Scriptures
Enos 1


Llyfr Enos.

Pennod Ⅰ.

Wele, dygwyddodd fy mod i, Enos, yn gwybod fod fy nhad yn ddyn cyfiawn; canys efe a’m dysgodd yn ei iaith ef, ac hefyd yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. A bendigedig fyddo enw fy Nuw am hyny. Ac mi a ddywedaf wrthych am yr ymdrech a gefais gerbron Duw, cyn i mi dderbyn maddeuant o’m pechodau: wele, mi a aethym i hela anifeiliaid yn y goedwig; ac yr oedd y geiriau a fynych glywais fy nhad yn llefaru ynghylch bywyd tragywyddol, a llawenydd y saint, wedi myned yn ddwfn i’m calon. A’n henaid oedd yn newynog; ac mi a ymgrymais gerbron fy Ngwneuthurwr, ac a alwais arno mewn gweddi nerthol a deisyfiad ar ran enaid fy hun; a thrwy gydol y dydd mi a alwais arno; ïe, a phan ddaeth y nos, mi a ddyrchafais etto fy llais yn uchel, nes y cyrhaeddodd y nefoedd. A death llais ataf, yn dywedyd, Enos, dy bechodau a faddeuwyd i ti, a thi a fendithir. A myfi, Enos, a wyddwn na allai Duw ddywedyd celwydd; am hyny, fy euogrwydd a ysgubwyd ymaith. Ac mi a ddywedais, Arglwydd, pa fodd y bu hyn? Ac yntau a ddywedodd wrthyf, O herwydd dy ffydd yn Nghrist, yr hwn nid ydwyt erioed wedi ei glywed na’i weled. A blynyddoedd lawer a ânt heibio, cyn yr eglura efe ei hun yn y cnawd; am hyny, dos ymaith, dy ffydd a’th iachaodd.

Yn awr, dygwyddodd, wedi i mi glywed y geiriau hyn, i mi ddechreu teimlo dymuniad dros lwyddiant fy mrodyr, y Nephiaid; am hyny, mi a dywalltais fy holl enaid wrth Dduw drostynt hwythau. A thra yr oeddwn fel hyn yn ymdrechu yn yr ysbryd, wele, lleferydd yr Arglwydd a ddaeth i’m meddwl drachefn, gan ddywedyd, Mi a ymwelaf â’th frodyr, yn ol eu dyfalwch yn cadw fy ngorchymynion. Y tir hwn a roddais iddynt; ac y mae yn dir santaidd; ac ni wnaf ei felldithio, oddieithr o achos anwiredd; am hyny, mi a ymwelaf â’th frodyr, yn ol fel y dywedais; a’u troseddiadau a ddygaf i lawr gyda thristwch ar eu penau eu hunain. Ac ar ol i mi, Enos, glywed y geiriau hyn, dechreuodd fy ffydd fod yn ddisigl yn yr Arglwydd; ac mi a weddiais arno mewn ymdrechiadau hirfaith dros fy mrodyr, y Lamaniaid.

A bu ar ol i mi weddio, a llafurio yn ddyfal, i’r Arglwydd ddywedyd wrthyf, Mi a roddaf i ti yn ol dy ddymuniadau, o herwydd dy ffydd. Ac yn awr, wele, hyn oedd y dymuniad a chwennychais ganddo: Os dygwyddai i’m pobl, y Nephiaid, syrthio i drosedd, a thrwy ryw fodd gael eu dyfetha, a pheidio cael o’r Lamaniaid eu dyfetha, y gwnai y Arglwydd Dduw gadw coffadwriaeth o’m pobl, y Nephiaid; hyd y nod pe byddai trwy allu ei fraich santaidd, fel y dygid hi allan mewn rhyw ddydd dyfodol, i’r Lamaniaid, fel ysgatfydd y dygid hwynt i afael iachawdwriaeth: canys yn bresennol, ein hymdrechiadau a fuont yn ofer er eu dychwelyd hwynt i’r wir ffydd. A hwy a dyngasant yn eu llid, os byddai bosibl, y gwnaent ein dinystrio ni a’n cof-lyfrau; ac hefyd holl draddodiadau ein tadau.

Am hyny, a mi yn gwybod fod yr Arglwydd Dduw yn abl cadw ein cof-lyfrau, mi a alwais arno yn barhaus, canys efe a ddywedodd wrthym, Pa beth bynag a ofynoch mewn ffydd, gan gredu y derbyniwch yn enw Crist, chwi a’i derbyniwch. Ac yr oedd ffydd genyf, ac mi a alwais ar Dduw am iddo gadw y cof-lyfrau; ac efe a ymgyfammododd â mi y dygai efe hwynt allan i’r Lamaniaid yn ei amser cyfaddas ei hun. A myfi, Enos, a wyddwn y byddai yn ol y cyfammod a wnaeth efe; am hyny, fy enaid a orphwysodd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dy dadau hefyd a geisiasant genyf y peth hwn; a bydd iddynt yn ol eu ffydd, canys yr oedd eu ffydd hwynt yn debyg i’r eiddot ti.

Ac yn awr, dygwyddodd i mi, Enos, fyned oddi amgylch yn mhlith pobl Nephi, gan brophwydo am bethau i ddyfod, a thystiolaethu am y pethau a glywais ac a welais. Ac yr wyf yn dwyn tystiolaeth i bobl Nephi ddyfal-geisio dychwelyd y Lamaniaid i’r wir ffydd n Nuw. Eithr bu ein llafur yn ofer; yr oedd eu dygasedd yn sefydlog, a thywysid hwynt gan eu natur ddrygionus, nes yr aethant yn bobl wyllt, a chreulawn, a gwaedlyd; yn llawn eilun-addoliaeth ac aflendid; gan ymborthi ar anifeiliaid ysglyfaethus; a phreswylio mewn pebyll, a chrwydro oddi amgylch yn yr anialwch mewn gwregys byr o groen am eu lwynau a’u penau wedi eu heillio; a’u medrusrwydd oedd yn y bwa, ac yn y crymgledd, a’r fwyall. Ac nid oedd llawer o honynt yn bwyta dim ond cig anmrwd; ac yr oeddynt yn ceisio ein dyfetha ni yn barhaus.

A bu i fobl Nephi drin y tir, a chynnyrchu pob math o ŷd, ac o ffrwythau, ac eidionau a defaid, a deadelloedd o bob math o anifeiliaid, a geifr, a geifr gwylltion, ac hefyd llawer o geffylau. Ac yr oedd llawer iawn o brophwydi yn ein plith ni. A’r bobl oeddynt bobl wargalod, yn anhawdd ganddynt i ddeall. Ac nid oedd dim oddieithr llymdra mawr, pregethu a phrophwydo am ryfeloedd, ac amrafaelion, a dinystriadau, a’u coffau yn aml am angeu, a meithder tragywyddoldeb, a barnedigaethau a gallu Duw; a’r holl bethau hyn yn eu cynhyrfu yn barhaus, er eu cadw hwynt yn ofn yr Arglwydd. Nid oedd dim yn fyr o’r pethau hyn, meddaf, a mawr eglurder ymadrodd, a allai eu cadw rhag myned ar frys i ddystryw. Ac yn y modd hyn yr ysgrifenaf am danynt hwy. Ac mi a welais ryfeloedd rhwng y Nephiaid a’r Lamaniaid yn ystod fy nyddiau.

A bu i mi ddechreu heneiddio, ac yr oedd cant a phedair blynedd ar bymtheg a thrigain wedi myned heibio er pan gychwynodd ein tad Lehi o Jerusalem. A gwelais fod yn rhaid i mi yn fuan fyned i’m bedd, wedi bod dan gynhyrfiad gallu Duw yn pregethu a prophwydo wrth y bobl hyn, a thraethu y gair yn ol y gwirionedd yr hwn sydd yn Nghrist. Ac mi a’i traethais ef trwy fy holl ddyddiau, ac a orfoleddais ynddo, yn fwy nag yn eiddo y byd. Ac yn fuan mi a âf i’m gorphwysfa yr hon sydd gyda’m Gwaredwr; canys mi a wn mai ynddo ef y gorphwysaf: ac yr wyf yn gorfoleddu yn y dydd y gwisga fy marwol anfarwoldeb, ac y safo o’i flaen ef: yna y caf weled ei wyneb ef gyda phleser, ac y dywed efe wrthyf, Tyred ataf, ti fendigedig, y mae lle wedi ei barotoi i ti yn nhrigfanau fy Nhad. Amen.