Pennod ⅩⅥ.
Wele, dygwyddodd yn awr, ar ol i bobl Ammon ymsefydlu yn nhir Jershon, ïe, ac hefyd ar ol i’r Lamaniaid gael eu gyru allan o’r tir, ac i’w meirw gael eu claddu gan bobl y tir; ac ni chyfrifwyd eu meirw, o herwydd bod eu rhifedi gymmaint, ac ni chyfrifwyd meirw y Nephiaid; ïe, dygwyddodd ar ol iddynt gladdu eu meirw, ac hefyd ar ol y dyddiau at ymprydio, galaru a gweddio (ac yr oedd yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi), ddechreu fod heddwch gwastadol trwy yr holl dir, ïe, a’r bobl a gadwasant orchymynion yr Arglwydd; ac yr oeddynt yn fanwl i gadw ordinhad au Duw, yn ol cyfraith Moses; canys hwy a ddysgwyd i gadw cyfraith Moses, hyd nes y cyflawnid hi; ac felly ni chafodd y bobl ddim aflonyddwch trwy yr unfed flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.
A bu yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad y Barnwyr, fod heddwch parhaus. Eithr dygwyddodd tua diwedd y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg, ddyfod dyn i dir Zarahemla; ac yr oedd efe yn Anghrist, canys dechreuodd bregethu wrth y bobl yn erbyn y prophwydoliaethau a lefarwyd gan y prophwydi, ynghylch dyfodiad Crist, Yn awr, nid oedd un gyfraith yn erbyn crediniaeth dyn; canys yr oedd yn gwbl groes i orchymynion Duw fod un gyfraith i ddwyn dynion i dir o anghydraddoldeb. Canys fel hyn y dywed yr ysgrythyr, Dewiswch y dydd hwn, pwy a wasanaethwch. Yn awr, os dewisai dyn i wasanaethu Duw, ei fraint ef ydoedd; neu yn hytrach, os credai yn Nuw, ei fraint ef oedd ei wasanaethu; eithr os nad oedd yn credu ynddo, nid oedd un gyfraith i’w gospi. Eithr os llofruddiai, efe a gospid i farwolaeth; ac os lladratäai, efe a gospid hefyd; ac os yspeiliai, efe a gospid hefyd; ac os cyflawnai odineb, efe a gospid hefyd; ïe, am yr holl ddrygioni hyn, hwy a gospid; canys yr oedd cyfraith, y dylai dynion gael eu barnu yn ol eu troseddau. Er hyny, nid oedd un gyfraith yn erbyn crediniaeth dyn; am hyny, ni chospid dyn ond yn unig am y troseddau a gyflawnodd; o ganlyniad, yr oedd pob dyn ar dir cyfartal. A’r Anghrist hwn, enw pa un oedd Korihor (ac nis gallai y gyfraith gael un gafael ynddo), ddechreu pregethu wrth y bobl, na fyddai Crist. Ac yn ol y modd hyn y pregethai, gan ddywedyd, O chwi, y rhai a rwymir i lawr dan obaith ffol ac ofer, paham yr ieuwch eich hunain â’r fath bethau ffol? Paham yr edrychwch am Grist? Canys ni all un dyn wybod am ddim sydd i ddyfod. Wele, y pethau hyn a alwch yn brophwydoliaethau, y rhai a ddywedwch iddynt gael eu trosglwyddo i waered gan y prophwydi santaidd; wele, traddodiadau ffol eich tadau ydynt. Pa fodd yr ydych chwi yn gwybod am eu sicrwydd? Wele, nis gallwch wybod am bethau y rhai ni welsoch; am hyny, nis gellwch wybod y bydd Crist. Yr ydych yn edrych yn mlaen ac yn dywedyd eich bod yn gweled maddeuant o’ch pechodau. Ond wele, effaith meddwl gwallgof ydyw; ac y mae’r gwallgofrwydd hwn o eiddo eich meddyliau yn dyfod trwy draddodiad eich tadau, yr hwn sydd yn eich arwain ymaith i gredu pethau nad ydynt felly. A llawer yn ychwaneg o bethau cyffelyb a lefarodd efe wrthynt, gan ddywedyd wrthynt na fuasai iawn yn cael ei gwneuthur dros bechodau dynion, eithr fod pob dyn yn ymdaraw yn y bywyd hwn yn ol rheolaeth y creadur; am hyny, fod pob dyn yn llwyddo yn ol ei athrylith, a bod pob dyn yn gorchfygu yn ol ei nerth; a pha beth bynag a wnelai dyn, nad oedd yn drosedd. Ac felly y pregethodd efe wrthynt, gan arwain ymaith galonau llaweroedd, ac achosi iddynt ddyrchafu eu penau yn eu drygioni; ïe, gan arwain ymaith lawer o wragedd, a gwyr hefyd, i gyflawni puteindra; gan ddywedyd wrthynt pan fuasai dyn farw, mai hyny oedd ei ddiwedd.
Yn awr, aeth y dyn hwn drosodd i dir Jershon hefyd, i bregethu y pethau hyn yn mysg pobl Ammon, y rhai oeddynt nnwaith yn bobl y Lamaniaid. Ond, wele, yr oeddynt hwy yn ddoethach nâ llawer o’r Nephiaid; canys hwy a’i daliasant, ac a’i rhwymasant, gan ei ddwyn gerbron Ammon, yr hwn oedd yn archoffeiriad dros y bobl hyny.
A darfu iddo ef achosi ei symud allan o’r tir. Ac efe a ddaeth drosodd i dir Gideon, ac a ddechreuodd bregethu wrthynt hwythau hefyd; ond ni chafodd lawer o lwyddiant yma, canys efe a ddaliwyd ac a rwymwyd, ac a ddygwyd gerbron yr archoffeiriad, ac hefyd y prif farnwr dros y tir.
A bu i’r archoffeiriad ddywedyd wrtho. Paham yr âi oddigylch i wyrdroi ffyrdd yr Arglwydd? Paham y dysgi y bobl hyn na fydd un Crist i rwystro eu llawenydd? Paham y liefari yn erbyn holl brophwydoliaethau y prophwydi santaidd? Yn awr, enw yr archoffeiriad oedd Giddonah. A Korihor a ddywedodd wrtho. O herwydd nad wyf yn dysgu traddodiadau ffol eich tadau, ac o herwydd nad wyf yn dysgu y bobl hyn i rwymo eu hunain i lawr dan yr ordinhadau a’r cyflawniadau ffol a osodwyd gan offeiriaid gynt, er traws-feddiannu gallu ac awdurdod arnynt, i’w cadw mewn anwybodaeth, fel na ddyrchafont eu penau, eithr fel y darostynger hwynt yn ol dy eiriau di. Yr ydych chwi yn dywedyd fod y bobl hyn yn bobl ryddion. Wele, yr wyf fi yn dywedyd eu bod mewn caethiwed. Yr ydych chwi yn dywedyd fod yr hen brophwydoliethau hyny yn wir. Wele, yr wyf fi yndywedyd nad ydych chwi yn gwybod eu bod yn wir. Yr ydych chwi yn dywedyd fod y bobl hyn yn bobl euog a syrthiedig, o herwydd trosedd rhieni. Wele, yr wyf fi yn dywedyd nad yw plentyn yn euog o herwydd ei rieni. Ac yr ydych yn dywedyd hefyd y daw Crist. Eithr wele, yr wyf fi yn dywedyd na wyddoch chwi y bydd Crist. Ac yr ydych yn dywedyd hefyd, y caiff efe ei ladd dros bechodau y byd; ac felly yr ydych yn arwain ymaith y bobl hyn ar ol traddodiadau ffol eich tadau, ac yn ol dymuniadau eich hunain; ac yr ydych yn eu cadw i lawr, fel pe byddai, mewn caethiwed, fel y galloch ymloddesta ar lafur eu dwylaw, nes na feiddiant edrych i fyny gydag eofndra, ac nes na feiddiant fwynhau eu hiawnderau a’u breintiau; ïe, ni feiddiant wneuthur defnydd o’r hyn sydd yn eiddo eu hunain, rhag iddynt dramgwyddo eu hoffeiriad, y rhai sydd yn eu hieuo hwynt yn ol eu dymuniadau, a’u dwyn i gredu trwy eu traddodiadau, a’u breuddwydion, a’u mympwyon, a’u gweledigaethau, a’u dirgelion honedig, y byddai iddynt, os na wnelent yn ol eu geiriau hwy, dramgwyddo rhyw fod anadnabyddus, yr hwn a ddywedant yw Duw; bôd na welwyd ac na adnabuwyd erioed, yr hwn ni fu erioed ac ni fydd byth Yn awr, pan welodd yr archoffeiriad a’r prif farnwr galedwch ei galon; ïe, pan welsant y cablai hyd y nod yn erbyn Duw, ni roddent un ateb i’w eiriau; eithr parasant ei rwymo; a hwy a’i traddodasant ef i ddwylaw y swyddogion, ac a’i danfonasant i dir Zarahemla, fel y dygid ef gerbron Alma, a’r prif farnwr, yr hwn oedd yn lywodraethwr dros yr holl dir.
A dygwyddodd, pan ddygwyd ef gerbron Alma a’r prif farnwr, iddo fyned yn mlaen yn yr un dull ag y gwnaeth yn nhir Gideon; ïe, aeth yn mlaen i gablu. Ac efe a gyfododd i fyny gyda geiriau chwyddedig gerbron Alma, ac a ddifenwodd yr offeiriaid a’r athrawon, gan eu cyhuddo o arwain ymaith y bobl ar ol traddodiadau ffol eu tadau, er mwyn ymloddesta ar lafur y bobl. Yn awr, Alma a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost nad ydym ni yn ymloddesta ar lafur y bobl hyn; canys wele, mi a lafuriais hyd y nod er dechreuad teyrnasiad y Barnwyr, hyd yn bresennol, â’m dwylaw fy hun, er fy nghynnaliaeth, yn ngwyneb fy aml deithiau oddiamgylch y tir i draethu gair Duw wrth fy mhobl. Ac er yr holl lafur a gyflawnais yn yr eglwys, ni dderbyniais erioed gymmaint ag un senine am fy ngwaith; nac ychwaith neb o’m brodyr, oddieithr yn yr orsedd farnol; a’r pryd hyny, ni dderbyniasom ond yn unig yn ol y gyfraith am ein hamser. Ac yn awr, os nad ydym yn derbyn dim am ein llafur yn yr eglwys, pa leshad yw i ni lafurio yn yr eglwys, oddieithr i draethu y gwirionedd, fel y caffom lawenychu yn llawenydd ein brodyr? Yna, paham y dywedi ein bod yn pregethu wrth y bobl hyn er mwyn elw, pan y gwyddost ti dy hun nad ydym yn derbyn dim elw? Ac yn awr, a wyt ti yn credu ein bod yn twyllo y bobl hyn, a bod hyny yn achosi y fath lawenydd yn eu calonau? A Korihor a’i hatebodd ef, Ydwyf. Ac yna Alma a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu fod Duw? Ac atebodd yntau, Nac ydwyf. Yn awr, Alma a ddywedodd wrtho, A wadi di drachefn fod Duw, a gwadu hefyd y Crist? Canys wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, Mi a wn fod Duw, ac hefyd y daw Drist. Ac yn awr, pa brawf sydd genyt ti nad oes Duw, neu nad yw Crist i ddyfod? Yr wyf yn dywedyd wrthyt nad oes dim, oddieithr dy air yn unig. Ond, wele, y mae genyf fi bob peth yn dystiolaeth fod y pethau hyn yn wir; ac y mae genyt tithau hefyd bob peth yn dystiolaeth i ti eu bod yn wir; ac a wadi di hwynt? A wyt ti yn credu fod y pethau hyn yn wir? Wele, mi a wn dy fod yn credu, eithr yr wyt wedi dy feddiannu ag ysbryd celwyddog, ac yr ydwyt wedi bwrw ymaith ysbryd Duw, fel na chaffo le ynot; ond y mae gan y diafol awdurdod arnat, ac y mae yn dy arwain oddiamgylch, gan wneuthur cynlluniau, fel y gallo ddinystrio plant Duw. Ac yn awr, Korihor a ddywedodd wrth Alma, Os dangosi i mi arwydd, fel y gallwyf gael fy argyhoeddi fod Duw, ïe, dangos i mi fod ganddo allu, yna argyhoeddir fi o wirionedd dy eiriau. Eithr Alma a ddywedodd wrtho, Ti a gefaist ddigon o arwyddion; a demti di dy Dduw? A ddywedi di, Dangos i mi arwydd, pan y mae genyt dystiolaeth dy holl frodyr hyn, ac hefyd yr holl santaidd brophwydi? Yr ysgrythyrau ydynt wedi eu gosod o’th flaen, ïe, ac y mae pob peth yn dynodi fod Duw; ïe, y mae hyd y nod y ddaear, a’r holl bethau sydd ar ei gwyneb, ïe, a’i symudiad; ïe, ac hefyd yr holl blanedau ag sydd yn symud yn eu trefn reolaidd, yn tystiolaethu fod Creawdwr Goruchel; ac er hyny, a âi di oddiamgylch, gan arwain ymaith galonau y bobl hyn, a thystiolaethu wrthynt nad oes un Duw? Ac a wadi di etto yn ngwyneb yr holl dystion hyn? Ac yntau a ddywedodd, Gwnaf, mi a wadaf, oddieithr i ti ddangos i mi arwydd.
Ac yn awr, dygwyddodd i Alma ddywedyd wrtho, Wele, yr wyf fi yn ofidus o herwydd caledwch dy galon; ïe, am dy fod yn parhau i wrthwynebu ysbryd y gwirionedd, fel y dinystrier dy enaid. Eithr wele, y mae yn well colli dy enaid di, nâ chael o honot fod yn offeryn i ddwyn eneidiau lawer i ddystryw, trwy dy eiriau celwyddog a gwenieithgar; am hyny, os gwadi drachefn, wele, Duw a’th dery di, nes y byddi yn fud, fel na agorych dy enau byth mwyach, ac fel na thwylli y bobl hyn yn hwy. Yn awr, Korihor a ddywedodd wrtho, Nid wyf yn gwadu bodoliaeth Duw, eithr nid wyf yn credu fod Duw; ac yr wyf yn dywedyd hefyd, nad ydych chwithau yn gwybod fod Duw; ac oddieithr i chwi ddangos i mi arwydd, nis credaf. Yn awr, dywedodd Alma wrtho, Hyn a roddaf i ti yn wrwydd, y tarewir di yn fud, yn ol fy ngeiriau; ac yr wyf yn dywedyd, mai yn enw Duw y tarewir di yn fud, fel na chai mwyach allu i lefaru. Yn wr, pan ddywedodd Alma y geiriau hyn, tarawyd Korihor yn fud, fel nas gallai lefaru, yn ol geiriau Alma. Ac yn awr, pan welodd y prif farnwr hyn, efe a estynodd ei law ac a ysgrifenodd at Korihor, gan ddywedyd, A argyhoeddwyd di o allu Duw? Yn mhwy y dymunaist ar Alma i ddangos ei arwydd? A fynit ti gystuddio ereill, er dangos arwydd i ti? Wele, efe a ddangosodd i ti arwydd; ac yn awr, a ddadleui di mwy? A Korihor a estynodd ei law ac a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Mi a wnfy mod yn fud, oblegid nis gallaf lefaru; a gwn nas gallai dim, oddieithr gallu Duw, ddwyn hyn arnaf; ïe, ac mi a wyddwn hefyd fod Duw. Ond wele, mae’r diafol wedi fy nhwyllo; canys efe a ymddangosodd i mi ar rith angel, c a ddywedodd wrthyf, Dos ac adfera y bobl hyn, canys y maent oll wedi myned ar gyfeiliorn ar ol Duw anadnabyddus. A dywedodd wrthyf nad oedd un Duw; ïe, a dysgodd fi yr hyn a ddywedwn. Ac mi a ddysgais ei eiriau, o herwydd eu bod yn bleserus gan y meddwl cnawdol; ac mi a’u dysgais, hyd nes y llwyddais yn fawr, yn gymmaint nes yn ddiau i mi gredu eu bod yn wir; ac o herwydd hyn, mi a wrthsafais y gwirionedd, ïe, hyd nes dygais arnaf y felldith fawr hon. Yn awr, ar ol iddo ddywedyd hyn, deisyfodd ar Alma i weddio ar Dduw, fel y cymmerid ymaith y felldith oddiwrtho. Eithr Alma a ddywedodd wrtho, Pe cymmerid ymaith y felldith hon oddi wrthyt, ti a arweinit ymaith galonau y bobl hyn drachefn; am hyny, bydd i ti megys yr ewyllysio yr Arglwydd.
A bu na chymmerwyd ymaith y felldith oddiwrth Korihor; eithr efe a fwriwyd allan, ac a aeth o amgylch o dŷ, i gardota ei ymborth. Yn awr, cyhoeddwyd y wybodaeth o’r hyn a ddygwyddodd i Korihor, yn ddioed trwy yr holl dir; ïe, anfonwyd y cyhoeddiad allan gan y prif farnwr, at yr holl bobl trwy y tir, gan hysbysu y rhai oeddynt wedi credu geiriau Korihor, fod yn rhaid iddynt edifarhau ar frys, rhag i’r un farnedigaeth ddyfod arnynt hwythau.
A bu iddynt oll gael eu hargyhoeddi ynghylch drygioni Korihor; am hyny, hwy a ddychwelwyd oll drachefn at yrArglwydd; a gosododd hyn derfyn ar yr anwiredd yn ol cynllun Korihor. A Korihor a aeth o amgylch o dŷ i dŷ, gan gardota ymborth er ei gynnaliaeth.
A dygwyddodd fel yr oedd yn myned allan yn mhlith y bobl, ïe, yn mhlith pobl ag oedd ar wahan oddiwrth y Nephiaid, ac a alwent eu hunain Zoramiaid, y rhai a arweinid gan ddyn, o’r enw Zoram; ac fel yr oedd yn myned allan i’w mysg, wele, rhedwyd arno, a mathrwyd ef, hyd nes y bu farw; ac felly gwelwn ddiwedd yr hwn sydd yn gwyrdroi ffyrdd yr Arglwydd; ac felly gwelwn na chynnalia y diafol ei blant yn y dydd diweddaf, eithr llusga hwynt ar frys i uffern.
Yn awr, dygwyddodd ar ol i Korihor gael ei ddiwedd, i Alma dderbyn a bod Zoram, yr hwn oedd eu penaeth, yn arwain cadonau y bobl i ymostwng i eilunod mudion, &c.; a’i galon ef drachefn a ddechreuodd glafychu, o herwydd anwiredd y bobl; canys yr oedd yn achos o fawr dristwch i Alma, i wybod am anwiredd yn mhlith ei bobl; am hyny yr oedd ei galon yn drist iawn, o herwydd gwahaniad y Zoramiaid oddiwrth y Nephiaid. Yn awr, yr oedd y Zoramiaid wedi ymgasglu ghyd mewn tir a alwent Antionum, yr hwn oedd yn ddwyreiniol i dir Zarahemla, ac yn gorwedd yn agos ar gyffiniau glàn y môr, yr hwn oedd ar y deau i dir Jershon, yr hwn hefyd oedd yn cyffinio ar yr anialwch deheuol, yr hwn anialwch oedd yn llawn o’r Lamaniaid. Yn awr, yr oedd y Nephiaid yn mawr ofni y buasai y Zoramiaid yn ymgyfathrachu â’r Lamaniaid, ac y buasai yn achos o golled mawr o ochr y Nephiaid. Ac yn awr, gan fod pregethiad y gair wedi tueddu yn fawr i arwain y bobl i wneuthur yr hyn oedd yn uniawn; ïe, yr oedd wedi cael effaith fwy nerthol ar feddyliau y bobl nâ’r cleddyf, nac unpeth arall, a ddygwyddodd iddynt: am hyny, Alma a dybiodd yn addas iddynt gael profi rhinwedd gair Duw. Gan hyny, efe a gymmerodd Ammon, ac Aaron, ac Omner; ac Himni a adawodd efe yn yr eglwys yn Zarahemla; eithr cymmerodd y tri blaenaf gydag ef, ac hefyd Amulek a Zeezrom, y rhai oeddynt yn Melek; ac efe a gymmerodd hefyd ddau o’i feibion. Yn awr, ni chymmerodd yr henaf o’i feibion gydag ef; a’i enw ef oedd Helaman; eithr enwau y rhai a gymmerodd gydag ef, oeddynt Shiblon, a Corianton; a dyma oedd enwau y rhai a aeth gydag ef i blith y Zoramiaid, i bregethu y gair iddynt.
Yn awr, yr oedd y Zoramiaid yn ymneillduwyr oddiwrth y Nephiaid; am hyny, yr oedd gair Duw wedi ei bregethu iddynt. Eithr yr oeddynt wedi syrthio i gyfeiliornadau mawrion, canys ni ofalent gadw gorchymynion Duw, a’i ddeddfau, yn ol cyfraith Moses; ac ni chadwent gyflawniadau yr eglwys, a pharhau mewn gweddi a deisyfiad at Dduw yn feunyddiol, fel nad elent i brofedigaeth; ïe, yn fyr, gwyrdroisant ffyrdd yr Arglwydd mewn llawer iawn o enghreifftiau; am hyny, o herwydd hyn yr aeth Alma a’i frodyr i’r tir, i bregethu y gair iddynt.
Yn awr, pan ddaethant i’r tir, wele, er eu syndod, cawsant allan fod y Zoramiaid wedi adeiladu synagogau, a’u bod yn ymgynnull ynghyd ar un dydd o’r wythnos, yr hwn a alwent hwy yn ddydd yr Arglwydd; ac yr oeddynt yn addoli mewn dull na welodd Alma a’i frodyr erioed o’r blaen; canys yr oedd ganddynt le wedi ei adeiladu yn nghanol eu synagog, lle at sefyll, yr hwn oedd yn mhell uwchlaw y pen; ac nid oedd lle ar ei ben ond yn unig i un person. Am hyny, yr oedd yn rhaid i bwy bynag a ewyllysiai addoli, fyned a sefyll ar ei ben, ac estyn ei ddwylaw tua’r nef, a gwaeddi â llef uchel, gan ddywedyd, Santaidd, santaidd Dduw; yr ydym yn credu mai tydi wyt Dduw, a chredwn dy fod yn santaidd, ac mai ysbryd oeddit, ac mai ysbryd ydwyt, ac mai ysbryd a fyddi yn dragywydd. Santaidd Dduw, yr ydym yn credu dy fod di wedi ein neillduo ni oddiwrth ein brodyr; ac nid ydym ni yn credu yn nhraddodiadan ein brodyr, y rhai a drosglwyddwyd i lawriddynt hwy trwy blentyndra eu tadau; eithr credwn dy fod wedi ein hethol ni i fod yn blant santaidd i ti; ac hefyd ti a wnaethost yn hysbys i ni na fydd un Crist; ond dy fod di yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd; ac yr wyt wedi ein hethol ni, fel yr achubir ni, tra y mae pawb o’n hamgylch wedi eu hethol i’w bwrw gan dy ddigofaint i uffern; am yr hwn santeiddrwydd, O Dduw, y dilchwn i ti; a dilchwn i ti hefyd am dy fod wedi ein hethol ni, fel na arweinir ni ymaith ar ol traddodiadau ffol ein brodyr, y rhai sydd yn eu rhwymo hwy i gredu yn Nghrist, yr hyn sydd yn arwain eu calonau i grwydro yn mhell oddiwrthyt ti, ein Duw. A thrachefn: Yr ydym yn diolch i ti, O Dduw, ein bod ni yn bobl etholedig a santaidd. Amen.
Yn awr, dygwyddodd ar ol i Alma a’i frodyr, a’i feibion, glywed y gweddian hyn, iddynt ryfeddu yn ddirfawr iawn. Canys, wele, yr oedd pob dyn yn myned ac yn offrymu i fyny yr un gweddiau. Yn awr, gelwid y lle ganddynt hwy yn Rameumpton, yr hyn o’i gyfleithu, yw y Safle Santaidd. Yn awr, oddiar y safle hwn yr offryment, bob un, yr unrhyw, weddi i Dduw, gan ddlolch i’w Duw eu bod wedi eu hethol ganddo, ac nad oedd yn eu harwain ymaith ar ol traddodiadan eu brodyr; ac nad oedd eu calonau wedi eu dwyn ymaith i gredu pethau i ddyfod, y rhai ni wyddent hwy ddim am danynt.
Yn awr, ar ol i’r bobl oll offrymu eu diolchgarwch yn y modd hyn, hwy a ddychwelent i’w cartrefleoedd, ac ni lefarent ddim am eu Duw drachefn, hyd nes y buasent wedi ymgynnull ynghyd eilwaith i’r Safle Santaidd, i offrymu eu diolchgarwch yn ol eu harfer Yn awr, pan welodd Alma hyn, gofidiwyd ei galon; canys canfyddai mai pobl ddrygionus a gwyrdraws oeddynt; ïe, gwelodd fod eu calonau wedi eu gosod ar aur, ac ar arian, ac ar bob math o ddefnyddiau gwerthfawr. Ië, a gwelodd hefyd fod eu calonau wedi ymddyrchafu yn eu balchder i fawr ymffrost. Ac efe a ddyrchafodd ei lais tua’r nef, ac a waeddodd, gan ddywedyd, O, Arglwydd, pa hŷd y goddefi i’th weision sydd yn trigo isod yma yn y cnawd, i ganfod y fath ddrygioni anfad yn mhlith plant dynion? Wele, galwant arnat ti, O Dduw, ac etto y mae eu calonau wedi eu llyncu i fyny yn eu balchder. Wele, O Dduw, galwant arnat â’u geneuau, tra y maent hwy wedi ymchwyddo hyd at fawrdra, ar wag-bethau y byd. Wele, O Dduw, eu gwisgoedd costfawr, a’u modrwyau, a’u breichledau, a’u haddurniadau o aur, a’r holl bethau gwerthfawr yr addurnant eu hunain â hwynt; ac wele, mae eu calonau wedi eu osod arnynt, ac etto hwy a alwant arnat ti, ac a ddywedant, Yr ydym yn diolch i ti, O Dduw, canys yr ydym ni yn bobl etholedig i ti, tra y cyfrgollir ereill. Ië, a dywedant dy fod di wedi hysbysu iddynt na fydd un Crist. O Arglwydd Dduw, pa hyd y goddefi i’r fath ddrygioni ac anwiredd fod yn mhlith y bobl hyn? O Arglwydd, a nerthi di fi fel y dygwyf fy ngwendidau? Canys yr wyf fi yn egwan, ac y mae y fath ddrygioni yn mhlith y bobl hyn yn poeni fy enaid. O Arglwydd, fy nghalon sydd drist iawn; a gysuri di fy enaid yn Nghrist. O, Arglwydd a ganiatai di i mi gael nerth, fel y dyoddefwyf mewn amynedd y cystuddiau hyn a ddeuant arnaf, o herwydd anwiredd y bobl hyn? O, Arglwydd, a gysuri di fy enaid, a’m llwyddo i, a’m cyd-weithwyr y rhai sydd gyda mi; ïe, Ammon, ac Aaron, ac Omner, ac hefyd Amulek a Zeezrom; ac hefyd fy nau fab; ie, a gysuri di y rhai hyn oll, O Arglwydd? Ië, a gysuri di eu heneidiau yn Nghrist? A ganiatai di iddynt gael nerth, fel y dyoddefont eu cystuddiau, y rhai a ddaw arnynt, o herwydd anwireddau y bobl hyn? O Arglwydd, a ganiatai di i ni gael llwyddiant er eu dwyn hwynt atat ti yn Nghrist? Wele, O Arglwydd, mae eu heneidiau yn werthfawr, a llawer o honynt ydynt ein brodyr; am hyny, O Arglwydd, dyro i ni allu a doethineb, fel y dygom y rhai hyn, ein brodyr, drachefn atat ti.
Yn awr, dygwyddodd ar ol i Alma ddywedyd y geiriau hyn, iddo guro ei ddwylaw ar yr holl rai ag oedd gydag ef. Ac wele, fel yr oedd yn curo ei ddwylaw arnynt, hwy â lanwyd o’r Ysbryd Glân. Ac ar ol hyny, hwy a ymranasant oddiwrth eu gilydd, heb feddwl drostynt eu hunain pa beth a fwytaent, neu pa beth a yfent, neu pa beth a osodent am danynt. A’r Arglwydd a ddarparodd drostynt, fel na newynent, nac ychwaith sychedu; ie, ac hefyd nerthodd hwynt, fel na ddyoddefent un math o gystudd, oddieithr ei fod yn cael ei lyncu i fyny yn ngorfoledd Crist. Yn awr, yr oedd hyn yn ol gweddi Alma: a hyny o herwydd iddo weddio mewn ffydd.
A bu iddynt fyned allan, a dechreu pregethu gair Duw wrth y bobl, gan fyned i mewn i’w synagogau, ac i’w tai; ie, a phregethasant y gair hyd y nod yn eu heolydd. A dygwyddodd ar ol llawer o lafur yn eu mysg, iddynt ddechreu llwyddo yn mhlith y dosparth tlawd o’r bobl; canys wele, hwy a fwriwyd allan o’r synagogau, o herwydd gwaelder eu gwisgoedd; o ganlyniad ni chaniateid iddynt fyned i mewn i’w synagogau iaddoli Duw, gan yr ystyrid hyny megys aflendid; am hyny yr oeddynt hwy yn dlodion; ie, cyfrifid hwynt gan eu brodyr megys sothach; o ganlyniad, yr oeddynt yn dlodion o ran pethau y byd, ac hefyd yn dlodion eu calonau.
Yn awr, fel yr oedd Alma yn dysgu ac yn llefaru wrth y bobl ar fryn Onidah, daeth tyrfa fawr ato, y rhai oeddynt y rhai hyny y llefarasom am danynt, ag oeddynt yn dlodion eu calon, o herwydd eu tylodi gyda golwg ar bethau y byd. A hwy a ddaethant at Alma; a’r hwn ag oedd yn flaenaf yn eu plith, a ddywedodd wrtho, Wele, pa beth a wna fy mrodyr hyn, canys diystyrir hwy gan bawb, o herwydd en tlodi: ïe, ac yn fwy neillduol gan ein hoffeiriaid; canys bwriasant ni allan o’n synagogau, y rhai a lafuriasom ni yn helaeth i’w hadeiladu, â’n dwylaw ein hunain; a bwriasant ni allan o herwydd ein mawr dlodi, ac nid oes genym un lle i addoli ein Duw; ac wele, pa beth a wnawn? Ac yn awr, pan glywodd Alma hyn, efe a drodd ei hun yn uniongyrchol, a’i wyneb tuag ato, a chanfyddodd, gyda llawenydd mawr; canys canfyddodd fod eu cystuddiau wedi eu gwir ddarostwng hwynt, a’u bod mewn parotoad i wrandaw y gair; am hyny, ni lefarodd efe ychwaneg wrth y dyrfa arall, eithr estynodd allan ei law, gan waeddi ar y rhai hyny a ganfyddai, y rhai oeddynt yn wir edifeiriol, a dywedodd wrthynt, Mi a welaf eich bod chwi yn ostyngedig eich calon; ac os felly, gwyn eich byd. Wele, dywedodd eich brawd, Pa beth a wnawn? Canys ni a fwrir allan o’n synagogau, fel nas gallwn addoli ein Duw. Wele, meddaf wrthych, a ydych chwi yn meddwl nas gallwch addoli Duw, ond yn y synagogau yn unig? Ac yn mhellach, mi a ewyllysiwn ofyn, a ydych chwi yn meddwl na ddylech addoli Duw ond unwaith mewn wythnos? Yr wyf yn dywedyd wrthych, mai da oedd i chwi gael eich bwrw allan o’ch synagogau, fel y byddoch ostyngedig, ac y galloch ddysgu doethineb; canys y mae yn anghenrheidiol i chwi ddysgu doethineb; canys o herwydd eich bod wedi eich bwrw allan, a’ch bod wedi eich dirmygu gan eich brodyr, oblegid eich mawr dlodi, y dygwyd chwi yn ostyngedig o galon; canys dygwyd chwi yn ostyngedig o anghenrhaid.—Ac yn awr, o herwydd gael o honoch eich gorfodi i fod yn ostyngedig, gwyn eich byd; canys y mae dyn weithiau, os gorfodir ef i fod yn ostyngedig, yn ceisio edifeirwch; ac yn awr, yn ddiau, pwy bynag a edifarhao, a gaiff drugaredd; a’r hwn a gaffo drugaredd, ac a barhao hyd y diwedd, a fydd yn gadwedig. Ac yn awr, megys ag y dywedais wrthych chwi, mai gwyn eich byd, o herwydd i chwi gael eich gorfodi i fod yn ostyngedig, ai nid ydych yn meddwl eu bod hwy yn fwy gwynfydedig ag sydd yn darostwng eu hunain o herwydd y gair? Ië, yr hwn a wir ddarostyngo ei hun, ac a edifarhao am ei bechodau, ac a barhao hyd y diwedd, a fydd yn wynfydedig; ïe, yn llawer mwy gwynfydedig nâ’r rhai a orfodir i fod yn ostyngedig, o herwydd eu mawr dlodi; am hyny, gwyn fyd y rhai ymostyngant heb gael eu gorfodi i ymostwng; neu yn hytrach, mewn geiriau ereill, gwyn fyd yr hwn a gredo yn ngair Duw, ac a fedyddier heb ystyfnigrwydd calon; ïe, heb gael ei ddwyn i adnabod y gair, neu ei orfodi i adnabod, cyn y credo. Ië, y mae llawer a ddywedant, Os dangosi i ni arwydd o’r nef, yna ni a gawn wybod mewn sicrwydd; yna ni a gredwn.—Yn awr, gofynaf, ai ffydd yw hyn? Wele, meddaf wrthych, nage: canys os gŵyr dyn ryw beth, nid oes achos iddo ei gredu, oblegid y mae yn ei wybod. Ac yn awr, pa faint melldigedicach yw yr hwn sydd yn gwybod ewyllys Duw, ac yn peidio ei gwneuthur, nâ’r hwn yn unig sydd yn credu, neu yn unig wedi cael achos i gredu, ac yn syrthio i drosedd? Yn awr, am y peth hwn, bernwch chwi. Wele, meddaf wrthych, y mae ar y naill law, megys y mae ar y llall; a bydd i bob dyn yn ol ei waith.
Ac yn awr, megys y dywedais ynghylch ffydd: Nid ffydd yw cael gwybodaeth berffaith am bethau; am hyny, os oes genych ffydd, yr ydych yn gobeithio am bethau anweledig, y rhai ydynt wir. Ac yn awr, wele, yr wyf yn dywedyd wrthych; ac mi a fynwn gofio o honoch fod Duw yn drngarog wrth bawb a gredant yn ei enw; am hyny, efe a chwennych, yn y lle cyntaf, i chwi gredu, ië, sef yn ei air. Ac yn awr, y mae efe yn rhoddi ei air trwy angylion, i ddynion; ië, nid i ddynion yn unig, eithr i fenywod hefyd. Yn awr, nid hyn yw’r cyfan: y mae plant bychain yn cael y geiriau wedi eu rhoddi iddynt lawer gwaith, yr hyn sydd yn dyrysu y doeth a’r dysgedig.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, gan i chwi ddymuno gwybod genyf pa beth a wnewch, o herwydd eich bod yn cael eich cystuddio a’ch bwrw allan: yn awr, nid wyf am i chwi dybied fy mod yn meddwl eich barnu yn unig yn ol yr hyn sydd wir; canys nid wyf yn meddwl i’r oll o honoch gael eich gorfodi i ymostwng; oblegid, yn wir, credwyf fod rhai yn eich plith a ddarostyngent eu hunain, yn mha amgylchiad bynag y byddent. Yn awr, megys y dywedais ynghylch ffydd—mai nid gwybodaeth berffaith oedd, felly y mae gyda’m geiriau innau. Nis gellwch wybod am eu sicrwydd ar y cyntaf i berffeithrwydd, ddim fwy nag yw ffydd yn wybodaeth berffaith. Eithr wele, os dihunwch a chyffroi eich cynneddfau, er gwneuthur prawf o’m geiriau, a defnyddio gronyn o ffydd; ië, hyd y nod pe na allech ragor nâ dymuno credu, gadewch i’r dymuniad hwn weithio ynoch, hyd nes y credoch mewn modd y galloch roddi lle i gyfran o’m geiriau. Yn awr, ni a gymharwn y gair i had. Yn awr, os rhoddwch chwi le, fel y gellir planu had yn eich calon, wele, os bydd yn wir had, neu yn had da, os na fwriwch ef allan trwy eich anghrediniaeth, nes y gwrthwyneboch ysbryd yr Arglwydd, wele, efe a ddechreua chwyddo yn eich mynwesau; a phan y teimloch y chwydd-symudiadau hyn, chwi a ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Mae yn rhaid mai had da yw hwn, neu fod y gair yn dda, canys y mae yn dechreu eangu fy enaid; ië, y mae yn dechreu goleno fy nealltwriaeth; ië, ac y mae yn dechreu bod yn ddanteithiol genyf. Yn awr, wele, ai ni ychwanegai hyn eich ffydd? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Gwnelai; er hyny, nid yw wedi cynnyddu yn wybodaeth berffaith. Eithr wele, fel y byddo yr had yn chwyddo, ac yn egino, ac yn dechreu tyfu, yna rhaid i chwi ddywedyd fod yr had yn dda; canys wele, y mae yn chwyddo, ac yn egino, ac yn dechreu tyfu. Ac yn awr, wele, a ydych chwi yn sicr mai had da yw hwn? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Ydych; canys y mae pob had yn dwyn ei gyffelybrwydd ei hun; am hyny, os bydd had yn tyfu, y mae yn dda; eithr os na thyf, wele, nid yw yn dda; o ganlyniad teflir ef ymaith. Ac yn awr, wele, o herwydd eich bod wedi gwneuthur y prawf, a phlanu yr had, a’i fod yn chwyddo, ac yn egino, ac yn dechreu tyfu, mae yn rhaid y gwyddoch fod yr had yn dda. Ac yn awr, wele, a yw eich gwybodaeth yn berffaith? Ydyw, y mae eich gwybodaeth yn berffaith yn y peth hwnw, ac y mae eich ffydd yn farw; a hyn o herwydd eich bod yn gwybod; canys chwi a wyddoch fod y gair wedi chwyddo eich eneidiau, a gwyddoch hefyd ei fod wedi egino, fod eich dealltwriaeth yn dechreu cael ei goleuo, a’ch meddwl yn dechreu ymeangu. O ynte, ai nid yw hyn yn wirioneddol? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Ydyw; o herwydd goleuni yw; a pha beth bynag sydd oleuni y mae yn dda, oblegid ei fod yn weledig; am hyny, mae yn rhaid y gwyddoch ei fod yn dda. Ac yn awr, wele, ar ol i chwi brofi y goleuni hwn, a yw eich gwybodaeth yn berffaith? Wele, meddaf wrthych, nac ydyw: ac ni raid i chwi chwaith droi heibio eich ffydd, canys ni arferasoch eich ffydd ond yn unig i blanu yr had, fel y gallech wneuthur y prawf, i wybod os oedd yr had yn dda. Ac wele, fel y dechreuo y pren dyfu, chwi a ddywedwch, Meithrinwn ef gyda mawr ofal, fel y gwreiddio, ac y tyfo i fyny, a dwyn ffrwyth i ni. Ac yn awr, wele, os meithrinwch ef gyda mawr ofal, efe a wreiddia, ac a dyf, ac a ddwg ffrwyth. Eithr os esgeuluswch y pren, a pheidio meddwl am ei feithrin, wele, ni chaiff ddim gwreiddiau; a phan ddelo gwres yr haul, a’i sychu, o herwydd nad oes gwreiddiau iddo, y mae yn gwywo, ac yr ydych chwithau yn ei dynu a’i fwrw allan. Yn awr, nid yw hyn o herwydd nad oedd yr had yn dda; nac ychwaith o herwydd na fyddai ei ffrwyth yn ddymunol. Ond o herwydd fod eich tir chwi yn ddiffrwyth, a chwithau yn peidio meithrin y pren; am hyny, nis gellwch gael ei ffrwyth ef. Ac felly, os na feithrinwch y gair, gan edrych yn mlaen gyda golwg o ffydd ar ei ffrwyth, nis gellwch byth dynu o ffrwyth pren y bywyd. Eithr os meithrinwch y gair, ië, meithrin y pren pan yn dechreu tyfu, trwy eich ffydd, gyda mawr ddyfalwch, ac mewn amynedd, gan edrych yn mlaen ar ei ffrwyth, efe a wreiddia; ac wele, bydd yn bren yn tyfu i fyny i fywyd tragywyddol; ac o herwydd eich diwydrwydd, a’ch ffydd, a’ch amynedd gyda’r gair wrth ei feithrin, fel y gwreiddio ynoch chwi, wele, maes o law, chwi a gewch dynu o’i ffrwyth, yr hwn sydd dra gwerthfawr, ac yn felys tu hwnt i bob peth melys, ac yn wyn tu hwnt i bob peth gwyn; ië, ac yn bur tu hwnt i bob peth pur; a chwi a gewch wledda ar y ffrwyth hwn, hyd nes y llenwir chwi, fel na newynoch, ac na sychedoch ychwaith. Yna, fy mrodyr, chwi a fedwch wobr eich ffydd, a’ch diwydrwydd, a’ch amynedd, a’ch hir-ymaros, gan ddysgwyl wrth y pren i ddwyn ffrwyth i chwi.
Yn awr, ar ol i Alma lefaru y geiriau hyn, hwy a ddanfonasant ato i erfyn gwybod pa un a ddylent gredu mewn un Duw, fel y gallent gael y ffrwyth am ba un y llefarodd ef, neu pa fodd y planent yr had, neu y gair, am yr hwn y llefarodd, yr hwn ddywedodd ef sydd raid ei blanu yn eu calonau; neu yn mba fodd y dylent ddechreu ymarfer eu ffydd? Ac Alma a ddywedodd wrthynt, Wele, chwi a ddywedasoch nad allech addoli eich Duw, o herwydd eich bod wedi eich bwrw allan o’ch synagogau. Ond wele, yr wyf fi yn dywedyd wrthych, os ydych yn tybied nas gallwch addoli Duw, yr ydych yn cyfeiliorni yn fawr, a dylech chwilio yr ysgrythyrau; ac os ydych yn tybied eu bod hwy wedi dysgu hyn i chwi, nid ydych yn eu deall. A ydych yn cofio darllen yr hyn a ddywedodd Zenos, y prophwyd gynt, ynghylch gweddi neu addoliad? Canys efe a ddywedodd, Trugarog ydwyt, O Dduw, canys gwrandawaist fy ngweddi, ië, pan oeddwn yn yr anialwch; ië, buost drugarog pan weddiais ynghylch y rhai oeddynt fy ngelynion, a thi a’u troaist hwynt ataf; ië, O Dduw, a buost drugarog wrthyf pan alwais arnat yn fy maes; pan alwais arnat yn fy ngweddi, a thi a’m gwrandawaist. Ac etto, O Dduw, pan droais i’m ty, gwrandawaist fi yn fy ngweddi. A phan droais i’m hystafell ddirgel, O Arglwydd, a gweddio arnat, ti a’m gwrandawaist; ïe, trugarog ydwyt wrth fy mhlant pan alwant arnat, i’w hateb genyt ti, ac nid gan ddynion, a thi a’u gwrandawi hwynt; ïe, O Dduw, buost drugarog wrthyf fi, a gwrandawaist fy llef yn nghanol dy gynnulleidfaoedd; ië, a gwrandawaist fi hefyd pan oeddwn wedi fy mwrw allan, a’m dirmygu gan fy ngelynion; ië, gwrandawaist fy nghri, a digllonaist wrth fy ngelynion, ac ymwelaist â hwynt yn dy lid, â dinystr buan; a thi a’m gwrandawaist o herwydd fy nghystuddiau a’m honestrwydd; ac er mwyn dy Fab y buost drugarog fel hyn wrthyf: am hyny, mi a alwaf arnat yn fy holl gystuddiau; canys ynot ti y mae fy llawenydd; canys ti a droaist dy farnedigaethau oddiwrthyf, er mwyn dy Fab.
Ac yn awr, Alma a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn credu yr ysgrythyrau hyny a ysgrifenwyd gan y rhai gynt? Wele, os ydych, rhaid i chwi gredu yr hyn a ddywedodd Zenos; canys wele, efe a ddywedodd, Ti a droaist dy farnedigaethau ymaith, er mwyn dy Fab. Yn awr, wele, fy mrodyr, mi a ewyllysiwn ofyn os ydych wedi darllen yr ysgrythyrau? Os ydych, pa fodd yr ydych yn anghredu yn Mab Duw? Canys uid yw yn ysgrifenedig, mai Zenos yn unig a lefarodd am y pethau hyn, eithr Zenock hefyd a lefarodd am y pethau hyn; canys wele, efe a ddywedodd, Digllawn wyt, O Arglwydd, wrth y bobl hyn, o herwydd ni fynant ddeall am dy drugareddau y rhai a roddaist iddynt, er mwyn dy Fab. Ac yn awr, fy mrodyr, gwelwch fod prophwyd cyntefig arall wedi tystiolaethu am Fab Duw; ac o herwydd na ddeallai y bobl ei eiriau, hwy a’i llabyddiasant. Eithr wele, nid hyn yw’r cyfan; nid dyma yr unig rai sydd wedi llefaru am Fab Duw. Wele, llefarwyd am dano gan Moses; ïe, ac wele, cyfodwyd cysgod yn yr anialwch, fel y gallai pwy bynag a edrychai arno fyw. A llawer a edrychasant ac a fuont byw. Eithr ychydig ddeallodd meddwl y pethau hyny, a hyn o herwydd caledwch eu calonau. Ond yr oedd llawer mor gelyd fel na edrychent; am hyny, hwy a drengasant. Yn awr, yr achos na edrychent yw, o herwydd na chredent yr iachâai hwynt. O fy mrodyr, pe gallech chwi gael eich iachau, ddim ond trwy daflu eich golygon o amgylch, ai ni edrychech chwi yn gyflym, fel yr iacheid chwi, neu a ddewisech chwi galedi eich calonau mewn anghrediniaeth, a bod yn ddiog, fel na thaflech eich golygon o amgylch, fel y trengech? Os felly, gwae a ddaw arnoch; ond os nid felly, yna taflwch eich golygon o amgylch, a dechreuwch gredu yn Mab Duw, y daw i wared ei bobl, ac y dyoddefa a marw er rhoddi iawn am eu pechodau; ac yr adgyfoda drachefn oddiwrth y meirw, yr hyn a ddwg oddiamgylch yr adgyfodiad, y caiff pob dyn sefyll ger ei fron, i’w barnu, yn nydd y farn ddiweddaf, yn ol eu gweithredoedd. Ac yn awr, fy mrodyr, mi a ddymunwn i chwi blanu y gair hwn yn eich calonau, ac fel y mae yn dechreu chwyddo, felly meithrinwch ef trwy eich ffydd. Ac wele, efe a ddaw yn bren, yn tyfu ynoch i fywyd tragywyddol. Ac yna caniataed Dwu i chwi fod eich beichiau yn ysgafn, trwy lawenydd ei Fab. A hyn oll a ellwch wneuthru, os ewyllysiwch. Amen.
Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i Alma lefaru y geiriau hyn wrthynt, iddo eistedd ar y ddaear, ac Amulek a gyfododd ac a ddechreuodd eu dysgu, gan ddywedyd, Fy mrodyr, meddyliwyf ei fod yn anmhosibl eich bod yn anwybodus o’r pethau a lefarwyd am ddyfodiad Crist, yr hwn y dysgwn ni ei fod yn Fab Duw; ië, mi a wn i’r pethau hyn gael eu dysgu i chwi yn helaeth, cyn i chwi ymneillduo o’n mysg ni. Ac megys ag yr ydych wedi dymuno ar fy anwyl frawd, i hysbysu i chwi pa beth a wnewch, o herwydd eich cystuddiau; ac y mae efe wedi llefaru rhywfaint wrthych er parotoi eich meddyliau; ië, ac y mae wedi eich annog i ffydd, ac amynedd; ië, fel y galloch gael cymmaint o ffydd ag i blanu y gair yn eich calonau, fel y galloch wneyd prawf o’i ddaioni; ac yr ydym ni wedi canfod mai y cwestiwn mawr yn eich meddyliau yw, pa un a yw y gair yn Mab Duw, neu ynte na fydd un Crist. Ac yr ydych chwithau hefyd wedi canfod i’m brawd brofi i chwi, mewn amryw enghreifftiau, fod y gair yn Nghrist, er iachawdwriaeth. Mae fy mrawd wedi apelio at eiriau Zenos, fod prynedigaeth yn dyfod trwy Fab Duw, ac hefyd at eiriau Zenock; ac y mae wedi apelio at Moses, er profi fod y pethau hyn yn wir. Ac yn awr, wele, mi a dystiolaethaf wrthych o honof fy hun, fod y pethau hyn yn wir. Wele, meddaf wrthych, yr wyf fi yn gwybod y daw Crist i blith plant dynion, i gymmeryd arno droseddiadau ei bobl, ac y rhodda iawn dros bechodau y byd; canys yr Arglwydd Dduw a’i llefarodd; oblegid yr oedd yn anghenrheidiol gwneuthur iawn; canys yn ol cynllun mawr y Duw tragywyddol, yr oedd yn rhaid gwneuthur iawn, neu ynte cyfrgollid holl ddynolryw yn anocheladwy; ië, y mae pawb wedi ymgaledu; ië, y mae pawb wedi syrthio, ac yn golledig, a rhaid iddynt farw, oddieithr i’r iawn anghenrheidiol gael ei gwneuthur; canys y mae yn anghenrheidiol fod aberth mawr a diweddaf; ië, nid aberth dyn, nac anifel, nac un math o ehediad; canys ni chaiff fod yn aberth dynol; eithr rhaid iddo fod yn aberth anfeidrol a thragywyddol. Yn awr, nid oes un dyn a all aberthu ei waed ei hun, a ddichon roddi iawn am bechodau arall. Yn awr, os llofruddia dyn, a gymmer ein cyfraith ni, yr hon sydd gyfiawn, fywyd ei frawd? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Na wna. Eithr gofyna y gyfraith fywyd yr hwn a lofruddiodd; am hyny, nis gall dim, yn fyr o iawn anfeidrol, fod yn ddigonol dros bechodau y byd; o ganlyniad, mae yn anghenrheidiol fod aberth mawr a diweddaf; ac yna y bydd, neu mae yn anghenrheidiol fod, attalfa ar dywallt gwaed; yna y cyflawnir cyfraith Moses; ïe, hi a gyflawnir oll; pob iot a thipyn, ac ni chaiff dim fyned heibio. Ac wele, hyn yw holl feddwl y gyfraith; yr oll yn cyfeirio at yr aberth mawr a diweddaf; a’r aberth mawr a diweddaf fydd Mab Duw; ïe, anfeidrol a thragywyddol; ac felly y dwg efe iachawdwriaeth i’r holl rai hyny a gredant yn ei enw; gan mai hyn yw dyben yr aberth diweddaf hwn, i ddwyn oddiamgylch ymysgaroedd trugaredd, y rhai wydd yn gorchfygu cyfiawnder ac yn dwyn oddiamgylch fodd i ddynion gael ffydd er edifeirwch. Ac felly y gall trugaredd foddloni gofynion cyfiawnder, a’u hamgylchynu yn mreichiau diogelwch; tra mae yr hwn ni weithredo ffydd er edifeirwch, yn agored i holl gyfraith gofynion cyfiawnder; am hyny, dim ond i’r hwn sydd ganddo ffydd er edifeirwch, y dygir oddiamgylch y cynllun mawr a thragywyddol o brynedigaeth. Gan hyny, caniataed Duw i chwi, fy mrodyr, i ddechreu ymarfer eich ffydd er edifeirwch, fel y dechreuoch alw ar ei enw santaidd, am iddo drugarhau wrthych; ïe, galwch arno am drugaredd; canys y mae efe yn alluog i achub; ïe, ymostyngwch, a pharhewch mewn gweddi ato: galwch arno tra y byddoch yn eich maesydd; ïe, dros eich holl ddeadelloedd: galwch arno yn eich tai, ïe, dros eich holl deulu, yn y boreu, ganol dydd, ac yn y prydnawn; ïe, galwch arno yn erbyn gallu eich gelynion; ïe, galwch arno yn erbyn y diafol, yr hwn sydd yn elyn pob cyfiawnder. Galwch arno dros gnydau eich maesydd, fel y llwyddoch ynddynt; galwch dros ddeadelloedd eich maesydd, fel y lliosogont. Eithr nid hyn yw’r cyfan: rhaid i chwi dywallt eich eneidiau yn eich ystafelloedd dirgel, ac yn eich cudd-fanau, ac yn eich anial-leoedd; ïe, a phan na fyddech yn galw ar yr Arglwydd, bydded eich calonau yn llawn, yn ymarllwys mewn gweddi ato ef yn barhaus dros eich llwyddiant chwi, ac hefyd dros lwyddiant y rhai sydd o’ch amgylch.
Ac yn awr, wele, fy anwyl frodyr, yr wyf yn dywedyd wrthych, na feddyliwch mai hyn yw’r cyfan; canys ar ol i chwi wneuthur yr holl bethau hyn, os trowch ymaith yr anghenus, a’r noeth, ac ni ymwelwch â’r claf a’r cystuddiedig, a chyfranu o’ch eiddo, os oes genych, i’r rhai sydd mewn anghen; yr wyf yn dywedyd wrthych, os na wnewch ddim o’r pethau hyn, wele, eich gweddi sydd ofer, ac nid yw yn lleshau dim i chwi, a chwithau ydych megys rhagrithwyr, y rhai sydd yn gwadu y ffydd; am hyny, os na chofiwch i fod yn elusengar, yr ydych megys sorod, yr hwn a fwria y coethyddion allan (gan nad yw o werth), ac a fathrir dan draed dynion.
Ac yn awr, fy mrodyr, mi a fynwn, ar ol i chwi dderbyn cynnifer o dystion, gan weled fod yr ysgrythyrau santaidd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ddyfod o honoch a dwyn ffrwyth i edifeirwch; ïe, mi a fynwn i chwi ddyfod allan, a pheidio caledu eich calonau yn hwy; canys wele, yn awr yw yr amser, a dydd eich iachawdwriaeth; am hyny, os edifarhewch ac ni chaledwch eich calonau, yn uniongyrchol y dygir y cynllun mawr o brynedigaeth oddiamgylch i chwi. Canys wele, y bywyd hwn yw yr amser, i ddynion barotoi i gyfarfod â Duw; ïe, wele, dydd y bywyd hwn yw y dydd i ddynion gyflawni eu gwaith. Ac yn awr, megys y dywedais wrthych o’r blaen, gan eich bod wedi cael cynnifer o dystion, am hyny yr wyf yn deisyf arnoch, na oedoch ddydd eich edifeirwch hyd y diwedd; canys ar ol dydd y bywyd hwn, ag a roddir i ni er parotoi erbyn tragywyddoldeb, wele, os na ddefnyddiwn ein hamser tra yn y bywyd hwn, yna mae y nos o dywyllwch yn dyfod, pan na ellir cyflawni dim gwaith ynddi. Nis gellwch ddywedyd, ar ol eich dwyn i’r cyfwng ofnadwy hwnw, Mi a edifarhaf, mi a ddychwelaf at fy Nuw. Na, nis gellwch ddywedyd hyn; canys yr ysbryd hwnw ag sydd yn meddiannu eich cyrff ar yr amser y byddoch yn myned allan o’r bywyd hwn, yw yr un ysbryd ag a gaiff allu i feddiannu eich corff yn y byd tragywyddol. Canys wele, os ydych chwi wedi oedi dydd eich edifeirwch, ïe, hyd angeu, wele, aethoch yn ddarostyngedig i ysbryd y diafol, ac efe a’ch selia yn eiddo iddo ef; am hyny, y mae ysbryd yr Arglwydd wedi cilio oddiwrthych, ac nid oes ganddo le ynoch; ac y mae’r diafol wedi cael pob awdurdod arnoch; a hon yw sefyllfa olaf y drygionus. A hyn a wn, oblegid y mae’r Arglwydd wedi dywedyd, nad yw yn trigo mewn temlau halogedig, eithr yn nghalonau y rhai cyfiawn y triga efe; ïe, ac efe a ddywedodd hefyd, y caiff y cyfiawn eistedd yn ei deyrnas, heb fyned allan byth myw: eithr eu gwisgoedd a gènir, trwy waed yr Oen.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, yr wyf yn ewyllysio i chwi gofio y pethau hyn, a gweithio allan eich iachawdwriaeth mewn ofn gerbron Duw, ac na wadoch mwyach ddyfodiad Crist; na ymdrechoch mwyach yn erbyn yr Ysbryd Glân, eithr ei dderbyn, a chymmeryd arnoch enw Crist; ymostwng hyd y nod i’r llwch, ac addoli Duw yn mha le bynag y byddwch ynddo, mewn ysbryd ac mewn gwirionedd; a byw mewn diolchgarwch beunyddiol, am yr aml drugareddau a bendithion a rydd i chwi; ïe, ac yr wyf hefyd yn eich annog, fy mrodyr, i fod yn wyliadwrus mewn gweddi yn wastadol, fel na arweinier chwi ymaith trwy brofedigaeth y diafol, fel na orchfygo chwi, ac na ddeloch yn ddeiliaid iddo yn y dydd diweddaf: canys, wele, nid yw efe yn eich gwobrwyo â dim da. Ac yn awr, fy anwyl frodyr, mi a’ch annogwn i gael amynedd, ac i ddwyn pob math o gystuddiau; ac i beidio cablu y rhai a’ch bwriant allan o herwydd eich mawr dlodi, rhag i chwi fyned yn bechaduriaid fel hwythau; eithr bod o honoch yn amyneddgar, a dwyn y cystuddiau hyny, mewn gobaith disigl y cewch orphwys rhyw ddydd oddiwrth eich holl gystuddiau.
Yn awr, dygwyddodd, ar ol i Amulek orphen y geiriau hyn, iddynt ymadael oddiwrth y dyrfa, a dyfod drosodd i dir Jershon; ïe, a’r lleill o’r brodyr, ar ol iddynt bregethu y gair wrth y Zoramiaid, a ddaethant drosodd hefyd i dir Jershon.
A dygwyddodd ar ol i’r rhan fwyaf poblog o’r Zoramiaid ymgynghori ynghyd ynghylch y geiriau a bregethwyd wrthynt, iddynt fod yn ddigllawn o herwydd y gair, oblegid yr oedd yn dystrywio eu celfyddyd; am hyny, ni wrandawent ar y geiriau. A hwy a ddanfonasant ac a gasglasant ynghyd trwy y tir oll, yr holl bobl, ac a ymgynghorasant â hwynt ynghylch y geiriau a lefarwyd. Yn awr, ni adawodd eu penaethiaid, a’u hoffeiriaid, a’u hathrawon, i’r bobl wybod ynghylch eu dymuniadau; am hyny, hwy a gawsant allan feddyliau yr holl bobl yn ddirgelaidd.
A bu ar ol iddynt gael allan feddyliau yr holl bobl, i’r rhai ag oeddynt yn ffafriol i’r geiriau a lefarwyd gan Alma a’i frodyr, gael eu bwrw allan o’r tir; ac yr oeddynt yn llawer; a hwythau hefyd a ddaethant drosodd i dir Jershon.
A bu i Alma a’i frodyr weinyddu iddynt. Yn awr, yr oedd pobl y Zoramiaid yn ddigllawn wrth bobl Ammon ag oedd yn Jershon; a phrif lywodraethwr y Zoramiaid, gan fod yn ddyn tra drygionus, a ddanfonodd at bobl Ammon, i ddymuno arnynt fwrw allan o’u tir yr holl rai a ddaethant drosodd oddi wrthynt hwy i’w tir. Ac efe a chwythodd lawer o fygythion yn eu herbyn hwynt. Ac yn awr, nid oedd pobl Ammon yn ofni eu geiriau, am hyny ni fwriasant hwynt allan, eithr derbyniasant holl dlodion y Zoramiaid a ddaethant drosodd atynt; ac a’u hamgeleddasant, ac a’u dilladasant, ac a roddasant iddynt diroedd yn etifeddiaeth; a gweiniasant iddynt yn ol eu hanghenrheidiau. Yn awr, cyffrôdd hyn y Zoramiaid i ddigofaint yn erbyn pobl Ammon, a hwy a ddechreuasant gymmysgu â’r Lamaniaid, a’u cyffroi hwythau hefyd i ddigofaint yn eu herbyn: ac felly y Zoramiaid a’r Lamaniaid a ddechreuasant ymbarotoi i ryfel yn erbyn pobl Ammon, ac hefyd yn erbyn y Nephiaid. Ac felly y terfynodd y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.
A phobl Ammon a ymadawsant o dir Jershon, ac a ddaethant drosodd i dir Melek, ac a roddasant le yn nhir Jershon i fyddinoedd y Nephiaid, fel yr ymladdent â byddinoedd y Lamaniaid, a byddinoedd y Zoramiaid; ac felly y dechreuodd rhyfel rhwng y Lamaniaid a’r Nephiaid, yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr; a rhoddir hanes am eu rhyfeloedd yn ol llaw. Ac Alma, ac Ammon, a’u brodyr, ac hefyd dau fab Alma, a ddychwelasant i dir Zarahemla, ar ol bod yn offerynau yn nwylaw Duw i ddwyn llaweroedd o’r Zoramiaid i edifeirwch; a chynnifer ag a ddygwyd i edifeirwch, a yrwyd allan o’u tir; eithr y mae ganddynt diroedd yn etifeddiaeth yn nhir Jershon, ac y maent wedi cymmeryd arfau i amddiffyn eu hunain, a’u gwragedd, a’u plant, a’u tiroedd. Yn awr, Alma, gan fod yn ofidus oblegid anwiredd ei bobl, ïe, oblegid y rhyfeloedd, a’r tywallt gwaed, a’r amrafaelion ag oedd yn eu mysg; ac wedi bod yn traethu y gair, neu wedi danfon i draethu y gair, yn mhlith yr holl bobl yn mhob dinas; a chan weled fod calonau y bobl yn dechreu ymgaledu, a’u bod yn dechreu cymmeryd eu tramgwyddo o herwydd manylrwydd y gair, yr oedd ei galon yn drist iawn; am hyny, efe a achosodd i’w feibion ymgynnull ynghyd, fel y gallai roddi i bob un o honynt ei orchymyn, ar wahan, ynghylch y pethau a berthynent i iachawdwriaeth. Ac y mae genym hanes ei orchymynion, y rhai a roddodd iddynt yn ol ei gof-lyfr ef ei hun.