Scriptures
Jacob 5


Pennod Ⅴ.

Ac yn awr, dygwyddodd ar ol i rai blynyddau fyned heibio, ddyfod ddyn i fysg pobl Nephi, enw yr hwn oedd Sherem. A bu iddo ddechreu pregethu yn mhlith y bobl, a mynegi wrthynt na fyddai un Crist. Ac efe a bregethodd lawer o bethau ag oedd yn wenieithus i’r bobl; a hyn a wnaeth fel y dadymchwelai athrawiaeth Crist. Ac efe a ddyfal lafuriodd i arwain ymaith galonau y bobl, yn gymmaint ag iddo arwain ymaith galonau lawer; a chan wybod fod genyf fi, Jacob, ffydd yn Nghrist yr hwn oedd i ddyfod, efe a geisiodd lawer am gyfleusdra i ddyfod ataf. Ac yr oedd efe yn ddysgedig, ac yn meddu gwybodaeth berffaith o iaith y bobl; am hyny, efe a allai wenieithio llawer, a defnyddio nerth ymadrodd, yn ol gallu y diafol. Ac yr oedd ganddo obaith i’m siglo innau oddiwrth y ffydd, yn ngwyneb yr amryw ddadguddiadau, a’r amryw bethau a welais mewn perthynas i’r pethau hyn; canys yn ddiau yr oeddwn wedi gweled angylion, a hwy a fuont yn gweini i mi. Ac hefyd, yr oeddwn wedi clywed llais Duw yn llefaru wrthyf mewn gair, o amser i amser; am hyny, nis gellid fy syflid.

A bu iddo ef ddyfod ataf; ac yn y modd hyn y llefarodd wrthyf, gan ddywedyd: Frawd Jacob, mi a geisiais lawer am gyfleusdra i lefaru wrthych chwi: canys mi a glywais ac a wn hefyd, eich bod yn myned lawer oddiamgylch, gan bregethu yr hyn a alwch yr efengyl, neu athrawiaeth Crist; ac yr ydych wedi cam-arwain llawer o’r bobl hyn, nes y maent wedi gwyrdroi ffordd uniawn Duw, ac ddim yn cadw cyfraith Moses yr hon yw y ffordd uniawn: a chyfnewid cyfraith Moses i addoli bôd, yr hwn a ddaw yn mhen llawer o gannoedd o flynyddau etto. Ac yn awr, wele, myfi, Sherem, wyf yn mynegi wrthych, mai cabledd yw hyn; canys ni wŷr un dyn am bethau o’r fath; canys ni all fynegi pethau i ddyfod. Ac yn y modd hyn y gwrthddadleuai Sherem yn fy erbyn. Ond, wele, yr Arglwydd Dduw a dywalltodd ei ysbryd i’m henaid, yn gymmaint ag i mi ei ddyrysu yn ei holl eiriau. Ac mi a ddywedais wrtho, A wyt ti yn gwadu y Crist sydd i ddyfod? Ac yntau a ddywedodd, Pe byddai Grist, ni wadaswn ef; eithr mi a wn nad oes un Crist, ac na fu ychwaith, ac na fydd byth. Minnau a ddywedais wrtho, A wyt ti yn credu yr ysgrythyrau. Ac yntau a ddywedodd, Ydwyf. A minnau a ddywedais wrtho, Yna, nid wyt ti yn eu deall hwynt; canys y maent hwy yn ddiau yn tystiolaethu am Grist. Wele, meddaf i ti, nid oes neb o’r prophwydi wedi ysgrifenu, na phrophwydo, heb iddynt lefaru am y Crist hwn. Ac nid hyn yw’r cyfan: y mae wedi ei amlygu i mi, canys mi a glywais ac a welais; ac y mae wedi ei amlygu i mi hefyd trwy allu yr Ysbryd Glân; am hyny, mi a wn pe na roddid iawn y buasai holl ddynolryw yn golledig.

A bu iddo ef ddywedyd wrthyf, Dangos arwydd i mi trwy allu yr Ysbryd Glân, trwy yr hwn y gwyddost gymmaint. A minnau a ddywedais wrtho, Pa beth wyf fi, fel y temtiaf Dduw i ddangos arwydd i ti am y peth a wyddost ei fod yn wir? Etto, ti a’i gwedy ef, oblegid dy fod o’r diafol. Er hyny, nid fy ewyllys i a wneler; eithr os tery Duw di, bydded hyny yn arwydd i ti fod ganddo ef allu, yn y nef ac ar y ddaear; ac hefyd y daw Crist. A’th ewyllys di, O Arglwydd, a wneler, ac nid yr eiddof fi.

A bu, wedi i mi, Jacob, lefaru y geiriau hyn, i allu yr Arglwydd ddyfod arno ef, nes iddo syrthio i’r ddaear. A darfu iddo gael ei feithrin am yspaid llawer o ddyddiau. A bu iddo ddywedyd wrth y bobl, Ymgesglwch y fory, canys mi a fyddaf farw; am hyny, yr wyf yn chwennych llefaru wrth y bobl cyn y byddaf farw.

A bu dranoeth i’r dyrfa ymgasglu; ac efe a lefarodd yn eglur wrthynt, ac a wadodd y pethau a ddysgodd efe iddynt; a chyffesodd y Crist, a gallu yr Ysbryd Glân, a gweinidogaeth angylion. Ac efe a lefarodd yn eglur wrthynt, iddo ef gael ei dwyllo gan allu y diafol. Ac efe a lefarodd am uffern, ac am dragywyddoldeb, ac am gosp dragywyddol. Ac efe a ddywedodd, Ofnwyf rhag fy mod wedi cyflawni y pechod anfaddeuol, canys mi a ddywedais gelwydd wrth Dduw; canys mi a wadais Grist, ac a ddywedais fy mod yn credu yr ysgrythyrau; ac y maent hwy yn ddiau yn tystiolaethu am dano ef. Ac o herwydd fy mod wedi dywedyd celwydd felly wrth Dduw, ofnwyf yn fawr y bydd fy sefyllfa yn arswydus; eithr yr wyf yn cyffesu wrth Dduw.

A bu wedi iddo ddywedyd y geiriau hyn, na allai ddywedyd dim ychwaneg, ac efe a roddodd i fyny yr ysbryd. A phau welodd y dyrfa ei fod ef yn llefaru y pethau hyn pan ar roddi i fyny yr ysbryd, hwy a ryfeddasant yn ddirfawr; yn gymmaint nes i allu Duw ddyfod arnynt, a’u llethu, nes iddynt syrthio i’r ddaear. Yn awr, yr oedd y peth hyn yn foddhaol genyf fi, Jacob, canys mi a’i dymunais gan fy Nhad yr hwn oedd yn y nef; canys efe a wrandawodd fy nghri, ac a atebodd y ngweddi.

A darfu i heddwch a chariad Duw gael eu hadferu drachefn yn mysg y bobl; a hwy a chwiliasant yr ysgrythyrau, ac ni wrandawsant mwyach ar eiriau y dyn drygionus hwn. A bu i amryw foddion gael en dyfeisio i ddychwelyd ac adferu y Lamaniaid i wybodaeth y gwirionedd; eithr yr oedd y cyfan yn ofer, canys yr oedd eu hyfrydwch hwy mewn rhyfeloedd a thywallt gwaed, ac yr oedd ganddynt ddigofaint bythol atom ni, eu brodyr. A cheisiasant trwy nerth eu harfau ein dinystrio ni yn barhaus; am hyny, pobl Nephi a amddiffynasant yn eu herbyn hwynt â’u byddinoedd, ac â’u holl gryfdwr, gan ymddiried yn Nuw a chraig eu hiachawdwriaeth; am hyny, yr oeddynt wedi myned hyd yma, yn fuddugoliaethwyr ar eu gelynion.

A bu i mi, Jacob, ddechreu heneiddio; a chan fod hanes y bobl hyn yn cael ei gadw ar lafnau ereill nephi, am hyny yr wyf fi yn terfynu yr hanes hwn, gan fynegi i mi ysgrifenu yn ol eithaf fy ngwybodaeth, trwy ddywedyd, fod yr amser wedi myned heibio gyda ni, a bod ein bywydau hefyd yn myned heibio megys pe byddai freuddwyd i ni, gan ein bod yn bobl unig ac ystyriol, yn grwydrwyr, wedi ein bwrw allan o Jerusalem; wedi ein geni mewn trallod, mewn anialwch, a chael o honom ein cashau gan ein brodyr, yr hyn a achosodd ryfeloedd ac amrafaelion; am hyny, ni a gwynfanasom drwy ein dyddiau.

A myfi, Jacob, a welais fod yn rhaid i mi yn fuan fyned lawr i’m bedd; am hyny, mi a ddywedais wrth fy mab Enos, Cymmer y llafnau hyn. Ac mi a fynegais wrtho y pethau a orchymynodd fy mrawd Nephi i mi, ac efe a addawodd ufyddhau i’r gorchymynion. Ac yr wyf fi yn gorphen ysgrifenu ar y llafnau hyn, yr hyn ysgrifenu a fu yn ychydig: ac i’r darllenydd yr wyf yn rhoddi ffarwel, gan obeithio y gwna llawer o’m brodyr ddarllen fy ngeiriau. Frodyr, ffarwel.