Pennod ⅩⅩⅧ.
Wele, yn awr, dygwyddodd yn fuan wedi i Moroni ddanfon ei epistol at y prif lywodraethwr, iddo dderbyn epistol oddiwrth Pahoran, y prif lywodraethwr. A’r rhai hyn yw y geiriau a dderbyniodd:—Myfi, Pahoran, yr hwn wyf brif lywodraethwr y tir hwn, wyf yn danfon y geiriau hyn at Moroni, y pen-cadben ar y fyddin; wele, meddaf wrthyt ti, Moroni, nid wyf fi yn gorfoleddu yn eich cystuddiau mawrion; ïe, y mae yn gofidio fy enaid i. Eithr, wele, y mae rhai a orfoleddant yn eich cystuddiau; ïe, yn gymmaint â’u bod wedi cyfodi mewn gwrthryfel yn fy erbyn i, a’r rhai hyny hefyd o’m pobl ag ydynt ryddid-wyr; ïe, ac y mae y rhai ag ydynt wedi cyfodi yn dra lliosog; a’r rhai hyny a geisiasant gymmeryd yr orsedd farnol oddiwrthyf fi, fu yr achos o’r anwiredd mawr hwn, canys y maent yn defnyddio llawer o weniaith, ac wedi arwain ymaith galonau llaweroedd o bobl, yr hyn a fydd yn achos o gystudd blin yn ein mysg; y maent wedi attal ein lluniaeth, ac wedi gwangaloni ein rhyddid-wyr, fel na ddaethant atoch chwi. Ac wele, gyrasant fi allan o’u blaen, ac mi a ffoais i dir Gideon, gyda chynnifer o wyr ag oedd yn bosibgl i mi gael. Ac wele, mi a ddanfonais gyhoeddiad trwy y rhan hon o’r tir; ac wele, y maent yn ymgyrchu atom yn feunyddiol, at eu harfau, er amddiffyn eu gwlad a’u rhyddid, ac i ddial ein cam. Ac y maent wedi dyfod atom, hyd nes y mae y rhai a gyfodasant mewn gwrthryfel yn ein herbyn wedi eu herio, ïe, hyd nes y maent yn ein hofni, ac na feiddiant ddyfod allan yn ein herbyn i frwydr. Y maent wedi cael meddiant o’r tir, neu ddinas Zarahemla; y maent wedi penodi brenin arnynt, ac y mae efe wedi ysgrifenu at frenin y Lamaniaid, yn yr hwn y mae wedi uno mewn cynghrair ag ef; yn yr hwn gynghrair y mae efe wedi cytuno i gadw dinas Zarahemla, yr hyn gadwad feddylia a alluoga y Lamaniaid i orchfygu y gweddill o’r tir, ac iddo yntau gael ei osod yn frenin ar y bobl hyn, wedi iddynt gael eu gorchfygu gan y Lamaniaid. Ac yn awr, yr wyt wedi fy meio i yn dy epistol, ond nid yw wahaniaeth; nid wyf fi ddigllawn, eithr yr wyf yn gorfoleddu yn mawredd dy galon. Nid wyf fi, Pahoran, yn ymgeisio am awdurdod, ond yn unig i gadw fy ngorsedd farnol, fel y diogelwyf iawnderau a rhyddid fy mhobl. Fy enaid a erys yn ddisigl yn y rhyddid hwnw, yn yr hwn y gwnaeth Duw ni yn rhyddion.
Ac yn awr, wele, ni a wrthwynebwn ddrygioni hyd at dywallt gwaed. Ni thywalltem ni waed y Lamaniaid, pe arosent yn eu tir eu hunain. Ni thywalltem ni waed ein brodyr, pe ni chyfodent i fyny mewn gwrthryfel, a chymmeryd y cleddyf yn ein herbyn. Ni a ymostyngem i iau caethiwed pe buasai yn ofynol yn ol cyfiawnder, neu pe gorchymynai efe i ni wneuthur felly. Eithr wele, nid yw efe yn gorchymyn i ni ymostwng i’n gelynion, eithr am i ni osod ein hymddiried ynddo ef, ac efe a’n gwareda; am hyny, fy anwyl frawd, Moroni, bydded i ni wrthwynebu drwg, a pha ddrwg bynag na allwn ei wrthwynebu â’n geiriau, ïe, megys terfysgoedd ac ymraniadau, bydded i ni eu gwrthwynebu â’n cleddyfau, fel y cadwom ein rhyddid, ac fel y gorfoleddom yn rhagorfraint ein heglwys ac yn achos ein Gwaredwr a’n Duw. Am hyny, tyred ataf ar frys gydag ychydig o’th wyr, a gad y gweddill yn ngofal Lehi a Teancum; rho allu iddynt hwy i flaenori y rhyfel yn y rhan hona o’r tir, yn ol ysbryd Duw, yr hwn hefyd yw ysbryd rhyddid yr hwn sydd ynddynt. Wele, mi a ddanfonais ychydig o luniaeth iddynt, fel na threngont hyd nes y deui di ataf. Casgla ynghyd pa allu bynag a elli ar dy daith tuag yma, ac ni a awn ar frys yn erbyn yr ymneillduwyr yn nerth ein Duw, yn ol y ffydd yr hon sydd ynom. Ac ni a gymmerwn feddiant o ddinas Zarahemla, fel y caffom ragor o ymborth i ddanfon i Lehi a Teancum; ïe, ni a awn allan yn eu herbyn hwynt yn nerth yr Arglwydd, ac a osodwn derfyn ar y mawr anwiredd hwn.
Ac yn awr, Moroni, yr wyf yn llawenhau wedi derbyn dy epistol di, canys yr oeddwn rywfaint yn flin ynghylch pa beth a wnelem, pa un a oedd yn gyfiawn ynom i fyned i ryfel yn erbyn ein brodyr. Eithr ti a ddywedaist, os na edifarhaent, i’r Arglwydd orchymyn i ti fyned yn eu herbyn. Edrych dy fod yn cadarnhau Lehi a Teancum yn yr Arglwydd: dywed wrthynt am beidio ofni, canys Duw a’u gwareda; ïe, ac hefyd yr holl rai hyny a arosant yn ddisigl yn y rhyddid hwnw â pha un y rhyddhaodd Duw hwynt. Ac yn awr, yr wyf yn terfynu fy epistol at fy anwyl frawd Moroni.