Scriptures
Jacob 1


Llyfr Jacob,
Brawd Nephi.

Geiriau ei bregethau wrth ei frodyr. Y mae yn dyrysu dyn sydd yn ceisio dymchwelyd athrawiaeth Crist. Ychydig o eiriau yn nghylch hanes pobl Nephi.

Pennod Ⅰ.

Canys wele, dygwyddodd fod pum mlynedd a deugain wedi myned heibio, o’r amser y gadawodd Lehi Jerusalem; am hyny, Nephi a roddodd i mi, Jacob, orchymyn ynghylch y llafnau bychain, ar ba rai y mae’r pethau hyn wedi eu cerfio. Ac efe a roddodd orchymyn i mi, Jacob, i ysgrifenu ar y llafnau hyn, ychydig o’r pethau a ystyriwn yn fwyaf gwerthfawr; na fyddai i mi gyffwrdd, oddieithr yn ysgafn, ag hanes y bobl hyn a elwir yn bobl Nephi. Canys efe a ddywedodd y dylai hanes ei bobl ef gael ei ysgrifenu ar ei lafnau ereill, ac y dylwn i gadw y llafnau hyn, a’u trosglwyddo i waered i’m had i, o genedlaeth i genedlaeth. Ac os byddai pregethu a fuasai yn ddwyfol, neu ddadguddiad a fuasai yn fawr, neu brophwydoliaeth, fod i mi gerfio y penau o honynt ar y llafnau hyn, a chyffwrdd arnynt gymmaint ag a fyddai bosibl, er mwyn Crist, ac er mwyn ein pobl; canys o herwydd ffydd a phryder mawr, amlygwyd yn wirioneddol i ni am ein pobl, pa bethau a ddygwyddai iddynt. Ac ni a gawsom hefyd lawer o ddadguddiadau, ac ysbryd prophwydo lawer; am hyny, ni a wyddem am Grist a’i deyrnas, y rhai oeddynt i ddyfod. Am hyny, llafuriasom yn ddiwyd yn mysg ein pobl, fel y perswadiem hwynt i ddyfod at Grist, a chyfranogi o ddaioni Duw, fel y gallent fyned i mewn i’w orphwysfa ef, rhag iddo mewn rhyw fodd dyngu yn ei lid na chaent fyned i mewn, megys yn y cyffroad yn nyddiau profedigaeth, tra yr oedd plant Israel yn yr anialwch. Am hyny, och Dduw na allem berswadio pob dyn i beidio gwrthryfela yn erbyn Duw, i’w gyffroi ef i ddigoffaint, eithr cael o bawb i gredu yn Nghrist, a sylwi ar ei farwolaeth, gan ddyoddef ei groes, a dwyn gwradwydd y byd; am hyny, yr wyf fi, Jacob, yn cymmeryd arnaf i gyflawni gorchymyn fy mrawd Nephi.

Yn awr, Nephi a ddechreuodd fod yn hen, ac efe a welodd mai buan y buasai raid iddo farw; am hyny, efe a eneinniodd ddyn i fod yn frenin ac yn llywodraethwr ar ei bobl yn awr, yn unol â theyrnasiad y breninoedd. Gan fod y bobl yn caru Nephi yn fawr, trwy iddo fod yn noddwr mor fawr iddynt, gan ddwyn cleddyf Laban ere eu hamddiffyn, a llafurio trwy ei holl ddyddiau er eu lleshau; am hyny, hwy a ddymunasant gadw ei enw mewn coffadwriaeth. A phwy bynag a deyrnasai yn ei le, a alwyd gan y bobl, yn ail nephi, yn drydydd Nephi, &c., yn unol â theyrnasiad y breninoedd; ac felly yr oeddynt yn cael eu galw gan y bobl, beth bynag fyddai eu henwau hwynt.

A bu i Nephi farw. Yn awr, y bobl nad oeddynt Lamaniaid, oeddynt Nephiaid; er hyny, gelwid hwynt yn Nephiaid, Jacobiaid, Josephiaid, Zoramiaid, Lamaniaid, Lemueliaid, ac Ishmaeliaid. Eithr ni wnaf fi, Jacob, eu gwahaniaethu hwynt rhaglaw wrth yr enwau hyn, eithr mi a alwaf Lamaniaid ar y rhai a geisiant ddyfetha pobl Nephi, a’r rhai sydd yn gyfeillgar i Nephi a alwaf yn Nephiaid, neu bobl Nephi, yn unol â theyrnasiad y breninoedd.

Ac yn awr, dygwyddodd i fobl Nephi, dan deyrnasiad yr ail frenin, ddechreu ymgaledu yn eu calonau, ac ymollwng i raddau i ymarferiadau drygionus, yn gyffelyb i Ddafydd gynt, gan ddymuno llawer o wragedd a gordderchwragedd, ac hefyd Solomon, ei fab: ïe, dechreuasant hefyd i chwilio am lawer o aur ac arian, ac a ddechreuasant ymdderchafu ychydig mewn balchder; am hyny, myfi, Jacob, a roddais y geiriau, hyn iddynt, tra yn eu dysgu hwynt yn y deml, wedi derbyn yn gyntaf fy nghenadwri oddiwrth Dduw. Canys yr oeddwn i, Jacob, a’m brawd Joseph, wedi ein neillduo yn offeiriaid, ac yn ddysgawdwyr y bobl hyn, trwy law Nephi. A darfu i ni fawrygu ein swydd i’r Arglwydd, gan gymmeryd arnom y cyfrifoldeb, o ateb pechodau y bobl ar ein penau ein hunain, os na ddysgem iddynt air Duw gyda phob diwydrwydd; am hyny, llafuriasom â’n holl allu, fel na ddeuai eu gwaed hwynt ar ein gwisgoedd; pe amgen, eu gwaed a ddeuai ar ein gwisgoedd, ac ni cheffid ninnau yn ddifrycheulyd yn y dydd diweddaf.