Pennod Ⅲ.
Ac yn awr, yr wyf fi, Nephi, yn llefaru ynghylch y prophwydoliaethau am ba rai y llefarodd fy nhad, ynghylch Joseph, yr hwn a gariwyd i’r Aifft: canys wele, yn ddiau efe a brophwydodd am ei holl had. A’r prophwydoliaethau a ysgrifenodd efe, nid oes llawer yn fwy. Ac efe a brophwydodd am danom ni, a’n cenadlaethau dyfodol; ac y maent yn ysgrifenedig ar y llafnau pres. Am hyny, ar ol i’m tad orphen llefaru ynghylch prophwydoliaethau Joseph, efe a alwodd blant Laman, ei feibion, a’i freched, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, fy meibion a’m merched, y rhai ydych feibion a merched fy nghyntaf-anedig, mi a ewyllysiwn i chwi roddi clust i’m geiriau; canys dywedodd yr Arglwydd Dduw, yn gymmaint ag y cadwch fy ngorchymynion, chwi a lwyddwch yn y tir; ac yn gymmaint ag na chadwch fy ngorchymynion, chwi a dorir ymaith oddi ger fy mron. Ond, wele, fy meibion a’m merched, nis gallaf fyned i lawr i’m bedd, heb adael bendith arnoch: Canys wele, mi a wn os hyfforddir chwi yn y ffordd y dylech fyned, na ymadewch â hi. Am hyny, os melldithir chwi, wele, gadawaf fy mendith arnoch, fel y cymmerer y felldith oddiwrthych, ac y gofyner hi ar benau eich rhieni. Am hyny, o herwydd fy mendith, yr Arglwydd Dduw ni ddyoddefa i chwi gael eich dyfetha; am hyny, efe a fydd yn drugarog wrthych, ac wrth eich had yn dragywydd.
A bu ar ol i’m tad orphen llefaru wrth feibion a merched Laman, iddo achosi i feibion a merched Lemuel gael eu dwyn o’i flaen. Ac efe a lefarodd wrthynt hwy, gan ddywedyd, Wele, fy meibion a’m merched, y rhai ydych feibion a merched fy ail fab; wele, yr wyf yn gadael i chwithau yr un fendith ag a adewais i feibion a merched Laman; am hyny, ni lwyr-ddyfethir di; eithr yn y diwedd dy had di a fendithir.
A bu ar ol i’m tad orphen llefaru wrthynt hwy, wele, efe a lefarodd wrth feibion Ishmael, ïe, ac hyd y nod ei holl deulu. Ac ar ol iddo orphen llefaru wrthynt hwy, efe a lefarodd wrth Sam, gan ddywedyd, Gwynfydedig ydwyt ti, a’th had; canys ti a etifeddi y tir, megys dy frawd Nephi. A’th had di a gyfrifir gyda’i had ef; a thi a fyddi yn debyg i’th frawd, a’th had yn debyg i’w had yntau; a thi a fendithir trwy dy holl ddyddiau.
A bu ar ol i’m tad Lehi lefaru wrth ei holl dŷ, yn ol teimladau ei galon, ac ysbryd yr Arglwydd yr hwn oedd ynddo, iddo fyned yn hen. A bu iddo farw, a chael ei gladdu.
A bu cyn pen llawer o ddyddiau ar ol ei farwolaeth, i Laman a Lemuel, a meibion Ishmael, fod yn ddigllawn wrthyf o herwydd rhybyddion yr Arglwydd; canys yr oeddwn i, Nephi, yn rhwym o lefaru wrthynt, yn ol ei air ef. Canys mi a lefarais lawer o bethau wrthynt, ac hefyd fy nhad, cyn ei farwolaeth; y mae llawer o’r dywediadau hyny yn ysgrifenedig ar fy llafnau ereill; canys y mae rhan fwyaf hanesyddol yn ysgrifenedig ar fy llafnau ereill. Ac ar y rhai hyn yr wyf yn ysgrifenu pethau fy enaid, a llawer o’r ysgrythyrau y rhai ydynt wedi eu cerfio ar y llafnau pres. Canys y mae fy enaid yn ymhyfrydu yn yr ysgrythyrau, a’m calon yn eu dwys ystyried, ac yn eu hysgrifenu er addysg a lles fy mhlant. Wele, mae fy enaid yn ymhyfrydu yn mhethau yr Arglwydd; a’m calon sydd yn dwys ystyried yn barhaus y pethau a welais ac a glywais. Er hyny, y mae daioni mawr yr Arglwydd, wrth ddangos i mi ei waith mawr a rhyfedd, yn achosi i’m calon waeddi, Ys truan o ddyn wyf fi; ïe, mae fy nghalon yn tristâu o herwydd fy nghnawd. Fy enaid a ymofidia oblegid fy anwir eddau. Amgylchynir fi gan y profedigaethau a’r pechodau sydd barotaf i’m dal. A phan yr ewyllysiwyf orfoleddu, fy nghalon a ocheneidia o herwydd fy mhechodau; er hyny, mi a wn yn mhwy yr ymddiriedais. Fy Nuw a’m cynnaliodd; efe a’m harweiniodd trwy fy mlinderau yn yr anialwch, ac a’m cadwodd ar ddyfroedd y dyfnder mawr. Llanwodd fi â’i gariad, hyd at ysiad fy nghnawd. Cywilyddiodd fy ngelynion, nes achosi iddynt grynu o’m blaen. Wele, gwrandawodd fy nghri yn y dydd, a rhoddodd i mi wybodaeth trwy weledigaethau yn y nos. Ac yn y dydd aethym yn hyf mewn gweddi nerthol o’i flaen; ïe, fy llais a anfonais i fyny yn uchel; a daeth angylion i waered a gweinyddu i mi. Ac ar adenydd ei ysbryd y cymmerwyd fi ymaith i fynyddoedd uchel iawn. A gwelodd fy llygaid bethau mawrion; ïe, sef rhy fawr i ddyn: gan hyny, gorchymynwyd i mi beidio eu hysgrifenu hwynt. O, ynte, os gwelais bethau mor fawr—os yw yr Arglwydd, yn ei ymddarostyngiad at blant dynion, wedi ymweled â dynion gyda’r fath drugaredd, paham yr wyla fy nghalon, ac yr ymhwyrfryda fy enaid yn nglỳn trallod, ac y treulia fy nghnawd, ac y lleiha fy nerth, o herwydd fy nghystuddiau? A phaham yr ymroddaf i bechod, o herwydd fy nghnawd? Ië, paham y rhoddaf ffordd i brofedigaethau, er i’r un drwg gael lle yn fy nghalon, i ddinystrio fy heddwch a chystuddio fy enaid. Paham yr wyf yn ddigllawn o herwydd fy ngelyn? Dihuna, fy enaid! Na ddihoena mwyach mewn pechod. Gorfoledda, fy nghalon, ac na rodda le mwyach i elyn fy enaid. Na ddigia mwyach, o herwydd fy ngelynion. Na leiha dy nerth, o herwydd fy nghystuddiau. Gorfoledda, fy nghalon, a gwaedda ar yr Arglwydd, a dywed, O, Arglwydd, moliannaf dy enw yn dragywydd; ïe, fy enaid a ymorfoledda ynot ti, fy Nuw, a chraig fy iachawdwriaeth. O Arglwydd, a waredi di fy enaid? A waredi di fi allan o ddwylaw fy ngelynion? A wnai di imi grynu wrth weled pechod? A gaiff pyrth uffern fod yn nghau o’m blaen yn barhaus, o herwydd fod fy nghalon yn ddrylliog a’m hysbryd yn gystuddiedig? O Arglwydd, a beidi a chau pyrth trugaredd o’m blaen, fel y rhodiwyf lwybr y blyn isel, fel y byddwyf gywir ar y ffordd eglur? O, Arglwydd, a amgylchyni di fi yn ngwisg dy gyfiawnder? O Arglwydd, a wnai di ffordd i’m ddianc o flaen fy ngelynion? A wnai di fy llwybr yn uniawn o’m blaen? A wnai di beidio gosod maen tramgwydd ar fy ffordd? Eithr clirio fy ffordd o’m blaen, a pheidio cau i fyny fy ffordd i, eithr ffyrdd fy ngelynion. O Arglwydd, mi a ymddiriedais ynot, ac a ymddiriedaf ynot byth. Ni ymddiriedaf mewn braich o gnawd; canys mi a wn mai melldigedig yw yr hwn a ymddiriedo mewn braich o gnawd. Ië, melldigedig yw yr hwn a ymddiriedo mewn dyn, neu a wnelo gnawd yn fraich iddo. Ië, mi a wn y rhydd Duw yn haelionus i’r hwn a ofyno. Ië, fy Arglwydd a rydd i mi, os na ofynaf ar gam; gan hyny, dyrchafaf fy llais atat ti; ïe, mi a waeddaf arnat ti, fy Nuw, a chraig fy iachawdwriaeth. Wele, fy llais a ddyrchafa yn dragywydd atat ti, fy nghraig a’m Duw tragywyddol. Amen.