Pennod ⅩⅢ.
Ac yn awr, yr wyf fi, Nephi, yn gorphen fy mhrophwydo wrthych chwi, fy anwyl frodyr. Ac nis gallaf ysgrifenu ond ychydig bethau, y rhai y gwn sy’n rhaid iddynt ddyfod i ben; ac nis gallaf ychwaith ysgrifenu ond ychydig o eiriau fy mrawd Jacob. Am hyny, mae y pethau a ysgrifenais yn ddigon genyf, oddieithr ychydig eiriau sydd yn rhaid i mi lefaru ynghylch athrawiaeth Crist; am hyny, mi a lefaraf wrthych yn eglur, yn ol eglurder fy mhrophwydoliaeth: canys y mae fy enaid yn ymhyfrydu mewn eglurder; canys yn y modd hyn y mae’r Arglwydd Dduw yn gweithio yn mhlith plant dynion. Canys yr Arglwydd Dduw a rydd oleuni i’r dealltwriaeth: canys y mae efe yn llefaru wrth ddynion, yn ol eu hiaith, er eu dealltwriaeth. Am hyny, mi a ewyllysiwn i chwi gofio fy mod wedi llefaru wrthych, ynghylch y prophwyd hwnw a ddangosodd yr Arglwydd i mi, yr hwn a fedyddiai Oen Duw, yr hwn a gymmerai ymaith bechodau y byd.
Ac yn awr, os oedd anghen ar Oen Duw, ac yntau yn santaidd, gael ei fedyddio â dwfr er cyflawni pob cyfiawnder, O ynte, pa faint mwy yw ein hanghen ni, a ninnau yn aflan, i gael ein bedyddio, ïe, sef â dwfr. Ac yn awr, mi a ofynaf i chwi, fy anwyl frodyr, Yn mha beth y cyflawnodd Oen Duw bob cyfiawnder wrth gael ei fedyddio â dwfr? Ai ni wyddoch ei fod ef yn santaidd? Ond er ei fod yn santaidd, dangosa i blant dynion, ei fod, yn ol y cnawd, yn darostwng ei hun gerbron y Tad, ac yn tystiolaethu wrth y Tad y buasai efe yn ufydd iddo trwy gadw ei orchymynion ef; am hyny, ar ol iddo gael ei fedyddio â dwfr, yr Ysbryd Glân a ddisgynodd arno ef ar ddull colomen. A thrachefn: Y mae yn dangos i blant dynion gyfyngedd y ffordd, a chuldra y porth, trwy y rhai y dylent fyned, gan ei fod ef wedi gosod esiampi o’u blaen hwynt. Ac efe a ddywedodd wrth blant dynion. Dilynwch fi. Am hyny, anwyl frodyr, a allwn ni ddilyn yr Iesu, oddieithr i ni foddloni cadw gorchymynion y Tad? A’r Tad a ddywedodd, Edifarhewch, edifarh ewch, a bedyddier chwi yn enw fy anwyl Fab. Ac hefyd, llais y Mab a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Y neb a fedyddier yn fy enw i, iddo ef y rhydd y Tad yr Ysbryd Glân, megys i minnau; am hyny, dilynwch fi, a gwnewch y pethau a welsoch fi yn eu gwneuthur. Am hyny, fy anwyl frodyr, mi a wn os dilynwch y Mab, gyda llawn fwriad calon, heb weithredu rhagrith na thwyll gerbron Duw, eithr gyda gwir ddymuniad, gan edifarhau am eich pechodau, a thystiolaethu wrth y Tad, eich bod yn foddlawn cymmeryd arnoch enw Crist, trwy fedydd; ïe, trwy ddilyn eich Arglwydd a’ch Iachawdwr i waered i’r dwfr, yn ol ei air; wele, yna chwi a dderbyniwch yr Ysbryd Glân; ïe, yna y daw y bedydd â thân ac â’r Ysbryd Glân; ac yna chwi a ellwch lefaru â thafod angylion, a dyrchafu moliant i Sanct Israel.
Ond, wele, fy anwyl frodyr, fel hyn y daeth llais y Mab ataf, gan ddywedyd, Ar ol i chwi edifarhau am eich pechodau, a thystiolaethu wrth y Tad eich bod yn foddlawn cadw fy ngorchymynion, trwy fedydd dwfr, ac wedi derbyn y bedydd â thân ac â’r Ysbryd Glân, ac yn alluog i lefaru â thafod newydd, ïe, sef â thafod angylion, ac ar ol hyn ddygwydd o honoch fy ngwadu i, buasai yn well arnoch, pe na adnabuasech fi.
Ac mi a glywais lais oddiwrth y Tad, yn dywedyd, Ië, geiriau fy anwylyd ydynt gywir a ffyddlawn. Y neb a barhao hyd y diwedd, a fydd cadwedig. Ac yn awr, fy anwyl frodyr, mi a wn wrth hyn, os na pharha dyn hyd y diwedd, i ddilyn esiampl Mab y Duw byw, ni ellir ei achub; am hyny, gwnewch y pethau a ddywedais wrthych i mi eu gweled, y byddai i’ch Arglwydd a’ch Gwaredwr eu gwneuthur; oblegid, i’r dyben hyn y dangoswyd hwynt i mi, fel yr adnabyddech chwi y porth y dylech fyned trwyddo. Canys y porth trwy ba un y mae i chwi fyned, yw edifeirwch, a bedydd trwy ddwfr; ac yna y mae yn dyfod faddeuant o’ch pechodau trwy dân, a thrwy yr Ysbryd Glân. Ac yna yr ydych yn y ffordd gul a chyfyng sydd yn arwain i fywyd tragywyddol; ïe, yr ydych wedi myned i mewn trwy y porth: yr ydych wedi gwneuthur yn ol gorchymynion y Tad a’r Mab; ac yr ydych wedi derbyn yr Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn tystiolaethu am y Tad a’r Mab, hyd at gyflawni yr addewidion a wnaeth, os elech i mewn trwy y ffordd, y derbyniasech.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, ar ol i chwi gael o hyd i’r llwybr cul a chyfyng hwn, mi a ofynwn i chwi, os yw pob peth wedi ei wneuthur? Wele, meddaf i chwi, nac ydyw; canys nid ydych wedi dyfod mor bell â hyn, oddieithr trwy air Crist, gyda ffydd ddiysgog ynddo, gan ymorphwys yn hollol ar haeddiant yr hwn sydd yn alluog i achub; am hyny, rhaid i chwi ymwthio yn mlaen yn ddiysgog yn Nghrist, gan feddu perffaith ddyscleirdeb gobaith, a chariad tuag Dduw a phob dyn. Am hyny, os ymwthiwch yn mlaen, gan wledda ar air Crist, a pharhau hyd y diwedd, wele, fel hyn y dywed y Tad, chwi a gewch fywyd tragywyddol.
Ac yn awr, wele, fy anwyl frodyr, hon yw y ffordd; ac nid oes ffordd nac enw arall wedi eu rhoddi dan y nef; trwy y rhai y gall dyn gael ei achub yn nheyrnas Dduw. Ac yn awr, wele, dyma athrawiaeth Crist, ac unig wir athrawiaeth y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân, y rhai ydynt un Duw, heb ddiwedd. Amen.