Pennod Ⅸ.
Yn awr, Alma, gan weled fod geiriau Amulek wedi dystewi Zeezrom; canys canfyddai fod Amulek wedi ei ddal ef yn ei gelwydd a’i dwyll pan yn ceisio ei ddinystrio, a chan weled ei fod ef yn dechreu crynu dan gydwybodolrwydd ei euogrwydd, efe a agorodd ei enau ac a ddechreuodd lefaru wrtho, ac i gadarnhau geiriau Amulek, ac i egluro pethau yn mhellach, neu esbonio yr ysgrythyrau yn mhellach nag y gwnaeth Amulek. Yn awr, clywyd y geiriau a lefarodd Alma wrth Zeezrom gan y bobl oddiamgylch; canys yr oedd y dyrfa yn fawr, ac efe a lefarodd yn y modd hyn: Yn awr, Zeezrom, gan weied dy fod wedi dy ddal yn dy gelwydd a’th gyfrwysdra, canys nid wrth ddynion yn unig y dywedaist gelwydd, eithr dywedaist gelwydd wrth Dduw; canys, wele, efe a ŵyr dy holl feddyliau, a thi a weli fod dy feddyliau yn cael eu gwneuthur yn hysbys i ni gan ei ysbryd ef; a thi a weli ein bod yn gwybod fod dy gynllun di yn gynllun tra chyfrwys, o ran cyfrwysdra y diafol, er dywedyd celwydd a thwyllo y bobl hyn, fel y gellit eu gosod hwynt yn ein erbyn ni, i’n difenwi a’n bwrw allan. Yn awr, cynllun oedd hwn o eiddo dy wrthwynebwr, yr hwn sydd wedi ymarfer ei awdurdod arnat. Yn awr, mi a fynwn i chwi gofio, fod yr hyn wyf yn ei ddywedyd wrthyt ti, yn cael ei ddywedyd wrth bawb. Ac wele, yr wyf yn dywedyd wrthych oll, mai magl o eiddo y gwrthwynebwr yw hyn, yr hon a osododd efe i ddal y bobl hyn, fel y dygai chwi yn ddarostyngedig iddo, fel y gallai eich amgylchynu â’i gadwynau, a’ch dwyn yn gaeth i ddinystr tragywyddol, yn ol gallu ei gaethgludiad ef.
Yn awr, ar ol i Alma orphen llefaru y geiriau hyn, Zeezrom a ddechreuodd grynu yn llawer mwy, canys yr oedd wedi ei argyhoeddi yn fwy-fwy o allu Duw; ac efe a argyhoeddwyd hefyd fod gan Alma ac Amulek wybodaeth am dano, canys yr oedd wedi ei argyhoeddi eu bod hwy yn gwybod meddyliau a bwriadau ei galon; o herwydd yr oedd gallu wedi ei roddi iddynt hwy i wybod y pethau hyn, yn ol ysbryd y brophwydoliaeth. A Zeezrom a ddechreuodd ymofyn â hwy yn ddyfal, fel y gallai wybod ychwaneg am deyrnas Dduw. Ac efe a ddywedodd wrth Alma, Pa beth a feddylia yr hyn a ddywedodd Amulek am adgyfodiad y meirw, y caiff pawb eu hadgyfodi oddiwrth y meirw, y cyfiawn a’r anghyfiawn, ac y dygir hwynt i sefyll gerbron Duw, i’w barnu yn ol eu gweithredoedd? Ac yn awr, dechreuodd Alma egluro y pethau hyn iddo, gan ddywedyd, Rhoddir i lawer wybod dirgelion Duw; er hyny, y maent dan orchymyn caeth, na chyfranont ond yn unig yn ol y gyfran o’i air, yr hon a rodda i blant dynion; yn ol yr ystyriaeth a’r dyfalwch a roddasant iddo; ac am hyny, yr hwn a galedo ei galon, y cyfryw a dderbynia y gyfran leiaf o’r gair; a’r hwn ni chaleda ei galon, iddo ef y rhoddir y gyfran fwyaf o’r gair, hyd nes y rhoddir iddo wybod dirgelion Duw, hyd nes y gwypo hwynt yn gyfiawn; a’r cyfryw a galedant eu calonau, iddynt hwy y rhoddir y gyfran leiaf o’r gair, hyd nes na wybyddont ddim am ei ddirgelion; ac yna hwy a gaethgludir gan y diafol, ac a arweinir gan ei ewyllys ef i ddystryw. Yn awr, dyma yr hyn a feddylir wrth gadwynau uffern; ac y mae Amulek wedi llefaru yn eglur ynghylch marwolaeth, a’n hadgyfodiad o’r marwoldeb hwn i sefyllfa o anfarwoldeb, a’n dygiad gerbron brawdle Duw, i’n barnu yn ol ein gweithredoedd. Yna, os bydd ein calonau wedi eu caledi, ïe, os byddwn wedi caledu ein calonau yn erbyn y gair, yn gymmaint ag na chaffwyd ef ynom, yna ein sefyllfa a fydd yn ddychrynllyd, canys yna byddwn wedi ein condemnio; canys ein geiriau a’n condemniant, ïe, ein holl weithredoedd a’n condemniant; nis ceir ni yn ddifrycheulyd; a’n meddyliau hefyd a’n condemniant; ac yn y sefyllfa ddychrynllyd hon ni feiddiwn edrych i fyny at ein Duw; a braidd na fyddem yn llawen pe gallem orchymyn i’r creigiau a’r mynyddoedd syrthio, i’n cuddio o’i wydd. Eithr nis gall hyn fod; bydd yn rhaid i ni ddyfod a sefyll ger oi fron ef yn ei ogoniant, ac yn ei allu, ac yn ei nerth, a’i fawrhydi, a’i lywodraeth, a chydnabod er ein cywilydd tragywyddol, fod ei holl farnedigaethau yn gyfiawn; ei fod ef yn gyfiawn yn ei holl weithredoedd, a’i fod yn drugarog tuag at blant dynion, ac fod ganddo bob gallu i achub pob dyn sydd yn credu yn ei enw, ac yn dwyn ffrwyth addas i edifeirwch.
Ac yn awr, wele, meddaf wrthych, yna y daw marwolaeth, sef ail farwolaeth, yr hon sydd farwolaeth ysbrydol; yna y bydd amser y caiff pwy bynag a fydd marw yn ei bechodau, gyda golwg ar farwolaeth dymmorol, farw hefyd farwolaeth ysbrydol; ïe, efe a fydd marw gyda golwg ar bethau perthynol i iachawdwriaeth; yna y bydd yr amser pan fydd eu poenedigaeth megys llyn o dân a brwmstan, fflamiau yr hon a esgynant i fyny yn oes oesoedd; ac yna y bydd yr amser y dygir hwy yn gaeth i ddinystr tragywyddol, yn ol gallu a chaethgludiad y diafol, gan ei fod ef wedi eu darostwng yn ol ei ewyllys. Yna, meddaf wrthych, y byddant megys pe na byddai prynedigaeth wedi ei gwneuthur; canys nis gellir eu gwaredu yn ol cyfiawnder Duw; ac nis gallent farw, gan weled nad oes llygredigaeth mwyach.
Yn awr, dygwyddodd pan orphenodd Alma lefaru y geiriau hyn, i’r bobl ddechreu rhyfeddu yn fwy: eithr rhyw Antionah, yr hwn oedd y prif lywodraethwr yn eu mysg, a ddaeth yn mlaen ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn a ddywedaist, y cyfodai dyn oddiwrth y meirw, ac y cyfnewidid ef o’r sefyllfa farwol hon i sefyllfa anfarwol, fel na allo yr enaid byth farw? Pa beth a feddylia yr ysgrythyr hon a ddywed i Dduw osod cerubiaid a chleddyf tanllyd ar y tu dwyreiniol i ardd Eden rhag i’n rhieni cyntaf fyned i mewn a chyfranogi o bren y bywyd, a bywyn dragywydd? Ac felly gwelwnnad oedd un cyfleusdra dichonadwy iddynt fyw yn dragywydd. Yn awr, Alma a ddywedodd wrtho, Hyn yw y peth oeddwn i ynghylch ei egluro. Yn awr, gwelwn i Adda syrthio trwy gyfranogi o’r ffrwyth gwaharddedig, yn ol gair Duw; ac felly, gwelwn, mai trwy ei gwymp yr aeth holl ddynolryw yn bobl golledig a syrthiedig. Ac yn awr, wele, meddaf wrthych, pe byddai yn bosibl i Adda gyfranogi o ffrwyth pren y bywyd yr amser hwnw, ni fuasai marwolaeth, a’r gair a fuasai yn ofer, gan wneuthur Duw yn gelwyddog: canys efe a ddywedodd, Os bwytai, gan farw ti a fyddi farw. A gwelwn fod marwolaeth yndyfod ar ddynolryw, ïe, y farwolaeth am yr hon y llefarwyd gan Amulek, yr hon yw y farwolaeth dymmorol; er hyny, penodwyd tymmor i ddyn yn yr hwn y gallai edifarhau; am hyny, aeth y bywyd hwn yn sefyllfa o brawf; yn amser parotoi i gyfarfod â Duw; yn amser parotoi erbyn y sefyllfa ddiddiwedd hono, am yr hon y llefarwyd genym ni, yr hon sydd yn ol adgyfodiad y meirw. Yn awr, oni buasai y cynllun o brynedigaeth, yr hwn a drefnwyd er seiliad y byd, ni allai fod adgyfodiad y meirw; eithr y mae cynllun o brynedigaeth wedi ei drefnu, yr hwn a ddwg oddiamgylch adgyfodiad y meirw, am yr hyn y llefarwyd. Ac yn awr, wele, pe byddai yn bosibl i’n rhieni cyntaf fyned a chyfranogi o bren y bywyd, hwy a aethent yn druenus am byth, heb feddu sefyllfa o barotoad; ac felly y cynllun o brynedigaeth a rwystrid, a buasai gair Duw yn ofer, heb gymmeryd un effaith. Ond, wele, nid felly y bu; eithr penodwyd i ddynion farw; ac ar ol marw, rhaid iddynt ddyfod i farn; ïe, sef y farn hono am ba un y llefarasom, yr hon yw y diwedd. Ac ar ol i Dduw benodi y pethau hyn i ddynion, wele, canfyddodd y byddai yn fuddiol i ddynion gael gwybod ynghylch y pethau a benododd efe iddynt; am hyny, efe a anfonodd angylion i ymddyddan â hwynt, y rhai a achosent i ddynion weled ei ogoniant. A hwy a ddechreuasant o’r amser hwnw allan i alw ar ei enw; am hyny, Duw a ymddyddanodd â dynion, ac a wnaeth yn hysbys iddynt gynllun prynedigaeth, yr hwn a ragbarotowyd er seiliad y byd; a hyn a wnaeth efe yn hysbys yn ol eu ffydd a’u hedifeirwch, a’u gweithredoedd santaidd; am hyny, efe a roddodd orchymynion i ddynion, gan eu bod hwy yn gyntaf wedi troseddu y gorchymynion cyntaf, gyda golwy ar bethau ag oedd yn dymmorol, ac wedi dyfod megys duwiau, yn adnabod y da oddiwrth y drwg, ac wedi gosod eu hunain mewn sefyllfa i weithredu, neu wedi cael eu gosod mewn scfyllfa i weithredu yn ol eu hewyllys a’u dymuniad, pa un bynag ai i wneuthur drwg neu wneuthur da; gan hyny, rhoddodd Duw orchymynion iddynt, ar ol gwneuthur yn hysbys iddynt y cynllun o brynedigaeth, na chaent wneuthur drwg, gan fod y gosb am hyny yn ail farwolaeth, yr hon sydd yn farwolaeth dragywyddol gyda golwg ar bethau perthynol i gyfiawnder; canys ar y cyfryw ni allai y cynllun o brynedigaeth gael un gallu, oblegid ni ellid dinystrio gweithredoedd cyfiawnder, yn ol mawr ddaioni Duw. Eithr Duw a alwodd ar ddynion, yn enw ei Fab (gan mai dyma y cynllun o brynedigaeth yr hwn a drefnwyd), an ddywedyd, Os edifarhewch, ac ni chaledwch eich calonau, yna mi a drugarhaf wrthych, trwy fy uniganedig Fab; gan hyny, pwy bynag a edifarhao, ac ni chaledwch eich calonau, yna mi a drugarhaf wrthych, trwy fy uniganedig Fab; gan hyny, pwy bynag a edifarhao, ac ni chaledo ei galon, efe a gaiff hawl ar drugaredd trwy fy unig-anedig Fab, er maddeuant o’i bechodau; a’r rhai hyn a gant fyned i mewn i’m gorphwysfa i A phwy bynag a galedo ei galon, ac a weithreda anwiredd, wele, yr wyf yn tyngu yn fy llid, nad â efe i mewn i’m gorphwysfa i. Ac yn awr, fy mrodyr, wele, meddaf i chwi, os caledwch eich calonau ni chewch fyned i mewn i orphwysfa yr Arglwydd; am hyny, mae eich anwiredd yn ei gyffroi ef, nes y mae yn anfon i lawr ei ddigofaint arnoch, megys yn y cyffroad cyntaf, ïe, yn ol ei air yn y cyffroad diweddaf, yn gystal ag yn y cyntaf, er dinystr tragywyddol eich eneidiau; am hyny, yn ol ei air, i’r farwolaeth ddiweddaf, yn gystal â’r gyntaf.
Ac yn awr, fy mrodyr, gan weled y gwyddom y pethau hyn, a’u bod yn wir, edifarhawn, ac na chaledwn ein calonau, fel ua chynhyrfom yr Arglwydd ein Duw i ollwng ei ddigofaint arnom yn ei ail orchymynion hyn, y rhai a roddodd efe i ni; eithr awn i mewn i orphwysfa Duw, yr hon sydd wedi ei pharotoi yn ol ei air. A thrachefn, fy mrodyr, mi a ewyllysiwn alw eich meddyliau at yr amser y rhoddodd yr Arglwydd Dduw y gorchymynion hyn i’w blant; ac mi a ewyllysiwn i chwi gofio i’r Arglwydd Dduw ordeinio offeiriaid, yn ol ei urdd santaidd ef, yr hwn oedd yn ol urdd ei Fab, i ddysgu y pethau hyn i’r bobl; a’r offeiriaid hyny a ordeiniwyd yn ol urdd ei Fab, mewn dull ag y gallai y bobl trwyddo wybod yn mha fodd i edrych at ei Fab am waredigaeth. A dyma y dull yn ol pa un yr ordeiniwyd hwynt: wedi eu galw a’u rhagbarotoi er seiliad y byd, yn ol rhagwybodaeth Duw, ar gyfrif eu ffydd fawr a’u gweithredoedd da; yn y lle cyntaf wedi eu gadael i ddewis da neu ddrwg; gan hyny, wedi dewis da, ac ymarfer ffydd fawr, hwy a alwyd â galwedigaeth santaidd, ïe, â’r alwedigaeth santaidd hono a barotowyd gyda, ac yn ol, prynedigaeth ddarpariadol i’r cyfryw; ac felly galwyd hwy i’r alwedigaeth santaidd hon ar gyfrif eu ffydd, tra y gwrthodai ereill ysbryd Duw ar gyfrif caledwch eu calonau a dallineb eu meddyliau, pan y gallent, oni bai hyn, fod wedi cael cymmaint braint â’u brodyr. Neu, yn fyr: yr oeddynt yn y lle cyntaf yn yr un sefyllfa â’u brodyr; felly yr oedd yr alwedigaeth santaidd hon wedi ei rhagbarotoi er seiliad y byd i’r cyfryw na chaledent eu calonau, gan fod yn a thrwy iawn yr unig-anedig Fab, yr hwn a ragbarotowyd; ac felly wedi eu galw trwy yr alwedigaeth santaidd hon, a’u hordeinio i archoffeiriadaeth urdd santaidd Duw, i ddysgu ei orchymynion i blant dynion, fel y gallent hwythau hefyd fyned i mewn i’w orphwysfa ef, gan fod yr archoffeiriadaeth hon yn ol urdd ei Fab, yr hwn urdd oedd er seiliad y byd: neu mewn geiriau ereill, heb ddechreu dyddiau na diwedd blynyddoedd, wedi ei ragbarotoi o dragywyddoleb i bob tragywyddoldeb, yn ol ei ragwybodaeth ef am bob peth. Yn awr, yr oeddynt wedi eu hordeinio yn y modd hyn: Wedi eu galw â galwedigaeth santaidd, a’u hordeinio ag ordeiniad santaidd, ac wedi cymmeryd arnynt archoffeiriadaeth yr urdd santaidd, yr hyn alwedigaeth, ac ordeiniad, ac arachoffeiriadaeth, sydd heb ddechreu na diwedd; felly y daethant yn archoffeiriaid yn dragywydd, yn ol urdd y Mab, unig-anedig y Tad, yr hwn sydd heb ddechreu dyddiau na diwedd blynyddoedd, yr hwn sydd yn llawn gras, uniondeb, a gwirionedd. Ac felly y mae. Amen.