Scriptures
Alma 7


Pennod Ⅶ.

Geiriau Alma, ac hefyd geiriau Amulek, y rhai a draethwyd wrth y bobl ag oedd yn nhir Ammonihah. Ac hefyd bwrir hwy yn ngharchar, ac a waredir gan allu gwyrthiol Duw yr hwn oedd ynddynt, yn ol cof-lyfr Alma.

A thrachefn, dygwyddodd wedi i mi, Alma, gael gorchymyn gan Dduw i gymmeryd Amulek, a myned allan a phregethu drachefn wrth y bobl hyn, neu y bobl ag oedd yn ninas Ammonihah, fel yr oeddwn yn dechreu pregethu wrthynt, iddynt ddechreu amryson â mi, gan ddywedyd, Pwy ydwyt ti? A wyt ti yn tybied y credwn ni dystiolaeth un dyn, hyd y nod pe pregethai wrthym fod y ddaear i fyned heibio? Yn awr, nid oeddynt hwy yn deall y geiriau a lefarent; canys ni wyddent yr elai y ddaear heibio. A hwy a ddywedasant hefyd, Ni chredwn ni dy eiriau, pe prophwydit y dinystrid y ddinas fawr hon mewn un dydd. Yn awr, nis gwyddent y medrai Duw wneuthur y fath weithredoedd rhyfeddol, canys yr oeddynt yn bobl calon-galed a gwrthnysig. A hwy a ddywedasant, Pwy yw Duw, yr hwn ni ddanfona fwy o awdurdod nag un dyn yn mysg y bobl hyn, i draethu wrthynt wirionedd y fath bethau mawrion a rhyfedd? A hwy a safasant i osod eu dwylaw arnaf. A minnau a safais gydag eofndra i draethu iddynt; ïe, mi a dystiolaethais yn eofn wrthynt, gan ddywedyd, Wele, O chwi genedlaeth ddrygionus a gwyrdraws, fel yr anghofiasoch draddiodiad eich tadau; ïe, mor fuan yr anghofiasoch orchymynion Duw. Ai nid ydych yn cofio i’n tad Lehi gael ei ddwyn allan o Jerusalem gan law Duw? Ai nid ydych yn cofio iddynt gael eu harwain oll ganddo ef trwy yr anialwch? A ydych wedi anghofio mor fuan gynnifer o weithiau y gwaredodd efe ein tadau o ddwylaw eu gelynion, a’u cadw rhag cael eu dyfetha, ïe, gan ddwylaw eu brodyr eu hunain? Ië, ac oni buasai ei allu digyffelyb ef, a’i drugaredd, a’i hir-ymaros tuag atom, buasem yn anocheladwy wedi ein dyfetha oddiar wyneb y ddaear, yn mhell cyn yr amser hwn, a’n trosglwyddo i sefyllfa o drueni a gwae diddarfod. Wele, yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, ei fod ef yn gorchymyn i chwi edifarhau; ac oni edifarhewch, nis gellwch mewn un modd etifeddu teyrnas Dduw. Eithr wele, nid hyn yw y cyfan: efe a orchymynodd i chwi edifarhau, neu ynte efe a’ch llwyr ddinystria oddiar wyneb y ddaear; ïe, efe a ymwel â chwi yn ei lid, ac yn ei ddigter llidiog nis try efe ymaith. Wele, ai nid ydych yn cofio y geiriau a lefarodd wrth Lehi, gan ddywedyd, Yn gymmaint ag y cadwch fy nghorchymynion, chwi a lwyddwch yn y tir? A thrachefn dywedir, Yn gymmaint ag nas cadwch fy nghorchymynion, chwi a dorir ymaith oddi gerbron yr Arglwydd. Yn awr, mi a fynwn i chwi gofio, yn gymmaint ag na chadwodd y Lamaniaid orchymynion Duw, iddynt gael eu tori ymaith oddi gerbron yr Arglwydd. Yn awr, gwelwn fod gair yr Arglwydd wedi ei wirio yn y peth hwn, a bod y Lamaniaid wedi eu tori ymaith oddi ger ei fron, er pan ddechreuodd eu troseddiadau yn y tir. Er hyny, yr wyf yn dywedyd wrthych, y bydd yn esmwythach arnynt hwy yn nydd y farn, nag arnoch chwi, os aroswch yn eich pechodau; ïe, ac hyd y nod yn esmwythach arnynt yn y bywyd hwn, nag arnoch chwi, oddieithr i chwi edifarhau, canys y mae llawer o addewidion y estynedig i’r Lamaniaid: canys traddodiadau eu tadau sydd wedi achosi iddynt hwy aros yn eu sefyllfa o anwybodaeth; am hyny, yr Arglwydd a fydd drugarog wrthynt, ac a estyna eu hoedl yn y tir. Ac mewn rhyw gyfnod o amser hwy a ddygir i gredu ei air, ac i wybod am anghywirdeb traddodiadau eu tadau; a llaweroedd o honynt a achubir, canys yr Arglwydd a fydd yn drugarog wrth bawb a alwo ar ei enw. Eithr wele, yr wyf yn dywedyd wrthych chwi, os parhewch yn eich drygioni, ni estynir eich dyddiau chwi yn y tir, canys y Lamaniaid a ddanfonir arnoch; ac os na edifarhewch, hwy a ddeuant mewn amser na wyddoch, ac ymwelir â chwi gyda llwyr ddinystr; a bydd yn ol digter llidiog yr Arglwydd; canys ni oddefa efe i chwi fyw yn eich anwireddau, i ddyfetha ei bobl. Na, meddaf wrthych; yn hytrach efe a oddefai i’r Lamaniaid ddyfetha yr holl bobl hyn, y rhai a elwir pobl Nephi, pe bai yn bosibl y gallent syrthio i bechodau a throseddau, ar ol cael cymmaint o oleuni a chymmaint o wybodaeth wedi eu rhoddi iddynt gan yr Arglwydd eu Duw; ïe, ar ol cael eu breintio yn fwy na phob cenedl, llwyth, iaith, a phobl ereill; ar ol cael pob peth wedi eu hegluro iddynt, yn ol eu dymuniadau, a’u ffydd, a’u gweddiau, ynghylch yr hyn a fu, a’r hyn sydd, a’r hyn a ddaw; wedi cael ysbryd Duw i ymweled â hwynt; wedi cael ymddyddan ag angylion, a llefaru wrthynt gan lais yr Arglwydd; ac wedi cael ysbryd y brophwydoliaeth, ac ysbryd y dadguddiad, ac hefyd amryw ddoniau: y ddawn o lefaru â thafodau, a’r ddawn i bregethu, a dawn yr Ysbryd Glâu, a’r ddawn i gyfieithu; ïe, ac wedi cael eu gwaredu gan Dduw allan o wlad Jerusalem, trwy law yr Arglwydd; wedi cael eu hachub rhag newyn, a rhag afiechyd, a phob math o glefydau o bob natur; ac wedi cael eu gwneyd yn gryfion mewn rhyfel, feol na chaffent eu dinystrio; wedi eu dwyn o gaethiwed dro ar ol tro, ac wedi eu cadw a’u diogelu hyd yn bresennol; ac y maent wedi eu llwyddo, nes y maent yn gyfoethog mewn pob math o bethau. Ac yn awr, wele, meddaf wrthych, pe byddai i’r bobl hyn, y rhai ydynt wedi derbyn cynnifer o fendithion oddiar law yr Arglwydd, droseddu yn groes i’r goleuni a’r wybodaeth a feddant: ïe, meddaf wrthych, pe felly byddai, iddynt syrthio i drosedd, buasai yn llawer esmwythach ar y Lamaniaid nag arnynt hwy. Canys, wele, y mae addewidion yr Arglwydd yn estynedig i’r Lamaniaid, eithr nid ydynt i chwi, os troseddwch: canys onid yw yr Arglwydd wedi dweyd yn bendant, ac wedi sicrhau y gosodiad, os gwrthryfelwch yn ei erbyn ef, y llwyr-ddinystria chwi oddiar wyneb y ddaear? Ac yn awr, i’r dyben yma, fel na ddinystrier chwi, yr Arglwydd a anfonodd ei angel i ymweled â llawer o’i bobl, gan fynegi wrthynt fod yn rhaiid iddynt fyned a llefaru yn nerthol wrth y bobl hyn, gan ddywedyd, Edifarhewch, canys y mae teyrnas nefoedd yn agos wrth law; a chyn pen llawer o ddyddiau etto, Mab Duw a ddaw yn ei ogoniant; a’i ogoniant fydd gogoniant unig-anedig y Tad, yn llawn gras, uniondeb, a gwirionedd, yn llawn amynedd, trugaredd, a hirymaros, yn barod i wrandaw cri ei bobl, ac i ateb eu gweddiau. Ac wele, y mae efe yn dyfod i waredu y rhai a fedyddir i edifeirwch, trwy ffydd yn ei enw; am hyny, parotowch ffordd yr Arglwydd, canys yr amser sydd wrth law y caiff pob dyn fedi gwobr am ei weithredoedd, yn ol yr hyn a fuont: os buont gyfiawn, hwy a fedant iachawdwriaeth eu heneidiau, yn ol gallu a gwaredigaeth Iesu Grist: ac os buont ddrwg, hwy a fedant ddamnedigaeth eu heneidiau, yn ol gallu a chaethgludiad y diafol. Yn awr, wele, hyn yw llais yr angel, yn llefaru wrth y bobl. Ac yn awr, fy anwyl frodyr, canys chwi yw fy mrodyr, a dylech gael eich caru, a chwithau a ddylech ddwyn gweithredoedd addas i edifeirwch, gan weled fod eich calonau wedi caledi yn fawr yn erbyn gair Duw, a chan weled eich bod yn bobl golledig a syrthiedig.

Yn awr, dygwyddodd, wedi i mi, Alma, lefaru y geiriau hyn, wele, y bobl a lidiasant wrthyf, oblegid i mi ddywedyd wrthynt eu bod yn bobl calon-galed a gwrthnysig; ac hefyd, oblegid i mi ddywedyd wrthynt eu bod yn bobl golledig a syrthiedig, hwy a aethant yn ddigllawn wrthyf, ac a geisiasant osod eu dwylaw arnaf, fel y bwrient fi yn ngharchar; eithr dygwyddodd na oddefai yr Arglwydd iddynt fy nghymmeryd y pryd hwnw, a’m bwrw yn ngharchar.

A bu i Amulek fyned a sefyll, gan ddechreu pregethu wrthynt hefyd. Ac yn awr, nid yw geiriau Amulek wedi eu hysgrifenu oll, er hyny y mae rhan o’i eiriau yn ysgrifenedig yn y llyfr hwn.