Pennod ⅩⅩⅨ.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i Moroni dderbyn yr epistol hwn, i’w galon ymwroli, a chael ei llanw o lawenydd mawr, o herwydd ffyddlondeb Pahoran, ac am nad oedd ef yn fradwr i ryddid ac achos ei wlad. Eithr efe a alarodd yn fawr hefyd, o herwydd anwiredd y rhai hyny a yrasant Pahoran o’r orsedd farnol; ïe, yn fyr, o herwydd y rhai a wrthryfelasant yn erbyn eu gwlad a’u Duw hefyd.
A bu i Moroni gymmeryd ychydig nifer o wyr, yn ol dymuniad Pahoran, a rhoddi Lehi a Teancum i lywyddu y gweddill o’i fyddin, a chychwyn tua thir Gideon. Ac efe a gyfododd luman rhyddid yn mha le bynag yr elai i mewn, ac a ennillodd pa allu bynag a allai yn ei holl daith tua thir Gideon.
A bu i filoedd ymgyrchu at ei luman, a chymmeryd i fyny eu cleddyfau er amddiffyn eu rhyddid, fel na ddeuent i gaethiwed; ac felly, wedi i Moroni gasglu ynghyd pa wyr bynag a allai yn ei holl daith, efe a ddaeth i dir Gideon; a thrwy uno ei alluoedd ef ag eiddo Pahoran, daethant yn gryf iawn, ïe, yn gryfach nâ gwyr Pachus, yr hwn oedd frenin yr ymneillduwyr hyny a yr asant y rhyddid-wyr allan o dir Zarahemla, ac a gymmerasant feddiant o’r tir.
A bu i Moroni a Pahoran fyned i waered â’i byddinoedd i dir Zarahemla, a myned allan yn erbyn y ddinas, a chyfarfod â gwyr Pachus, yn gymmaint ag iddynt ddyfod i frwydr. Ac wele, lladdwyd Pachus, a chymmerwyd ei wyr yn garcharorion, ac adferwyd Pahoran i’w orsedd farnol. A gwyr Pachus a dderbyniasant eu prawf, yn ol y gyfraith, ac hefyd y breninwyr hyny a ddaliwyd ac a fwriwyd yn ngharchar; a hwy a ddienyddiwyd yn ol y gyfraith; ïe, y gwyr hyny o eiddo Pachus, a’r breninwyr hyny, pwy bynag ni chymmerent i fyny arfau i amddiffyn eu gwlad, eithr a ymladdent yn ei herbyn, a osodwyd i farwolaeth; ac felly daeth yn anghenrheidiol i’r gyfraith hon gael ei chadw yn gaeth er mwyn diogelwch eu gwlad; ïe, a phwy bynag a geffid yn gwadu eu rhyddid, a ddienyddid ar frys yn ol y gyfraith. Ac felly y terfynodd y ddegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi: yr oedd Moroni a Pahoran wedi adferu heddwch i dir Zarahemla, yn mhlith eu pobl eu hun, ac wedi rhoi cosp o farwolaeth ar yr holl rai nad oeddynt ffyddlawn i achos ryddid.
A bu yn nechreu yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl nephi, i Moroni yn union beri i luniaeth gael ei ddanfon, ac hefyd fyddin o chwe mil o wyr gael ei danfon at Helaman, i’w gynnorthwyo ef i gadw y rhan hono o’r tir; ac efe a berodd hefyd i fyddin o chwe mil o wyr, ynghyd a digonedd o ymborth, gael eu danfon at fyddinoedd Lehi a Teancum. A bu i hyn gael ei wneuthur er amddiffyn y tir rhag y Lamaniaid.
A bu i Moroni a Pahoran, gan adael llu mawr o wyr yn nhir Zarahemla, gymmeryd eu taith gyda llu mawr o wyr tua thir Nephihah, gan fod yn benderfynol i ddadymchwelyd y Lamaniaid yn y ddinas hono.
A dygwyddodd, fel yr oeddynt yn cychwyn tua y tir, iddynt gymmeryd llu mawr o wyr y Lamaniaid, a lladd llawer o honynt, a chymmeryd eu lluniaeth a’u harfau rhyfel. A bu ar ol iddynt eu cymmeryd hwynt, beri o honynt iddynt ymgyfammodi na chymmerent i fyny eu harfau rhyfel mwyach yn erbyn y Nephiaid. Ac ar ol iddynt ymgyfammodi fel hyn, hwy a’u danfonasant i drigo gyda phobl Ammon, ac yr oeddynt mewn rhifedi ynghylch pedair mil, o rai nad oeddynt wedi eu lladd.
A bu ar ol iddynt eu danfon hwynt ymaith, iddynt ddilyn eu taith tua thir Nephihah. A bu ar ol iddynt ddyfod at ddinas Nephihah, gyfodi o honynt eu pebyll ar wastadedd Nephihah, yr hwn oedd yn agos i ddinas Nephihah. Yn awr, yr oedd Moroni yn chwennych i’r Lamaniaid ddyfod allan i frwydr yn eu herbyn hwynt, ar y gwastadedd; eithr y Lamaniaid, gan wybod am eu mawr wroldeb, a chan weled lliosogrwydd eu rhifedi, ni feiddient ddyfod allan yn eu herbyn hwynt; am hyny, ni ddaethant i ryfel y diwrnod hwnw. A phan ddaeth y nos, aeth Moroni allan yn nhywyllwch y nos, ac a ddaeth ar ben y mur i ysbïo yn mha ran o’r ddinas yr oedd y Lamaniaid yn gwersyllu gyda’u byddin.
A dygwyddodd eu bod ar y tu deau, wrth y fynedfa; ac yr oeddynt oll yn nghwsg. Ac yn awr, dychwelodd Moroni at ei fyddin, a pherodd iddynt ar frys i barotoi cortynau cryflon ac ysgolion, i’w rhoi i lawr o ben y mur i’r rhan dufewnol o’r mur.
A bu i Moroni beri i’w wyr gychwyn yn mlaen, a dyfod i ben y mur, a gollwng eu hunain i lawr i’r rhan hono o’r ddinas, ïe, sef ar y tu gorllewinol, lle nad oedd y Lamaniaid yn gwersyllu gyda’u byddinoedd.
A bu iddynt oll gael eu gollwng i lawr i’r ddinas yn y nos, trwy offerynoldeb eu cortynau cryfion a’u hysgolion; felly, pan ddaeth y boreu, yr oeddynt oll tu fewn i furiau y dinas. Ac yn awr, pan ddeffrodd y Lamaniaid, a gweled fod byddinoedd Moroni tu fewn y muriau, hwy a ddychrynwyd yn fawr, yn gymmaint ag iddynt ffoi allan trwy y fynedfa. Ac yn awr, pan welodd Moroni eu bod yn ffoi o’i flaen, efe a berodd i’w wyr fyned allan yn eu herbyn, a lladd llawer, ac amgylchynu llawer ereill, a’u cymmeryd yn garcharorion; a’r gweddill o honynt a ffoisant i dir Moroni, yr hwn oedd yn y cyffiniau, wrth làn y mor. Felly y cafodd Moroni a Pahoran feddiant o ddinas Nephihah, heb golli un enaid; ac yr oedd llawer o’r Lamaniaid wedi eu lladd.
Yn awr, dygwyddodd fod llaweroedd o’r Lamaniaid ag oedd yn garcharorion, yn chwennych ymuno a phobl Ammon, a dyfod yn bobl ryddion. A bu i gynnifer a chwennychent hyny, gael yn ol eu dymuniadau; gan hyny, yr holl garcharorion Lamanaidd a ymunasant a phobl Ammon, ac a ddechreuasant lafurio llawer, gan drin y ddaear, codi pob math o yd, a deadelloedd, ac anifeiliaid o bob math; ac felly y rhyddhawyd y Nephiaid o faich mawr; ïe, yn gymmaint ag iddynt gael eu rhyddhau o’r holl garcharorion Lamanaidd.
Yn awr, dygwyddodd i Moroni, ar ol iddo gael meddiant o ddinas Nephihah, a chan ei fod wedi cymmeryd llawer o garcharorion, yr hyn oedd yn lleihau byddinoedd y Lamaniaid yn ddirfawr; ac ennill yn ol lawer o’r Nephiaid a gymmerwyd yn garcharorion, yr hyn oedd yn nerthu byddin Moroni yn ddirfawr; am hyny, Moroni a aeth allan o dir Nephihah i dir Lehi.
A bu, pan welodd y Lamaniaid fod Moroni yn dyfod yn eu herbyn hwynt, iddynt ddychrynu drachefn, a ffoi o flaen byddin Moroni. A bu i Moroni a’i fyddin eu hymlid o ddinas i ddinas, hyd nes y cyfarfuwyd hwynt gan Lehi a Teancum, a’r Lamaniaid a ffoisant rhag Lehi a Teancum, i waered ar y cyffiniau wrth làn y mor, hyd nes y daethant i dir Moroni. Ac yr oedd byddinoedd y Lamaniaid wedi ymgasglu oll ynghyd, yn gymmaint a’u bod oll yn un llu yn nhir Moroni. Yn awr, yr oedd Ammoron, brenin y Lamaniaid, hefyd gyda hwynt.
A bu i Moroni, a Lehi, a Teancum, wersyllu gyda’u byddinoedd o amgylch ogylch yn nghyffiniau tir Moroni, yn gymmaint a bod y Lamaniaid wedi eu hamgylchynu yn y cyffiniau wrth yr anialwch, ar y deau, ac yn y cyffiniau wrth yr anialwch, ar y dwyrain; ac felly y gwersyllasant dros y nos. Canys wele, yr oedd y Nephiaid, a’r Lamaniaid hefyd, yn flinedig o herwydd meithder eu taith; am hyny, ni phenderfynasant ar un cynllwyn yn y nos, oddieithr Teancum; o herwydd yr oedd efe yn dra digllawn wrth Ammoron, yn gymmaint a’i fod yn ystyried mai Ammoron, ac Amalickiah ei frawd, fu yr achos o’r rhyfel mawr a pharhaus hwn rhyngddynt a’r Lamaniaid, yr hwn a fu yn achos o gymmaint o frwydro a thywallt gwaed, a chymmaint o newyn.
A bu i Teancum yn ei ddigter fyned allan i wersyll y Lamaniaid, a gollwng ei hunan i lawr dros furiau y ddinas. Ac efe a aeth yn mlaen gyda chortyn, o le i le, yn gymmaint ag iddo gael gafael yn y brenin; ac efe a daflodd waywffon ato, yr hon a’i trywanodd yn agos i’r galon. Eithr wele, y brenin a ddeffrodd ei was cyn iddo farw, yn gymmaint ag iddynt ymlid Teancum, a’i ladd.
Yn awr, dygwyddodd pan wybu Lehi a Moroni fod Teancum yn farw, iddynt fod yn drist iawn; canys wele, bu ef yn ddyn ag a ymladdodd yn ddewr dros ei wlad, ïe, gwir gyfaill rhyddid; ac yr oedd wedi dyoddef llawer iawn o gystuddiau tra blin. Ond, wele, yr oedd yn farw, ac wedi myned ffordd yr holl ddaear.
Yn awr, bu i Moroni fyned allan yn y boreu, a dyfod ar y Lamaniaid, yn gymmaint ag iddynt eu lladd a lladdfa fawr; a hwy a’u gyrasant allan o’r tir; a hwy a ffoisant, ïe, fel na ddychwelasant y pryd hwnw yn erbyn y Nephiaid. Ac felly y terfynodd yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi; ac felly yr oeddynt wedi cael rhyfeloedd, a thywallt gwaed, a newyn, a chystudd, am yspaid llawer o flynyddoedd. Ac yr oedd llofruddiaethau, ac amrafaelion, ac ymraniadau, a phob math o anwiredd, wedi bod yn mhlith pobl Nephi; er hyny, er mwyn y cyfiawn, ïe, o herwydd gweddiau y cyfiawn, hwy a arbedwyd. Eithr, wele, o herwydd gweddiau y cyfiawn, hwy a arbedwyd. Eithr, wele, o herwydd hir barhad y rhyfel rhwng y Nephiaid a’r Lamaniaid, yr oedd llawer wedi ymgaledu, o herwydd hir barhad y rhyfel; ac yr oedd llawer wedi eu meddalhau, o herwydd eu cystuddiau, yn gymmaint ag iddynt ymostwng gerbron Duw, ïe, i iselder gostyngeiddrwydd.
A bu ar ol i Moroni gadarnhau y rhanau hyny o’r wlad ag oedd fwyaf agored i’r Lamaniaid, hyd nes yr oeddynt yn ddigon cryfion, iddo ddychwelyd i ddinas Zarahemla, ac Helaman hefyd a ddychwelodd i le ei etifeddiaeth; ac yr oedd heddwch unwith yn rhagor wedi ei sefydlu yn mhlith pobl Nephi. A Moroni a roddodd i fyny lywyddiaeth ei fyddinoedd i ddwylaw ei fab, enw yr hwn oedd Moronihah; ac efe a ymneillduodd i’w dŷ ei hun, fel y gallai dreulio gweddill ei ddyddiau mewn heddwch. A Pahoran a ddychwelodd i’w orsedd farnol; ac Helaman a gymmerodd arno drachefn i bregethu i’r bobl air Duw; canys oblegid cynnifer o ryfeloedd ac amrafaelion, yr oedd wedi dyfod yn anghenrheidiol i reoleiddiad gael ei wneuthur drachefn yn yr eglwys: am hyny, Helaman a’i frodyr a aethant allan, ac a draethasant air Duw gyda mawr allu, hyd at argyhoeddi llawer o bobl o’u drygioni, yr hyn a achosodd iddynt edifarhau am eu pechodau, a chael eu bedyddio i’r Arglwydd eu Duw.
A bu iddynt drachefn gadarnhau eglwys Dduw, trwy yr holl dir; ïe, a gwnaed trefniadau ynghylch y gyfraith. A’u barnwyr a’u prif farnwyr a ddewiswyd. A phobl Nephi a ddechreuasant lwyddo drachefn yn y tir, a dechreu lliosogi a myned yn dra chryfion drachefn yn y tir. A dechreuasant fyned yn dra chyfoethog; ond er eu cyfoeth, neu eu nerth, neu eu llwyddiant, ni ymddyrchafasant yn malchder eu golygon: ac nid oeddynt hwyrfrydig i gofio yr Arglwydd eu Duw; eithr hwy a ymostyngasant yn isel ger ei fron; ïe, hwy a gofiasant pa bethau mawrion a wnaeth yr Arglwydd drostynt, ei fod wedi eu gwaredu oddiwrth farwolaeth, ac oddiwrth rwymau, ac o garcharau, ac o bob math o gystuddiau; ac efe a’u gwaredodd allan o ddwylaw eu gelynion. A hwy a weddient ar yr Arglwydd eu Duw yn wastadol, yn gymmaint ag i’r Arglwydd eu bendithio, yn ol ei air, nes y darfu iddynt gryfâu a llwyddo yn y tir. A bu i’r holl bethau hyn gael eu gwneuthur. Ac Helaman a fu farw, yn y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.