yn ol ei ddymuniad, yr oedd yn barod i’w cyfarfod hwynt.

A dygwyddodd i’r Lamaniaid ddyfod i fyny ar y tu gogleddol i’r bryn lle yr oedd rhan o fyddin Moroni yn guddiedig. Ac fel yr oedd y Lamaniaid yn myned heibio i fryn Riplah, ac yn dyfod i’r dyffryn, a dechreu croesi yr afon Sidon, y fyddin ag oedd yn guddiedig ar y tu deau i’r bryn, yr hon a arweinid gan ddyn o’r enw Lehi; ac efe a arweiniodd ei fyddin allan, ac a amgylchynodd y Lamaniaid, ar y dwyrain, ar eu tu ol.

A bu i’r Lamaniaid, pan welsant y Nephiaid yn dyfod arnynt ar eu tu ol, droi eu hunain, a dechreu ymladd â byddin Lehi; a gwaith marwolaeth a ddechreuodd ar bob ochr; eithr yr oedd yn fwy dychrynllyd o du y Lamaniaid; canys yr oedd eu noethni hwynt yn agored i ergydion trymion y Nephiaid, â’u cleddyfau a’u crymgleddyfau, y rhai a ddygent farwolaeth braidd gyda phob ergyd; tra ar y llaw arall, yr oedd dyn yn awr ac eilwaith yn syrthio yn mhlith y Nephiaid, trwy eu cleddyfau hwy, a cholli gwaed; gan eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag y rhanau mwyaf bywiol o’r corff, neu y rhanau mwyaf bywiol o’r corff yn cael eu hamddiffyn rhag ergydion y Lamaniaid, gan eu dwyfronegau, a’u braich-darianau, a’u helmau; ac felly y dygodd y Nephiaid yn mlaen waith marwolaeth yn mhlith y Lamaniaid. A bu i’r Lamaniaid ddychrynu, o herwydd y dystryw mawr yn eu plith, hyd nes y dechreuasant ffoi tuag afon Sidon. A hwy a ymlidiwyd gan Lehi a’i wyr, ac a yrwyd gan Lehi i ddyfroedd Sidon; a chroesasant ddyfroedd Sidon. A chadwodd Lehi ei fyddinoedd ar làn afon Sidon, fel na chawsent groesi.

A bu i Moroni a’i fyddin gyfarfod y Lamaniaid yn y dyffryn, ar yr ochr arall i afon Sidon, a dechreu syrthio arnynt, a’u lladd hwynt. A’r Lamaniaid a ffoisant drachefn o’u blaen hwythau, tua thir Manti; a chyfarfuwyd â hwynt drachefn gan fyddin oedd Moroni. Yn awr, ar yr achlysur hwn, ymladdodd y Lamaniaid yn enbyd; ïe, ni wybuwyd i’r Lamaniaid erioed ymladd gyda’r fath ddirfawr nerth a gwroldeb; naddo, hyd y nod o’r dechreuad; ac yr oeddynt yn cael eu cynhyrfu gan y Zoramiaid, a’r Amalekiaid, y rhai oeddynt eu pen-cadbeniaid a’u blaenoriaid, a chan Zerahemnah, yr hwn oedd eu pen-cadben, neu eu prif flaenor a llywydd; ïe, hwy a ymladdasant fel dreigiau; a llawer o’r Nephiaid a laddwyd trwy eu dwylaw; ïe, canys yr oeddynt yn hollti llawer o’u helmau, ac yn trywanu llaweer o’u dwyfronegau, ac yr oeddynt yn tori ymaith lawer o’u breichiau; ac felly y tarawodd y Lamaniaid yn eu digter llidiog. Er hyny, yr oedd y Nephiaid gwedi eu cynhyrfu gan achos gwell; canys ni ymladdent hwy am deyrnas nac am awdurdod, eithr ymladdent am eu cartref-leoedd, a’u rhyddid, eu gwragedd, a’u plant, a’u cyfan; ïe, am eu defodau o addoli, a’u heglwys; ac yr oeddynt yn gwneuthur yr hyn a deimlent yn ddyledswydd rwymedig arnynt i’w Duw; canys yr oedd yr Arglwydd wedi dywedyd wrthynt hwy, ac hefyd wrth eu tadau, Yn gymmaint ag nad ydych yn euog o’r trosedd cyntaf, nac ychwaith o’r ail, na oddefwch i’ch hunain gael eich lladd gan ddwylaw eich gelynion. A thrachefn, mae yr Arglwydd wedi dywedyd y cewch amddiffyn eich teuluoedd, hyd at dywallt gwaed; am hyny, i’r dyben yma yr ymladdai y Nephiaid â’r Lamaniaid, i amddiffyn eu hunain, a’u teuluoedd, a’u tiroedd, eu gwlad, a’u hiawnderau, a’u crefydd.

A dygwyddodd pan welodd gwyr Moroni ffyrnigrwydd a digter, y Lamaniaid, yr oeddynt ynghylch cilio a ffoi rhagddynt. A Moroni, gan ganfod eu bwriad, a anfonodd allan ac a gynhyrfodd eu calonau â’r meddyliau hyn; ïe, y meddyliau am eu tiroedd, eu rhyddid, ïe, eu rhyddhad oddiwrth gaethiwed. A bu iddynt droi ar y Lamaniaid, a galwasant ag un llais ar yr Arglwydd eu Duw, am eu rhyddid, a’u rhyddhad oddiwrth gaethiwed. A hyw a ddechreuasant sefyll yn erbyn y Lamananiaid mewn nerth; ac yn yr awr hono ag y galwasant ar yr Arglwydd am eu rhyddid, dechreuodd y Lamaniaid ffoi rhagddynt; a hwy a ffoisant hyd at ddyfroedd Sidon. Yn awr, yr oedd y Lamaniaid yn fwy lliosog; ïe, yn fwy nâ dwbl rhifedi y Nephiaid; er hyny, gyrwyd hwynt hyd nes yr oeddynt wedi ymgynnull ynghyd yn un corff, yn y dyffryn, ar y geulan, wrth afon sidon; am hyny, byddinoedd Moroni a’u hamgylchasant hwynt; ïe, sef ar bob tu i’r afon; canys wele, ar y dwyrain, yr oedd gwyr lehi; am hyny, pan welodd Zarahemnah wyr Lehi ar y dwyrain i afon Sidon, a byddinoedd Moroni ar y gorllewin i afon Sidon, a’u bod wedi eu hamgylchynu gan y Nephiaid, tarawyd hwynt â dychryn. Yn awr, pan welodd Moroni eu dychryn hwynt, gorchymynodd i’w wyr attal tywallt eu gwaed.

A bu iddynt ymattal, a chilio ychydig yn ol oddiwrthynt. A dywedodd Moroni wrth Zerahemnah, Wele, Zerahemnah, nad ydym ni yn ewyllysio bod yn wyr gwaedlyd. Gwyddoch eich bod yn ein dwylaw ni, etto nid ydym yn chwennych eich lladd chwi. Wele, ni ddaethom ni allan i ryfel yn eich erbyn chwi, fel y tywailtem eich gwaed, er mwyn cael awdurdod, ac nid ydym yn chwennych dwyn neb dan iau caethiwed. Eithr hyn yw yr unig achos i chwi ddyfod i’n herbyn ni; ïe, ac yr ydych yn ddigllawn wrthym o herwydd ein crefydd. Ond yn awr, yr ydych yn gweled fod yr Arglwydd gyda ni; ac yr ydych yn gweled ei fod wedi eich traddodi chwi i’n dwylaw. Ac yn awr, mi a ewyllysiwn i chwi ddeall fod hyn yn cael ei wneuthur i mi, o herwydd ein crefydd a’n ffydd yn Nghrist. Ac yn awr, gwelwch nas gellwch ddinystrio ein fydd hon. Yn awr, gwelwch mai hon yw ffydd wirioneddol Duw; ïe, gwelwch y gwna Duw ein cynnal, a’n cadw, a’n diogelu ni, cyhyd ag y byddom yn ffyddlawn iddo ef, ac i’n ffydd, a’n crefydd; ac ni oddefa yr Arglwydd byth i ni gael ein dinystrio, oddieithr i ni syrthio i drosedd, a gwadu ein ffydd. Ac yn awr, Zerahemnah, yr wyf yn gorchymyn i ti, yn enw y Duw hollalluog hwnw, a nerthodd ein breichiau, fel y cawsom allu drosoch chwi trwy ein ffydd, trwy ein crefydd, a thrwy ein defodau o addoliad, a thrwy ein heglwys, a thrwy y cymhorth cyssegredig ag sydd yn ddyledus arnom i’n gwragedd, a’n plant, trwy y rhyddid hwnw sydd yn ein rhwymo ni wrth ein tiroedd a’n gwlad; ïe, ac hefyd trwy gynnaliaeth gair santaidd Duw, i ba un yr ydym yn ddyledus am ein holl ddedwyddwch; a thrwy yr oll sydd fwyaf anwyl genym; ïe, ac nid hyn yw’r cyfan; yr wyf yn gorchymyn i chwi trwy yr holl ddymuniadau sydd genych am fywyd, am i chwi roddi eich arfau rhyfel i fyny i ni, ac ni cheisiwn ni eich gwaed, eithr arbedwn eich bywydau, os ewch i’ch ffordd, a pheidio dyfod drachefn i ryfel yn ein herbyn ni. Ac yn awr, os na wnewch hyn, wele, yr ydych yn ein dwylaw ni, ac mi a orchymynaf i’m gwyr syrthio arnoch, a rhoddi archollion marwolaeth yn eich cyrff, fel y difoder chwi; ac yna ni a gawn weled pwy a gaiff awdurdod ar y bobl hyn; ïe, ni a gawn weled pwy a ddygir i gaethiwed.

Ac yn awr, dygwyddodd pan glywodd Zerahemnah y geiriau hyn, iddo ddyfod a rhoddi i fyny ei gleddyf a’i grymgledd, a’i fwa, i ddwylaw Moroni, gan ddywedyd wrtho, Wele, dyma ein harfau rhyfel; ni a’u rhoddwn hwynt i fyny i ti, eithr ni oddefwn ein hunain i wneyd llw i ti, yr hwn y gwyddom y gwnawn ni ei dori, a’n plant hefyd; eithr cymmer ein harfau rhyfel, a gâd i ni ymadael i’r anialwch; os yn amgen, ni a gadwn ein cleddyfau, ac a drengwn neu orchfygu. Wele, nid ydym ni o’ch ffydd chwi, ac nid ydym yn credu mai Duw a’n traddododd ni i’ch dwylaw; eithr credwn mai eich cyfrwysdra chwi a’ch cadwodd rhag ein cleddyfau ni. Wele, eich dwyfronegau, a’ch tarianau, sydd wedi eich cadw chwi. Ac yn awr, pan orphenodd Zerahemnah lefaru y geiriau hyn, dychwelodd Moroni y cleddyf, a’r arfau rhyfel a dderbyniodd, i Zerahemnah, gan ddywedyd, Wele, ni a derfynwn y frwydr. Yn awr, nis gallaf gadw y geiriau a lefarais; am hyny, fel mai byw yr Arglwydd, ni chewch ymadael, oddieithr i chwi ymadael gyda llw, na ddychwelwch drachefn yn ein herbyn ni i ryfel. Yn awr, gan eich bod yn ein dwylaw, ni a dywalltwn eich gwaed ar y ddaear, neu fe gewch ymostwng i’r ammodau a gynnygiais i. Ac yn awr, pan lefarodd Moroni y geiriau hyn, Zerahemnah a gymmerodd ei gleddyf, ac yr oedd yn ddigllawn wrth Moroni, a rhuthrodd yn mlaen fel y lladdai Moroni; eithr pan gyfododd ei gleddyf, wele, un o filwyr Moroni a’i tarawodd hyd y nod i’r ddaear, a gwnaeth dori wrth y carn; ac efe a darawodd Zerahemnah hefyd, nes y cymmerodd ymaith gopa ei ben, a syrthiodd i’r ddaear. A Zerahemnah a giliodd rhagddynt, i blith ei filwyr.

A bu i’r milwr yr hwn a safodd gerllaw, ac a darawodd ymaith gopa Zerahemnah, gymmeryd i fyny y copa o’r llawr, gerfydd y gwallt, a’i osod ar flaen ei gleddyf, a’i estyn tuag atynt hwy, gan ddywedyd wrthynt â llef uchel. Megys y syrthiodd y copa hwn i’r ddaear, yr hwn yw copa eich penaeth, felly y syrthiwch chwithau i’r ddaear, oddieithr roddi o honoch i fyny eich arfau rhyfel, ac ymadael gyda chyfammod o heddwch.

Yn awr, yr oedd llawer, pan glywsant y geiriau hyn, a gweled y copa ag oedd ar y cleddyf, wedi eu taraw gan ddychryn, a daeth llawer yn mlaen, ac a daflasant i lawr eu harfau rhyfel, wrth draed Moroni, ac a wnaethant gyfammod o heddwch. A chynnifer ag a wnaethant gyfammod, a ganiatasant iddynt ymadael i’r anialwch.

Yn awr, dygwyddodd fod Zerahemnah yn dra digllawn, ac efe a gynhyrfodd y gweddill o’i filwyr i ddigofaint, er ymladd yn fwy galluog yn erbyn y Nephiaid. Ac yn awr, yr oedd Moroni yn ddigllawn, o herwydd cyndynrwydd y Lamaniaid; am hyny, efe a orchymynodd i’w bobl syrthio arnynt ‘u lladd. A bu iddynt ddechreu eu lladd hwynt; ïe, a’r Lamaniaid a ymdrechasant â’u cleddyfau, ac â’u holl nerth. Eithr wele, yr oedd eu croen noeth, a’u penau moel, yn agored i gleddyfau llymion y Nephiaid; ïe, wele, yr oeddynt yn cael eu trywanu a’u taraw; ïe, ac yr oeddynt yn syrthio yn gyflym iawn o flaen cleddyfau y Nephiaid; a dechreuasant gael eu hysgubo i lawr, megys yr oedd milwr Moroni wedi prophwydo. Yn awr, pan welodd Zerahemnah eu bod hwy oll ar gael eu dyfetha, efe a alwodd yn nerthol ar Moroni, gan addaw yr ymgyfammodai efe, a’i bobl hefyd, â hwynt, os arbedent y gweddill o’u bywydau, na ddelent byth drachefn i ryfel yn eu herbyn hwynt. A bu i Moroni achosi i waith marwolaeth beidio drachefn yn mhlith y bobl. Ac efe a gymmerodd yr arfau rhyfel oddiwrth y Lamaniaid; ac ar ol iddynt hwy wneyd cyfammod o heddwch ag ef, goddefwyd iddynt ymadael i’r anialwch. Yn awr, ni chyfrifwyd rhifedi eu meirw, o herwydd lliosogrwydd eu rhif; ïe, yr oedd rhif eu meirw yn fawr iawn, o ochr y Nephiaid a’r Lamaniaid. A bu iddynt daflu eu meirw i ddyfroedd Sidon; ac y maent wedi myned i lawr, a chael eu claddu yn nyfnderau y môr. A byddinoedd y Nephiaid, neu Moroni, a ddychwelasant, ac a ddaethant i’w tai, a’u tiroedd. Ac felly y terfynodd y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi. C felly y terfynodd cof-ysgrif Alma, yr hon oedd yn ysgrifenedig ar lafnau Nephi.