Pennod ⅩⅣ.
Wele, dygwyddodd yn awr i frenin y Lamaniaid anfon cyhoeddiad allan yn mhlith ei holl bobl, na osodent eu dwylaw ar Ammon, neu Aaron, neu Omner, neu Himni, nac ychwaith ar un o’u brodyr a elai allan i bregethu gair Duw, yn mha le bynag y byddont, mewn unrhyw gŵr o’u tir; ie, efe a anfonodd orchymyn i’w mysg, na osodent eu dwylaw arnynt hwy i’w rhwymo, nac i’w bwrw yn ngharchar; ac na phoerent arnynt, na’u taraw, na’u bwrw allan o’u synagogau, na’u fflangellu hwynt; ac na luchient geryg atynt, eithr cael o honynt fynediad rhydd i’w tai, ac hefyd i’w temlau, a’u cyssegrfeydd; a chael myned allan felly a phregethu y gair yn ol eu dymuniadau, oblegid yr oedd y brenin wedi ei ddychwelyd at yr Arglwydd, ynghyd â’i holl deulu: am hyny, efe a anfonodd ei gyhoeddiad trwy yr holl dir at ei bobl, fel na fyddai i air Duw gael un rhwystr, eithr fel yr elai allan trwy yr holl dir, fel yr argyhoeddid ei bobl ynghylch traddodiadau drygionus eu tadau, ac fel yr argyhoeddid hwynt eu bod oll yn frodyr, ac na ddylent lofruddio, nac yspeilio, na lladrata, na godinebu, na chyflawni un math o ddrygioni. A bu yn awr, wedi i’r brenin anfon allan y cyhoeddiad hwn, i Aaron a’i frodyr fyned o ddinas i ddinas, ac o un addoldy i’r llall, gan sefydlu eglwysi, a chyssegru offeiriaid ac athrawon trwy y tir yn mhlith y Lamaniaid, i bregethu a dysgu gair Duw yn en mysg: ac felly y dechreuasant gael llwyddiant mawr. A dygwyd miloedd i wybodaeth o’r Arglwydd, ïe, dygwyd miloedd i gredu yn nhraddodiadau y Nephiaid, a hwy a ddysgwyd yn y cof-lyfrau a’r prophwydoliaethau a drosglwyddwyd i lawr hyd yr amser presennol; a chan sicred ag mai byw yr Arglwydd, can sicred hefyd i gynnifer a gredodd, neu gynnifer a ddygwyd i wybodaeth o’r gwirionedd, trwy bregethiad Ammon a’i frodyr, yn ol ysbryd y dadguddiad a’r brophwydoliaeth, a gallu Duw yn cyflawni gwyrthiau trwyddynt; ïe, meddaf i chwi, fel mai byw yr Arglwydd, cynnifer o’r Lamaniaid ag a gredasant eu pregethu, ac a ddychwelwyd at yr Arglwydd, ni syrthiasant ymaith byth, canys hwy a ddaethant yn bobl gyfiawn: taflasant i lawr arfau eu gwrthryfel, fel nad ymladdent mwyach yn erbyn yr Arglwydd, nac yn erbyn neb o’u brodyr. Yn awr, dyma y rhai a ddychwelwyd at yr Arglwydd: pobl y Lamaniaid, y rhai oedd yn nhir Ishmael, ac hefyd bobl y Lamaniaid ag oedd yn nhir Middoni, ac hefyd bobl y Lamaniaid ag oedd yn ninas Nephi, ac hefyd bobl y Lamaniaid ag oedd yn nhir Shilom, a’r rhai ag oedd yn nhir Shemlon, ac yn ninas Lemuel, ac yn ninas Shimnilom; a dyma enwau dinasoedd y Lamaniaid a ddychwelwyd at yr Arglwydd; a dyma y rhai a osodasant i lawr arfau eu gwrthryfel, ïe, eu holl arfau rhyfel: a Lamaniaid oeddynt oll. Ac ni ddychwelwyd yr Amalekiaid, oddieithr un; nac ychwaith neb o’r Amuloniaid; eithr hwy a galedasant eu calonau y Lamaniaid yn y rhan hono o’r tir lle bynag y preswylient; ïe, a’u holl bentrefi, a’u holl ddinasoedd; am hyny, ni a enwasom holl ddinasoedd y Lamaniaid lle yr edifarasant ac y daethant i wybodaeth o’r gwirionedd, ac y dychwelasant.
Ac yn awr, dygwyddodd i’r brenin a’r rhai a ddychwelwyd, ddymuno cael enw, fel trwy hyny y gellid eu gwahaniaethu oddiwrth eu brodyr; am hyny, y brenin a ymgynghorodd ag Aaron, ac amryw o’u hoffeiriaid, ynghylch yr enw a gaent gymmeryd arnynt, fel y gellid eu gwahaniaethu. A bu iddynt alw eu henw Anti-Nephi-Lehiaid; a hwy a alwyd wrth yr enw hwn, ac nis galwyd hwynt mwyach yn Lamaniaid. A dechreuasant fod yn bobl ddiwyd iawn: ïe, ac yr oeddynt yn gyfeillgar â’r Nephiaid; am hyny, hwy a ddechreuasant ymgyfathrachu â hwynt, a melldith Duw nis canlynodd hwynt mwyach.
A bu i’r Amalekiaid, a’r Amuloniaid, a’r Lamaniaid ag oedd yn nhir Amulon, ac hefyd yn nhir Helam, a’r rhai ag oedd yn nhir Jerusalem, ac yn fyr, yn yr holl dir oddiamgylch, ag oedd heb eu dychwelyd, ac heb gymmeryd arnynt yr enw o Anti-Nephi-Lehi, gael eu cyffroi gan yr Amalekiaid a chan yr Amuloniaid i ddigofaint yn erbyn eu brodyr; a’u casineb tuag atynt a aeth mor enbyd, nes y dechreuasant wrthryfela yn erbyn eu brenin, yn gymmaint ag na fynent iddo fod yn frenin arnynt; am hyny, hwy a ymarfogent yn erbyn pobl Anti-Nephi-Lehi.
Yn awr, y brenin a roddodd y deyrnas i’w fab, ac a alwodd ei enw Anti-Nephi-Lehi. A’r brenin a fu farw yn y flwyddyn hono ag y dechreuodd y Lamaniaid ymbarotoi i ryfel yn erbyn pobl Dduw. Yn awr, pan welodd Ammon a’i frodyr, a’r holl rai a ddaethant i fyny gydag ef, barotoiadau y Lamaniaid i ddinystrio eu brodyr, hwy a ddaethant i dir Midian, ac yno y cyfarfyddodd Ammon â’i holl frodyr; ac oddiyno hwy a ddaethant i dir Ishmael, fel yr ymgynghorent â Lamoni, ac hefyd â’i frawd Anti-Nephi-Lehi, pa beth a wnaethent i amddiffyn eu hunain yn crbyn y Lamaniaid. Yn awr, nid oedd un enaid yn mysg y bobl ag a ddychwelwyd at yr Arglwydd, a gymmerai arfau yn erbyn eu brodyr; na, ni wnaent y parotoad lleiaf i ryfel; ïe, ac hefyd yr oedd eu brenin wedi eu gorchymyn na chaent. Yn awr, dyma y geiriau a ddywedodd efe wrth y bobl ynghylch y mater: Yr wyf yn diolch i Dduw, fy mhobl anwyl, fod ein Duw mawr o’i ddaioni, wedi anfon atom ein brodyr hyn, y Nephiaid, i bregethu i ni, ac i’n hargyhoeddi o draddodiadau ein tadau drygionus. Ac wele, yr wyf yn diolch i’m Duw mawr iddo roddi i ni gyfran o’i ysbryd i feddalhau ein calonau, nes i ymgyfathrachu â’r brodyr hyn, y Nephiaid; ac wele, yr wyf hefyd yn diolch i’m Duw, mai trwy ddechreu y gyfathrach hyn yr argyhoeddwyd ni o’n pechodau, ac o’r llofruddiaethau a gyflawnasom; ac yr wyf hefyd yn diolch i’m Duw, ïe, fy Nuw mawr, ei fod wedi caniatâu i ni edifarhau am y pethau hyn, ac hefyd ei fod wedi maddeu i ni ein haml-bechodau a’r llofruddiaethau a gyflawnasom, a chymmeryd ymaith yr euogrwydd o’n calonau, trwy haeddiant ei Fab. Ac yn awr, wele, fy mrodyr, gan mai yr oll a allem ni wneuthur (gan mai ni oedd y mwyaf colledig o holl ddynolryw), oedd edifarhau am ein holl bechodau a’r llofruddiaethau aml a gyflawnasom, a chael gan Dduw i’w cymmeryd ymaith o’n calonau, canys yr oll allem ni wneuthur oedd edifarhau yn ddigonol gerbron Duw, fel y dilëai efe ein hystaen. Yn awr, fy mrodyr anwylaf, gan fod Duw wedi dileu ein hystaeniadau, a’n cleddyfau wedi dyfod yn loywon, yna nac ystaeniwn ein cleddyfau mwyach â gwaed ein brodyr. Wele, meddaf wrthyf, na, cadwn ein cleddyfau, fel na ystaenier hwynt â gwaed ein brodyr: canys, efallai, pe ystaeniem ein cleddyfau drachefn, nas gallant mwyach gael eu gwneyd yn loywon trwy waed Mab ein Duw mawr, yr hwn a dywalltir er rhoddi iawn am ein pechodau. Ac y mae’r Duw mawr wedi trugarhau wrthym, a gwneuthur y pethau hyn yn hysbys i ni, fel na chyfrgollid ni; ïe, ac efe a wnaeth y pethau hyn yn hysbys i ni yn mlaenllaw, oblegid y mae efe yn caru ein heneidiau cystal ag y mae yn caru ein plant; am hyny, yn ei drugaredd, y mae yn ymweled â ni trwy ei angylion, fel yr amlyger cynllun yr iachawdwriaeth i ni yn gystal ag i genedlaethau dyfodol. O, mor drugarog yw ein Duw! Ac yn awr, wele, gan ei fod yn gymmaint a allem wneuthur i ddileu ein hystaeniadau oddi wrthym, a gloywi ein cleddyfau, bydded i ni eu cuddio, fel y cadwer hwynt yn loywon, yn dystiolaeth i’n Duw yn y dydd diweddaf, neu yn y dydd y dygir ni ger ei fron i gael ein barnu, na fu i ni ystaenio ein cleddyfau yn ngawaed ein brodyr, er pan gyfranodd ei air i ni, ac a’n glanhaodd trwyddo. Ac yn awr, fy mrodyr, os ein brodyr a geisiant ein dyfetha, wele, ni a guddiwn ein cleddyfau, ïe, ni a’u claddwn hwynt yn ddwfn yn y ddaear, fel y cadwer hwynt yn loywon, yn dystiolaeth yn y dydd diweddaf, na fu i ni erioed eu defnyddio; ac os dyfethir ni gan ein brodyr, wele, cawn fyned at ein Duw, a chael ein hachub.
Ac yn awr, dygwyddodd wedi i’r brenin orphen y geiriau hyn, a’r holl bobl wedi ymgynnull ynghyd, iddynt gymmeryd eu cleddyfau, a’r holl arfau a ddefnyddient er tywallt gwaed dyn, ac a’u claddasant yn ddwfn yn y ddaear; a hyn a wnaethant, gan ei olygu yn dystiolaeth i Dduw, ac hefyd i ddynion, na arferent arfau byth drachefn er tywallt gwaed dyn, a hyn a wnaethant, gan dystiolaethu ac ymgyfammodi â Duw, y byddai iddynt, yn hytrach nâ thywallt gwaed eu brodyr, roddi i fyny eu bywydau eu hunain; ac yn hytrach na chymmeryd ymaith oddiwrth frawd, y rhoddent iddo; ac yn hytrach nâ threulio eu dyddiau mewn segurdod, y llafurient yn helaeth â’u dwylaw: ac felly gwelwn pan ddygwyd y Lamaniaid hyn i gredu ac i wybod y gwirionedd, eu bod yn ddisigl, ac y dyoddefent hyd angeu, yn hytrach nâ chyfiawni pechod; ac felly gwelwn iddynt gladdu eu harfau heddwch, neu gladdu eu harfau rhyfel er mwyn heddwch.
A bu i’w brodyr y Lamaniaid ymbarotoi i ryfel, a dyfod i fyny i dir Nephi i’r dyben o ddyfetha y brenin, a gosod un arall yn ei le, ac hefyd ddyfetha pobl Anti-Nephi-Lehi allan o’r tir. Yn awr, pan welodd y bobl eu bod yn dyfod i’w herbyn, hwy a aethant allan i’w cyfarfod, ac a ymorweddasant ar y ddaear o’u blaen hwynt, ac a ddechreuasant alw ar enw yr Arglwydd; ac felly yr oeddynt yn yr agwedd yma pan ddechreuodd y Lamaniaid syrthio arnynt, a dechreu eu lladd hwynt â’r cleddyf; ac felly heb gyfarfod â gwrthwynebiad, lladdasant fil a phump o honynt; ac ni a wyddom eu bod yn wynfydedig, canys aethant i drigo gyda eu Duw. Yn awr, pan welodd y Lamaniaid nad oedd eu brodyr yn ffoi rhag y cleddyf, ac na throent o’r neilldu i’r deau na’r aswy, ond eu bod yn gorwedd i lawr i drengu, ac yn moli Duw hyd y nod yn y weithred o drengu dan y cleddyf; yn awr, pan welodd y Lamaniaid hyn, hwy a attaliasant eu lladd: ac yr oedd llaweroedd â’u calonau wedi chwyddo o’u mewn o herwydd y cyfryw o’u brodyr ag oeddynt wedi syrthio dan y cleddyf, canys hwy a edifarasant am y pethau a wnaethent.
A bu iddynt daflu i lawr eu harfau rhyfel, ac ni chymmerent hwynt i fyny drachefn, canys yr oeddynt wedi eu brathu o herwydd llofruddiaethau a gyflawnasant; a hwythau a ymorweddent i lawr megys eu brodyr, gan hyderu yn nhrugaredd y rhai oedd â’u breichiau wedi eu dyrchafu i’w lladd.
A dygwyddodd i bobl Dduw gael mwy i ymuno â hwynt y diwrnod hwnw, nâ’r rhifedi a laddwyd; ac yr oedd y rhai a laddwyd yn bobl gyfiawn; am hyny, nid oes achos genym i ammau nad ydynt wedi eu hachub. Ac nid oedd un dyn drygionus yn eu plith wedi ei ladd; eithr yr oedd mwy nâ mil wedi eu dwyn i wybodaeth o’r gwirionedd; felly, gwelwn fod yr Arglwydd yn gweithio mewn amryw ffyrdd er iachawdwrineth ei bobl. Yn awr, y rhifedi mwyaf o’r Lamaniaid hyny, y rhai a laddasant gynnifer o’u brodyr, oeddynt Amalekiaid ac Amuloniaid, y rhan fwyaf o ba rai oeddynt yn ol urdd y Nehoriaid. Yn awr, yn mhlith y rhai a ymunasant â phobl yr Arglwydd, nid oedd neb o’r Amalekiaid na’r Amuloniaid, na’r rhai oedd o urdd Nehor, eithr yr oeddynt y wir ddisgynyddion o Laman a Lemuel; ac felly gallwn weled yn eglur, ar ol i bobl gael eu goleno unwaith gan ysbryd Duw, a chael gwybodaeth fawr am bethau perthynol i gyfiawnder, ac yna syrthio ymaith i bechod a throsedd, eu bod yn myned yn fwy celyd, ac felly mae eu sefyllfa yn myned yn waeth nâ phe byddent erioed heb wybod am y pethau hyn.
Ac wele, dygwyddodd yn awr, fod y Lamaniaid hyny yn ddigllonach, o herwydd iddynt ladd eu brodyr; am hyny, hwy a wnaethant lw o ymddial ar y Nephiaid; ac ni chynnygiasant mwy i ladd pobl Anti-Nephi-Lehi yr amser hwnw; eithr hwy a gymmerasant eu byddinoedd ac a aethant drosedd i gyffiniau tir Zarahemla, ac a syrthiasant ar y bobl ag oedd yn nhir Ammonihah, gan eu dyfetha. Ac ar ol hyny, cawsant amryw frwydrau â’r Nephiaid, yn y rhai y cawsent eu gyru a’u lladd; ac yn mhlith y Lamaniaid a laddwyd, oedd braidd holl had Amulon a’i frodyr, y rhai oeddynt offeiriaid Noah, a hwy a laddwyd gan ddwylaw y Nephiaid; a’r gweddill, wedi ffoi i’ anialwch dwyreiniol, a thraws feddiannu gallu ac awdurdod ar y Lamaniaid, a achosent i lawer o’r Lamaniaid drengu trwy dân, o herwydd eu cred; canys llawer o honynt hwy, ar ol dyoddef mawr golled a llawer o gystuddiau, a ddechreuasant gael eu cyffroi i gofio y geiriau a bregethodd Aaron a’i frodyr iddynt yn eu tir hwy; am hyny, hwy a ddechreuasant anghredu traddodiadau eu tadau, a chredu yn yr Arglwydd, a’i fod wedi rhoddi gallu mawr i’r Nephiaid; ac felly y cafodd llawer o honynt eu dychwelyd yn yr anialwch.
A bu i’r llywodraethwyr hyny, y rhai oeddynt y gweddill o blant Amulon, achosi iddynt hwy gael eu gosod i farwolaeth, ïe, yr holl rai a gredent yn y pethau hyn. Yn awr, achosodd y merthyrdod hwn i lawer o’u brodyr gyffroi i ddigofaint; a dechreuodd fod amrafaelion yn yr anialwch; a’r Lamaniaid a ddechreuasant hela had Amulon a’i frodyr, a dechreu eu lladd hwynt, a hwythau a ffoisant i’r anialwch dwyreiniol. Ac wele, y maent yn cael eu hela y dydd hwn gan y Lamaniaid; ac felly y cyflawnwyd geiriau Abinadi, y rhai a lefarodd efe ynghylch had yr offeiriaid a achosasant iddo ef ddyoddef marwolaeth trwy dân. Canys efe a ddywedodd wrthynt, Yr hyn a wneloch i mi, a fydd yn arwydd-lun o bethau i ddyfod. Ac yn awr, Abinadi oedd y cyntaf a ddyoddefodd farwolaeth trwy dân, o herwydd ei grediniaeth yn Nuw; yn awr, dyma oedd yr hyn a feddyliai, sef y cawsai llaweroedd ddyoddef marwolaeth trwy dân, megys y dyoddefodd yntau. Ac efe a ddywedodd wrth offeiriaid Noah, yr achosai eu had i laweroedd gael eu gosod i farwolaeth, yn yr un modd ag yntau, ac y cawsent eu gwasgaru a’u lladd, megys dafad heb fugail yn cael ei gyru a’i lladd gan fwystfilod gwylltion; ac yn awr, wele, y geiriau hyn a wiriwyd, canys hwy a gawsant eu gyru gan y Lamaniaid, a’u hela a’u taraw.
A bu pan welodd y Lamaniaid nas gallent orthrechu y Nephiaid, iddynt ddychwelyd drachefn i’w tir eu hunain; a daeth llawer o honynt drosodd i drigo yn nhir Ishmael a thir Nephi, ac ymuno â phobl Dduw, y rhai oeddynt bobl Anti-Nephi-Lehi; a hwythau hefyd a gladdasant eu harfau rhyfel, yn ol fel y gwnaeth eu brodyr, a dechreuasant fod yn bobl gyfiawn; a hwy a rodiasant yn ffyrdd yr Arglwydd, ac a gadwasant ei orchymynion a’i ddeddfau, ïe, a chadwasant gyfraith Moses; canys yr oedd yn fuddiol iddynt gadw cyfraith Moses hyd yma, oblegid nid oedd wedi ei chyflawni oll. Eithr yn ngwyneb cyfraith Moses, yr oeddynt hwy yn edrych yn mlaen at ddyfodiad Crist, gan ystyried fod cyfraith Moses yn gysgod o’i ddyfodiad, a chredu fod yn rhaid iddynt gadw y cyflawniadau allanol hyn, hyd yr amser y dadguddid ef iddynt. Yn awr, ni feddylient fod iachawdwriaeth yn dyfod trwy gyfraith Moses; eithr yr oedd cyfraith Moses o wasanaeth i gryfhau eu ffydd yn Nghrist; ac felly y cadwasant obaith trwy ffydd, er iachawdwriaeth dragywyddol, gan ymorphwys ar ysbryd y dadguddiad, yr hwn a lefarodd am y pethau sydd i ddyfod. Ac yn awr, wele, Ammon, ac Aaron, ac Omner, a Himni, a’u brodyr, a orfoleddasant yn fawr, o herwydd y llwyddiant a gawsant yn mhlith y Lamaniaid, gan weled fod yr Arglwydd wedi caniatâu iddynt yn ol eu gweddiau, a’i fod hefyd wedi gwirio ei air iddynt yn mhob peth. Ac yn awr, dyma eiriau Ammon wrth ei frodyr, y rhai a ddywedant fel hyn: Fy mrodyr a’m cyd-frodyr, wele meddaf wrthych, mor fawr yw yr achos sydd genym i orfoleddu; canys a allem ni dybied, pan gychwynasom o dir Zarahemla, y buasai Duw yn rhoddi i ni y fath fendithion mawrion? Ac yn awr, gofynaf, pa fendithion mawrion y mae efe wedi gyfranu i ni? A ellwch chwi fynegi? Wele, yr wyf yn ateb drosoch; yr oedd ein brodyr, y Lamaniaid, mewn tywyllwch, ïe, yn y cadduglyn dywyllaf; ond wele, y fath nifer o honynt a ddygwyd i ganfod rhyfedd oleuni Duw. A hyn yw y fendith a gyfranwyd i ni, ein bod wedi ein gwneyd yn offerynau yn nwylaw Duw, i ddwyn oddiamgylch y gwaith mawr hwn. Wele, y mae miloedd o honynt hwy yn gorfoleddu, ac wedi eu dwyn i gorlan Duw. Wele, yr oedd y maes yn addfed, a gwyn eich byd chwi, canys bwriasoch eich cryman i mewn, ac a fedasoch â’ch holl allu, ïe, trwy gydol y dydd y gweithiasoch; ac wele rifedi eich ysgubau, a hwy a gesglir i’r ysguboriau, fel na ddifroder hwynt; ïe, nis curir hwynt i lawr gan yr ystorom yn y dydd diweddaf; ïe, ac ni chwalir hwynt gan y corwyntoedd; eithr pan ddelo yr ystorom, hwy a gesglir ynghyd i’w lle, fel nas gallo yr ystorom eu cyrhaedd; ïe, ac nis gyrir hwynt gan wyntoedd geirwon i ba le bynag yr ewyllysio y gelyn eu dwyn. Ond wele, y maent yn nwylaw Arglwydd y cynanaf, a’i eiddo ef ydynt; ac efe a’u cyfyd hwynt yn y dydd diweddaf. Bendigedig fyddo enw ein Duw; bydded i ni ganu ei fawl, ïe, a diolch i’w enw sanaidd, canys y mae efe yn gweithredu cyfiawnder yn dragywydd. Canys oni buasai i ni ddyfod i fyny o dir Zarahemla, ein brodyr caruaidd hyn, y rhai a’n carent ni mor fawr, a fuasent etto yn cael eu blino gan ddigofaint yn ein herbyn ni, ïe, a hwy a fuasent hefyd yn ddyeithriaid i Dduw.
A bu ar ol i Ammon ddywedyd y geiriau hyn, i’w frawd Aaron ei geryddu ef, gan ddywedyd, Ammon, yr wyf yn ofni fod dy lawenydd yn dy arwain i ymffrostio; eithr Ammon a ddywedodd wrtho, Nid wyf yn ymffrostio yn fy nerth fy hun, nac yn fy noethineb fy hun; ond wele, mae fy llawenydd yn gyflawn, ïe, mae fy nghalon yn orlawn o orfoledd, ac mi a orfoleddaf yn fy Nuw; ïe, mi a wn nad wyf fi ddim; gyda golwg ar fy nerth i, yr wyf yn wan; am hyny, ni ymnrostiaf am fy hun, eithr mi a ymffrostiaf am fy Nuw, canys yn ei nerth gallaf gyflawni pob peth; ïe, wele, llawer o wyrthiau galluog a gyflawnasom yn y tir hwn, am yr hyn y moliannwn ei enw yn dragywydd. Wele, gynnifer o filoedd o’n brodyr a ryddhaodd efe o boenau uffern; a hwy a ddygwyd i ganu cariad gwaredigol, a hyn o herwydd gallu ei air, yr hwn oedd ynom; am hyny, ai nid oes genym achos mawr i orfoleddu? Ië, yr oeddynt wedi eu hamgylchynu gan dywyllwch a dinystr tragywyddol; eithr, wele, efe a’u dygodd i’w dragywyddol oleuni, ïe, i iachawdwriaeth dragywyddol; a hwy a amgylchynir ag haelioni digyffelyb ei gariad; ïe, a nyni a fuom yn offerynau yn ei ddwylaw i gyflawni y gwaith mawr a rhyfedd hwn; am hyny, gorfoleddwn, ïe, ni a orfoleddwn yn yr Arglwydd; ïe, ni a lawenychwn, canys y mae ein llawenydd yn gyflawn; ïe, ni a foliannwn ein Duw yn dragywydd. Wele, pwy a all orfoleddu yn ormodol yn yr Arglwydd? Ië, pwy a all ddywedyd gormod am ei fawr allu, a’i drugaredd, a’i hir-ymaros tuag at blant dynion? Wele, meddaf wrthych, nis gallaf fynegi y rhan leiaf o’r hyn a deimlaf. Pwy allai feddwl y buasai ein Duw mor drugarog â’n cipio ni o’n sefyllfa enbyd, bechadurus, ac halogedig? Wele, ni a aethom allan mewn digter, gyda bygythion mawrion i ddinystrio ei eglwys. O, ynte, paham na fwriodd ni i ddinystr dychrynllyd? ïe, paham na adawodd i gleddyf ei gyfiawnder i syrthio arnom, a’n dedfrydu i anobaith tragywyddol? O, fy enaid, braidd na eheda, fel pe byddai, wrth y meddwl. Wele, ni ddefnyddiodd efe ei gyfiawnder tuag atom, eithr yn ei fawr drugaredd dygodd ni dros y gagendor dragywyddol hono o farwolaeth a thrueni, hyd at iachawdwriaeth ein heneidiau. Ac yn awr, fy mrodyr, pa ddyn anianol sydd a ŵyr y pethau hyn, oddieithr yr edifeiriol: ïe, yr hwn a edifarhao ac a weithredo ffydd, ac a ddwg allan weithredoedd da, gan weddio o hyd yn ddibaid: i’r cyfryw y rhoddir i wybod dirgelion Duw; ïe, i’r cyfryw y rhoddir i ddadguddio pethau na ddadguddiwyd erioed; ïe, a rhoddir i’r cyfryw i ddwyn miloedd o eneidiau i edifeirwch, megys ag y rhoddwyd i ninnau i ddwyn ein brodyr hyn i edifeirwch. Yn awr, a ydych chwi yn cofio, fy mrodyr, i ni ddywedyd wrth ein brodyr yn nhir Zarahemla, Yr ydym ni yn myned i fyny i dir Nephi, i bregethu i’n brodyr y Lamaniaid, a hwy a’n gwawdiasant? Oblegid dywedasant wrthym, A ydych chwi yn tybied y gellwch ddwyn y Lamaniaid i wybodaeth o’r gwirionedd? A ydych chwi yn tybied y gellwch argyhoeddi y Lamaniaid o anghywirdeb traddodiadau eu tadau, pobl mor wargaled ag ydynt hwy; y rhai sydd â’u calonau yn ymhyfrydu mewn tywallt gwaed, a’u dyddiau wedi eu treulio yn y drygioni ffieiddiaf, a’u ffyrdd yn ffyrdd troseddwr o’r dechreuad? Yn awr, fy mrodyr, yr ydych yn cofio mai hyn oedd eu lleferydd. Ac yn mhellach, dywedent, Cymmerwn arfau i fyny yn eu herbyn, fel y dyfethom hwynt a’u drygioni allan o’r tir, rhag iddynt hwy ein goresgyn ni a’n dyfetha. Eithr wele, fy anwyl frodyr, ni ddaethom ni i’r anialwch gyda bwriad i ddyfetha ein brodyr, ond gyda bwriad y gallem efallai achub rhyw nifer o’u heneidiau. Yn awr, pan oedd ein calonau wedi llwfrhau, a ninnau ynghylch troi yn ol, wele, yr Arglwydd a’n cysurodd, ac a ddywedodd. Ewch i blith eich brodyr y Lamaniaid, a dyoddefwch eich cystuddiau gydag amynedd, ac mi a roddaf i chwi lwyddiant. Ac yn awr, wele, ni a ddaethom, ac a fuom yn eu plith hwynt; ac ni a fuom yn amyneddgar yn ein dyoddefiadau, ac a ddyoddefasom bob amddifadrwydd; ïe, ni a deithiasom o dŷ i dŷ, gan ymddibynu ar drugaredd y byd; nid ar drugaredd y byd yn unig, eithr ar drugaredd Duw. Ac ni a aethom i mewn i’w tai ac a’u dysgasom hwynt, a dysgasom hwynt yn eu heolydd; ïe, a dysgasom hwynt ar eu mynyddau; ac hefyd ni a aethom i’w temlau a’u synagogau, ac a’u dysgasom; a chawsom ein bwrw allan, a’n gwatwar, a phoeri arnom, a’n cernodio; a chawsom ein lluchio â cheryg, a’n cymmeryd a’n rhwymo â rheffynau cryfion; a’n bwrw yn ngharchar; a thrwy allu a doethineb Duw gwaredwyd ni drachefn; a dyoddefasom bob math o gystuddiau, a hyn oll, fel ysgatfydd y buasem yn foddion i achub rhyw enaid; a meddyliasom y buasai ein llawenydd yn gyflawn, pe gallem ysgatfydd fod yn foddion i achub rhai. Yn awr, wele, gallwn edrych a gweled ffrwythau ein llafur: ac a ydynt yn ychydig? Yr wyf yn dywedyd wrthych, nac ydynt, y maent yn llawer; ïe, a gallwn weled eu cywirdeb, o herwydd eu cariad tuag at eu brodyr, ac hefyd tuag atom ninnau. Canys, wele, dewisant aberthu eu bywydau, yn hytrach nâ chymmeryd bywyd eu gelyn; ac y maent wedi claddu eu harfau rhyfel yn ddwfn yn y ddaear, o herwydd eu cariad tuag at eu brodyr. Ac yn awr, wele, meddaf wrthych, a fu cariad mor fawr yn yr holl dir? Wele, meddaf wrthych, naddo, ddim hyd y nod yn mysg y Nephiaid. Canys wele cymmerent hwy arfau i fyny yn erbyn eu brodyr; ni oddefent i’w hunain gael eu lladd. Eithr wele, pa gynnifer o’r rhai hyn a roddasant eu bywydau i lawr; ac ni a wyddom eu bod hwy wedi myned at eu Duw, o herwydd eu cariad, a’u casineb at bechod. Yn awr, ai nid oes genym achos i orfoleddu? Ië, yr wyf yn dywedyd wrthych, ni fu dynion erioed â chymmaint o achos ganddynt i orfoleddu â ni, er dechreuad y byd; ïe, ac y mae fy llawenydd yn cael ei arwain hyd y nod i ymffrostio yn fy Nuw; oblegid ganddo ef y mae pob gallu, pob doethineb, a phob dealltwriaeth; y mae yn amgyffred pob peth, ac y mae yn Fod trugarog, hyd at iachawdwriaeth y rhai a edifarhant ac a gredant yn ei enw. Yn awr, os ymffrostio yw hyn, felly yr ymffrostiaf fi; canys hyn yw fy mywyd a’m goleuni, fy llawenydd a’m hiachawdwriaeth, a’m gwaredigaeth rhag gwae tragywyddol. Ië, bendigedig yw enw fy Nuw, yr hwn a ofalodd am y bobl hyn, y rhai ydynt gangen o bren Israel, ac a fu ar goll oddiwrth ei chyff mewn gwlad ddyeithr; ïe, meddaf, bendigedig fyddo enw fy Nuw, yr hwn a ofalodd am danom ni, bererinion mewn gwlad ddyeithr. Yn awr, fy mrodyr, gwelwn fod Duw yn gofalu am bob pobl, yn mha wlad bynag y byddont ynddi; ïe, y mae efe yn cyfrif ei bobl, ac y mae ei ymysgaroedd o drugaredd dros yr holl ddaear. Yn awr, hyn yw fy ngorfoledd i, a’m diolchgarwch mawr; ïe, ac mi a ddiolchaf i’m Duw yn dragywydd. Amen.