Pennod Ⅷ.
Yn awr, y rhai hyn yw y geieirau a bregethodd Amulek wrth y bobl ag oedd yn nhir Ammonihah, gan ddywedyd: Myfi yw Amulek, a myfi yw mab Giddonah, fab Ishmael, yr hwn oedd yn ddisgynydd o Aminadi; ac efe oedd yr Aminadi hwnw a gyfieithodd yr ysgrifen yr hon oedd ar fur y deml, yr hon a ysgrifenwyd gan fys Duw. Ac yr oedd Aminadi yn ddisgynydd o Nephi, fab Lehi, yr hwn a ddaeth allan o wlad Jerusalem, yr hwn oedd yn ddisgynydd o Manasseh, yr hwn oedd fab Joseph, yr hwn a werthwyd i’r Aifft trwy ddwylaw ei frodyr. Ac wele, nid wyf fi hefyd yn ddyn o gymmeriad isel yn mhlith y rhai a’m hadwaenant; ïe, ac wele, y mae genyf lawer o berthynasau a chyfeillion, ac yr wyf hefyd wedi crynhoi llawer o gyfoeth trwy law fy niwydrwydd; etto, ar ol y cyfan, ni wybum erioed lawer am ffyrdd yr Arglwydd, a’i ddirgelion a’i ryfedd allu. Mi a ddywedais na wyddwn erioed lawer am y pethau hyn; eithr wele, mi a gamsyniais, canys yr wyf wedi gweled llawer o’i ddirgelion a’i ryfedd allu; ïe, sef yn niogeliad bywydau y bobl hyn; er hyny, mi a galedais fy nghalon, canys galwyd arnaf amryw weithiau, ac ni wrandawais; am hyny, mi a wyddwn ynghylch y pethau hyn, etto ni fynwn wybod; gan hyny, aethym yn mlaen i wrthryfela yn erbyn Duw, yn nrygioni fy nghalon, ïe, hyd y pedwerydd dydd o’r seithfed mis hwn, yr hwn sydd yn y ddegfed flwyddyn o deyrnasiad y barnwyr. Pan yr oeddwn yn ymdeithio i weled perthynas tra agos, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd i mi, ac a ddywedodd, Amulek, dychwel i’th dŷ dy hun, oblegid ti a gai borthi prophwyd i’r Arglwydd; ïe, dyn santaidd, yr hwn sydd yn wr etholedig Duw; canys y mae wedi ymprydio ddyddiau lawer, o herwydd pechodau y bobl hyn, ac y mae yn newynog, a thi a gai ei dderbyn ef i’th dŷ a’i borthi, ac efe a’th fendithia di a’th dŷ; a bendith yr Arglwydd a orphwys arnat ti ac ar dy dŷ.
A bu i mi ufyddhau i lais yr angel, a dychwelyd tuag at fy nhŷ. A thra yr oeddwn yn myned tuag yno, cyfarfyddais â’r dyn am yr hwn y dywedodd yr angel wrthyf, Ti a gai ei dderbyn ef i’th dŷ: ac wele, efe oedd y dyn hwn a fu yn llefaru wrthych chwi ynghylch pethau Duw. A’r angel a ddywedodd wrthyf. Mae efe yn ddyn santaidd; am hyny, mi a wn mai dyn santaidd yw, oblegid i hyny gael ei ddywedyd gan angel Duw. A thrachefn, mi a wn fod y pethau am ba rai y tystiolaethodd, yn wir: canys, wele, meddaf wrthych, fel mai byw Duw, felly efe a anfonodd ei angel i egluro y pethau hyn i mi; a hyn a wnaeth efe tra yr oedd Alma yn trigo yn fy nhŷ, ac a’m bendithiodd innau, a’m benywod, a’m plant, a’m tad, a’m perthynasau; ïe, bendithiodd fy holl geraint, a bendith yr Arglwydd a orphwysodd arnom yn ol y geiriau a lefarodd.
Ac yn awr, wedi i Amulek lefaru y geiriau hyn, y bobl a ddechreuasant synu, gan weled fod mwy nag un tyst yn tystiolaethu am y pethau y cyhuddid hwynt o honynt, ac hefyd am y pethau oedd i ddyfod, yn ol ysbryd y brophwydoliaeth yr hwn oedd ynddynt; er hyny, yr oedd rhai yn eu plith hwy yn meddwl eu cwestiyno, fel y gallent trwy eu dyfeision dichellgar eu dal hwynt yn eu geiriau, fel y caent dystion yn eu herbyn, fel y gallent eu traddodi hwynt i’w barnwyr, fel y bernid hwynt yn ol y gyfraith, fel y caffent eu lladd neu eu bwrw yn ngharchar, yn ol y trosedd a wnelent hwy i ymddangos, neu i dystiolaethu yn eu herbyn. Yn awr, y dynion hyny, y rhai a geisient eu dinystrio hwy, oeddynt gyfreithwyr, y rhai a gyflogid neu a benodid gan y bobl i weinyddu y gyfraith ar amserau eu treialon, neu ar dreialon troseddau y bobl gerbron y barnwyr. Yn awr, yr oedd y cyfreithwyr hyn yn hyddysg yn holl gelfyddydau a chyfrwysdra y bobl; ac yr oedd hyn er eu galluogi i fod yn fedrus yn eu galwedigaeth. A bu iddynt ddechreu cwestiyno Amulek, fel trwy hyny y croesent ei eiriau, neu wrthwynebu y geiriau a lefarai. Yn awr, ni wyddent hwy y gallai Amulek fod yn hysbys o’u bwriadau. Eithr dygwyddodd, pan oeddynt yn dechreu ei gwestiyno ef, iddo wybod eu meddyliau, ac efe a ddywedodd wrthynt, O, chwi genedlaeth ddrygionus a gwyrdraws; chwi gyfreithwyr a rhagrithwyr; canys yr ydych yn gosod sylfeini y diafol; canys yr ydych yn gosod crog-lathau a maglau i ddal rhai santaidd Duw; yr ydych yn cynllwynio i wyrdroi ffyrdd cyfiawnder, ac i ddwyn digofaint ar eich penau, ïe, er llwyr ddinystr y bobl hyn; ïe, da y dywedodd Mosiah, yr hwn oedd ein brenin diweddaf, pan oedd ynghylch rhoddi i fyny y deyrnas, gan nad oedd ganddo neb i’w rhoddi iddo, gan achosi i’r bobl hyn gael eu llywodraethu gan eu llais eu hunain; ïe, da y dywedodd, os deuai yr amser i lais y bobl hyn ddewis anwiredd; hyny yw, os deuai yr amser i’r bobl hyn syrthio i drosedd, y byddent yn addfed i ddinystr. Ac yn awr, yr wyf yn dywedyd wrthych, mai da y barna yr Arglwydd eich anwireddau; da y gwaedda ar y bobl hyn, trwy lais ei angylion, Edifarhewch, edifarhewch, canys teyrnas nefoedd sydd yn agos. Ië, ac yr wyf yn dywedyd wrthych, oni bai gweddiau y cyfiawn, y rhai ydynt yn awr yn y tir, buasid yn ymweled â chwi, ïe, yn bresennol, â llwyr ddinystr; etto, ni fyddai trwy ddiluw, megys â’r bobl yn nyddiau Noah, eithr trwy newyn, a haint, a’r cleddyf. Eithr trwy weddiau y cyfiawn yr ydych yn cael eich arbed; yn awr, gan hyny, os bwriwch allan y cyfiawn o’ch plith, yna yr Arglwydd ni attal ei law, eithr yn ei ddigter llidiog efe a ddaw allan yn eich erbyn; yna y tarewir chwi â newyn, ac â haint, ac â’r cleddyf; ac y mae yr amser yn agos wrth law oni edifarhewch.
Ac yn awr, dygwyddodd i’r bobl fod yn fwy digllawn wrth Amulek, a hwy a waeddasant allan, gan ddywedyd, Mae y dyn hwn yn cablu ein cyfreithiau, y rhai ydynt uniawn, a’n cyfreithwyr doeth, y rhai a etholasom. Eithr Amulek a estynodd allan ei law, ac a lefodd yn uwch wrthynt, gan ddywedyd, O, chwi genedlaeth ddrygionus a gwyrdraws, paham y cafodd satan y fath afael mawr yn eich calonau? Paham yr ymollyngwch iddo ef, fel y gallo gael awdurdod arnoch, i ddallu eich llygaid, fel na ddealloch y geiriau a lefarir, yn ol eu gwirionedd? Canys, wele, a dystiolaethais i yn erbyn eich cyfraith? Nid ydych chwi yn deall; yr ydych yn dywedyd i mi lefaru yn erbyn eich cyfraith; ond ni wnaethym, eithr mi a lefarais yn ffafriol am eich cyfraith, er eich condemniad chwi. Ac yn awr, wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, fod sylfaen dinystr y bobl hyn yn dechreu cael ei gosod gan anghyfiawnder eich cyfreithwyr a’ch barnwyr.
Ac yn awr, dygwyddodd, ar ol i Amulek lefaru y geiriau hyn, i’r bobl waeddi allan yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Yn awr y gwyddom fod y dyn hwn yn blentyn i ddiafol, canys efe a ddywedodd gelwydd wrthym; canys efe a lefarodd yn erbyn ein cyfraith. Ac yn awr, dywed nad yw wedi llefaru yn ei herbyn. A thrachefn: y mae wedi cablu ein cyfreithwyr, a’n barnwyr, &c. A darfu i’r cyfreithwyr osod yn eu calonau hwy, i gofio y pethau hyn yn ei erbyn ef. Ac yr oedd un yn eu plith hwynt, a’i enw Zeezrom. Yn awr, efe oedd y blaenaf i gyhuddo Amulek ac Alma, gan ei fod ef yn un o’r rhai medrusaf yn eu plith, trwy fod ganddo lawer o waith i wneuthur yn mhlith y bobl. Yn awr, y dyben mewn golwg gan y cyfreithwyr hyn oedd elwa: a hwy a elwent yn gyferbyniol i’w gwasanaeth.
Yn awr, yr oedd yn nghyfraith Mosiah fod i bob dyn ag oedd yn farnwr y gyfraith, neu y rhai a benodid yn farnwyr, i dderbyn cyflogau yn gyferbyniol i’r amser a dreulient i farnu y rhai a ddygid ger eu bron i’w barnu.
Yn awr, os byddai dyn mewn dyled i arall, ac ni thalai yr hyn oedd yn ddyledus arno, achwynid yn ei erbyn wrth y barnwr; a’r barnwr a arferai awdurdod, ac a ddanfonai swyddogion er dwyn y dyn ger ei fron; ac efe a farnai y dyn yn ol y gyfraith a’r tystiolaethau a ddygid yn ei erbyn, ac felly gorfodid y dyn i dalu ei ddyled, neu gael ei ffonodio, neu ei fwrw allan o blith y bobl megys lleidr ac yspeiliwr. A’r barnwr a dderbyniai ei gyflog yn gyferbyniol i’w amser: senine o aur am ddiwrnod, neu senum o arian, yr hyn sydd yn gyfartal i senine o aur; a hyn sydd yn ol y gyfraith a roddwyd. Yn awr, y rhai hyn ydynt enwau y gwahanol ddarnau o’u haur, ac o’u harian, yn ol eu gwerth. A’r enwau a roddir gan y Nephiaid: canys nid oeddynt hwy yn cyfrif yn ol dull yr Iuddewon ag oedd yn Jerusalem; ac nid oeddynt yn mesur ychwaith yn ol dull yr Iuddewon, eithr hwy a gyfnewidiasant eu cyfrif a’u mesur, yn ol meddwl ac amgylchiadau y bobl, yn mhob cenedlaeth, hyd deyrnasiad y barnwyr, y rhai a sefydlwyd gan y brenin Mosiah. Yn awr, y cyfrif sydd fel hyn:—Senine o aur, seon o aur, shum o aur, a limnah o aur. Senum o arian, amnor o arian, ezrom o arian, ac onti o arian. Yr oedd senum o arian yn gyfartal i senine o aur: ac yr oedd pob un o’r ddau am fesur o haidd, ac hefyd am fesur o bob math o ŷd. Yn awr, yr oedd y swm o seon o aur, yn ddau cymmaint ei werth â senine; ac yr oedd shum o aur yn ddau cymmaint ei werth â seon; ac yr oedd limnah o aur yn werth y cyfan: ac yr oedd amnor o arian yn gymmaint â dau senum; ac yr oedd ezrom o arian yn gymmaint â phedwar senum; ac yr oedd onti yn gymmaint â’r cyfan. Yn awr, dyma werth rhifedi lleiaf eu cyfrif: shiblon yw hanner senum: am hyny, shiblon am hanner mesur o haidd; a shiblum yw hanner shiblon: a leah yw hanner shiblum. Yn awr, hyn yw eu rhifedi, yn ol eu cyfrif hwy. Yn awr, y mae antion o aur yn gyfartal i dri shiblon.
Yn awr, gan hyny, i’r unig ddyben o elwa (canys hwy a dderbynient eu cyflogau yn gyferbyniol i’w gwaith), hwy a gynhyrfent y bobl i derfysgoedd, a phob math o aflonyddwch a drygioni, fel y gallent hwy gael mwy o waith; fel y gallent gael arian yn gyferbyniol i’r achosion a ddygid ger eu bron: am hyny, hwy a gynhyrfasant y bobl yn erbyn Alma ac Amulek. A’r Zeezrom hwnw a ddechreuodd gwestiyno Amulek, gan ddywedyd, A atebi di ychydig o gwestiynau a ofynaf i ti? Yn awr, yr oedd Zeezrom yn ddyn medrus yn nyfeision y diafol, fel y gallai ddinystrio yr hyn oedd yn dda; am hyny, efe a ddywedodd wrth Amulek, A atebi di y cwestiynau a osodaf i ti? Ac Amulek a ddywedodd wrtho, Gwnaf, os byddant yn unol ag ysbryd yr Arglwydd, yr hwn sydd ynof; canys ni ddywedaf ddim sydd yn groes i ysbryd yr Arglwydd. A Zeezrom a ddywedodd wrtho, Dyma chwech onti o arian, a’r holl rai hyn a roddaf i ti, os gwedy fodoliaeth bôd goruchaf. Yn awr, Amulek a ddywedodd, O tydi blentyn uffern, paham y temti fi? Ai ni wyddost ti nad yw y cyfiawn yn ymollwng i’r fath brofedigaethau? A wyt ti yn credu nad oes Duw? Na, meddaf wrthyt; ti a wyddost fod Duw, eithr yr wyt yn caru yr elw hwna yn fwy nag ef. Ac yn awr, ti a ddywedaist gelwydd wrthyf o flaen Duw. Ti a ddywedaist wrthyf, Wele y chwech onti hyn, y rhai ydynt o werth mawr, a roddaf i ti, pan yr oedd yn dy galon i’w cadw oddi wrthyf; a’th ddymuniad yn unig oedd cael genyf i wadu y gwir a’r bywiol Dduw, fel y gallit gael achos i’m dyfetha. Ac yn awr, wele, am y drwg mawr hwn ti a gai dy wobr. A Zeezrom a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedi fod gwir a bywiol Dduw? Ac Amulek a ddywedodd, Ië, y mae gwir a bywiol Dduw. Yn awr, dywedodd Zeezrom, A oes mwy nag un Duw? Ac yntau a atebodd, Nac oes. Yn awr, Zeezrom a ddywedodd wrtho drachefn, Pa fodd y gwyddost ti y pethau hyn? A dywedodd yntau, Angel a’u gwnaeth hwynt yn hysbys i mi. A Zeezrom a ddywedodd drachefn, Pwy yw yr hwn sydd i ddyfod? Ai Mab Duw yw efe? Ac yntau a ddywedodd wrtho, Ië. A Zeezrom a ddywedodd drachefn. A achuba efe ei bobl yn eu pechodau? Ac Amulek a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyf yr dywedyd wrthych, Na wna, canys anmhosibl yw iddo ef wadu ei air.
Yn awr, Zeezrom a ddywedodd wrth y bobl, Edrychwch ar gofio o honoch y pethau hyn; canys efe a ddywedodd nad oes ond un Duw; er hyny efe a ddywed y daw Mab Duw, eithr na achub efe ei bobl, megys pe bydai ganddo ef awdurdod i orchymyn Duw. Yn awr, Amulek a ddywedodd drachefn wrtho, Wele, ti a ddywedaist gelwydd, canys dywedaist fy mod yn llefaru megys pe byddai genyf awdurdod i orchymyn Duw, o herwydd i mi ddywedyd na achub efe ei bobl yn eu pechodau. Ac yr wyf yn dywedyd wrthych drachefn, nas gall efe eu hachub hwynt yn eu pechodau; oblegid nas gallaf wadu ei air, ac y mae efe wedi dywedyd nas gall dim aflan etifeddu teyrnas nefoedd; am hyny, pa fodd yr achubir chwi, oddieithr i chwi etifeddu teyrnas nefoedd? Gan hyny, nis gellir eich achub yn eich pechodau. Yn awr, Zeezrom a ddywedodd wrtho drachefn, Ai Mab Duw yw y gwir Dad tragywyddol? A dywedodd Amulek wrtho, Ië, ee yw gwir Dad tragywyddol nef a daear, a phob peth sydd ynddynt: efe yw y dechreu a’r diwedd, y cyntaf a’r diweddaf; ac efe a ddaw i’r byd i wared ei bobl; ac efe a gymmer arno droseddiadau y rhai a gredant yn ei enw; a’r rhai hyn yw y rhai a gant fywyd tragywyddol, ac nid yw iachawdwriaeth yn dyfod i neb arall; am hyny, y drygionus a arosant megys pe na byddai prynedigaeth wedi ei gwneuthur, oddieithr dattodiad rhwymau marwolaeth; canys, wele, mae y dydd yn dyfod pan y caiff pawb eu hadgyfodi oddiwrth y meirw a sefyll gerbron Duw, a’u barnu yn ol eu gweithredoedd. Yn awr, y mae marwolaeth a elwir marwolaeth dymmorol: a marwolaeth Crist a ddattoda rwymau y farwolaeth hon, el yr adgyfoder pawb o’r farwolaeth dymmorol hon; yr ysbryd a’r corff a ail-unir etto yn eu ffurf berffaith: pob aelod a chymmal a adferir i’w priodol gorff, megys yr ydym ni yr amser hwn; a ni a ddygir i sefyll gerbron Duw, gan wybod megys y gwyddom yn awr, ac yn meddu adgof da am ein holl euogrwydd. Yn awr, yr adferiad hwn a ddaw i bawb, hen ac ieuanc, caeth a rhydd, gwrryw a benyw, y drygionus a’r cyfiawn; ac ni chollir hyd y nod gymmaint â gwelltyn o’u penau; eithr pob peth a adferir i’w ddull perffaith, megys y mae yn awr, neu yn y corff, ac a ddygir ac a wysir gerbron brawdle Crist y Mab, a Duw y Tad, a’r Ysbryd Glân, y rhai ydynt un Duw tragywyddol, i gael eu barnu yn ol eu gweithredoedd, pa un a fyddont ai da neu ddrwg.
Yn awr, wele, mi a lefarais wrthych am farwolaeth y corff marwol, ac hefyd am adgyfodiad y corff marwol. Yr wyf yn dywedyd wrthych fod y corff marwol i’w adgyfodi yn gorff anfarwol; hyny yw, o farwolaeth; sef o’r farwolaeth gyntaf i fywyd, fel nas gallant farw mwyach; gan fod eu hysbrydoedd yn uno â’u cyrff, y rhai nis gwahanir byth; ac felly mae y cyfan yn dyfod yn ysbrydol ac anfarwol, fel na welont lygredigaeth mwyach.
Yn awr, wedi i Amulek orphen y geiriau hyn, y bobl a ddechreuasant synu drachefn, a Zeezrom hefyd a ddechreuodd grynu. Ac felly terfynodd geiriau Amulek, neu hyn yw yr oll a ysgrifenais i.