Pennod Ⅹ.
Baich Babilon, yr hwn a welodd Esay mab Amos. Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion. Myfi a orchymynais i’m rhai santaidd; gelwais hefyd fy nghedyrn, canys nid yw fy nigter ar y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad. Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; swn twrf teyrnasoedd y cenedloedd wedi ymgynnull: Arglwydd y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel. Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd: sef yr Arglwydd, ac arfau ei lidiawgrwydd, i ddifa yr holl dir.
Udwch; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd; megys anrhaith oddiwrth yr Hollalluog y daw. Am hyny yr holl ddwylaw a laesa; a chalon pob dyn a dawdd. A hwy a ofnant: gwewyr a doluriau a’u deil hwynt; rhyfeddant y naill wrth y llall; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd. Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn grenlawn â digofaint a digter llidiog, i osod y wlad yn ddiffaethwch; a’i phechaduriaid a ddifa efe allan o honi. Canys sêr y nefoedd, a’u planedau, ni roddant eu llewyrch; yr haul a dywyllir yn ei godiad, a’r lleuad ni oleua â’i llewyrch. A mi a ymwelaf â’r byd am ei ddrygioni, ac â’r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy. Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ïe, dyn nâ chŷn o aur Ophir. Am hyny yr ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear a gryn o’i lle, yn nigofaint Arglwydd y lluoedd, ac yn nydd ei ddigter ef. A hi a fydd megys ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a’i coleddo; pawb a wynebant at eu pobl eu hun, a phawb i’w gwlad eu hun a ffoant. Pob un balch a drywenir, ïe, a phob un sydd wedi ei uno â’r drygionus, a syrth trwy y cleddyf. Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a yspeilir, a’u gwragedd a dreisir. Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian ac aur; ac nid ymhyfrydant ynddynt. Eu bwäau hefyd a ddryllia y gŵyr ieuainc, ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant: eu llygaid nid arbed y rhai bach.
A Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant godidawgrwydd y Caldeaid, fydd megys dinystr Duw ar Sodom a Gomorrah. Ni chyfanneddir hi yn dragywydd, ac ni phreswylir hi o genedlaeth i genedlaeth: ac ni phabella yr Arabiaid yno, a’r bugeiliaid ni chorlanant yno. Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno; a’u tai hwynt a lenwir o ormesiaid a chywion yr estrys a drigant yno, a’r ellyllon a lamant yno: a’r cathod a gyd-atebant yn eu gweddw dai hi, a’r dreigiau yn y palasau hyfryd: a’i hamser sydd yn agos i ddyfod, a’i dyddiau nid oedir, ïe, canys mi a fyddaf drugarog wrth fy mhobl; ond y drygionus a ddyfethir.
Canys yr Arglwydd a dosturia wrth Jacob, ac a ddethol Israel etto, ac a bair ddynt orphwys yn eu tir eu hunain: a’r dyeithr a ymgyssyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob. A’r bobl a’u cymmer hwynt, ac a’u dygant i’w lle; ïe, o bell hyd eithafoedd y ddaear: a hwy a ddychwelant i’w tiroedd addawedig. A thŷ Israel a’u meddianna hwynt; a bydd tir yr Arglwydd i weision a morwynion; a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr. A bydd, yn y dydd hwnw i’r Arglwydd roddi llonyddwch i ti oddiwrth dy ofid, ac oddiwrth dy ofn, ac oddiwrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo.
A bydd yn y dydd hwnw, i ti gymmeryd y ddiareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd, Pa wedd y peidiodd y gorthrymwyr? Ac y peidiodd y dref aur? Yr Arglwydd a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr. Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn digllonedd a phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias. Gorphwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd. Y ffinidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynodd cymynydd i’n herbyn. Uffern odditanodd a gynhyrfodd o’th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl freninoedd y cenedloedd o’u gorseddfaoedd. Y rhai hyny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd dithau fel ninnau? A aethost ti yn gyffelyb i ni? Disgynwyd dy falchdeer i’r bedd, a thrwst dy nablau ni chlywir: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a’th doant. Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr-ddydd! A dorwyd ti i lawr, yr hwn a wanheaist y cenedloedd! A dorwyd ti i lawr, yr hwn a wanheaist y cenedloedd! Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i’r nefoedd; oddiar sêr Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf yn mynydd y gynnulleidfa, yn ystlysau y gogledd: dringaf yn uwch nâ’r cymmylau; tebyg fyddaf i’r Goruchaf. Er hyny i uffern y’th ddisgynir, i ystlysau y ffos. Y rhai a’th welant a edrychant arnat yn graff, ac y’th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gwr a wnaeth i’r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd? A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinystriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref? Holl freninoedd y cenedloedd, ïe, hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob un yn ei dŷ ei hun: Eithr tydi a fwriwyd allan o’th fedd, fel cangen ffiaidd, a gweddill y lladdedigion a drywanwyd â chleddyf, y rhai a ddisgynent i geryg y ffos, fel celain wedi ei mathru. Ni byddi mewn un bedd â hwynt, o herwydd dy dir a ddyfeth aist, a’th bobl a leddaist: ni bydd had yr annuwiol enwog byth. Darperwch laddfa i’w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi o honynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd. Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, ac a doraf allan o Babilon enw a gweddill, a mab, ac ŵyr, medd yr Arglwydd: ac a’i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau dystryw, medd Arglwydd y lluoedd.
Tyngodd Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd. Diau megys yr amcenais, felly y bydd; ac fel y bwriedais, hyny a saif: sef mi a ddygaf Assur yn fy nhir: canys mathraf ef ar fy mynyddoedd; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symudir ei faich ef oddiar eu hysgwyddau hwynt. Dyma y gynghor a gymmerwyd am yr holl ddaear; a dyma y llaw a estynwyd ar yr holl genedloedd. O herwydd Arglwydd y lluoedd a’i bwriadodd, a phwy a’i ddiddyma? Ei law ef hefyd a estynwyd, a phwy a’i try yn ol? Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahaz, y bu y baich hwn.
Palestina, na lawenycha di oll, er tori gwïalen dy darawydd: o herwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a’i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog. A chynblant y tlodion a ymborthant, a’r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: ac mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntau a ladd dy weddill. Uda, borth; gwaedda, ddinas; Palestina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o’r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef. A pha beth a atebir i genadau y genedl? Seilio o’r Arglwydd Seion, ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi.