Pennod ⅩⅣ.
Ac yn awr, wele, fy anwyl frodyr, meddyliwyf eich bod yn myfyrio rhywfaint yn eich calonau, ynghylch yr hyn a ddylech wneuthur, ar ol i chwi fyned i mewn trwy y ffordd? Ond, wele, paham y myfyriwch y pethau hyn yn eich calonau? Ai nid ydych yn cofio i mi ddywedyd wrthych, mai ar ol i chwi dderbyn yr Ysbryd Glân, y gellech lefaru â thafod angylion? Ac yn awr, pa fodd y gallech lefaru â thafod angylion, oddieithr trwy yr Ysbryd Glân? Llefara angylion trwy allu yr Ysbryd Glân; am hyny, llefarant eiriau Crist. Am hyny, mi a ddywedais wrthych, Gwleddwch ar eiriau Crist: canys wele, geiriau Crist a ddywedant wrthych yr holl bethau a ddylech wneuthur. Am hyny, ar ol i mi lefaru y geiriau, os na ellwch en deall hwynt, yr achos fydd oblegid nad ydych yn gofyn, nac ychwaith yn curo; am hyny, ni ddygwyd chwi i’r goleuni, eithr yr ydych yn gorfod marw mewn tywyllwch. Canys, wele, drachefn meddaf i chwi, Os ewch i mewn trwy y ffordd, a derbyn yr Ysbryd Glân, efe a ddengys i chwi bob peth y dylech wneuthur. Wele, hyn yw athrawiaeth Crist, ac ni roddir mwy o athrawiaeth, hyd nes ar ol iddo ef amlygu ei hun i chwi yn y cnawd. A phan amlygo efe ei hun i chwi yn y cnawd, y pethau a fynego efe wrthych, a wnewch.
Ac yn awr, nis gallaf fi, Nephi, ddywedyd ychwaneg; mae yr ysbryd yn attal fy lleferydd, a gadewir mi i alaru o herwydd anghrediniaeth, a drygioni, ac anwybodaeth, a gwargaledwch dynion; canys ni cheisiant wybodaeth, ac ni ddeallant fawr wybodaeth, pan ei rhoddir iddynt mewn eglurder, ïe, mor eglur ag y dichon gair fod.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, canfyddaf eich bod etto yn myfyrio yn eich calonau; a blinir fi am fod yn rhaid i mi lefaru ynghylch y peth hyn. Canys pe gwrandawech ar yr ysbryd sydd yn dysgu dyn i weddio, chwi a wybyddech fod yn rhaid i chwi weddio; canys nid yw yr ysbryd drwg yn dysgu dyn i weddio, eithr yn ei ddysgu i beidio gweddio. Ond, wele, meddaf i chwi, rhaid i chwi weddio yn wastadol, a pheidio diffygio; ac na chyflawnwch ddim i’r Arglwydd, oddieithr i chwi yn gyntaf weddio ar y Tad, yn enw Crist, i gyssegru i chwi eich gwasanaeth, fel y byddo eich gwasanaeth er lleshad eich enaid.