Scriptures
2 Nephi 11


Pennod ⅩⅠ.

Yn awr, myfi, Nephi, wyf yn llefaru rhywfaint ynghylch y geiriau a ysgrifenais, y rhai a lefarwyd trwy enau Isaiah. Canys, wele, Isaiah a lefarodd lawer o bethau ag oedd yn anhawdd i lawer o’m pobl eu deall hwynt; oblegid ni wyddent am y dull o brophwydo yn mysg yr Iuddewon. Canys nid wyf fi, Nephi, wedi dysgu llawer o bethau iddynt am ddull yr Iuddewon; o herwydd eu gweithredoedd oeddynt weithredoedd y tywyllwch, a’u gwaith yn waith o ffieidd-dra. Am hyny, yr wyf yn ysgrifenu at fy mhobl, at yr holl rai hyny ar ol hyn a dderbyniant y pethau hyn a ysgrifenwyf, fel y gwybyddont am farnedigaethau Duw, eu bod yn dyfod ar yr holl genedloedd, yn ol y gair a lefarodd. Am hyny, clywch fy mhobl, y rhai ydych o dŷ Israel, a rhoddwch glust i’m geiriau: canys er nad yw geiriau Isaiah yn ddealladwy i chwi, etto y maent yn ddealladwy i’r holl rai sydd yn llawn o ysbryd y brophwydoliaeth. Eithr mi a roddaf i chwi brophwydoliaeth, yn ol yr ysbryd yr hwn sydd ynof fi: am hyny mi a brophwydaf yn ol y symlrwydd oedd genyf er yr amser y daethym allan o Jerusalem gyda’m tad: canys wele, fy enaid a ymhyfryda mewn bod yn ddealladwy i’m pobl, fel y dysgont; ïe, a’m henaid a ymhyfryda yn ngeiriau Isaiah, canys mi a ddaethym allan o Jerusalem, a’m llygaid a welodd bethau yr Iuddewon, ac yr wyf yn gwybod fod yr Iuddewon yn deall pethau y prophwydi, ac nid oes un bobl arall yn deall y pethau a lefarwyd wrth yr Iuddewon, yn gyffelyb iddynt hwy, oddieithr eu bod wedi eu dysgu yn null pethau yr Iuddewon. Ond, wele, myfi, Nephi, ni ddysgais fy mhlant yn null pethau yr Iuddewon: eithr, ele, yr wyf fi, o honof fy hun, wedi bod yn trigo yn Jerusalem, am hyny mi a wn ynghylch yr ardaloedd oddiamgylch; ac mi a soniais wrth fy mhlant am farnedigaethau Duw, y rhai a ddygwyddasant yn mhlith yr Iuddewon, yn ol yr hyn a lefarodd Isaiah, ac ni ysgrifenais hwynt. Ond wele, yr wyf fi yn myned rhagof gyda’m prophwydoliaeth fy hun, yn ol fy eglurder i, yn yr hwn y gwn nas gall un dyn gyfeiliorni; er hyny, yn y dyddiau y cyflawnir prophwydoliaethau Isaiah, dynion a wybyddant mewn sicrwydd yr amseroedd y deuant i ben; am hyny y maent o werth i blant dynion, a’r sawl a dybio nad ydynt, wrthynt hwy yn neillduol y llefaraf, a chyfyngaf y geiriau at fy mhobl fy hun: canys mi a wn y byddant yn werthfawr iawn iddynt hwy yn y dyddiau diweddaf: canys yn y dydd hwnw hwy a’u deallant; am hyny er eu lles hwy yr ysgrifenais hwynt. Ac megys y mae un genedlaeth wedi ei dinystrio yn mysg yr Iuddewon, o herwydd anwiredd, felly y maent wedi eu dinystrio, o genedlaeth i genedlaeth, yn ol eu hanwireddau; ac ni ddinystriwyd neb o honynt erioed, cyn cael eu rhag-rybyddio gan brophwydi yr Arglwydd. Am hyny, hysbyswyd hwynt am y dinystr a ddeuai arnynt, yn fuan ar ol i’m tad adael Jerusalem; er hyny, caledasant eu calonau; ac yn ol fy mhrophwydoliaeth i, cawsant eu dinystrio, oddieithr y rhai a gaethgludwyd i Babilon. Ac yn awr, hyn wyf yn lefaru o herwydd yr ysbryd sydd ynof. Ac er iddynt gael eu caethgludo, hwy a ddychwelant drachefn, ac a feddiannant wlad Jerusalem; am hyny, hwy a ddygir drachefri i wlad eu hetifeddiaeth. Ond, wele, hwy a gant ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd; a phan ddelo y dydd i unig-anedig y Tad, ïe, sef Tad nef a daear, amlygu ei hun iddynt yn y cnawd, wele, hwy a’i gwrthodant, o herwydd eu hanwireddau, a chaledwch eu calonau, a’u gwar-galedrwydd. Wele, hwy a’i croeshoeliant ef, ac wedi iddo fod am yspaid tri diwrnod yn y bedd, efe a adgyfoda oddiwrth y meirw, â meddyginiaeth yn ei esgyll, a’r holl rai a gredant yn ei enw, a achubir yn nheyrnas Dduw; am hyny, fy enaid a ymhyfryda i brophwydo am dano ef, canys mi a welais ei ddydd ef, a’m calon a fawryga ei enw santaidd.

Ac wele, dygwydda, ar ol i’r Messiah adgyfodi oddiwrth y meirw, ac amlygu ei hun i’w bobl, i gynnifer ag a gredant yn ei enw, wele, Jerusalem a ddinystrir drachefn: canys gwae hwynthwy a ymladdant yn erbyn Duw, a phobl ei eglwys ef. Am hyny, yr Iuddewon a wasgerir yn mhlith pob cenedl; ïe, a Babilon hefyd a ddinystrir; am hyny, yr Iuddewon a wasgerir gan genedloedd ereill; ac ar ol iddynt gael eu gwasgaru, yr Arglwydd Dduw a’u ffrewylla hwynt trwy genedloedd ereill, am yspaid llawer o genedlaethau, ïe, i lawr o genedlaeth i genedlaeth, hyd nes y perswadir hwynt i gredu yn Nghrist, Mab Duw, ynghyd â’r iawn, yr hon sydd yn anfeidrol i holl ddynolryw; a phan ddelo y dydd hwnw y credant yn Nghrist, ac addoli y Tad yn ei enw, gyda chalonau pur a dwylaw glân, ac y peidiant a dysgwyl mwyach am Fessiah arall; yna, yr amser hwnw, daw y dydd y bydd yn anghenrheidiol iddynt gredu y pethau hyn, a’r Arglwydd a esyd ei law yr ail waith i adferu ei bobl o’u sefyllfa golledig a syrthiedig. Am hyny, efe a â rhagddo i wneuthur gwyrthiau a rhyfeddod yn mhlith plant dynion.

Am hyny, efe a ddwg allan ei eiriau iddynt, y rhai a’u barna hwynt yn y dydd diweddaf, canys rhoddir hwynt iddynt er eu hargyhoeddi hwynt o’r gwir Fessiah, yr hwn a wrthodwyd ganddynt; ac er eu hargyhoeddi hwynt nad oes anghen iddynt ddysgwyl mwyach am Fessiah i ddyfod, canys ni ddaw un, oddieithr dyfod gau Fessiah, yr hwn a dwyllai y bobl: canys ni lefarwyd ond am un Messiah gan y prophwydi, a’r Messiah hwnw yw yr hwn a gai ei wrthod gan yr Iuddewon. Canys yn ol geiriau y prophwydi, y mae’r Messiah yn dyfod mewn chwe chan mlynedd ar ol i’m tad adael Jerusalem; ac yn ol geiriau y prophwydi, ac hefyd air angel Duw, ei enw fydd Ieus Grist, Mab Duw.

Ac yn awr, fy mrodyr, yr wyf wedi llefaru yn eglur, fel nas gellwch gyfeilioni: ac fel mai byw yr Arglwydd Dduw a ddygodd Israel i fyny o wlad yr Aifft, ac a roddodd allu i Moses i iachâu y cenedloedd, ar ol iddynt gael eu brathu gan y seirff gwenwynllyd, os edrychent ar y sarff a gyfododd efe i fyny o’u blaen hwynt; ac a roddodd iddo hefyd allu i daraw y graig fel y deuai dwfr allan; ïe, meddaf i chwi, fel mai gwir y pethau hyn, ac fel mai byw yr Arglwydd Dduw, ni roddwyd enw arall dan y nefoedd, oddieithr yr Iesu Grist hwn am ba un y llefarais, trwy yr hyn y gall dyn gael ei achub.

Am hyny, er mwyn hyn yr addawodd yr Arglwydd Dduw i mi, y cawsai y pethau hyn wyf yn ysgrifenu, eu cadw a’u diogelu, a’u trosglwyddo i lawr i’m had, o genedlaeth i genedlaeth, fel y cyflawnid yr addewid i Joseph, na ddyfethid ei had ef cyhyd ag y safai y ddaear. Am hyny, y pethau hyn a ânt o genedlaeth i genedlaeth cyhyd ag y safo y ddaear; a hwy a ânt yn ol ewyllys a dymuniad Duw; a’r cenedloedd a’u meddiannant, a fernir ganddynt yn ol y geiriau sydd wedi eu hysgrifenu; o herwydd yr ydym ni yn llafurio yn ddiwyd i ysgrifenu, er perswadio ein plant, ac hefyd ein brodyr, i gredu yn Nghrist, ac i ymgymmodi â Duw; oblegid ni a wyddom mai trwy ei ras ef yr ydym yn gadwedig, wedi yr oll a wnelom.

Ac er ein bod yn credu yn Nghrist, etto yr ydym yn cadw eyfraith Moses, ac yn edrych yn mlaen yn ddiysgog at Grist, hyd nes y cyflawnir y gyfraith; canys er mwyn hyn y rhodd wyd y gyfraith; am hyny, y gyfraith sydd wedi myned yn farw i ni, a ninnau yn fyw i grist, o herwydd ein ffydd; etto yr ydym yn cadw y gyfraith o herwydd y gorchymynion; yr ydym yn siarad am Grist, yn gorfoleddu yn Nghrist, yn pregethu Crist, yn prophwydo am Grist, ac yn ysgrifenu yn ol ein prophwydoliaethau, fel y gwypo ein plant pa le i edrych am faddeuant o’u pechodau. Am hyny, yr ydym yn llefaru am y gyfraith, fel y gwypo ein plant am farweidd-dra y gyfraith; ac fel y gallont, trwy wybod am farweidd-dra y gyfraith, edrych yn mlaen am y bywyd hwnw sydd yn Nghrist, a gwybod i ba ddyben y rhoddwyd y gyfraith. Ac wedi cyflawni y gyfraith yn Nghrist, fel na fyddai achos ganddynt i galedu eu calonau yn ei erbyn, yna y gyfraith a ddylai gael ei diddymu.

Ac yn awr, fy mhobl, wele, pobl wargaled ydych; am hyny, mi a lefarais yn eglur wrthych, fel na chamddeallech. A’r geiriau a lefarais, a gant sefyll yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi; canys y maent yn ddigonol i ddysgu unrhyw ddyn y ffordd iawn: canys y ffordd iawn yw credu yn Nghrist, a pheidio ei wadu; oblegid wrth ei wadu ef, byddwch hefyd yn gwadu y prophwydi a’r gyfraith.

Ac yn awr, meddaf i chwi, y ffordd iawn yw credu yn Nghrist, a pheidio ei wadu ef; a Christ yw Sanct Israel; am hyny, rhaid i chwi ymostwng o’i flaen, a’i addoli â’ch holl allu, meddwl, a nerth, ac â’ch holl enaid; ac os gwnewch hyn, ni fwrir chwi allan mewn un modd. Ac yn gymmaint ag y bydd anghenrheidrwydd, rhaid i chwi gadw gwasanaeth ac ordinhadau Duw, hyd nes y cyflawnir y gyfraith a roddwyd i Moses.

Ac ar ol i Grist adgyfodi oddiwrth y meirw, efe a ddengys ei hun i chwithau, fy mhlant, a’m brodyr anwyl; a’r geiriau a lefara efe wrthych chwi, fydd y gyfraith a ufyddhewch. Canys, wele, meddaf i chwi, mi a ganfyddais fod llawer o genedlaethau yn myned heibio, a bod amrafaelion a rhyfeloedd mawrion yn mysg fy mhobl. Ac ar ol dyfod y Messiah, rhoddir arwyddion i’m pobl o’i enedigaeth ef, ac hefyd o’i farwolaeth a’i adgyfodiad; a dydd mawr ac ofnadwy fydd hwnw i’r rhai drygionus; canys hwy a ddyfethir; a hwy a ddyfethir am iddynt fwrw allan y prophwydi, a’r saint, a’u lluchio â cheryg, a’u lladd hwynt; am hyny, llef gwaed y saint a esgyna i fyny o’r ddaear at Dduw yn eu herbyn hwynt. Am hyny, yr holl feilchion, ac holl withredwyr anwiredd, y dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, canys byddant megys sl; a’r rhai sydd yn lladd y prophwydi, a’r saint, a lyncir i eigion y ddaear, medd Arglwydd y lluoedd; a mynyddoedd a’u gorchuddiant, a chorwyntoedd a’u hysgubant ymaith, ac adeiladau a syrthiant arnynt, gan eu dryllio yn ddarnau a’u malurio yn llwch; ac ymwelir â hwy gan daranau, a mellt, a daeargrynfäau, a phob math o ddinystr, canys tân digofaint yr Arglwydd a ennynir yn eu herbyn hwynt, a hwy a fyddant megys sofl, ac y mae’r dydd yn dyfod a’u hysa hwynt, medd Arglwydd y lluoedd.

O, y poen, a’r ing oedd yn fy enaid am golli lladdedigion fy amhobl! Canys myfi, Nephi, a’i gwelais, a bu yn agos a’m hysu gerbron gwyddfod yr Arglwydd; eithr rhaid i mi lefain wrth fy Nuw, Dy ffyrdd ydynt gyfiawn. Ond wele, y cyfiawn, y rhai a wrandawant ar eiriau y prophwydi, ac heb eu dyfetha hwynt, eithr a edrychant yn mlaen at Grist, yn ddiysgog, am yr arwyddion a roddir, yn ngwyneb pob erlidiau; wele, hwynthwy yw y rhai ni ddyfethir. Eithr Mab cyfiawnder a ymddengys iddynt hwy, ac efe a’u hiachâ hwynt, a chant fwynhau ei heddwch ef, hyd nes y byddo tair cenedlaeth wedi myned heibio, a llawer o’r bedwaredd genedlaeth wedi myned heibio, yn gyfiawn. Ac wedi myned o’r pethau hyn heibio, dinystr buan a ddaw ar fy mhobl, canys, er poen i’m henaid, yr wyf wedi ei weled; am hyny, mi a wn y dygwydda; a hwy a ymwerthant am ddim; canys, yn wobr i’w balchdere a’u ffolineb, y medant ddinystr; oblegid eu bod yn ymollwng i’r diafol, ac yn dewis gweithredoedd y tywyllwch yn hytrach na goleuni; am hyny, hwy a ânt i lawr i uffern; canys ni ymrysona ysbryd yr Arglwydd â dyn yn dragywydd. A phan ddarfyddo yr ysbryd ymryson â dyn, yna y daw dinystr buan, a hyn sydd yn gofidio fy enaid.

Ac megys y llefarais ynghylch argyhoeddi yr Iuddewon, mai Iesu yw y Crist, rhaid i’r Cenedloedd gael eu hargyhoeddi hefyd mai Iesu yw y Crist, y Duw tragywyddol; a’i fod yn amlygu ei hun i bawb a gredant ynddo, trwy allu yr Ysbryd Glân; ïe, i bob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, gan gyflawni gwyrthiau nerthol, arwyddion, a rhyfeddodau, yn mysg plant dynion, yn ol eu ffydd.

Ond wele, yr wyf yn prophwydo wrthych ynghylch y dyddiau diweddaf; ynghylch y dyddiau pan y dyga yr Arglwydd Dduw y pethau hyn allan i blant dynion. Ar ol i’m had i a had fy mrodyr fethu mewn anghrediniaeth, a chael eu taraw gan y Cenedloedd; ïe, ar ol i’r Arglwydd wersyllu yn grwn yn eu herbyn, a gwarchae yn eu herbyn mewn gwarchdwr, a chyfodi gwrthglawdd yn eu herbyn; ac ar ol eu darostwng yn isel i’r llwch, hyd nes na byddant, etto geiriau y cyfiawn a ysgrifenir, a gweddiau y ffyddlawn a wrandewir, a’r holl rai a fethasant mewn anghrediniaeth, ni anghofir; canys y rhai a ddyfethir a lefarant wrthynt hwy o’r ddaear, a’u lleferydd a fydd yn isel o’r llwch, a’u llais a fydd megys un ag ysbryd dewiniaeth; canys yr Arglwydd Dduw a rydd iddo ef allu, fel yr hustyngo am danynt, megys pe byddai o’r ddaear: a’u lleferydd a sibrwd o’r llwch. Oblegid fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Hwy a ysgrifenant y pethau a wneir yn eu mysg, a chant eu hysgrifenu a’u selio i fyny mewn llyfr, a’r rhai a fethasant mewn anghrediniaeth ni chant y cyfryw, am eu bod yn ceisio dinystrio pethau Duw: am hyny, gan fod y rhai a ddyfethwyd, wedi eu dyfetha yn sydyn, tyrfa eu cedyrn hwy a fyddant fel peiswyn yn myned heibio. Ië, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Bydd yn ddisymmwth ddiatreg.

A bydd, i’r rhai a fethasant mewn anghrediniaeth, gael eu taraw gan law y Cenedloedd. Ac y mae’r Cenedloedd wedi ymddyrchafu yn malchder eu golygon, ac wedi tramgwyddo, o herwydd mawredd eu maen tramgwydd, nes y maent wedi adeiladu llawer o eglwysi; er hyny, hwy a ddiystyrant allu a gwyrthiau Duw, ac a bregethant iddynt eu hunain, eu doethineb eu hun, a’u dysgeidiaeth eu hun, fel yr elwont, ac y malont wynebau y tlodion: ac y mae llawer o eglwysi wedi eu hadeiladu ag sydd yn achosi cenfigenau, ainrafaelion, a malais; ac hefyd y mae dirgel gydfwriadau megys yn y dyddiau gynt, yn ol cydfwriadau y diafol, canys efe yw sylfaen yr holl bethau hyn: ïe, sylfaen llofruddiaeth, a gweithredoedd y tywyllwch; ïe, y mae efe yn eu harwain wrth y gwddf â llinyn, hyd nes y rhwymo hwynt â’i reffynau cryfion am byth.

Canys wele, fy anwyl frodyr, yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yw Duw yn gweithio mewn tywyllwch. Nid yw efe yn gwneuthur dim, oddieithr ei fod er lleshad y byd; oblegid y mae efe yn caru y byd, ïe, nes rhoddi i lawr ei fywyd ei hun, fel y tyno bawb ato. Am hyny, ni orchymyna efe i neb na chyfranogont o’i iachawdwriaeth. Wele, a waedda efe wrth rywun, gan ddywedyd, Ewch oddiwrthyf? Wele, meddaf i chwi, na wna; eithr efe a ddywed, Deuwch ataf, holl derfynau y ddaear, prynwch laeth a mêl, heb arian ac heb werth. Wele, a orchymynodd efe i rywrai fyned allan o’r synagogau, neu allan o’r addoldai? Wele, meddaf i chwi, naddo. A orchymynodd efe i rywun na chai gyfranogi o’i iachawdwriaeth? Wele, meddaf i chwi, naddo; eithr efe a’i rhoddodd yn rhad i bawb; ac a orchymynodd ei bobl i annog pawb i edifeirwch. Wele, a orchymynodd yr Arglwydd i rywrai na chaent gyfranogi o’i ddaioni? Wele, meddaf i chwi, naddo; eithr rhoddir yr un fraint i bob dyn, y naill fel y llall, ac ni waherddir neb. Y mae efe yn gorchymyn na fyddo crefydd-dwyll; canys wele, crefydd-dwyll sydd er i ddynion bregethu a gosod eu hunain yn oleuni i’r byd, er mwyn elw, a chlod y byd; eithr ni cheisiant ddaioni Seion. Wele, yr Arglwydd a waharddodd y peth hyn; am hyny, yr Arglwydd Dduw a roddodd orchymyn ar fod i bawb feddu haelioni, yr hwn haelioni yw cariad. Ac heb iddynt feddu haelioni, ni fuasent ddim: am hyny, pe meddent haelioni, ni ddyoddefasent i’r gweithiwr yn Seion i drengu. Ond y gweithiwr yn Seion, a weithia i Seion; canys pe gweithient am arian, hwy a ddyfethid. A thrachefn, yr Arglwydd Dduw a orchymynodd i ddynion na laddent; na ddywedent gelwydd; na ladratâent; na chymmerent enw yr Arglwydd eu Duw yn ofer; na chenfigenent; na feddent falais; na amrysonent y naill â’r llall: na phuteinient; ac na chyflawnent ddim o’r pethau hyn; canys yr hwn a’u cyflawno, a ddyfethir; oblegid nid oes dim o’r drygioni hyn yn deillio oddiwrth yr Arglwydd; canys y mae efe yn gwneuthur yr hyn sydd yn dda yn mhlith plant dynion; ac nid yw efe yn gwneuthur dim oddieithr ei fod yn eglur i blant dynion; ac y mae efe yn eu gwahodd hwynt oll i ddyfod ato ef, a chyfranogi o’i ddaioni; ac nid yw efe yn gwrthod neb sydd yn dyfod ato, du a gwyn, caeth a rhydd, gwrryw a benyw; a chofio y mae am y pagan, oblegid cydradd yw pawb gyda Duw, yr Iuddew a’r Cenedlddyn. Ond, wele, yn y dyddiau diweddaf, neu yn nyddiau y Cenedloedd; ïe, wele holl genedloedd y Cenedloedd, a’r Iuddewon hefyd, y rhai a ddeuant i’r tir hwn a’r rhai a fyddant ar diroedd ereill; ïe, sef ar holl diroedd y ddaear; wele, hwy a fyddant yn feddw gan anwiredd a phob math o ffieidd-dra; a phan ddelo y dydd hwnw, Arglwydd y lluoedd a ymwela â hwynt, â tharanau ac â daeargryn, ac â thwrf mawr, ac â storom a thymhestl, ac â fflam dan ysol; a’r holl genedloedd a ymladdo yn erbyn Seion, ac a’i gorthrymo hi, a fyddant megys breuddwyd gweledigaeth nos; ïe, bydd iddynt megys i newynog a freuddwydio, ac wele yn bwyta, eithr pan ddefrô, gwag fydd ei enaid; neu yn gyffelyb i sychedig a freuddwydio, ac wele yn yfed; a phan ddeffrô, wele ef yn ddiffygiol, a’i enaid yn chwennych diod: ïe, felly y bydd tyrfa yr holl genedloedd a ryfelant yn eerbyn mynydd Seion: canys wele, chwi oll sydd yn gweithredu anwiredd, arafwch, a rhyfeddwch; canys chwi a floeddiwch, ac a waeddwch; ïe, chwi a fyddwch yn feddw, eithr nid trwy win, a chwi a fyddwch yn ben-feddw, eithr nid trwy ddiod gadarn: canys yr Arglwydd a dywalltodd arnoch ysbryd trymgwsg. Canys, wele, cauasoch eich llygaid, a gwrthodasoch y prophwydi; a’ch llywodraethwyr, a’ch gweledyddion a orchuddiodd efe o herwydd eich anwiredd.

A bydd i’r Arglwydd Dduw ddwyn allan i chwi eiriau llyfr, a hwy a fyddant eiriau y rhai sydd wedi huno. Ac wele, y llyfr a fydd yn seliedig; ac yn y llyfr y bydd dadguddiad oddiwrth Dduw, o ddechreu y byd hyd ei ddiwedd. Am hyny, o herwydd y pethau sydd wedi eu selio i fyny, ni roddir y pethau seliedig yn nydd drygioni a ffieidd-dra y bobl. Am hyny, y llyfr a gedwir oddiwrthynt hwy. Eithr y llyfr a roddir i ddyn, ac efe a rydd eiriau y llyfr, y rhai ydynt eiriau y rhai sydd wedi huno yn y llwch; ac efe a rydd y geiriau hyn i arall: eithr y geiriau seliedig ni rydd efe, ac ni rydd y llyfr ychwaith. Canys y llyfr a fydd wedi ei selio gan allu Duw, a’r dadguddiad seliedig a gedwir yn y llyfr hyd amser cyfaddas yr Arglwydd, fel y delo allan; canys wele, y mae yn dadguddio pob peth er seiliad y byd hyd ei ddiwedd. Ac y mae’r dydd yn dyfod pan ddarllenir geiriau y llyfr a seliwyd ar benau y tai; a darllenir hwy trwy allu Crist: a phob peth a ddadguddir i blant dynion a fu erioed yn mysg plant dynion, ac a fydd etto, hyd y nod hydd ddiwedd y byd. Am hyny, yn y dydd hwnw, pan roddir y llyfr i’r dyn y llefarais am dano, y llyfr a guddir o olwg y byd, fel na welo llygaid neb ef, oddieithr i dri o dystion gael ei weled, trwy allu Duw, heblaw yr hwn y rhoddir y llyfr iddo; a hwy a dystiolaethant am wirionedd y llyfr a’r pethau sydd ynddo. Ac ni fydd neb arall a gaiff ei weled, oddieithr rhyw ychydig, yn ol ewyllys yr Arglwydd, er dwyn tystiolaeth o’i air i blant dynion: canys yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, y cawsai geiriau y ffyddlawn lefaru megys pe byddai oddiwrth y meirw. Am hyny, yr Arglwydd Dduw a â rhagddo i ddwyn allan eiriau y llyfr; ac yn ngenau cynnifer o dystion ag a welo efe yn dda, y cadarnha ei air; a gwae y neb a wrthodo air Duw.

Canys wele, dygwydda i’r Arglwydd ddywedyd wrth yr hwn y rhydd efe y llyfr iddo, Cymmer y geiriau hyn nad ydynt yn seliedig, a dyro hwynt i arall, fel y dangoso hwynt i’r dysgedig, gan ddywedyd, Darllen hwn, attolwg. A’r dysgedig a ddywed, Dwg yma y llyfr, ac mi a’i darrlenaf ef: ac yn awr, o herwydd gogoniant y byd, ac er mwyn elw, y dywedant hyn, ac nid er gogoniant Duw. A’r dyn a ddywed, Nis gallaf ddwyn y llyfr, oblegid ei fod yn seliedig. Yna y dywed y dysgedig, Nis gallaf ei ddarllen. Am hyny y bydd i’r Arglwydd Dduw roddi y llyfr drachefn, ynghyd â’i eiriau, i’r hwn sydd yn annysgedig; a’r dyn sydd yn annysgedig a ddywed, Nid wyf fi yn ddysgedig. Yna y dywed yr Arglwydd Dduw wrtho ef, Ni chaiff y dysgedig eu darllen hwynt, oblegid y maent wedi eu gwrthod hwynt, ac yr wyf fi yn alluog i wneuthur fy ngwaith fy hun; am hyny, ti a ddarlleni y geiriau y rhai a roddaf i ti. Na chyffwrdd â’r pethau seliedig, canys mi a’u dygaf hwynt allan yn fy amser cyfaddas fy hun: canys mi a ddangosaf i blant dynion fy mod yn alluog i wneuthur fy ngwaith fy hun. Am hyny, ar ol i ti ddarllen y geiriau a orchymynais i ti, a chael y tystion a addewais i ti, yna y seli y llyfr drachefn, a’i guddio i mi, fel y cadwyf y geiriau na ddarllenaist, hyd nes y gwelwyf yn addas yn fy noethineb, i ddadguddio pob peth i blant dynion. Canys, wele, myfi wyf Dduw; ac yr wyf yn Dduw y gwyrthiau; ac mi a ddangosaf i’r byd fy mod yr un ddoe, heddyw, ac yn dragywydd; ac nid wyf yn gweithio yn mhlith plant dynion, oddieithr yn ol eu ffydd.

A bydd drachefn, i’r Arglwydd ddywedyd wrth yr hwn a gaiff ddarllen y geiriau a roddir iddo, O herwydd bod y bobl hyn yn nesâu ataf â’u genau, ac yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, a phellhau eu calon oddi wrthyf, a bod eu hofn tuag ataf fi wedi eu dysgu allan o athrawiaethau dynion; am hyny, myfi a âf rhagof i wneuthur yn rhyfedd yn mysg y bobl hyn, ïe, gwyrthiau a rhyfeddod; canys dyfethir doethineb eu doethion hwyant, a deall eu rhai deallus hwynt a ymguddia. A gwae y rhai a ddyfn-geisiant i guddio eu cynghor oddiwrth yr Arglwydd. Ac y mae eu gweithredoedd mewn tywyllwch; ac y maent yn dywedyd, Pwy a’n gwel ni? A phwy a’n hadnebydd? A dywedant hefyd, Diau fel clai crochenydd y cyfrifir eich trofeydd chwi. Ond, wele, mi a ddangosaf iddynt, medd Arglwydd y lluoedd, fy mod yn adwaen eu gweithredoedd hwynt. Canys a ddywed y gwaith am y gweithydd, Ni’m gwnaeth i? Neu a ddywed y peth a luniwyd am yr hwn a’i lluniodd, Nid yw ddeallus? Ond, wele, medd Arglwydd y lluoedd, mi a ddangosaf i blant dynion na fydd ond ychydig bach etto hyd oni throir Libanus yn ddoldir a’r doldir a gyfrifir yn goed.

A’r dydd hwnw y rhai byddar a glywant eiriau y llyfr, a llygaid y deillion a welant allan o niwl a thywyllwch, a’r rhai llariaidd a ychwanegant, a’u llawenydd fydd yn yr Arglwydd, a’r dynion tlodion a ymorfoleddant yn Sanct Israel. Canys yn ddiau, fel mai byw yr Arglwydd, hwy a welant y derfydd am yr ofnadwy, ac y dyfethir y gwatwarus; a’r rhai oll a wyliant am anwiredd a dorir ymaith; a’r rhai a wnant ddyn yn droseddwr o herwydd gair, ac a osodant faglau i’r hwn a geryddo yn y porth, ac a wnant i’r cyfiawn wyro am beth coeg. Am hyny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a waredodd Abraham, am dŷ Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef. Eithr pan welo efe ei feibion, gwaith fy nwylaw, o’i fewn, hwy a santeiddiant fy enw, ïe, santeiddiant Sanct Jacob, ac a ofnant Dduw Israel. A’r rhai cyfeiliornus o ysbryd a ddysgant ddeall, a’r grwgnachwyr a ddysgant addysg.