Pennod Ⅴ.
Geiriau Jacob, brawd Nephi, y rhai a lefarodd efe wrth bobl Nephi: Wele, fy anwyl frodyr, myfi, Jacob, wedi fy ngalw gan Dduw, a’m hordeinio yn ol ei urdd santaidd, ac wedi fy nghyssegru gan fy mrawd Nephi, ar yr hwn yr edrychwch chwi megys brenin, neu amddiffynwr, ac yn yr hwn yr ymddiriedwch am ddiogelwch, wele, gwyddoch fy mod i wedi llefaru wrthych lawer iawn o bethau; er hyny, yr wyf yn llefaru wrthych etto; canys yr wyf yn chwennych lleshad eich eneidiau. Ië, fy ngofal sydd yn fawr am danoch; a chwi a wyddoch eich hunain mai felly y mae wedi bod erioed. Canys yr wyf wedi eich annog gyda phob diwydrwydd; ac yr wyf wedi dysgu i chwi eiriau fy nhad; ac a lefarais wrthych ynghylch pob peth ysgrifenedig, er creadigaeth y byd.
Ac yn awr, wele, ewyllysiwn lefaru wrthych ynghylch y pethau sydd, a’r pethau sydd i ddyfod; am hyny, darllenaf i chwi eiriau Isaiah. Ac hwynt hwy yw y geiriau a ddymunodd fy mrawd arnaf eu llefaru wrthych. Ac yr wyf yn llefaru wrthych er eich mwyn chwi, fel y dysgoch ac y gogoneddoch enw eich Duw. Ac yn awr, y geiriau a gaf fi lefaru yw y rhai hyny a lefarodd Isaiah ynghylch holl dŷ Israel; am hyny, gellir eu cymhwyso atoch chwi, canys yr ydych chwithau o dŷ Israel. Ac y mae llawer o bethau a lefarwyd gan Isaiah, a ellir eu cymhwyso atoch chwi, oblegid yr ydych chwithau o dŷ Israel.
Ac yn awr, dyma y geiriau: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, mi a gyfodaf fy llaw at y Cenedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar eu hysgwyddau. Breninoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy fammaethod; crymant i ti â’u hwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd; canys ni chywilyddir y rhai a ddysgwyliant wrthyf fi.
Ac yn awr, myfi, Jacob, a ewyllysiwn lefaru ychydig ynghylch y geiriau hyn: Canys wele, yr Arglwydd a ddangosodd i mi fod y rhai oeddynt yn Jerusalem, o ba le y daethom, wedi eu lladd a’u caethgludo; er hyny, yr Arglwydd a ddangosodd i mi y cawsent ddychwelyd etto. Ac efe a ddangosodd hefyd i mi y gwnai yr Arglwydd Dduw, Sanct Israel, amlygu ei hun iddynt yn y cnawd; ac ar ol iddo amlygu ei hun, y ffrewyllent ac y croeshoelient ef, yn ol geiriau yr angel, yr hwn a’i llefarodd wrthyf fi. Ac ar ol iddynt galedu eu calonau a’u gwar yn erbyn Sanct Israel, wele, barnedigaethau Sanct Israel a ddaw arnynt. Ac y mae’r dydd yn dyfod pan y tarewir ac y cystuddir hwynt. Am hyny, ar ol iddynt gael eu gyru yn ol ac yn mlaen, canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Llawer a gystuddir yn y cnawd, ac ni oddefir i farw; o herwydd gweddiau y ffyddlawn, hwy a wasgerir, ac a darewir, ac a ffieiddir; er hyny, yr Arglwydd a fydd drugarog wrthynt, fel pan ddelont i wybodaeth o’u Gwaredwr, y cydgesglir hwynt drachefn i diroedd eu hetifeddiaeth.
A gwynfydedig yw y Cenedloedd, y rhai yr ysgrifenodd y prophwyd am danynt; canys wele, os edifarhant a pheidio ymladd yn erbyn Seion, nac ymuno â’r eglwys fawr a ffiaidd hono, hwy a achubir; canys yr Arglwydd a gyflawna ei gyfammodau y rhai a wnaeth efe â’i blant; ac i’r dyben yma yr ysgrifenodd y prophwyd y pethau hyn. Am hyny, y rhai a ymladdant yn erbyn Seion a phobl gyfammodol yr Arglwydd, a lyfant lwch eu traed; ac ni chywilyddir pobl yr Arglwydd. Canys pobl yr Arglwydd yw y rhai a ddysgwyliant wrtho; canys hwy a ddysgwyliant o hyd am ddyfodiad y Messiah. Ac wele, yn ol geiriau y prophwyd, y Messiah etto yr ail waith a’u gwareda hwynt; am hyny, efe a amlyga ei hun iddynt mewn gallu a gogoniant mawr, hyd at ddinystrio eu gelynion, pan ddelo y dydd y credant ynddo; ac ni ddyfetha efe neb a gredo ynddo. A’r sawl ni chredant ynddo, a ddyfethir, trwy dân, a thrwy dymhestl, a thrwy ddaeargryn, a thrwy dywalltiad gwaed, a thrwy haint, a thrwy newyn. A hwy a gant wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, sef Sanct Israel; canys a ddygir y caffaeliad oddiar y cadarn, neu a waredir yr hwn a garcherir yn gyfiawn? Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ië, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddianc; canys yr Arglwydd a wared ei bobl gyfammodol. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Myfi a ymrysonaf â’th ymrysonwyr, ac a borthaf dy orthrymwyr â’u cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hunain y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr Arglwydd yw dy achubydd; a’th gadarn waredydd di. Jacob. Ië, oblegid fel hyn y dywed yr Arglwydd, A ollyngais i ti ymaith, neu a fwriais i ti ymaith yn dragywydd? Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam? I bwy y gollyngais hi ymaith, neu i bwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam; am hyny, pan ddaethym, nid oedd neb i’m derbyn; a phan elwais, nid oedd neb i ateb.
O dŷ Israel, gan gwttogi a gwttogodd iy llaw, fel na allaf ymwared? Neu onid oes ynof nerth i achub? Wele, â’m cerydd y sychaf y môr; gwneuthym eu hafonydd yn ddiffaethwch, a’u pysgod i ddrewi, oblegid sychu y dyfroedd; a threngant o syched. Gwisgaf y nefoedd â thywyllwch, a gosodaf sach-lïan yn dô iddynt. Yr Arglwydd Dduw a roddodd i mi dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrthyt ti, O dŷ Israel. Pan ydych yn ddiffygiol, deffry chwi bob boreu. Deffry fy nghlust i glywed fel y dysgedig. Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ol. Fy nghefn a roddais i’r curwyr, a’m cernau i’r rhai a dynai y blew. Ni chuddiais fy wyneb oddiwrth waradwydd a phoeredd, canys yr Arglwydd Dduw a’m cymhorth; am hyny ni’m cywilyddir. Gan hyny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir; a’r Arglwydd sydd agos, ac efe a’m cyfiawnha. Pwy a ymryson â mi? Safwn ynghyd. Pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesäed ataf, ac mi a’i tarawaf trwy nerth fy ngenau; canys yr Arglwydd Dduw a’m cynnorthwya. A’r holl rai a’m bwriant i yn euog, wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa hwynt.
Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr Arglwydd, yn gwrandaw ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? Wele, chwi oll y rhai ydych yn cynneu tân, ac yn amgylchynu eich hunain â gwreichion, rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gynneuasoch. O’m llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gorweddwch. Gwrandewch arnaf fi, ddilynwyr cyfiawnder: Edrychwch ar y graig y’ch naddwyd, ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd o honi. Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sarah a’ch esgorodd; canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais ef. O herwydd yr Arglwydd a gysura Seion; efe a gysura ei holl anghyfanneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a’i diffaethwch fel gardd yr Arglwydd. Ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch, a llais cân. Gwrandewch arnaf, fy mhobl; a chlustymwrandewch â mi, fy nghenedl; canys cyfraith a â allan oddiwrthyf, a gosodaf fy mam yn oleuni pobloedd. Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd. Yr ynysoedd a ddysgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich. Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant meirw. Ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd.
Gwrandewch arnaf y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon; nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad: canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlan. Eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a’m hiachawdwriaeth o genedlaeth i genedlaeth.
Deffro, deffro! Gwisg nerth, O fraich yr Arglwydd; deffro fel yn y dyddiau gynt. Onid ti yw yr hwn a doraist Rahab, ac a archollaist y ddraig? Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd? Am hyny y dychwel gwaredigion yr Arglwydd, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd a santeiddrwydd tragywyddol ar eu penau: a goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymatih, Myfi yw; ïe, myfi yw yr hwn a’ch dyddana chwi. Wele, pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn yr hwn fydd marw, a mab dyn yr hwn a wneir fel glaswelltyn? Ac a anghofi yr Arglwydd dy wneuthurwr, yr hwn a estynodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? Ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinystrio? A pha le y mae llid y gorthrymydd? Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na fyddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef. Eithr myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, tònau yr hwn a ruodd; fy enw yw Arglwydd y lluoedd. Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yn nghysgod fy llaw y’th doais, fel y planwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Wele, fy mhobl ydwyt. Deffro, deffro, cyfod, Jerusalem, yr hon a yfaist o law yr Arglwydd gwpan ei lidiawgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ïe, sugnaist ef; ac nid oes arweinydd iddi o’r holl feibion a esgorodd; ac nid oes a ymafia yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd. Y ddau fab hyn a ddaethant atat; pwy a ofidia trosot? Dy ddinystr a’th ddystryw, a’r newyn a’r cleddyf: a thrwy bwy y’th gysuraf? Dy feibion a lewygasant, oddieithr y ddau hyn; gorweddant yn mhen pob heol fel tarw gwyllt mewn magl: llawn ydynt o lidiawgrwydd yr Arglwydd a cherydd dy Dduw.
Am hyny gwrandaw hyn yn awr, y druan, a’r feddw, ac nid trwy win. Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr Arglwydd, a’th Dduw di, yr hwn a ddadleu dros ei bobl, Wele, cymmerais o’th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiawgrwydd; ni chwanegi ei yfed mwy. Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot; a thi a osodaist dy gorff fel y lawr, ac fel heol l’r rhai a elent drosto.
Deffro, deffro, gwisg dy nerth, O Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, santaidd ddinas Jerusalem; canys ni ddaw o’th fewn mwy ddïenwaededig nac aflan. Ymysgwyd o’r llwch; cyfod, eistedd, Jerusalem; ymddattod oddiwrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion.