Scriptures
Alma 25


Pennod ⅩⅩⅤ.

Ac yn awr, dygwyddodd yn y nawfed flwyddyn ar hugain o’r Barnwyr, i Ammoron ddanfon at Moroni, i ddymuno arno gyfnewid carcharorion. A bu i Moroni deimlo i orfoleddu yn fawr oblegid y cais hwn, canys dymunai gael yr ymborth a roddid at gynnal y carcharorion Lamanaidd, er cynnal ei bobl ei hun; a dymunai hefyd gael ei bobl ei hun er cyfnerthu ei fyddin. Yn awr, yr oedd y Lamaniaid wedi cymmeryd llawer o wragedd a phlant, ac nid oedd un wraig na phlentyn yn mhlith holl garcharorion Moroni, neu y carcharorion a gymmerodd Moroni; am hyny, Moroni a benderfynodd ar ddyfais i gael cynnifer o’r carcharorion Nephiaidd oddiwrth y Lamaniaid ag oedd yn boibl; o ganlyniad, efe a ysgrifenodd epistol, ac a’i danfonodd gyda gwas Ammoron, yr un ag a ddygodd epistol i Moroni. Yn awr, dyma y geiriau a ysgrifenodd efe at Ammoron, gan ddywedyd, Wele, Ammoron, mi a ysgrifenais rywfaint atat ynghylch y rhyfel hwn a gariaist yn mlaen yn erbyn fy mhobl i, neu yn hytrach a gariodd dy frawd yn mlaen yn eu herbyn, a’r hwn ag yr wyt dithau etto yn benderfynol i’w gario yn mlaen ar ol ei farwolaeth. Wele, mi a fynegwn wrthyt rywfaint ynghylch cyfiawnder Duw, a chleddyf ei ddigter hollalluog, yr hwn a hongiana uwch eich penau, oddieithr i ti edifarhau a galw dy fyddinoedd yn ol i’th diroedd dy hun, neu diroedd eich etifeddiaethau, y rhai ydynt dir Nephi; ïe, mi a fynegwn wrthyt y pethau hyn, pe buasit yn abl i wrandaw arnynt; ïe, mi a ddywedwn wrthyt ynghylch yr uffern ddychrynllyd hono sydd yn aros i dderbyn y fath lofruddion ag y buost ti a’th frawd, oddieithr i ti edifarhau a galw yn ol dy amcanion llofruddiog, a dychwelyd gyda dy fyddinoedd i’th diroedd dy hun; eithr gan y gwrthodaist y pethau hyn, ac ymladd yn erbyn pobl yr Arglwydd, felly hefyd y gallaf ddysgwyl y gwnai drachefn.

Ac yn awr, wele, yr ydym ni yn barod i’ch derbyn; ïe, ac oddieithr i chwi alw yn ol eich bwriadau, wele, chwi a dynwch i lawr arnoch ddigofaint y Duw hwnw a wrthodasoch, er eich llwyr ddinystr; eithr fel mai byw yr Arglwydd, ein byddinoedd a ddeuant arnoch, os na alwch yn ol, ac yn fuan ymwelir â chwi â marwolaeth, canys ni a gadwn ein dinasoedd a’n tiroedd; ïe, ac ni a amddiffynwn ein crefydd ac achos ein Duw. Ond wele, meddyliwyf fy mod yn siarad â thi ynghylch y pethau hyn yn ofer; neu meddyliwyf mai plentyn uffern wyt ti; am hyny, mi a derfynaf fy epistol trwy fynegi wrthyt, na chyfnewidiaf garcharorion, ond ar yr ammodau o fod i ti roddi i fyny wr, a’i wraig, a’i blant, am un carcharor; os mai fel hyn y bydd i ti wneuthur, mi a gyfnewidiaf. Ac wele, os na wnai hyn, mi a ddeuaf i’ch erbyn, â’m byddinoedd; ïe, mi a arfogaf fy ngwragedd a’m plant, ac a ddeuaf yn eich erbyn chwi, ac a’ch dilynaf hyd at dir eich hunain, yr hwn yw ein tir etifeddiaethol cyntaf ni; ïe, a bydd yn waed am waed; ïe, bywyd am fywyd; ac mi a frwydraf â chwi, hyd nes y dinystrier chwi oddiar wyneb y ddaear. Wele, yr wyf fi yn fy nigter, a’m pobl hefyd; chwi a geisiasoch ein llofruddio ni, ac ni cheisiasom ninnau ond yn unig amddiffyn ein hunain. Eithr, wele, os ceisiwch ein dyfetha mwyach, ninnau a geisiwn eich dyfetha chwithau; ïe, ac ni a geisiwn dir ein hetifeddiaeth gyntaf. Yn awr, yr wyf yn terfynu fy epistol. Myfi yw Moroni; ac yr wyf yn flaenor pobl y Nephiaid.

Yn awr, dygwyddodd i Ammoron, pan dderbyniodd yr epistol hwn, fod yn ddigllawn; ac efe a ysgrifenodd epistol arall at Moroi, a’r rhai hyn yw y geiriau a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Myfi yw Ammoron, brenin y Lamaniaid; myfi yw brawd Amalickiah, yr hwn a lofruddiasoch chwi. Wele, mi a ddialaf ei waed arnoch chwi, ïe, ac mi a ddeuaf arnoch â’m byddinoedd, canys nid wyf yn ofni eich bygythion; canys, wele, eich tadau a wnaethant gam â’u brodyr, yn gymmaint ag iddynt eu hyspeilio o’u hawl i’r llywodraeth, pan y perthynai yn gyfreithlawn iddynt hwy. Ac yn awr, wele, os teflwch chwi i lawr eich arfau, ac ymostwng i gael eich llywodraethu gan y rhai y perthyna y llywodraeth iddynt yn gyfreithlawn, yna y peraf i’m pobl innau daflu i lawr eu harfau, ac nid awn i ryfel mwyach. Wele, yr ydych wedi chwythu llawer o fygythion yn fy erbyn i a’m pobl: ond wele, nid ydym ni yn ofni eich bygythion; er hyny, mi a ganiatâf i gyfnewid carcharorion yn ol eich dymuniad chwi, yn llawen, fel y cadwyf fy ymborth i’m gwyr rhyfel; ac ni a gariwn yn mlaen ryfel ag a fydd yn dragywyddol, naill ai er darostwng y Nephiaid i’n hawdurdod ni, neu er eu tragywyddol ddiddymiad hwy. Ac mewn perthynas i’r Duw hwnw y dywedwch i ni ei wrthod, wele, nis gwyddom ni am fôd o’r fath; ac nis gwyddoch chwithau; eithr os oes y fath fôd, nis gwyddom nad yw wedi ein gwneuthur ni yn gystal â chwithau; ac os oes diafol ac uffern, wele, ai ni ddenfyn efe chwi yno, i drigo gyda’m brawd a lofruddiasoch, yr hwn yr awgrymasoch ei fod wedi myned i le felly? Ond wele, nid yw wahaniaeth ynghylch y pethau hyn. Myfi yw Ammoron, a disgynydd o Zoram, yr hwn a orfodwyd ac a ddygwyd gan eich tadau allan o Jerusalem. Ac wele, yn awr yr wyf yn Lamaniad dewr; wele, cariwyd yn mlaen y rhyfel hwn er ymddial y cam a gawsant hwy, ac er amddiffyn ac ennill eu hawliau i’r llywodraeth; ac yr wyf yn terfynu fy epistol at Moroni.

Yn awr, dygwyddodd, ar ol i Moroni dderbyn yr epistol hwn, iddo fod yn fwy digllawn, o herwydd y gwyddai fod gan Ammoron berffaith wybodaeth o’i dwyll; ïe, gwyddai fod Ammoron yn gwybod nad achos cyfiawn a berodd iddo gario yn mlaen ryfel yn erbyn pobl Nephi. Ac efe a ddywedodd, Wele, ni chyfnewidiaf garcharorion ag Ammoron, oddieithr iddo alw yn ol ei fwriad, megys y dywedais yn fy epistol; canys ni chaniatâf iddo gael dim mwy o allu nag sydd ganddo. Wele, mi a wn am y lle y gwylia y Lamaniaid fy mhobl i ynddo, y rhai a gymmerasant yn garcharorion; a chan na chaniatäai Ammoron i mi fy epistol, wele, mi a roddaf iddo ef yn ol fy ngeiriau; ïe, mi a geisiaf farwolaeth yn eu mysg, hyd nes yr ymbiliant am heddwch. Ac yn awr, dygwyddodd, ar ol i Moroni ddywedyd y geiriau hyn, iddo beri i ymchwiliad gael ei wneuthur yn mhlith ei wyr, fel y caffai ysgatfydd ddyn ag oedd yn ddisgynydd o Laman yn eu plith.

A bu iddynt gael un, enw yr hwn oedd Laman: ac yr oedd efe yn un o weision y brenin, yr hwn a lofruddiwyd gan Amalickiah. Yn awr, perodd Moroni i Laman ac ychydig nifer o’i wyr, fyned at y gwylwyr ag oedd ar y Nephiaid. Yn awr, gwylid y Nephiaid yn ninas gid; am hyny, Moroni a benododd Laman, ac a berodd i ychydig nifer o wyr fyned gydag ef.

A phan yr oedd yn brydnawn, Laman a aeth at y gwylwyr ag oedd ar y Nephiaid, ac wele, hwy a’i gwelsant yn dyfod, ac a’i cyfarchasant; eithr efe a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch; wele, Lamaniad wyf fi. Wele, ni a ddiangasom oddiwrth y Nephiaid, ac y maent hwy yn cysgu; ac wele, ni a gymmerasom o’u gwin, ac a’i dygasom gyda ni. Yn awr, pan glywodd y Lamaniaid y geiriau hyn, hwy a’i derbyniasant gyda llawenydd; a hwy a ddywedasant wrtho, Rhoddwch i ni o’ch gwin, fel yr yfom; mae yn dda genym eich bod fel hyn wedi cymmeryd gwin genych, canys yr ydym ni yn flinedig. Eithr dywedodd Laman wrthynt, Bydded i ni gadw ein gwin hyd nes yr awn yn erbyn y Nephiaid i ryfel; eithr ni wnaeth y dywediad hwn hwynt ond yn unig yn fwy chwannog i yfed o’r gwin; canys, meddent, yr ydym yn ffinedig, am hyny cymmerwn o’r gwin, ac maes o law ni a dderbyniwn ein dognau o win; yr hwn a’n nertha i fyned yn erbyn y Nephiaid. A Laman a ddywedodd wrthynt, Gallwch wneuthur yn ol eich dymuniad. A bu iddynt gymmeryd o’r gwin yn helaeth, ac yr oedd yn hyfryd i’w harchwaeth; am hyny, cymmerasant o hono yn helaethach; ac yr oedd yn gryf, wedi ei barotoi yn ei nerth.

A bu iddynt yfed a bod yn llawen, a maes o law yr oeddynt oll yn feddw. Ac yn awr, pan welodd Laman a’i wyr eu bod hwy oll yn feddw, a’u bod mewn trwmgwsg, hwy a ddychwelasant at Moroni, ac a fynegasant iddo bob peth a ddygwyddodd. Ac yn awr, yr oedd hyn yn ol bwriad Moroni. Ac yr oedd Moroni wedi parotoi ei wyr ag arfau rhyfel; ac efe a ddanfonodd i ddinas Gid, tra yr oedd y Lamaniaid mewn trwmgwsg, ac yn feddw, a hwy a fwriasant yr arfau rhyfel i mewn at y carcharorion, yn gymmaint ag iddynt gael eu harfogi oll; ïe, hyd y nod eu gwragedd, a’r holl rai hyny o’u plant, cynnifer ag oedd yn alluog i ddefnyddio arf rhyfel, pan arfogodd Moroni yr holl garcharorion hyny; a’r holl bethau hyny a gyflawnwyd mewn llwyr ddystawrwydd. Eithr pe deffroent y Lamaniaid, wele, yr oeddynt yn feddw, a gallai y Nephiaid fod wedi eu lladd. Ond, wele, nid dyma oedd dymuniad Moroni: nid oedd efe yn ymhyfrydu mewn llofruddiaeth neu dywallt gwaed, eithr yr oedd yn ymhyfrydu i achub ei bobl rhag dinystr; ac o herwydd hyn, fel na ddygai arno ei hun anghyfiawnder, ni fynai syrthio ar y Lamaniaid a’u dyfetha hwynt yn eu meddwdod. Eithr efe a gafodd ei ddymuniadau; canys yr oedd wedi arfogi y carcharorion hyny o’r Nephiaid ag oedd tufewn i fur y ddinas, ac a roddodd allu iddynt i gael meddiant o’r rhanau hyny ag oedd tufewn y muriau; ac yna efe a berodd i’r gwyr ag oedd gydag ef, i gilio yn ol ychydig oddiwrthynt, ac amgylchynu byddinoedd y Lamaniaid. Yn awr, wele, cafodd hyn ei wneuthur yn y nos, fel pan ddeffrodd y Lamaniaid yn y boreu, hwy a ganfyddent eu bod wedi eu hamgylchynu gan y Nephiaid y tu allan, a bod eu carcharorion wedi eu harfogi oddifewn. Ac felly gwelsant fod y Nephiaid wedi cael gallu arnynt; a dan yr amgylchiadau hyn, cawsant allan nad oedd yn fuddiol iddynt ymladd â’r Nephiaid; am hyny, eu pen-cadbeniaid a geisiasant eu harfau rhyfel, a hwy a’u dygasant allan, ac a’u bwriasant wrth draed y Nephiaid, gan ymbil am drugaredd. Yn awr, wele, hyn oedd dymuniad Moroni. Efe a’u cymmerodd hwynt yn garcharorion rhyfel, ac a feddiannodd y ddinas, ac a berodd i’r holl garcharorion gael eu rhyddhau, ag oeddynt Nephiaid; a hwy a ymunasant â byddin Moroni, ac yr oeddynt yn nerth mawr i’w fyddin.

A bu iddo beri i’r Lamaniaid a gymmerodd yn garcharorion, ddechreu gweithio er cadarnhau yr amddiffynfeydd oddiamgylch dinas Gid. A bu ar ol iddo amgaeru dinas gid, yn ol ei ddymuniadau, iddo beri i’w garcharorion gael eu cymmeryd i ddinas Llawnder; ac hefyd efe a wyliodd y ddinas hono â gallu tra nerthol. A bu iddynt, yn ngwyneb holl gynllwynion y Lamaniaid, gadw ac amddiffyn yr holl garcharorion a gymmerasant, ac hefyd gadw yr holl dir a’r manteision a adgymmerasant. A bu i’r Nephiaid ddechreu drachefn fod yn fuddugoliaethus, ac adferu eu hiawnderau a’u breintiau. Llawer o weithiau y cynnygiodd y Lamaniaid eu hamgylchynu hwynt yn y nos, eithr yn y cynnygiadau hyn hwy a gollent lawer o garcharorion. A llawer o weithiau y cynnygiasant roddi eu gwin i’r Nephiaid, fel y gallent eu dinystrio hwynt trwy wenwyn neu trwy feddwdod. Eithr, wele, nid oedd y Nephiaid yn hwyrfrydig i gofio yr Arglwydd eu Duw, yn eu hamseroedd hyn o gystudd. Nis gellid eu dal yn eu maglau hwy; ïe ni chyfranogent o’u gwin, oddieithr iddynt roddi peth yn gyntaf i’r carcharorion Lamanaidd. Ac felly yr oeddynt yn ofalus na weinyddid dim gwenwyn yn eu mysg hwynt; canys os gwenwynai eu gwin hwynt Lamaniad, gwnai hefyd wenwyno Nephiad; ac felly y profasant eu holl wirodydd. Ac yn awr, dygwyddodd fod yn anghenrheidiol i Moroni wneuthur parotoiadau er ymosod ar ddinas Morianton; canys, wele, yr oedd y Lamaniaid, trwy eu llafur, wedi amgaeru dinas Morianton, hyd nes y daeth yn amddiffynfa gref; ac yr oeddynt yn barhaus yn dwyn galluoedd newyddion i’r ddinas hono, ac hefyd ddarpariadau newyddion o luniaeth. Ac felly y terfynodd y nawfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.