Pennod Ⅱ.
Yn awr, dygwyddodd yn y chwechfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, nad oedd amrafaelion na rhyfeloedd yn nhir Zarahemla; eithr y bobl a ofidiwyd, ïe, a ofidiwyd yn fawr oblegid colli eu brodyr, ac oblegid colli eu da a’u defaid, ac hefyd oblegid colli eu maesydd o ŷd, y rhai a fathrwyd dan draed ac a ddinystriwyd gan y Lamaniaid, ac yr oedd eu gofid mor fawr nes y oredd gan bob enaid achos i alaru, a chredent fod barnedigaethau Duw wedi eu danfon arnynt, o herwydd eu drygioni a’u ffieidd-dra; am hyny, hwy a ddeffrowyd i gofio eu dyledswydd. A hwy a ddechreuasant sefydlu yr eglwys yn fwy cyflawn; ïe, a bedyddiwyd llaweroedd yn nyfroedd Sidon, ac a unwyd ag eglwys Dduw; ïe, hwy a fedyddiwyd gan law Alma, yr hwn oedd wedi ei gyssegru yn archoffeiriad dros bobl yr eglwys, gan law ei dad Alma.
A dygwyddodd yn y seithfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr, fod ynghylch tair mil a phum cant o eneidiau wedi ymuno ag eglwys Dduw, ac wedi eu bedyddio. Ac felly y terfynodd y seithfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi; ac yr oedd heddwch gwastadol yr holl amser hwnw.
A bu yn yr wythfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr, i bobl yr eglwys ddechreu ymfalchïo, o herwydd eu mawr gyfoeth, a’u sidan teg, a’u llian main cyfrodedd, ac o herwydd amlder eu da a’u defaid, a’u haur, a’u harian, a phob math o bethau gwerthfawr, y rhai a gawsant trwy eu diwydrwydd; ac malchder eu golygon, canys hwy a ddechreuasant wisgo dillad tra chostfawr. Yn awr, yr oedd hyn yn achos o fawr dristwch i Alma, ïe, ac i lawer o’r bobl a gyssegrodd Alma i fod yn athrawon, ac offeiriaid, ac henuriaid dros yr eglwys; ïe, yr oedd llawer o honynt yn gofidio yn flin oblegid y drygioni a ganfyddent oedd yn dechreu bod yn mhlith eu pobl. Canys hwy a welent ac a ganfyddent gyda llawer o dristwch, fod pobl yr eglwys yn dechreu ymddyrchafu yn malchder eu golygon, ac yn gosod eu calonau ar gyfoeth, ac ar wag betha y byd; eu bod yn dechreu myned yn watwarllyd tuag at eu gilydd, ac yn dechreu erlid y rhai ni chredent yn ol ewyilys a dymuniad eu hunain. Ac felly yn yr wythfed flwyddyn hon o deyrnasiad y Barnwyr, dechreuodd bod amrafaelion mawrion yn mhlith pobl yr eglwys; ïe, yr oedd cenfigenau, ac amryson, a malais, ac erlidiau, a balchder, ïe, mwy nâ balchder y rhai ni pherthynent i eglwys Dduw. Ac felly y terfynodd yr wythfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr; ac yr oedd drygioni yr eglwys yn faen tramgwydd mawr i’r rhai ni pherthynent i’r eglwys; ac felly y dechreuodd yr eglwys fethu yn ei chynnydd.
A bu yn nechreu y nawfed dwyddyn, i Alma ganfod drygioni yr eglwys, ac iddo ganfod hefyd fod esiampl yr eglwys yn dechreu arwain y rhai oeddynt anghredinwyr yn mlaen o un math o ddrygioni i’r llall, gan ddwyn yn mlaen felly ddinystr y bobl; ïe, efe a ganfyddodd anghydraddoldeb mawr yn mhlith y bobl, rhai yn ymddyrchafu yn eu balchder, yn diystyru ereill, gan droi eu cefnau ar yr anghenog, a’r noeth, a’r rhai oedd yn newynog, a’r rhai oedd yn sychedig, a’r rhai oedd yn glaf a chystuddiedig. Yn awr, yr oedd hyn yn achos mawr o alar yn mhlith y bobl, tra yr oedd ereill yn iselhau eu hunain, gan amgeleddu y rhai a safent mewn anghen am eu hamgeledd, megys cyfranu o’u heiddo i’r tlawd a’r anghenog; gan borthi y newynog, a dyoddef pob math o gystuddiau, er mwyn Crist, yr hwn a ddeuai yn ol ysbryd y brophwydoliaeth, gan edrych yn mlaen at y dydd hwnw, ac felly ddal gafael ar faddeuant eu pechodau; wedi eu llanw o lawenydd mawr, oblegid adgyfodiad y meirw, yn ol ewyllys, a gallu, a gwaredigaeth Iesu Grist o rwymau marwolaeth.
Ac yn awr, dygwyddodd i Alma, ar ol gweled cystuddiau canlynwyr addfwyn Duw, a’r erlidiau a gruglwythwyd arnynt gan weddill ei bobl, a gweled eu holl anghydraddoldeb, ddechreu fod yn drist iawn; er hyny, ni fethodd gael o ysbryd yr Arglwydd. Ac efe a ddewisodd ddyn doeth, yr hwn oedd yn mhlith henuriaid yr eglwys, ac a roddodd iddo ef awdurdod yn ol llais y bobl, fel y gallai gael a awdurdod i wneuthur cyfreithiau yn nnol â’r cyfreithiau ag oedd wedi eu rhoddi, ac i’w gosod mewn grym, yn ol drygioni a throseddau y bobl. Yn awr, enw y dyn hwn oedd Nephihah, ac efe a benodwyd yn brif farnwr; ac efe a eisteddodd ar yr orsedd farnol, i farnu a llywodraethu y bobl. Yn awr, ni roddodd Alma iddo ef y swydd o fod yn archoffeiriad dros yr eglwys, eithr efe a gadwodd y swydd o archoffeiriad iddo ef ei hun; ond efe a roddodd yr orsedd farnol i Nephihah; a hyn a wnaeth, fel y gallai efe ei hun fyned allan i blith ei bobl, neu i blith pobl Nephi, fel y pregethai air Duw wrthynt, er eu cynhyrfu i goffadwriaeth am eu dyledswydd, ac fel y tynai i lawr trwy air Duw, yr holl falehder a’r cyfrwysdra, a’r holl amrafaelion ag oedd yn mhlith ei bobl, gan weled nas gallai eu hadferu, ond trwy ddwyn tystiolaeth bur yn eu herbyn hwynt. Ac felly yn nechreu y nawfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi, y rhoddodd Alma yr orsedd farnol i Nephihah, ac y cyfyngodd ei hun yn gwbl i archoffeiriadaeth urdd santaidd Duw, i dystiolaethu y gair, yn ol ysbryd dadguddiad a phrophwydoliaeth.