Pennod ⅩⅨ.
Gorchymynion Alma i’w fab Corianton.
Ac yn awr, fy mab, y mae genyf rywfaint yn ychwaneg i ddywedyd wrthyt ti, nag a ddywedais wrth dy frawd; canys wele, ai ni sylwaist ar ddianwadalwch dy frawd, ef ffyddlondeb, a’i ddiwydrwydd i gadw gorchymynion Duw? Wele, ai ni roddodd efe esiampl dda i ti? Canys ni thalaist ti gymmaint o sylw i’m geiriau ag a wnaeth dy frawd, yn mhlith pobl y Zoramiaid. Yn awr, hyn yw y peth sydd genyf yn dy erbyn; ti a aethost i ymffrostio yn dy nerth, ac yn dy ddoethineb. Ac nid hyn yw y cyfan, fy mab. Ti a wnaethost yr hyn oedd yn flin genyf; canys ti a adewaist y weinidogaeth, ac a aethost drosodd i dir Siron, yn nghanol cyffiniau y Lamaniaid, ar ol y butain Isabel; ïe, hi a ladrataodd ymaith galonau llawer; eithr nid oedd hyn yn esgus i ti, fy mab. Dylasit ti ofalu am y weinidogaeth, yr hon a ymddiriedwyd i ti. Ai ni wyddost ti, fy mab, fod y pethau hyn yn ffieidd-dra yn ngolwg yr Arglwydd; ïe, y ffieiddiaf o bob pechod, oddieithr tywalltiad gwaed gwirion, neu wadu yr Ysbryd Glân; canys, wele, os gwadi yr Ysbryd Glân, wedi iddo gael lle ynot unwaith, a thithau yn gwybod dy fod yn ei wadu, wele, y mae hwn yn bechod sydd yn anfaddcuol, ïe, a phwy bynag a laddo yn ngwyneb goleuni a gwybodaeth Duw, nid hawdd i’r cyfryw yw cael maddeuant; ïe, meddaf wrthyt ti, fy mab, nid hawdd i’r cyfryw yw cael maddeuant. Ac yn awr, fy mab, och Dduw na fuasit yn ddieuog o drosedd mor fawr. Ni ymhelaethwn ar dy droseddau, i rwygo dy enaid, oni buasai er lles i ti. Eithr wele, nis gelli guddio dy droseddau oddiwrth Dduw; ac oni edifarhai, hwy a safant yn dystiolaeth yn dy erbyn yn y dydd diweddaf. Yn awr, fy mab, mi a ewyllysiwn i ti edifarhau, a gadael dy bechodau, a pheidio myned mwyach ar ol chwantau dy lygaid, eithr croesa dy hun yn yr holl bethau hyn; canys oni wnai hyn, nis gelli mewn un modd etifeddu teyrnas Dduw. O cofia, a chymmer ef arnat, a chroesa dy hun yn y pethau hy. Ac yr wyf yn gorchymyn i ti gymmeryd arnat i ymgynghori â’th frodyr henaf yn dy anturiaethau; canys wele, yr wyt ti yn dy ieuenctyd, ac yn sefyll mewn anghen o gael dy feithrin gan dy frodyr. A dal sylw ar eu cynghor; na oddefa i’th hun gael dy arwain ymaith gan un peth ofer a ffol; na oddefwch i’r diafol arwain ymaith eich calonau drachefn, ar ol y puteiniaid drygionus hyny. Wele, O fy mab, y fath ddrygioni mawr a ddygaist ar y Zoramiaid; canys pan welsant dy ymddygiad di, ni chredent fy ngeiriau i. Ac yn awr, ysbryd yr Arglwydd a ddywed wrthyf, Gorchymyna i’th blant wneuthur daioni, rhag iddynt arwain ymaith galonau llawer o bobl i ddystryw; am hyny, yr wyf yn gorchymyn i ti, fy mab, yn ofn Duw, i ymattal oddiwrth dy anwireddau, i droi at yr Arglwydd â’th holl feddwl, gallu, a nerth, i beidio arwain ymaith ragor o galonau, i wneuthur drygioni; eithr yn hytrach dychwela atynt, a chydnabod dy feiau, ac adgyweiria y camwri hwnw a wnaethost; nac ymgeisia am gyfoeth, nac am wagbethau y byd hwn; canys wele, nis gelli eu dwyn hwynt gyda thi.
Ac yn awr, fy mab, mi a ewyllysiwn ddywedyd rhywfaint wrthyt ynghylch dyfodiad Crist. Wele, meddaf wrthyt, mai efe yn ddiau a ddaw, i gymmeryd ymaith bechodau y byd; ïe, efe a ddaw i draethu newyddion da o iachawdwriaeth i’w bobl. Ac yn awr, fy mab, hon oedd y weinidogaeth i ba un y’th alwyd, i draethu y newyddion da hyn i’r bobl yma, er parotoi eu meddyliau; neu yn hytrach fel y delo iachawdwriaeth iddynt hwy, fel y parotônt feddyliau eu plant i glywed y gair yn amser ei ddyfodiad. Ac yn awr, mi a esmwythâf ychydig ar dy feddwl ynghylch y pwnc hwn. Wele, ti a ryfeddi paham mae y pethau hyn yn hysbys gymmaint yn mlaenllaw. Wele, meddaf wrthyt, ai nid yw enaid yr amser hwn mor werthfawr i Dduw, ag a fydd enaid yn amser ei ddyfodiad ef? Ai nid yw mor anghenrheidiol i gynllun o brynedigaeth gael ei hysbysu i’r bobl hyn, yn gystal ag i’w plant? Ai nid yw mor hawdd yr amser hwn, i’r Arglwydd anfon ei angel i fynegi y newyddion da hyn i ni, ag yw i’n plant; neu, ag yw ar ol amser ei ddyfodiad? Yn awr, fy mab, dyma rywfaint yn ychwaneg a ewyllysiwn ei ddywedyd wrthyt; canys canfyddaf bod dy feddwl yn cael ei flino ynghylch adgyfodiad y meirw. Wele, meddaf wrthyt, ni fydd adgyfodiad; neu mi a ddywedwn mewn geiriau ereill, nad yw y marwol hwn yn gwisgo anfarwoldeb—nad yw y llygradwy hwn yn gwisgo anllygredigaeth, hyd nes ar ol dyfodiad Crist. Wele, efe sydd yn dwyn oddiamgylch adgyfodiad y meirw. Eithr wele, fy mab, nid yw yr adgyfodiad etto. Yn awr, mi a ddadguddiaf i ti ddirgelwch; er hyny, y mae llawer o ddirgelion, y rhai a gedwir, nad oes neb yn eu gwybod hwynt, ond Duw ei hun. Eithr mi a ddangosaf i ti un peth, yr hwn a daer geisiais gan Dduw, fel y gwybyddwn; hyny yw, ynghylch yr adgyfodiad. Wele, penodwyd amser i bawb ddyfod allan oddiwrth y meirw. Yn awr, pa bryd y daw yr amser hwn, ni ŵyr neb; eithr Duw a ŵyr yr amser a benodwyd. Yn awr, pa un a fydd un amser, neu ail amser, neu drydydd amser, nid yw wahaniaeth; canys Duw a ŵyr yr holl bethau hyn; a digon i mi yw gwybod mai felly y mae, fod amser wedi ei benodi y caiff pawb adgyfodi oddiwrth y meirw. Yn awr, mae yn rhaid fod yspaid rhwng amser marwolaeth, ac amser yr adgyfodiad. Ac yn awr, mi a ofynwn pa beth sydd yn dyfod o eneidiau dynion, oddiar amser marwolaeth, hyd yr amser a benodwyd i’r adgyfodiad? Yn awr, pa un a oes mwy nag un amser wedi ei benodi i ddynion adgyfodi, nid yw wahaniaeth; canys nid yw pawb yn marw ar unwaith; ac nid oes wahaniaeth am hyn; mae y cyfan megys un dydd gyda Duw; ac i ddynion yn unig y mesurir amser; am hyny, penodwyd amser i ddynion, y cant adgyfodi oddiwrth y meirw; ac y mae yspaid rhwng amser marwolaeth a’r adgyfodiad. Ac yn awr, ynghylch yr yspaid hwn o amser. Pa beth sydd yn dygod o eneidiau dynion, yw y peth a geisiais yn daer ei wybod gan yr Arglwydd; ac hwn yw y peth am ba un y gwn. A phan ddelo yr amser i bawb adgyfodi, yna hwy a gant wybod fod Duw yn gwybod yr holl amseroedd a benodwyd i ddyn. Yn awr, ynghylch sefyllfa yr enaid rhwng marwolaeth a’r adgyfodiad. Wele, hysbyswyd i mi gan angel, fod ysbrydoedd pawb, mor fuan ag yr ymadawant o’r corff marwol hwn; ïe, ysbrydion pawb, pa un bynag a fyddont ai da neu ddrwg, a gymmerir adref at Dduw, yr hwn a roddodd fywyd iddynt. Ac yna y bydd i ysbrydoedd y rhai ydynt gyfiawn, gael eu derbyn i sefyllfa o ddedwyddwch, yr hon a elwir paradwys; sefyllfa o orphwys; sefyllfa o heddwch, lle y gorphwysant oddiwrth eu holl drafferthion, ac oddiwrth bob gofalon, a thristwch, &c. Ac yna y bydd i ysbrydoedd y drygionus, ïe, y rhai ydynt yn ddrwg; canys wele, nid oes rhan na chyfran gyda hwy o ysbryd yr Arglwydd; canys wele, hwy a ddewisant weithredoedd drwg, yn hytrach nâ rhai da; am hyny, ysbryd y diafol a aeth i mewn iddynt, ac a feddiannodd eu tŷ hwynt; a’r rhai hyn a fwrir i’r tywyllwch eithaf; yno y bydd wylofain, ochain, a rhincian dannedd; a hyn o herwydd eu hanwiredd eu hunain, gan gael eu dwyn yn gaeth gan ewyllys y diafol. Yn awr, dyma gyflwr eneidiau y drygionus; ïe, mewn tywyllwch, a sefyllfa ofnadwy a dychrynllyd, yn dysgwyl am angerdd tân digofaint Duw arnynt; felly yr arosant hwy yn y sefyllfa hon, yn gystal â’r cyfiawnion yn mharadwys, hyd amser eu hadgyfodiad. Yn awr, y mae rhai sydd wedi deall fod y sefyllfa hon o ddedwyddwch, a’r sefyllfa hon o drueni yr enaid, cyn yr adgyfodiad, yn adgyfodiad cyntaf. Ië, cydnabyddaf y gellir ei alw yn adgyfodiad; adgyfodiad yr ysbryd neu yr enaid, a’u trosglwyddiad i ddedwyddwch neu drueni, yn ol y geiriau a lefarwyd. Ac wele, drachefn y mae wedi ei lefaru, fod adgyfodiad cyntaf; adgyfodiad o’r holl rai a fu, neu y sydd, neu a ddaw, i lawr hyd at adgyfodiad Crist oddiwrth y meirw. Yn wyd yn y modd hyn am dano, yw adgyfodiad yr eneidiau, a’u trosglwyddiad i ddedwyddwch neu drueni. Nis gellwch dybied mai hyn a feddylia. Wele, meddaf wrthych, na; eithr meddylia ail-uniad enaid a chorff y rhai hyny o ddyddiau Adda, i lawr hyd at adgyfodiad Crist. Yn awr, pa un a gaiff eneidiau a chyrff y rhai hyny y llefarwyd am danynt, eu hail-uno oll ar unwaith, y drygionus yn gystal a’r cyflawn, nid wyf yn dywedyd; bydded yn ddigon, fy mod yn dywedyd y deuant oll allan; neu, mewn geiriau ereill, y daw eu hadgyfodiad oddiamgylch o flaen adgyfodiad y rhai a fyddant farw ar ol adgyfodiad Crist. Yn awr, fy mab, nid wyf yn dywedyd fod eu hadgyfodiad hwy yn dyfod yn adgyfodiad Crist; eithr wele, yr wyf yn ei roddi fel fy marn, y caiff eneidiau a chyrff o eiddo y cyfiawnion, eu hail-uno yn adgyfodiad Crist, a’i esgyniad i’r nef. Ond pa un a fydd yn ei adgyfodiad, neu ar ol, nid wyf yn dywedyd; eithr hyn wyf yn ei ddywedyd, y mae yspaid rhwng marwolaeth ac adgyfodiad y corff, a sefyllfa o enaid mewn dedwyddwch neu mewn trueni, hyd yr amser a benodwyd gan Dduw i’r meirw ddyfod allan, a chael eu hail-uno, gorff ac enaid, a’u dwyn i sefyll gerbron Duw, a’u barnu yn ol eu gweithredoedd; ïe, dyga hyn oddiamgylch adferiad y pethau hyny y llefarwyd am danynt trwy eneuau y prophwydi. Adferir yr enaid at y corff, a’r corff at yr enaid: ïe, a phob aelod a chymmal a adferir i’w corff; ïe, ni chollir cymmaint a gwelltyn o’r pen, eithr adferir pob peth i’w drefn briodol a pherffaith. Ac yn awr, dyma yr adferiad y llefarwyd am dano trwy eneuau y prophwydi: Ac yna y cyfiawn a ddysclaeriant yn nheyrnas Dduw. Eithr, wele, y mae marwolaeth ddychrynllyd yn dyfod ar y drygionus; canys y maent yn marw gyda golwg ar bethau perthynol i bethau cyfiawnder; canys y manet yn aflan, ac nis gall dim aflan etifeddu teyrnas Dduw; eithr bwrir hwy allan, a thraddodir hwy i gyfanogi o ffrwythau eu llafur neu eu gweithredoedd, y rhai a fuont ddrwg; ac y maent yn yfed gwaelodion cwpan chwerw.
Ac yn awr, fy mab, y mae genyf rywfaint i ddywedyd yn nghylch yr adferiad y llefarwyd am dano; canys, wele, y mae rhai wedi gwyrdroi yr ysgrythyrau, ac wedi myned yn mhell ar gyfeiliorn o herwydd y peth hwn. A chanfyddaf fod dy feddwl dithau wedi ei flino hefyd, o berthynas i’r peth hwn. Eithr wele, mi a’i hegluraf i ti. Yr wyf yn dywedyd wrthyt ti, fy mab, fod cynllun yr adferiad yn ofynol yn ol cyfiawnder Duw; o herwydd y mae yn ofynol fod pob peth yn cael ei adferu i’w drefn briodol. Wele, y mae yn ofynol ac yn gyfiawn, yn ol gallu ac adgyfodiad Crist, fod enaid dyn yn cael ei adferu at ei gorff, a bod pob rhan o’r corff yn cael ei adreru ato ei hun. Ac y mae yn ofynol yn ol cyfiawnder Duw, fod dynion yn cael eu barnu yn ol eu gweithredoedd, ac os bu eu gweithredoedd yn dda yn y bywyd hwn, a dymuniadau eu calonau yn dda, y dylent hefyd, yn y dydd diweddaf, gael eu hadferu at yr hyn sydd dda; ac os bu eu gweithredoedd yn ddrwg, cant eu hadferu iddynt am ddrwg; am hyny, adferir pob peth i’w drefn briodol; pob peth i’w ffurf naturiol; marwoldeb yn cael ei gyfodi i anfarwoldeb; llygredigaeth i anllygredigaeth; yn cael eu cyfodi i ddedwyddwch diddiwedd, i etifeddu teyrnas Dduw, neu i drueni diddiwedd, i etifeddu teyrnas y diafol, y naill ar un law, a’r llall ar un arall; un wedi ei gyfodi i ddedwyddwch, yn ol ei ddymuniadau am ddedwyddwch; neu ddaioni, yn ol ei ddymuniadau am ddaioni: a’r llall i ddrwg, yn ol ei ddymuniadau am ddrwg; o herwydd gan iddo ddymuno gwneuthur drwg trwy ystod y dydd, felly hefyd efe a gaiff ei wobr o ddrwg, pan ddelo y nos. Ac felly y mae ar y llaw arall. Os yw efe wedi edifarhau am ei bechodau, ac yn chwennychu cyfiawnder hyd ddiwedd ei ddyddiau, felly hefyd y gwobrwyir ef i gyfiawnder. Y rhai hyn yw y rhai a waredir gan yr Arglwydd; ïe, y rhai hyn yw y sawl a gymmerir allan, ac a waredir o’r nos ddiddiwedd hono o dywyllwch; ac felly y maent yn sefyll neu syrthio; canys wele, hwynt-hwy yw barnwyr eu hunain, pa un bynag ai i wneuthur da neu ddrwg. Yn awr, y mae arfaethau Duw yn anghyfnewidiol; am hyny mae y ffordd wedi ei pharotoi, fel y gallo pwy bynag a ewyllysio, rodio ynddi a chael ei achub. Ac yn awr, wele, fy mab, nac anturia roi tamgwydd arall yn erbyn dy Dduw, ar y pynciau hyn o athrawiaeth, yr hyn a anturiaist hyd yma i gyflawni pechod. Na feddylia, o herwydd ei fod wedi cael ei lefaru am adferiad, yr adferir di o bechod i ddedwyddwch. Wele, meddaf wrthyt, ni fu drygioni erioed yn ddedwyddwch. Ac yn awr, fy mab, pob dyn ag sydd mewn cyflwr o natur, neu mi a ddywedwn, mewn cyflwr cnawdol, ydynt mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymau anwiredd; y maent heb Dduw yn y byd, ac wedi myned yn groes i natur Duw; am hyny y maent mewn sefyllfa groes i natur dedwyddwch. Ac yn awr, wele, a yw ystyr y gair adferiad, i gymmeryd peth o sefyllfa naturiol, a’i osod mewn sefyllfa annaturiol, neu ei osod mewn sefyllfa groes i’w natur? O, fy mab, nid felly y mae; eithr ystyr y gair adferiad, yw dwyn yn ol drachefn ddrwg am ddrwg, neu gnawdol am gnawdol; dieflig am dieflig; da am yr hyn sydd dda; cyfiawn am yr hyn sydd gyfiawn; uniawn am yr hyn sydd uniawn; trugarog am yr hyn sydd drugarog; am hyny, fy mab, edrych dy fod yn drugarog wrth dy frodyr; ymddwyn yn uniawn, barna yn gyfiawn, a gwna ddaioni yn wastadol; ac os gwnai yr holl bethau hyn, yna ti a dderbyni dy wobr; ïe, ti a gai drugaredd wedi ei hadferu i ti drachefn; ti a gai uniondeb wedi ei adferu i ti drachefn; ti a gai farn gyfiawn wedi ei hadferu i ti drachefn; a thi a gai ddaioni wedi ei adferu i ti drachefn; canys yr hyn a ddanfoni allan, a ddychwela i ti drachefn, ac a adferir; am hyny, mae y gair adferiad, yn condemnio y pechadur yn fwy hollol, ac nid yw oll yn ei gyflaawnhau.
Ac yn awr, fy mab, yr wyf yn canfod fod rhywbeth yn mhellach yn blino dy feddwl, yr hyn ni elli ei ddeall, ag sydd o berthynas i gyfiawnder Duw, yn nghospedigaeth y pechadur: canys yr wyt ti yn ceisio meddwl mai anghyfiawnder yw fod y pechadur yn cael ei draddodi i gyflwr o drueni. Yn awr, wele, fy mab, mi a egluraf y peth hwn i ti: canys, wele, ar ol i’r Arglwydd Dduw anfon ein rhieni cyntaf allan o ardd Eden, i lafurio y ddaear, o ba un y cymmerwyd hwynt; ïe, efe a gymmerodd y dyn allan, ac a osododd yn y cwr dwyreiniol o Eden, gerubiaid, a chleddyf tanllyd yn troi bob ffordd, i gadw pren y bywyd. Yn awr, gwelwn fod dyn wedi dyfod megys Duw, yn gwybod da a drwg; a rhag iddo estyn allan ei law, a chymmeryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw yn dragywydd, yr Arglwydd Dduw a osododd gerubiaid, a chleddyf tanllyd, fel na chyfranogai o’r ffrwyth; ac felly gwelwn fod amser wedi ei roddi i ddyn, i edifarhau, ïe, amser ymbrawf, amser i edifarhau a gwasanaethu Duw. Canys, wele, pe buasai Adda wedi gosod allan ei law yn uniongyrchol, a chyfranogi o bren y bywyd, efe a fyddai fyw yn dragywydd, yn ol gair Duw, heb gael dim amser i edifarhau; ïe, c hefyd, buasai gair Duw yn ofer, a buasai cynllun mawr yr iachawdwriaeth yn cael ei rwysro. Eithr wele, penodwyd i ddyn farw; am hyny, gan iddynt hwy gael eu tori ymaith oddiwrth bren y bywyd, hwy a gaent eu tori ymaith oddiar wyneb y ddaear; ac aeth dyn yn golledig yn dragywydd; ïe, aethant yn ddyn syrthiedig. Ac yn awr, gwelwn wrth hyn, i’n rhieni cyntaf gael eu tori ymaith yn dymmorol ac ysbrydol, o bresennoldeb yr Arglwydd; ac felly gwelwn iddynt ddyfod yn ddarostyngedig i ddilyn eu hewyllys eu hunain. Yn awr, wele, nid yw yn fuddiol i ddyn gael ei achub oddiwrth y farwolaeth dymmorol hon, canys dinystriai hyny y cynllun mawr o ddedwyddwch: am hyny, gan nas gallai yr enaid byth farw, a bod y cwymp wedi dwyn ar holl ddynolryw farwolaeth ysbrydol, yn gystal a thymmorol; hyny yw, torwyd hwynt ymaith o bresennoldeb yr Arglwydd; yr oedd yn fuddiol i ddynolryw gael eu gwaredu o’r fawolaeth ysbrydol hon; am hyny, gan iddynt fyned yn gnawdol, anianol, a dieflig, wrth natur, daeth y sefyllfa ymbrawf hon yn sefyllfa iddynt i ymbarotoi: daeth yn sefyllfa barotoiadol. Ac yn awr, cofia, fy mab, oni buasai y cynllun o brynedigaeth (gan ei osod o’r neilldu), mor fuan ag y byddent feirw, buasai eu heneidiau yn myned yn druenus, gan gael eu troi ymaith o bresennoldeb yr Arglwydd. Ac yn awr, nid oedd modd i adferu dynion o’r sefyllfa syrthiedig hon ag oedd dyn wedi ei dwyn arno ei hun, o herwydd ei anufydd-dod ei hunan; am hyny, yn ol cyfiawnder, nis gallai y cynllun o brynedigaeth gael ei ddwyn oddiamgylch, ond yn unig ar yr ammodau o edifeirwch dynion yn y sefyllfa hon o ymbrawf; ïe, y sefyllfa barotoiadol hon: canys oni bai yr ammodau hyn, nis gallai trugaredd effeithio heb ddinystrio gwaith cyfiawnder. Yn awr, nis gallai gwaith cyfiawnder gael ei ddinystrio: pe felly, peidiai Duw a bod yn Dduw. Ac felly gwelwn fod holl ddynolryw yn syrthiedig, ac yn ngafael cyfiawnder; ïe, cyfiawnder Duw, yr hwn a’i trosglwyddodd i gael eu troi ymaith am byth o’i bresennoldeb. Ac yn awr, nis gallai y cynllun o drugaredd gael ei ddwyn oddiamgylch, oddieithr i iawn gael ei gwneuthur: am hyny, y mae Duw ei hun yn rhoddi iawn dros bechodau y byd, i ddwyn oddiamgylch y cynllun o drugaredd, i foddloni gofynion cyfiawnder, fel y gallai Duw fod yn Dduw perffaith a chyfiawn, ac yn Dduw trugarog hefyd. Yn awr, nis gallai edifeirwch ddyfod i ddynion, oddieithr fod cosp, yr hon oedd hefyd yn dragywyddol megys y mae bywyd yr enaid, wedi ei chyssylltu yn gyferbyniol i’r cynllun o ddedwyddwch, yr hwn oedd mor dragywyddol hefyd a bywyd yr enaid. Yn awr, pa fodd y gallai dyn edifarhau, oddieithr iddo bechu? Pa fodd y gallai bechu, pe na byddai cyfraith? Pa fodd y gallai fod cyfraith, oddieithr fod cosp? Yn awr, yr oedd cosp wedi ei chyssylltu, a chyfraith gyfiawn wedi ei rhoddi, yr hyn a ddygodd gnofeydd cydwybod i ddyn. Yn awr, pe na fyddai cyfraith wedi ei rhoddi,—pe llofruddiai dyn, efe a gai farw, a fyddai efe yn ofni y cai farw pe llofruddiai? Ac hefyd, pe na fyddai cyfraith wedi ei rhoddi yn erbyn pechod, ni fuasai dynion yn ofni pechu. A phe na roddid cyfraith pan bechai dynion, pa peth allai cyfiawnder wneuthur, na thrugaredd ychwaith: canys ni allent gael un hawl ar y creadur. Eithr y mae cyfraith wedi ei rhoddi, a chosp wedi ei chyssylltu, ac edifeirwch wedi ei ganiatau; yr hwn edifeirwch, y mae trugaredd yn hawlio; pe amgen, mae cyfiawnder yn hawlio y creadur, ac yn gweinyddu y gyfraith, ac y mae’r gyfraith yn rhoddi y gosp; pe nid felly, cawsai gweithredoedd cyfiawnder eu dinystrio, a pheidiai Duw a bod yn Dduw. Eithr nid yw Duw yn peidio bod yn Dduw, dyfod trwy yr iawn; ac y mae’r iawn yn dwyn oddiamgylch adgyfodiad y meirw: ac y mae adgyfodiad y meirw yn dwyn dynion yn ol i bresennoldeb Duw; ac felly y dychwelir hwynt i’w bresennoldeb, i gael eu barnu yn ol eu gweithredoedd, yn ol y gyfraith a chyfiawder; canys, wele, y mae cyfiawnder yn ymarfer ei holl ofynion, ac hefyd y mae trugaredd yn hawlio yr hyn oll a berthyn iddi hithau; ac felly, nid oes neb ond y gwir edifeiriol yn cael ei achub. Beth, a ydych chwi yn tybied y gall trugaredd yspeilio cyfiawnder? Yr wyf yn dywedyd wrthyt, nas gall; ddim un mymryn. Os felly, peidiai Duw a bod yn Dduw. Ac felly y mae Duw yn dwyn oddiamgylch ei fwriadau mawr a thragywyddol, y rhai a barotowyd er seiliad y byd. Ac felly y daw oddiamgylch iachawdwriaeth a phrynedigaeth dyn, ac hefyd eu dystryw a’u trueni; am hyny, O fy mab, gall pwy bynag a ewyllysio, ddyfod, a chyfranogi o ddyfroedd y bywyd yn rhad; a phwy bynag ni ewyllysio ddyfod, y cyfryw ni orfodir i ddyfod; eithr yn y dydd diweddaf, adferir iddo ef, yn ol ei weithredoedd. Os yw wedi ewyllysio gwneuthur drwg, ac heb edifarhau yn ei ddyddiau, wele, iddo ef y gwneir drwg, yn ol adferiad Duw. Ac yn awr, fy mab, yr wyf yn dymuno na adawi i’r pethau hyn flino dy feddwl yn hwy, a gadael i’th bechodau yn unig dy flino, a’r blinder hwnw a’th ddarostynga i edifeirwch. O fy mab, yr wyf yn dymuno na wadi gyfiawnder Duw mwyach. Na cheisia esgusodi dy hun yn y pwynt lleiaf, o herwydd dy bechodau, trwy wadu cyfiawnder Duw, eithr gad i gyfiawnder Duw, a’i drugaredd, a’i hir-amynedd, gael rheolaeth gyflawn yn dy galon, a gad iddo dy ddarostwng i’r llwch mewn gostyngeiddrwydd. Ac yn awr, fy mab, ti a alwyd gan Dduw i bregethu y gair i’r bobl hyn; ac yn awr, dos i’th ffordd, a thraetha y gair mewn gwirionedd a sobrwydd, fel y gelli ddwyn eneidiau i edifeirwch, fel y gallo y cynllun mawr o drugaredd gael hawl arnynt. A bydded i Dduw ganiatau i ti yn ol fy ngeiriau. Amen.