Pennod Ⅶ.
Ac yn awr myfi, Jacob, a lefaraf wrthych drachefn, fy anwyl frodyr, ynghylch y gangen gyfiawn hon am ba un y llefarais. Canys wele, yr addewidion a gawsom, ydynt yn addewidion i ni yn ol y cnawd; am hyny dangoswyd i mi y dyfethir llawer o’n plant yn y cnawd, oblegid anghrediniaeth, er hyny y bydd Duw drugarog wrth lawer; a’n plant a adferir, fel y deuont at yr hyn a rydd wybodaeth gywir iddynt am eu Gwaredwr. Am hyny, megys y dywedais wrthych, y mae yn rhaid i Grist (oblegid dywedai yr angel wrthyf neithiwr mai hyn fyddai ei enw) ddyfod i blith yr Iuddewon, i blith y rhai ydynt y rhan fwyaf ddrygionus o’r byd; a hwy a’i croeshoeliant ef: Canys fel hyn y mae yn gweddu i’n Duw ni; ac nid oes un genedl arall ar y ddaear a groeshoelient eu Duw. Canys pe cyflawnid y gwyrthiau mawrion yn mhlith rhyw genedloedd ereill, hwy a edifarhaent, ac a sybyddent mai efe oedd eu Duw; ond o herwydd eu rhagrith a’u hanwiredd, hwynt hwy yn Jerusalem a wargaledant yn ei erbyn, nes y croeshoelir ef. Am hyny, o herwydd eu hanwireddau, daw arnynt ddinystriadau, newyn, heintiau, a thywalltiad gwaed; a’r rhai ni ddinystrir, a wasgerir yn mhlith pob cenedl.
Ond, wele, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Pan ddelo y dydd y bydd iddynt gredu ynof, mai myfi yw Crist, yna yr wyf wedi ymgyfammodi â’u tadau yr adferir hwy yn y cnawd ar y ddaear, i diroedd eu hetifeddiaeth. A bydd iddynt gael eu casglu i mewn o’u hir wasgariad, o ynysoedd y môr, ac o bedwar cwr y ddaear; a chenedloedd y Cenedloedd a fyddant yn fawr yn fy ngolwg i, medd yr Arglwydd, wrth eu dwyn hwynt i diroedd eu hetifeddiaeth. Ië, breninoedd y Cenedloedd a fyddant yn dadmaethod iddynt, a’u breninesau yn fammaethod; am hyny, y mae addewidion yr Arglwydd yn fawr tuag at y Cenedloedd, canys efe a’i llefarodd, a phwy a ddichon ammau? Ond wele, y tir hwn, medd yr Arglwydd, a fydd yn dir dy etifeddiaeth di, a’r Cenedloedd a fendithir yn y tir. A’r tir hwn a fydd yn dir rhyddid i’r Cenedloedd, ac ni chyfyd ar y tir freninoedd i’r Cenedloedd; ac mi a amddiffynaf y tir hwn yn erebyn pob cenedl arall, a’r sawl a ymladdo yn erbyn Seion a ddyfethir, medd yr Arglwydd; canys yr hwn a gyfodo frenin yn fy erbyn i a ddyfethir, canys myfi, yr Arglwydd, Brenin y nefoedd, a fyddaf yn frenin iddynt hwy, ac a fyddaf yn oleuni bythol i’r rhai a wrandawant fy ngeiriau. Am hyny, o achos hyn, fel y cyflawner fy nghyfammodau y rhai a wnaethym â phlant dynion, yr hyn a wnaf iddynt tra yn y cnawd, anghenrhaid yw i mi ddinystrio dirgel weithredoedd y tywyllwch, a llofruddiaethau, a ffieidd-dra; am hyny, yr hwn a ymladdo yn erbyn Seion, Iuddew a Chenedl-ddyn, caeth a rhydd, gwrryw a benyw, a ddyfethir; canys hwynt hwy yw putain yr holl ddaear; canys y rhai nid ydynt gyda mi sydd yn fy erebyn, medd ein Harglwydd. Canys mi a gyflawnaf fy addewidion y rhai a wnaethym â phlant dynion, yr hyn a wnaf iddynt tra yn y cnawd: am hyny, fy anwyl frodyr, fel hyn y dywed ein Duw, Mi a gystuddiaf dy had di trwy law y Cenedloedd; er hyny, mi a feddalhaf galonau y Cenedloedd, fel y byddont megys tad iddynt; am hyny y Cenedloedd a fendithir ac a gyfrifir yn mhlith tŷ Israel. Am hyny mi a gyssegraf y tir hwn i’th had di, ac i’r rhai a gyfrifir yn mhlith dy had yn dragywydd, yn dir eu hetifeddiaeth; canys mae yn dir dewisol, medd yr Arglwydd wrthyf, uwchlaw pob tir arall; am hyny, pawb a breswyliant arno, a gant fy addoli i, medd Duw.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, gan weled fod ein Tad trugarog wedi rhoddi i ni wybodaeth mor fawr am y pethau hyn, bydded i ni ei gofio ef, a gosod ein pechodau o’r neilldu, a pheidio gostwng ein penau, canys nid ydym wedi ein bwrw ymaith; er hyny, ni a yrwyd allan o wlad ein hetifeddiaeth; etto ni a arweiniwyd i wlad well, oblegid yr Arglwydd a wnaeth y môr i ni yn llwybr, ac yr ydym ni ar ynys y môr. Ond mawr yw addewidion yr Arglwydd i’r rhai ydynt ar ynysoedd y môr; am hyny, gan y dywedir ynysoedd, rhaid fod ychwaneg nag hon, a phreswylir hwynt hefyd gan ein brodyr ni. Canys wele, y mae yr Arglwydd Dduw wedi arwain rhai ymaith o dŷ Israel o bryd i bryd, yn ol ei ewyllys a’i foddlonrwydd. Ac yn awr, wele, y mae yr Arglwydd yn cofio am yr holl rai a dorwyd ymaith, am hyny y mae yn ein cofio ninnau hefyd; gan hyny llawenhewch yn eich calonau, a chofiwch eich bod yn rhydd i weithredu drosoch eich hunain—i ddewis ffordd marwolaeth dragywyddol, neu ffordd bywyd dragywyddol. Am hyny, fy anwyl frodyr, ymgymmodwch ag ewyllys Duw, ac nid ewyllys y diafol a’r cnawd; a chofiwch ar ol ymgymmodi â Duw, mai yn a thrwy râs Duw yr ydych yn gadwedig. Am hyny, cyfoded Duw chwi o farwolaeth trwy allu yr adgyfodiad, ac hefyd o farwolaeth dragywyddol trwy allu yr iawn, fel y derbynier chwi i deyrnas dragywyddol Duw, fel y moliannoch ef trwy ddwyfol râs. Amen.