Pennod ⅩⅤ.
Ac yn awr, nis gallaf fi, Nephi, ysgrifenu yr holl bethau a ddysgwyd yn mysg fy mhobl; ac nid wyf ychwaith yn nerthol mewn ysgrifenu, fel llefaru; oblegid pan fyddo dyn yn llefaru trwy allu yr Ysbryd Glân, y mae gallu yr Ysbryd Glân yn ei gario i galonau plant dynion. Eithr wele, y mae llawer yn caledu eu calonau yn erbyn yr Ysbryd Glân, fel na chaffo le ynddynt; am hyny, taflant ymaith lawer o bethau sydd yn ysgrifenedig, a chyfrifant hwynt fel pethau diddym. Eithr myfi, Nephi, a ysgrifenais yr hyn a ysgrifenais; ac yr wyf yn ei gyfrif o fawr werth, yn neillduol i’m pobl i. Canys yr wyf yn gweddio yn barhaus drostynt y dydd, a’m llygaid a ddyfrhant fy ngobenydd y nos, o’u plegid: ac yr wyf yn galw ar fy Nuw mewn ffydd, ac mi a wn y clyw ef fy llef; ac mi a wn y cyssegra yr Arglwydd Dduw fy ngweddiau, er budd i’m pobl. A’r geiriau a ysgrifenais i mewn gwendid, a wneir yn nerthol iddynt hwy; canys annogant hwynt i wneuthur daioni; hysbysant iddynt am eu tadau; a llefarant am yr Iesu, gan eu perswadio hwynt i gredu ynddo, a pharhau hyd y diwedd, yr hyn yw bywyd tragywyddol. Llefarant hefyd yn llym yn erbyn pechod, yn ol eglurder y gwirionedd: am hyny, ni fydd neb yn ddigllawn am y geiriau a ysgrifenais i, oddieithr ei fod o ysbryd y diafol. Yr wyf yn gorfoleddu mewn eglurder; yr wyf yn gorfoleddu mewn gwirionedd; yr wyf yn gorfoleddu yn fy Iesu, canys efe a waredodd fy enaid rhag uffern. Y mae genyf gariad at fy mhobl, a ffydd fawr yn Nghrist, y cyfarfyddaf â llawer o eneidiau yn ddifrycheulyd o flaen ei orseddfainc ef. Y mae genyf gariad at yr Iuddew; dywedaf Iuddew, o herwydd y meddyliwyf y rhai y daethym oddiwrthynt. Y mae genyf gariad hefyd at y Cenedloedd. Ond wele, nis gallaf obeithio am neb o’r rhai hyn, oddieithr eu cymmodi â Christ, ac iddynt fyned i mewn trwy y porth cul, a rhodio ar hyd y ffordd gyfyng, yr hon a arwain i fywyd, a pharhau ar y llwybr hyd ddiwedd dydd prawf.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, ac Iuddewon hefyd, a chwithau derfynau y ddaear, gwrandewch y geiriau hyn, a chredwch yn Nghrist; ac os na chredwch geiriau hyn, credwch yn Nghrist. Ac os credwch yn Nghrist, chwi a gredwch yn y geiriau hyn; canys geiriau Crist ydynt, ac efe a’u rhoddodd i mi; ac y maent yn dysgu pob dyn y dylai wneuthur daioni. Ac os nad geiriau Crist ydynt, bernwch chwi; canys Crist a ddengys i chwi, mewn nerth a gogoniant mawr, yn y dydd diweddaf, mai ei eiriau ef ydynt; a chewch chwi a finnau sefyll wyneb yn wyneb o flaen ei frawdle ef; a chwi a gewch wybod i mi gael gorchymyn ganddo ef i ysgrifenu y pethau hyn, yn ngwyneb fy ngwendid; ac yr wyf yn gweddio ar y Tad yn enw Crist, ar i lawer o honom ni, os nid oll, gael ein hachub yn ei deyrnas, yn y dydd mawr diweddaf hwnw.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, yr holl rai ydynt o dŷ Israel, a chwithau holl derfynau y ddaear, yr wyf yn llefaru wrthych, megys llef un yn gwaeddi o’r llwch: ffarwel hyd nes y delo y dydd mawr hwnw; a chwithau y rhai ni chyfranogwch o ddaioni Duw, ac ni pherchwch eiriau yr Iuddewon, ac hefyd fy ngeiriau innau, a’r geiriau a ddaw allan o enau Oen Duw, wele yr wyf yn rhoi ffarwel bythol i chwi, canys y geiriau hyn a’ch condemniant chwi yn y dydd diweddaf: canys yr hyn wyf yn selio ar y ddaear, a ddygir yn eich erbyn yn y frawdle; oblegid felly y gorchymynodd yr Arglwydd i mi, a rhaid i minnau ufyddhau. Amen.