Pennod ⅩⅩⅡ.
Ac yn awr, dygwyddodd na ymattaliodd Moroni i wneuthur parotoiadau rhyfel, neu i amddiffyn ei bobl rhag y Lamaniaid; canys efe a berodd i’w fyddinoedd, yn nechreu yr ugeinfed flwyddyn o deyrnasiad y barnwyr, ddechreu cloddio i fyny gruglwythi o bridd oddiamgylch yr holl ddinasoedd, trwy yr holl dir a feddiennid gan y Nephiaid; ac ar ben y cloddiau pridd hyn, efe a achosodd fod coed; ïe, fod gwaith coed yn cael ei adeiladu hyd at uwchder dyn, oddiamgylch y dinasoedd. Ac efe a achosodd fod ar y gwaith coed hyny adeilwaith o bigau yn cael ei adeiladu ar y coed, o amgylch ogylch; ac yr oeddynt yn gryfion ac uchel; ac efe a achosodd i dyrau gael eu codi a fuasent yn edrych dros yr adeilwaith o bigau; ac efe a achosodd i leoedd o ddiogelwch gael eu hadeiladu ar y tyrau hyny, fel na allai ceryg a saethau y Lamaniaid eu niweidio hwynt. Ac yr oeddynt wedi parotoi, fel y gallent daflu ceryg oddiar eu penau, yn ol eu hewyllys a’u gallu, a lladd yr hwn a gynnygiai ddyfod yn agos i furiau y ddinas. Felly y parotôdd Moroni amddiffynfeydd erbyn dyfodiad eu gelynion, oddiamgylch pob dinas yn yr holl wlad.
A bu i Moroni achosi i’w fyddinoedd fyned allan i’r anialwch dwyreiniol; ïe, a hwy a aethant allan, ac a yrasant yr holl Lamaniaid ag oedd yn yr anialwch dwyreiniol i’w tiroedd eu hunain, y rhai oeddynt yn ddeheuol i dir Zarahemla; ac yr oedd tir Nephi yn ymestyn mewn llinell uniawn o’r mor dwyreiniol i’r un gorllewinol. A bu ar ol i Moroni yru yr holl Lamaniaid allan o’r anialwch dwyreiniol, yr hwn oedd yn ogleddol i’w tiroedd etifeddiaethol eu hunain, iddo achosi i’r trigolion ag oedd yn nhir Zarahemla, ac yn y wlad oddiamgylch, fyned i’r anialwch dwyreiniol, hyd at y cyffiniau, wrth làn y môr, a meddiannu y tir. Ac hefyd efe a osododd fyddinoedd ar y deau, ar gyffiniau eu hetifeddiaethu hwy, ac a achosodd gyfodi amddiffynfeydd, fel y gallent ddiogelu eu byddinoedd a’u pobl allan o ddwylaw eu gelynion. Ac felly y torodd efe ymaith holl gadernid y Lamaniaid, yn yr anialwch dwyreiniol; ïe, ac hefyd ar y gorllewin, gan gadarnhau y ffin rhwng y Nephiaid a’r Lamaniaid, rhwng tir Zarahemla a thir Nephi; o’r mor gorllewinol, gan redeg wrth ben afon Sidon; gan fod y Nephiaid yn meddiannu yr holl dir yn ogleddol; ïe, sef yr holl dir ag oedd yn ogleddol o dir Llawnder, yn ol eu hewyllys. Felly, Moroni, ynghyd â’i fyddinoedd, y rhai a gynnyddent yn feunyddiol, o herwydd y sicrwydd o amgeledd a ddygai ei weithredoedd iddynt; o ganlyniad, hwy a geisiasant dori ymaith nerth a gallu y Lamaniaid, oddiar diroedd eu hetifeddiaethau, fel na chaffent ddim gallu ar diroedd eu hetifeddiaeth.
A bu i’r Nephiaid ddechreu sylfaen dinas; a galwasant enw y ddinas yn Moroni; ac yr oedd wrth y môr dwyreiniol; ac yr oedd ar y deau wrth ffin etifeddiaethau y Lamaniaid. Ac hefyd hwy a ddechreuasant sylfaen dinas rhwng dinas Moroni a dinas Aaron, gan gyssylltu cyffiniau Aaron a Moroni; a galwasant enw y ddinas neu y tir yn Nephihah. A hwy a ddechreuasant hefyd, yn yr un flwyddyn, i adeiladu llawer o ddinasoedd ar y gogledd; un mewn modd neillduol, yr hon a alwasant Lehi, yr hon oedd yn y gogledd, wrth gyffiniau glàn y môr. Ac felly y terfynodd yr ugeinfed flwyddyn. Ac yn yr amgylchiadau llwyddiannus hyn oedd pobl Nephi yn nechreu yr unfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi. A hwy a lwyddiasant yn fawr, ac a ddaethant yn dra chyfoethog; ië, allwn weled fod ei eiriau yn cael eu gwirio, hyd y nod yr amser hwn, y rhai a lefarodd wrth Lehi, gan ddywedyd, Gwyn dy fyd di a’th glant; a hwy a fendithir, yn gymmaint ag y cadwant fy nghorchymynion; hwy a lwyddant yn y tir. Eithr cofiwch yn gymmaint ag na chadwant fy nghorchymynion, hwy a dorir ymaith o bresennoldeb yr Arglwydd. Ac yr ydym yn gweled fod yr addewidion hyn wedi eu gwirio i bobl Nephi; canys eu hamrafaelion a’u hamrysonau, ië, eu llofruddiaethau, a’u hyspeiliadau, eu heilun-addoliaeth, eu puteindra, a’u ffieidd-dra, y rhai a fu yn eu plith eu hunain, a ddygodd arnynt eu rhyfeloedd a’u dinystriadau. A’r rhai a fuont yn ffyddlawn i gadw gorchymynion yr Arglwydd, a waredwyd bob amser, tra yr oedd miloedd o’u brodyr drygionus yn cael eu trosglwyddo i gaethiwed, neu i drengu trwy y cleddyf, neu fethu mewn anghrediniaeth, a chymmysgu â’r Lamaniaid. Eithr, wele, ni fu amser dedwyddolach erioed yn mysg pobl Nephi, er dyddiau Nephi, nag yn nyddiau Moroni; ië, sef yr amser hwn, yn yr unfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y barnwyr. A bu i’r ddwyfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y barnwyr derfynu hefyd mewn heddwch; ië, a’r drydedd flwyddyn ar hugain hefyd.
A bu yn nechreu y bedwaredd flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y barnwyr, y buasai hefyd heddwch yn mhlith pobl Nephi, oni bai amrafael a gymmerodd le yn eu plith ynghyich tir Lehi, a thir Morianton, y rhai a gydient ar gyffiniau Lehi; yr oedd y ddau ar y cyffiniau wrth làn y môr. Canys, wele, yr oedd y bobl a feddiannent dir Morianton yn hawlio rhan o dir Lehi; am hyny, defchreuodd fod amrafael poeth rhyngddynt, yn gymmaint ag i bobl Morianton gymmeryd i fyny arfau yn erbyn eu brodyr, ac yr oeddynt yn benderfynol i’w lladd trwy ycleddyf. Eithr wele, y bobl a feddiannent dir Lehi, a ffoisant i wersyll Moroni, ac a apeliasant ato ef am gynnorthwy; canys wele, nid hwy oedd ar gam.
A dygwyddodd, ar ol i bobl Morianton, y rhai a arweinid gan ddyn o’r enw Morianton, gael allan fod pobl Lehi wedi ffoi i wersyll Moroni, iddynt ofni yn fawr rhag i fyddin Moroni ddygod arnynt, a’u dyfetha; am hyny, Morianton a osododd yn eu calonau i ffoi i’r wlad ag oedd yn ogleddol, yr hon oedd wedi ei gorchuddio â chyrff mawrion o ddwfr, a chymmeryd meddiant o’r tir yn ogleddol. Ac wele, buasent wedi cario y cynllun hwn i weithrediad (yr hyn a fuasai yn achos i alaru), eithr, wele, y bobl ag oeddynt yn nhir Llawnder, neu yn hytrach Moroni, a ofnent y gwrandawent hwy ar eiriau Morianton, ac ymuno â’i bobl, ac felly efe a gai feddiant o’r rhanau hyny o’r tir ag a osodai sail i ganlyniadau pwysig yn mhlith pobl Nephi; ïe, canlyniadau a arweinient i ddadymchweliad eu rhyddid; am hyny, Moroni a ddanfonodd fyddin, gyda’u gwersyll hwy, i ragflaenu pobl Morianton, ac attal eu ffoedigaeth i’r wlad ogleddol. A bu na ragflaenasant hwynt, hyd nes y daethant i gyffiniau tir Anghyfannedd-ddra; ac yno y rhagflaenasant hwynt, wrth y fynedfa gul a arweiniai wrth y môr i’r tir gorllewinol; ïe, wrth y môr, ar y gorllewin, ac ar y dwyrain.
A bu i’r fyddin a ddanfonwyd gan Moroni, yr hon a rweinid gan ddyn o’r enw Teancum, gyfarfod pobl Morianton; ac mor ystyfnig oedd pobl Morianton (gan fod wedi eu cynhyrfu gan ei ddrygioni a’i eiriau gwenieithgar ef), fel y dechreuodd brwydr rhyngddynt, yn yr hon Teancum a laddodd Morianton, ac a orchfygodd ei fyddin, ac a’u cymmerodd yn garcharorion, ac a ddychwelodd i wersyll Moroni. Ac felly y terfynodd y bedwaredd flwyddyn ar hugain o deyrnasiad y barnwyr ar bobl Nephi. Ac felly y dygwyd pobl Morianton yn ol. Ar ol iddynt ymgyfammodi i gadw yr heddwch, hwy a adferwyd i dir Morianton, a chymmerodd undeb le rhyngddynt â phobl Lehi; ac adferwyd hwynt hefyd i’w tiroedd.
A dygwyddodd, yn yr un flwyddyn ag yr adferwyd heddwch i bobl Nephi, i Nephihah, yr ail brif-farnwr, farw, wedi llanw yr orsedd farnol gyda pherffaith uniondeb gerbron Duw; er hyny, efe a wrthododd gan Alma gymmeryd meddiant o’r cof-lyfrau hyny a’r pethau hyny a ystyrid gan Alma a’i dadau yn dra chyssegredig; am hyny, yr oedd Alma wedi eu rhoddi i’w fab Helaman.
Wele, dygwyddodd i fab Nephihah gael ei benodi i lanw yr orsedd farnol, yn lle ei dad; ïe, penodwyd ef yn brif farnwr a llywodraethwr ar y bobl, gyda llw, ac ordinhad gyssegredig, i farnu yn gyfiawn, a chadw yr heddwch, a rhyddid y bobl, a chaniatâu iddynt eu breintiau cyssegredig i addoli yr Arglwydd eu Duw; ïe, i gynnal a chadw achos Duw trwy ei holl ddyddiau, a dwyn y drygionus i farn, yn ol eu trosedd. Yn awr, wele, ei enw oedd Pahoran. A Pahoran a lanwodd orsedd ei dad, ac a ddechreuodd ei deyrnasiad ar bobl Nephi, yn niwedd y bedwaredd flwyddyn ar hugain.