Scriptures
2 Nephi 4


Pennod Ⅳ.

Wele, dygwyddodd i mi, Nephi, waeddi llawer ar yr Arglwydd fy Nuw, o herwydd digofaint fy mrodyr. Ond, wele, eu heiddigedd hwynt a gynnyddodd yn fy erbyn, hyd nes y ceisiasant gymmeryd ymaith fy mywyd. Ië, hwy a rwgnachasant yn fy erbyn, gan ddywedyd, Meddylia ein brawd ieuengaf lywodraethu arnom ni; ac yr ydym wedi cael llawer o brofiad o’i blegid ef; am hyny, yn awr lladdwn ef, fel na chaffom ein gofidio mwyach oblegid ei eiriau. Canys, wele, ni fynwn ni ef yn llywodraethwr arnom; oblegid perthyna i ni y rhai ydym ei frodyr hynaf, i lywodraethu y bobl hyn. Yn awr, nid wyf yn ysgrifenu ar y llafnau hyn, yr holl eiriau a rwgnachasant yn fy erbyn. Ond digon i mi yw dywedyd, iddynt geisio cymmeryd ymaith fy mywyd.

A bu i’r Arglwydd fy rhybyddio i, Nephi, i fyned oddiwrthynt, a ffoi i’r anialwch, a’r holl rai a elent gyda mi. Am hyny, dygwyddodd i mi, Nephi, gymmeryd fy nheulu, ac hefyd Zoram a’i deulu, a Sam, fy mrawd hŷn, a’i deulu, a Jacob a Joseph, fy mrodyr ieuengaf, ac hefyd fy chwiorydd, a’r holl rai hyny a elent gyda mi. A’r holl rai hyny a elent gyda mi, oedd y sawl a gredent yn rhybyddion a dadguddiadau Duw; am hyny, hwy a wrandawsant ar fy ngeiriau. A nyni a gymmerasom ein pebyll, a pha bethau bynag a allem, ac a deithiasom yn yr anialwch am yspaid llawer o ddyddiau. Ac wedi i ni deithio am yspaid llawer o ddyddiau, ni a godasom ein pebyll. A’m pobl a ewyllysient alw enw y lle yn Nephi; am hyny ni a’i galwasom Nephi. A’r holl rai ag oedd gyda mi, a gymmerasant arnynt alw eu hunain yn bobl Nephi. A nyni a gadwasom farnedigaethau, a deddfau, a gorchymynion yr Arglwydd yn mhob peth, yn ol cyfraith Moses. A’r Arglwydd oedd gyda ni; a llwyddasom yn ddirfawr; canys ni a hauasom had, ac a fedasom drachefn mewn cyflawnder. A dechreuasom godi defaid, ac eidionau, a phob math o anifeiliaid. A myfi, Nephi, a ddygais hefyd y cof-ysgrifau y rhai oeddynt wedi eu cerflo ar y llafnau pres; ac hefyd y belen neu’r cwmpawd, yr hwn a barotowyd i’m tad, gan law yr Arglwydd, yn ol yr hyn sydd yn ysgrifenedig.

A bu i ni ddechreu llwyddo yn fawr, a lliosogi yn y tir. A myfi, Nephi, a gymmerais gleddyf Laban, ac a wneuthym lawer o gleddyfau ereill yn ol yr un dull, rhag mewn rhyw fodd i’r bobl a elwid yn awr yn Lamaniaid, ddyfod arnom a’n dinystrio; canys mi a wyddwn am eu casineb tuag ataf fi a’m plant, a’r sawl a elwid fy mhobl. Ac mi a ddysgais fy mhobl i adeiladu tai, ac i weithio yn mhob dull ar goed, ac haiarn, a chopr, a phres, a dur, ac aur, ac arian, a mŵnau gwerthfawr, y rhai oeddynt mewn cyflawnder mawr. A myfi, Nephi, a adeiledais deml; ac mi a’i gwnaethym yn ol dull teml Solomon, ond nad oedd wedi ei hadeiladu o gynnifer o bethau gwerthfawr; canys nid oeddynt i’w cael yn y tir; am hyny, ni ellid ei hadeiladu fel teml Solomon. Ond yr oedd dull ei gwneuthuriad yn debyg i deml Solomon; a’r gwaith arni oedd yn hardd iawn.

A bu i mi, Nephi, beri i’m pobl fod yn ddiwyd, ac i weithio â’u dwylaw. A bu iddynt ewyllysio i mi fod yn frenin arnynt. Eithr myfi, Nephi, a ddymunwn iddynt fod heb frenin; er hyny, mi a wnaethym iddynt yn ol yr hyn ag oedd yn fy ngallu. Ac wele, geiriau yr Arglwydd a gyflawnwyd i’m brodyr, y rhai a lefarodd efe am danynt hwy, y buaswn i yn llywodraethwr ac yn ddysgawdwr iddynt; am hyny, bum yn llywodraethwr ac yn ddysgawdwr iddynt, yn ol gorchymynion yr Arglwydd, hyd yr amser y ceisiasant gymmeryd ymaith fy mywyd. Am hyny, cyflawnwyd gair yr Arglwydd yr hwn a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Yn gymmaint ag nas gwrandawant ar fy ngeiriau, torir hwynt ymaith oddi gerbron yr Arglwydd. Ac wele, hwy a dorwyd oddi ger ei fron. Ac efe a barodd i’r felldith ddyfod arnynt, ïe, melldith dost, o herwydd eu drygioni. Canys wele, caledasant eu calonau yn ei erbyn ef, nes yr oeddynt wedi myned fel y gallestr; am hyny, gan eu bod yn wynion, ac yn dra phrydferth ac hyfrydol, ac fel na fyddent yn ddeniadol i’m pobl i, yr Arglwydd Dduw a barodd i groen du ddyfod arnynt. Ac fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Mi a achosaf iddynt fod yn ffiaidd gan dy fobl di, oddieithr iddynt edifarhau am eu hanwireddau. A melldigedig fydd had yr hwn a ymgymmysgo â’u had hwynt; canys hwy a felldithir hyd y nod â’r un felldith A’r Arglwydd a’i llefarodd, a daeth i ben. Ac o herwydd y felldith yr hon oedd arnynt, aethant yn bobl ddioglyd, yn llawn o ddrygioni a chyfrwysdra, ac a helasant yn yr anialwch am anifeiliaid ysglyfaethus. A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrthyf, Hwy a fyddant yn ffrewyll i’th had di, er eu cyffroi hwynt i gofio am danaf fi; ac yn gymmaint ag nas cofiant fi, a gwrandaw ar fy ngeiriau, hwy a’u ffrewyllant hyd at eu dinystrio.

A bu i mi, Nephi, gyssegru Jacob a Joseph i fod yn offeiriaid ac yn athrawon dros dir fy mhobl. A bu i ni fyw mewn modd dedwydd. Ac yr oedd deng mlynedd ar hugain wedi myned heibio oddiar pan adawsom Jerusalem. A myfi, Nephi, a gedwais y cof-ysgrifau ar fy llafnau, y rhai a wnaethym, am fy mhobl, hyd yma.

A bu i’r Arglwydd Dduw ddywedyd wrthyf, Gwna lafnau ereill; a thi a gei ysgrifenu arnynt lawer o bethau ag ydynt yn dda yn fy ngolwg, er lleshad dy bobl. Am hyny, myfi, Nephi, er ufyddhau i orchymynion yr Arglwydd, a aethym ac a wnaethym y llafnau hyn ar ba rai y cerfiais y pethau hyn. Ac mi a gerfiais yr hyn oedd yn rhyngu bodd Duw. Ac os rhyngir bodd fy mhobl â phethau duw, rhyngir eu bodd hefyd â’m cerfiadau innau, y rhai ydynt ar y llafnau hyn. Ac os yw fy mhobl yn chwennych gwybod y rhan fwyaf neillduol o hanes fy mhobl, rhaid iddynt chwilio fy llafnau ereill. Ac y mae yn ddigon i mi ddweyd, fod deugain mlynedd wedi myned heibio, a’n bod eisioes wedi cael rhyfeloedd ac amrafaelion gyda’n brodyr.