Pennod Ⅵ.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, darllenais y pethau hyn, fel y gallech wybod ynghylch cyfammodau yr Arglwydd; ei fod ef wedi ymgyfammodi â holl dŷ Israel; ei fod wedi llefaru wrth yr Iuddewon, trwy enau ei brophwydi santaidd, sef o’r dechreuad i waered, o genedlaeth i genedlaeth, hyd nes delo yr amser yr adferir hwy i wir eglwys a chorian Dduw; pan eu cynnullir adref i diroedd eu hetifeddiaeth, ac y sefydlir hwynt yn eu holl diroedd addawedig.
Wele, fy anwyl frodyr, yr wyf yn llefaru y pethau hyn wrthych fel y gorfoleddoch, ac y dyrchafoch eich penau yn dragywydd, oblegid y bendithion a rydd yr Arglwydd Dduw i’ch plant. Canys mi a wn eich bod wedi chwilio llawer, luoedd o honoch, i wybod pethau dyfodol; am hyny, gwn cich bod yn gwybod y rhaid i’n cnawd dreulio a marweiddio; er hyny, yn ein cyrff ni a welwn Dduw. Ië, mi a wn y gwyddoch, mai yn y corff yr ymddangosa efe i’r rhai sydd yn Jerusalem, o ba le y daethom ni; canys y mae yn anghenrheidiol i hyny fod yn eu mysg hwynt; o herwydd y mae yn rhaid i’r Creawdwr mawr ddyoddef darostwng ei hun megys dyn yn y cnawd, a marw dros bawb, fel y darostyngai efe bod dyn iddo ef ei hun. Canys megys yr aeth marwolaeth ar bawb, er cyflawni trefn drugarog y Creawdwr mawr, rhaid fod gallu i adgyfodi, a rhaid i’r adgyfodiad ddyfod i ddyn o herwydd y cwymp; a daeth y cwymp o herwydd trosedd; ac oblegid i ddyn syrthio, hwy a dorwyd oddi gerbron yr Arglwydd; am hyny rhaid fod iawn anfeidrol; oddieithr ei fod yn iawn anfeidrol, nis gallai y llygredig hwn wisgo anllygredigaeth. Am hyny, y farn gyntaf a ddaeth ar ddyn, a arosai o anghenrheidrwydd yn ddiddiwedd. Ac os felly, rhaid fuasai i’r cnawd hwn orwedd i lawr i bydru a malurio yn llwch, i gyfodi byth mwy.
O ddoethineb Duw! Ei drugaredd â’i râs! Canys wele, pe ni chyfodai y cnawd mwyach, ein hysbrydoedd a ddeuent yn ddarostyngedig i’r angel hwnw a syrthiodd o bresennoldeb y Duw tragywyddol, ac a aeth yn ddiafol, i gyfodi byth mwy. A’n hysbrydoedd a fyddent yn gyffelyb iddo ef, ac aethem yn ddiafliaid, angylion i ddiafol, i gael ein cau allan o bresennoldeb ein Duw, ac i aros gyda thad y celwydd, mewn trueni, megys yntau; ïe, y bod hwnw a dwyllodd ein rhieni cyntaf; yr hwn a ymrithia braidd yn angel goleuni, ac a gynhyrfa blant dynion i gynghreirio llofruddiaeth, a phob math o weithredoedd dirgel y tywyllwch.
O, mor fawr yw daioni ein Harglwydd, yr hwn a barotodd ffordd i ni ddianc rhag yr anghenfil ofnadwy hwn; ïe, yr anghenfil hwnw, marwolaeth ac uffern, yr hyn a alwaf yn farwolaeth y corff, ac hefyd farwolaeth yr ysbryd. Ac oblegid ffordd achubol ein Duw, Sanct Israel, y farwolaeth hon am ba un y llefarais, yr hon yw yr un dymmorol, a rydd i fyny ei meirw; yr hon farwolaeth yw y bedd. A’r farwolaeth hon am ba un y llefarais, yr hon yw y farwolaeth ysbrydol, a rydd i fyny ei meirw; yr hon farwolaeth ysbrydol yw uffern; am hyny, rhaid i farwolaeth ac uffern roddi i fyny eu meirw, a rhaid i uffern roddi i fyny ei hysbrydoedd carcharedig, a rhaid i’r bedd roddi i fyny ei gyrff carcharedig, ac adferir cyrff ac ysbrydoedd dynion y naill at y llall; a thrwy allu adgyfodiad Sanct Israel y bydd hyn.
O, mor ogoneddus yw cynllun ein Duw! Canys ar y llaw arall, paradwys Duw a rydd i fyny ysbrydoedd y cyfiawnion, a’r bedd a rydd i fyny gyrff y cyfiawnion; ac adferir yr ysbryd a’r corff at eu gilydd drachefn, a daw pob dyn yn anllygredig, ac anfarwol, a hwy a fyddant yn encidiau byw, yn meddu gwybodaeth beerffaith megys ninnau yn y cnawd; oddieithr fod ein gwybodaeth ni i fod yn berffaith; am hyny, cawn ni feddu gwybodaeth berffaith am ein holl euogrwydd, a’n haflendid, a’n noethni; a’r cyfiawn a gant feddu gwybodaeth berffaith o’u mwynhad, a’u cyfiawnder, wedi eu gwisgo â phurdeb, ïe, sef â gwisg cyfiawnder.
A bydd, ar ol i bob dyn fyned o’r farwolaeth gyntaf hon i fywyd, yn gymmaint â’u myned yn anfarwol, rhaid iddynt ymddangos gerbron brawdle Sanct Israel; ac yna daw y farn, ac yna rhaid eu barnu yn ol barn santaidd Duw. Ac yn ddiau fel mai byw duw, oblegid yr Arglwydd a’i llefarodd, a’i air tragywyddol ydyw, yr hwn nid â heibio, y rhai ydynt gyfiawn, a fyddant gyfiawn etto, a’r rhai ydynt aflan a fyddant aflan etto; am hyny, y rhai ydynt afian, yw y diafol a’i angylion; a hwy a ânt i dân tragywyddol, a barotowyd iddynt; a’u poenedigaeth sydd megys llyn o dân a brwmstan, fflamiau yr hon sydd yn esgyn i fyny yn oes oesoedd, ac heb ddiwedd iddynt.
O fawredd a chyfiawnder ein Duw! Oblegid efe a gyflawna ei holl eiriau, a hwy a aethant allan o’i enau, a’i gyfraith sydd raid ei chyflawni. Ond, wele, y cyfiawnion, saint Sanct Israel, y rhai a gredent yn Sanct Israel, y rhai a ddyoddefent groesau y byd, ac a ddirmygent ei waradwydd; hwy a etifeddant deyrnas Dduw, yr hon a barotowyd iddynt er seiliad y byd, a’u llawenydd a fydd gyflawn yn dragywydd.
O fawredd a thrugaredd ein Duw, Sanct Israel! Oblegid efe a achub ei saint rhag yr anghenfil ofnadwy hwnw y diafol, a marwolaeth, ac uffern, a’r llyn hono o dân a brwmstan, yr hon sydd boenedigaeth ddiddiwedd.
O, pa mor fawr yw santeiddrwydd ein Duw! Oblegid y mac yn gwybod pob peth, ac nid oes un peth nad yw efe yn ei wybod. Ac y mae yn dyfod i’r byd fel yr achubo bob dyn, os gwrandawant ar ei lais; canys, wele, y mae yn dyoddef poenau pob dyn; ïe, poenau pob creadur byw, gwrrywod, benywod, a phlant, y rhai a berthynant i deulu Adda. Ac efe a ddyoddefodd hyn, fel y dygai adgyfodiad i bob dyn, fel y caffo pawb sefyll o’i flaen yn nydd mawr y farn. Ac efe a orchymyna i bob dyn edifarhau, a chymmeryd eu bedyddio yn ei enw, gan fod â ffydd berffaith yn Sanct Israel, neu ni allant gael eu hachub yn nheyrnas Dduw. Ac os na edifarhant a chredu yn ei enw, a chymmeryd eu bedyddio yn ei enw, a pharhau hyd y diwedd, hwy a ddemnir; canys yr Arglwydd Dduw, Sanct Israel, a’i llefarodd; am hyny efe a roddodd anadl ynddynt, yr hwn yw Sanct Israel.
Ond gwae yr hwn y rhoddwyd y gyfraith iddo; ïe, yr hwn sydd ganddo holl orchymynion Duw, megys ninnau, ac yn eu troseddu hwynt, ac yn camdreulio dyddiau ei brawf, canys ei sefyllfa sydd yn enbyd!
O gyfrwysdra cynllun yr un drwg! O, oferedd, a gwendid, a ffolineb dynion! Pan y maent yn ddysgedig, tybiant eu bod yn ddoethion, ac ni wrandawant ar gynghor Duw, canys gosodant ef o’r neilldu, gan dybied eu bod yn gwybod o honynt eu hunain,—am hyny, eu doethineb sydd ffolineb, ac nid yw yn eu lleshau hwynt. A hwy a ddyfethir.
Eithr bod yn ddysgedig sydd dda, os gwrandawant ar gynghorion Duw. Ond gwae y cyfoethog, y rhai ydynt gyfoethog o ran pethau y byd. Canys o herwydd eu bod yn gyfoethog, dirmygant y tlawd, ac erlidiant y rhai addfwyn, a’u calonau sydd yn eu trysorau; am hyny eu trysor yw eu duw. Ac wele, eu trysor hwynt a ddyfethir hefyd gyda hwynt. A gwae y byddariaid, na chlywant; canys hwy a ddyfethir. Gwae y deillion, na welant, canys hwy a ddyfethir hefyd. Gwae y dïenwaededig o galon; canys gwybodaeth am eu hanwireddau a’i tery hwynt yn y dydd diweddaf. Gwae y celwyddog; canys efe a deflir i uffern. Gwae y llofrudd, yr hwn a gynllunia i ladd; canys efe a gaiff farw. Gwae y rhai hyny sydd yn puteinio; canys hwy a deflir i uffern. Ië, gwae yr eilunaddolwyr; canys y mae diafol yr holl ddiafliaid yn ymhyfrydu ynddynt hwy. Ac, yn fyr, gwae yr holl rai hyny sydd yn marw yn eu pechodau; canys hwy a ddychwelant at Dduw, ac a welant eu wyneb, ac a arosant yn eu pechodau.
O, fy anwyl frodyr, cofiwch yr echryslonrwydd o droseddu yn erbyn y Duw Santaidd hwnw, ac hefyd yr echryslonrwydd o ymollwng i gael ein denu gan yr un drwg hwnw. Cofiwch, mai syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr Ysbryd, bywyd tragywyddol yw.
O, fy anwyl frodyr, rhoddwch glust i’m geiriau. Cofiwch fawredd Sanct Israel. Na ddywedwch i mi lefaru pethau celyd wrthych; canys os gwnewch, chwi a gablwch y gwirionedd; canys mi a lefarais eiriau eich Gwneuthurwr. Mi a wn fod geiriau gwirionedd yn gelyd yn erbyn pob eflendid; eithr nid yw y cyfiawn yn eu hofni hwynt, canys hwy a garant y gwirionedd, a hwy ni syflir.
O, ynte, fy anwyl frodyr, deuwch at yr Arglwydd, y Sanct. Cofiwch fod ei ffyrdd ef yn gyfiawn. Wele, y ffordd i ddyn sydd gul, eithr gorwedda yn uniawn o’i flaen, a Sanct Israel yw ceidwad y porth; ac nid oes ganddo was yno; a ffordd arall nid oes, oddieithr trwy y porth, canys ni ellir ei dwyllo ef; oblegid yr Arglwydd Dduw yw ei enw. A’r hwn sydd yn curo, iddo ef yr agora; a’r doeth a’r dysgedig, a’r rhai sydd gyfoethog, y rhai ydynt wedi ymchwyddo o herwydd eu dysgeidiaeth, a’u doethineb, a’u cyfoeth; ïe, hwynt hwy yw y rhai a ddirmygir ganddo ef; ac oddieithr iddynt fwrw y pethau hyn heibio, ac ystyried eu hunain yn ffyliaid gerbron Duw, ac ymostwng i eithafion gostyngeiddrwydd, nis agora efe iddynt. Eithr pethau y doeth a’r synwyrol, a guddir oddiwrthynt am byth; ïe, y dedwyddwch hwnw a barotowyd i’r saint. O, fy anwyl frodyr, cofiwch fy ngeiriau: Wele, yr wyf yn cymmeryd fy ngwisgoedd oddiam danaf, ac yn eu hysgwyd hwynt o’ch blaen chwi; erfyniaf ar Dduw fy iachawdwriaeth i’m chwilio â’i lygad holl-dreiddgar; am hyny, chwi a gewch wybod yn y dydd olaf, pan y berir pawb am eu gweithredoedd, i Dduw Israel fy ngweled yn ywsgwyd eich anwireddau oddiwrth fy enaid, a’m bod yn sefyll mewn dyscleirdeb ger ei fron, ac yn rhydd o’ch gwaed chwi.
O, fy anwyl frodyr, trowch ymaith oddiwrth eich pechodau; ysgydwch ymaith gadwynau yr hwn sydd am eich rhwymo; deuwch at y Duw hwnw yr hwn yw craig eich iachawdwriaeth. Parotowch eich eneidiau erbyn y dydd gogoneddus hwnw, pan y gweinyddir cyfiawnder i’r cyfiawn; sef dydd y farn, fel nad arswydoch gan ddirfawr ofn; fel na chofioch am eich euogrwydd mawr mewn perffeithrwydd, a chael eich gorfodi i waeddi, Santaidd, santaidd yw dy farnedigaethau di, O Arglwydd Dduw Hollalluog. Eithr fy euogrwydd i sydd hysbys i’m; mi a droseddais dy gyfraith, a’m troseddiadau sydd eiddof; a’r diafol a’m cafodd, nes yr wyf yn ysglyfaeth i’w fawr drueni. Ond wele, fy mrodyr, a oes anghen i mi eich deffroi chwi ynghylch gwirioneddolrwydd dychrynllyd y pethau hyn? A rwygwn i eich eneidiau, pe byddai eich neddwl yn bur? A fyddwn i yn eglur wrthych, yn ol eglurder y gwirionedd, pe buasech yn rhydd o bechod? Wele, pe buasech yn santaidd, mi a lefarwn wrthych am santeiddrwydd; ond gan nad ydych yn santaidd, a chwithau yn edrych arnaf fel athraw, rhaid mai buddiol i mi eich dysgu am ganlyniadau pechod. Wele, fy enaid a ffieiddia bechod, a’m calon a ymhyfryda mewn cyfiawnder; ac mi a foliannaf enw fy Nuw. Deuwch, fy mrodyr, pawb sydd yn sychedu, deued i’r dyfroedd; a’r hwn sydd heb arian, deued, pryned, a bwytaed; ïe, deuwch a phrynwch win a llaeth, heb arian ac heb werth. Am hyny, na weriwch arian am yr hyn nid yw werth, na’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni. Gwrandewch yn astud arnaf, a chofiwch y geiriau a lefarais: a deuwch at Sanct Israel, a gwleddwch ar yr hyn ni dderfydd, ac ni ellir ei lygru, ac ymhyfryded eich enaid mewn brasder. Wele, fy anwyl frodyr, cofiwch eiriau eich Duw; gweddiwch arno yn barhaus y dydd, a diolchwch i’w enw santaidd y nos. Gorfoledded eich calonau, a gwelwch mor fawr yw cyfammodau yr Arglwydd, a pha mor fawr yw ei ddarostyngiad at blant dynion; ac o herwydd ei fawredd, a’i ras, a’i drugaredd, addawodd i ni na chaffai ein had eu llwyrddyfetha, yn ol y cnawd, eithr y gwnai efe eu cadw hwynt; ac mewn cenedlaethau dyfodol, deuant yn gangen gyfiawn o dŷ Israel.
Ac yn awr, fy mrodyr, mi a fynwn lefaru ychwaneg wrthych; eithr y fory mi a draethaf wrthych y gweddill o’m geiriau. Amen.