Pennod Ⅱ.
Ac yn awr yr wyf yn llefaru wrthych chwi, Joseph, fy olaf anedig. Tydi a anwyd yn anialwch fy mlinderau; ïe, yn nyddiau fy nhristwch mwyaf yr ymddygodd dy fam di. A boed i’r Arglwydd gyssegru hefyd tir hwn i ti, yr hwn sydd yn dir gwerthfawr, yn etifeddiaeth i ti, ac yn etifeddiaeth i’th had gyda’th frodyr, er dy ddiogelwch yn dragywydd, os bydd i ti gadw gorchymynion Sanct Israel. Ac yn awr, Joseph, fy olaf anedig, yr hwn a ddygais allan o anialwch fy mlinderau, bydded i’r Arglwydd dy fendithio di yn dragywydd, canys ni lwyr-ddyfethir dy had di. Canys wele, tydi ydwyt ffrwyth fy lwynau; ac yr wyf fi yn ddisgynydd o Joseph, yr hwn a gaethgludwyd i’r Aifft. A mawr oedd cyfammodau yr Arglwydd, y rhai a wnaeth â Joseph; am hyny, Joseph yn ddiau a welodd ein dydd ni. Ac efe a gafodd addewid gan yr Arglwydd, mai allan o ffrwyth ei lwynau ef, y cyfodai yr Arglwydd Dduw gangen gyfiawn, i dŷ Israel; nid y Messiah, eithr cangen ag oedd i’w thori ymaith; er hyny, i’w gofio yn nghyfammodau yr Arglwydd, fod y Messiah i ymddangos iddynt yn y dyddiau diweddaf, yn ysbryd gallu, er eu dwyn hwynt o dywyllwch i oleuni; ïe, o dywyllwch cuddiedig, ac o gaethiwed i ryddid. Canys Joseph yn ddiau a dystiodd, gan ddywedyd. Yr Arglwydd fy Nuw a gyfyd weledydd, yr hwn a fydd yn weledydd dewisol i ffrwyth fy lwynau. Ië, Joseph yn ddiau a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Gweledydd dewisol a gyfodaf allan o ffrwyth dy lwynau; ac efe a gyfrifir yn fawr yn mhlith ffrwyth dy lwynau. Ac iddo ef y rhoddaf orchymyn i wneuthur gwaith i ffrwyth dy lwynau, ei frodyr, yr hwn a fydd yn werthfawr iddynt, sef eu dwyn hwynt i wybodaeth o’r cyfammodau y rhai a wnaethym â’th dadau. A rhoddaf iddo orchymyn na wnelo un gwaith arall, oddieithr y gwaith a orchymynwyf iddo. Ac mi a’i gwnaf ef yn fawr yn fy ngolwg; canys efe a gaiff gyflawni fy ngwaith i. Ac efe a fydd yn fawr megys Moses, yr hwn a ddywedais a gyfodwn i chwi, i waredu fy mhobl, O dŷ Israel. A Moses a gyfodaf, i waredu dy bobl allan o wlad yr Aifft. Eithr gweledydd a gyfodaf allan o ffrwyth dy lwynau di; ac iddo ef y rhoddaf allu i ddwyn allan fy ngair i ffrwyth dy lwynau; ac nid i ddwyn allan fy ngair yn unig, medd yr Arglwydd, ond eu hargyhoeddi hwynt o’m gair, yr hwn a fydd eisoes wedi myned i’w plith. Am hyny, ffrwyth dy lwynau di a gant ysgrifenu: a ffrwyth lwynau Judah a gant-ysgrifenu; a’r hyn a ysgrifenir gan ffrwyth dy lwynau di, ac hefyd yr hyn a ysgrifenir gan ffrwyth lwynau Judah, a gyd-dyfant er cywilyddio athrawiaethau gau ac attal amrafaelion, a sefydlu heddwch yn mhlith ffrwyth dy lwynau di, a’u dwyn hwynt i wybodaeth o’u tadau yn y dyddiau diweddaf; ac hefyd i wybodaeth o’m cyfammodau, medd yr Arglwydd. Ac allan o wendid y gwneir ef yn gadarn, yn y dydd hwnw pan ddechreuo fy ngwaith yn mhlith fy holl bobl, hyd at dy adferu di, O, dŷ Israel, medd yr Arglwydd. Ac fel hyn y prophwydodd Joseph, gan ddywedyd, Wele, y gweledydd hwnw a fendithia yr Arglwydd; a’r rhai a geisiant ei ddyfetha ef, a gywilyddir; canys yr addewid hon, yr hon a gefais gan yr Arglwydd am ffrwyth fy lwynau, a gyflawnir. Wele, sicr ydwyf y cyflawnir yr addewid hon. A’i enw ef a enwir ar fy enw i; a chaiff fod yn ol enw ei dad. Ac efe a gaiff fod yn gyffelyb i minnau; canys y peth a ddwg yr Arglwydd allan trwy ei law ef, trwy allu yr Arglwydd a ddwg fy mhobl i iachawdwriaeth; ïe, fel hyn y prophwydodd Joseph, Yr wyf yn sicr o’r peth hyn, megys ag wyf yn sicr am addewid Moses; canys yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Mi a gadwaf dy had di yn dragywydd. Ac y mae’r Arglwydd wedi dywedyd, Mi a gyfodaf Foses; a rhoddaf allu iddo mewn gwialen; ac a roddaf farn iddo mewn ysgrifen. Etto ni ryddhaf ei dafod ef, fel y llefaro lawer; canys ni wnaf ef yn alluog mewn llefaru. Ond mi a ysgrifenaf iddo fy nghyfraith, â bys llaw fy hun; ac mi a wnaf un yn enau iddo A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf hefyd, Mi a gyfodaf arall, I had dy lwynau di; ac mi a wnaf un yn enau iddo yntau. Ac wele, myfi a wnaf iddo ysgrifenu ysgrifen ffrwyth dy lwynau, i ffrwyth dy lwynau; a genau o’th lwynau di a’i traetha. A’r geiriau a ysgrifena fydd y geiriau ydynt yn fuddiol yn fy noethineb i fyned allan i blith ffrwyth dy lwynau di. A bydd megys pe byddai ffrwyth dy lwynau di yn gwaeddi arnynt o’r llwch; canys mi a wn am eu ffydd. A hwy a waeddant o’r llwch; ïe, sef edifeirwch wrth dy frodyr, hyd y nod ar ol i lawer o genedlaethau fyned heibio iddynt. A bydd i’w gwaedd fyned, ïe, yn ol symirwydd eu geiriau. O herwydd eu ffydd, eu geiriau a ddeuant allan o’m genau i at eu brodyr, y rhai ydynt ffrwyth dy lwynau di’ a gwendid eu geiriau hwynt a wnaf fi yn nerthol trwy eu ffydd, hyd at gofio fy nghyfammod yr hwn a wnaethym â’th dadau.
Ac yn awr, wele, fy mab Joseph, yn ol y dull hyn y prophwydodd fy nhad i gynt. Am hyny, o herwydd y cyfammod hwn bendigedig ydwyt ti; canys ni ddyfethir dy had di, oblegid hwy a wrandawant eiriau y llyfr. A chyfyd un galuog yn eu mysg hwynt, yr hwn a wna lawer o ddaioni, mewn gair a gweithred, gan fod yn offeryn yn nwylaw Duw, trwy ffydd nerthol, i wneyd rhyfeddodau mawrion, a chyflawni y peth hwnw ag sydd yn fawr yn ngolwg Duw, hyd y nod dwyn oddiamgylch lawer o adferiad i dŷ Israel, ac i had dy frodyr. Ac yn awr, gwyn dy fyd di, Joseph. Wele, tydi ydwyt fychan; am hyny, gwrandaw ar eiriau dy frawd Nephi, a bydd i ti yn ol y geiriau a lefarais. Cofia eiriau dy dad wrth farw. Amen.