Scriptures
2 Nephi 1


Ail Lyfr Nephi.

Hanes marwolaeth Lehi. Brodyr Nephi yn gwrthryfela yn ei erbyn Yr Arglwydd yn rhybyddio Nephi i fyned i’r anialwch. E deithiau yn yr anialwch, & c.

Pennod Ⅰ.

A bu yn awr, ar ol i mi, Nephi, orphen dyagu fy mrodyr, i’n tad Lehi hefyd lefaru llawer o behau wrthynt, y fath bethau mawrion a wnaeth yr Arglwydd iddynt, wrth eu dwyn hwynt allan o wlad Jerusalem. Ac efe a lefarodd wrthynt ynghylch eu gwrthryfel ar y dyfroedd, a thrugaredd Duw yn achub eu bywydau, fel na chawsant eu llyncu gan y môr. Ac efe hefyd a lefarodd wrthynt ynghylch gwlad yr addewid, yr hon oeddynt wedi ei chael: pa mor drugarog y bu yr Arglwydd yn ein rhybyddio i ffoi allan o wlad Jerusalem. Canys, wele, medd efe, mi a welais weledigaeth, trwy yr hon y gwn fod Jerusalem wedi ei dinystrio; a phe arosasem ni yn Jerusalem, buasem ninnau wedi ein dinystrio hefyd. Ond, medd efe, er ein holl drallodion, ni a gawsom wlad addawedig, gwlad yr hon sydd yn fwy dewisol nag un wlad arall; gwlad ag yr ymgyfammododd yr Arglwydd â mi i fod yn wlad eer etifeddiaeth fy hâd i. Ië, mae yr Arglwydd wedi cytuno i roddi y wlad hon i mi, ac i’m plant dros fyth; ac hefyd i’r holl rai hyny a ddygir o wledydd ereill trwy law yr Arglwydd. Am hyny, yr wyf fi, Lehi, yn prophwydo yn ol gweithrediadau yr Ysbryd yr hwn sydd ynof, na ddaw neb i’r wlad hon, oddieithr iddynt gael eu dwyn trwy law yr Arglwydd. Am hyny, y mae y wlad hon wedi ei chyssegru i’r sawl a ddwg efe. Ac os bydd iddynt ei wasanaethu ef yn ol y gorchymynion a roddodd, caiff fod iddynt yn wlad o ryddid; am hyny ni ddygir hwy byth i gaethiwed; os gwneir, hyny a fydd o achos drygioni; canys os amlha drygioni, melldigedig fydd y tir er eu mwyn; ond i’r cyfiawn bendithir ef yn dragywydd. Ac wele, y mae yn ddoethineb fod i’r wlad hon yn bresennol gael ei chadw yn anadnabyddus i genedloedd ereill; canys, wele, llawer o genedloedd a lanwent y tir, fel na fyddai lle i gael etifeddiaeth. Am hyny, yr wyf fi, Lehi, wedi cael addewid, yn gymmaint ag y bydd i’r cyfryw a ddwg yr Arglwydd Dduw allan o wlad Jerusalem, gadw ei orchymynion ef, y llwyddant ar wyneb y tir hwn; a chedwir hwy oddiwrth bob cenedl arall, fel y meddiannont y tir hwn iddynt eu hunain. Ac os cadwant ei orchymynion ef, hwy a fyddant yn wynfydedig ar wyneb y tir hwn, ac ni fydd neb i’w drygu hwynt, nac i gymmeryd ymaith dir eu hetifeddiaeth; a hwy a drigant yn ddiogel yn dragywydd. Ond, wele, pan ddaw yr amser y bydd iddynt fethu mewn anghrediniaeth, ar ol iddynt ddeerbyn bendithion mor fawr trwy law yr Arglwydd; yn meddu gwybodaeth am greadigaeth y byd, a phob dyn; ac yn gwybod am weithredoedd mawrion a rhyfeddol yr Arglwydd er creadigaeth y byd; yn meddu gallu i gyflawni pob peth trwy ffydd; yn meddu yr holl orchymynion o’r dechreuad, ac wedi eu dwyn trwy ei ddaioni anfeidrol i’r wlad addawedig a gwerthfawr hon; wele, yr wyf yn dywedyd, Os daw y dydd iddynt wrthod Sanct Israel, y gwir Fessiah, eu Gwaredwr a’u Duw, wele, barnedigaethau yr hwn sydd gyfiawn a ddisgynant arnynt; ïe, efe a ddwg genedloedd ereill atynt, ac a rydd iddynt awdurdod, ac efe a gymmer oddiwrthynt diroedd eu hetifeddiaethau; a phara iddynt gael eu gwasgaru a’u taraw. Ië, fel y pasia un genedlaeth i’r llall, y bydd tywallt gwaed ac ymweliadau mawrion yn eu plith hwynt; am hyny, fy meibion, ewyllysiwn i chwi gofio; ïe, ewyllysiwn i chwi wrandaw ar fy ngeiriau. O na ddihunech; ïe, dihuno o drwmgwsg, ïe, sef o gwag uffern, ac ysgwyd ymaith y cadwynau erchyll sydd yn eich rhwymo, y rhai ydynt y cadwynau sydd yn rhwymo plant dynion, fel y caethgludir hwynt i lawr i’r gagendor dragywyddol o drueni a gwae! Dihunwch! A chyfodwch o’r llwch, a gwrandewch eriau rhiant crynedig, aelodau yr hwn a raid orwedd yn fuan yn y bedd oer a dystaw, o ba le nis gall un teithiwr ddychwelyd; ychydig ddyddiau etto, a myfi a âf ffordd yr holl ddaear. Ond, wele, yr Arglwydd a waredodd fy enaid o uffern; mi a welais ei ogoniant ef, ac yr wyf wedi fy amgylchynu yn dragywyddol yn mhreichiau ei gariad. Ac yr wyf yn ewyllysio i chwi gofio cadw deddfau a barnedigaethau yr Arglwydd; wele, hyn fu pryder fy enaid o’r dechreuad. Fy nghalon a orbwyswyd gan dristwch o bryd i bryd, canys yr wyf wedi ofni rhag i’r Arglwydd, o herwydd caledrwydd eich calonau, ddyfod arnoch yn nghyflawnder ei ddigofaint, fel y dyfether ac y dinystrier chwi am byth; neu rhag i felldith ddyfod arnoch dros yspaid llawer o genedlaethau; ac ymweled â chwi gan gleddyf, a chan newyn, a chael o honoch eich cashau, a’ch arwain yn ol ewyllys a chaethiwed y diafol. O, fy meibion, na pheidiai y pethau hyn ddyfod arnoch chwi, eithr bod o honoch yn bobl ddewisol ac anwyl yr Arglwydd. Ond, wele, ei ewyllys ef a wneir; canys ei ffyrdd ef ydynt gyfiawn yn dragywydd; ac y mae efe wedi dywedyd, Yn gymmaint ag y bydd i chwi gadw fy ngorchymynion, chwi a lwyddwch yn y tir; ond yn gymmaint nas cadwch fy nghorchymynion, chwi a ddyfethir o’m blaen: ac yn awr, fel y caffo fy enaid lawenydd ynoch, ac fel y gadawo fy nghalon y byd hwn mewn gorfoledd o’ch plegid; fel na’m dyger i lawr mewn gofid a thristwch i’r bedd,—cyfodwch o’r llwch, fy meibion, a byddwch ddynion, a byddwch benderfynol o un meddwl, ac unol o un galon yn mhob peth, fel na ddyger chwi i gaethiwed; fel na felldithier chwi â melldith dost; ac hefyd, fel na thynoch arnoch anfoddlonrwydd Duw cyfiawn, er dinystr, ïe, dinystr tragywyddol enaid a chorff. Dihunwch, fy meibion; gwisgwch am danoch arfogaeth cyfiawnder. Ysgydwch ymaith y cadwynau wrth ba rai yr ydych yn rhwym, a deuwch allan o dywyllwch, a chyfodwch o’r llwch. Na wrthryfelwch mwyach yn erbyn eich brawd, golygiadau yr hwn ydynt wedi bod yn ogoneddus, a’r hwn sydd wedi cadw y gorchymynion er pan adawsom Jerusalem; a’r hwn a fu yn offeryn yn nwylaw Duw, i’n dwyn ni i wlad yr addewid; canys oni bai ef, buasem wedi marw o newyn yn yr anialwch; er hyny, chwi a geisiasoch gymmeryd ymaith ei fywyd ef; ïe, ac y mae efe wedi dyoddef llawer o dristwch o’ch plegid chwi. Ac yr wyf fi yn ofni a dychrynu yn ddirfawr o’ch plegid chwi, rhag i chwi gael dyoddef etto; canys, wele, cyhuddasoch ef ei fod yn ceisio awdurdod a rheolaeth arnoch; ond mi a wn na cheisiodd efe awdurdod na rheolaeth arnoch; eithr ceisio yr oedd efe ogoniant Duw, a’ch lles tragywyddol chwithau. A chwi a rwgnachasoch o herwydd iddo fod mor hunan-eglur tuag atoch. Yr ydych yn dywedyd iddo fod yn llym tuag atoch; dywedwch hefyd iddo fod yn ddigllawn wrthych; ond, wele, ei lymdra ef oedd llymdra gallu gair Duw, yr hwn oedd ynddo; a’r hyn a alwch chwi yn ddigter oedd y gwirionedd, yn ol fel y mae yn Nuw, yr hwn ni allai efe ei attal wrth amlygu yn eofn ynghylch eich drygioni chwi. Ac anghenrhaid oedd fod gallu Duw gydag ef, cyn y gallai orchymyn i chwi, nes yr oedd yn rhaid i chwi ufyddhau. Eithr, wele, nid efe, ond ysbryd yr Arglwydd, yr hwn oedd ynddo, a agorodd ei enau i lefaru, fel nas gallai ei gau.

Ac yn awr fy mab Laman, ac hefyd Lemuel a Sam, ac hefyd fy meibiion y rhai ydynt feibion Ishmael, wele, os gwrandewch chwi ar lais Nephi, ni ddyfethir chwi. Ac os gwrandewch chwi arno ef, mi a adawaf fendith i chwi, ïe, sef fy mendith gyntaf. Ond os na wrandewch arno, mi a gymmersf ymaith fy mendith gyntaf, ïe, sef fy mendith a hi a orphwysa arno ef. Ac yn awr, Zoram, yr wyf yn llefaru wrthyt ti; Wele, tydi wyt was Laban; er hyny yr ydwyt wedi dy ddwyn allan o wlad Jerusalem, ac mi a wn dy fod yn gyfaill cywir i’m mab Nephi yn dragywydd. Am hyny, oblegid i ti fod yn ffyddlawn, dy had a fendithir gyda’i had ef, fel y preswyliont mewn llwyddiant yn hir ar wyneb y tir hwn; ac ni chaiff dim, oddieithr i ddrygioni fod yn eu plith hwynt, niweidio ac aflonyddu eu llwyddiant ar wyneb y tir hwn yn dragywydd. Am hyny, os cadwch orchymynion yr Arglwydd, y mae yr Arglwydd wedi cyssegru y tir hwn er diogelwch dy had di gyda had fy mab. Ac yn awr, Jacob, yr wyf yn llefaru wrthych chwithau: Tydi ydwyt fy nghyntaf-anedig yn nyddiau fy nhrallod yn yr anialwch. Ac wele, yn dy ieuenctyd yr ydwyt wedi dyoddef trallodion a llawer o dristwch, o herwydd penrhyddid dy frodyr. Er hyny, Jacob, fy nghyntaf-anedig yn yr anialwch, ti a adnabuost fawredd yr Arglwydd; ac efe a gyssegra dy drallodion i fod er ennill i ti. Am hyny, dy enaid a fendithir, a thi a drigi yn ddiogel gyda dy frawd Nephi; a’th ddyddiau a dreulir yn ngwasanaeth Duw. Am hyny, mi a wn dy fod ti wedi dy waredu, o herwydd cyfiawnder dy Waredwr; canys ti a welaist, mai yn nghyflawndeer yr amser, y daw efe i ddwyn iachawdwriaeth i ddynion. A thi a welaist ei ogoniant ef yn dy ieuenctyd; am hyny, ti a fendithiwyd megys hwythau y rhai a weinydda efe iddynt yn y cnawd; canys yr un yw yr Ysbrydd ddoe, heddyw, ac yn dragywydd. Ac y mae’r ffordd wedi ei pharotoi er cwymp dyn, ac iachawdwriaeth yn rhydd. Ac y mae dynion wedi eu dysgu yn ddigonol i wybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg. Ac wrth y gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd; neu, wrth y gyfraith, dynion a dorwyd ymaith. Ië, wrth y gyfraith dymmorol, torwyd hwynt ymaith; ac hefyd, wrth y gyfraith ysbrydol y maent yn marw oddiwrth yr hyn sydd dda, ac yn myned yn druenus am byth. Am hyny, y mae prynedigaeth yn dyfod trwy y Messiah Santaidd, ac ynddo; canys y mae efe yn llawn gras a gwirionedd. Wele, rhodda ei hun yn aberth dros bechod, i ateb gofynion y gyfraith, i’r holl rai hyny a feddant galon ddrylliog ac ysbryd cystuddiedig; ac ni ellir ateb gofynion y gyfraith i neb ereill. Am hyny, pa mor gymmaint ei bwys yw gwneuthur y pethau hyn yn hysbys i drigolion y ddaear, fel y gwybyddont nas gall un cnawd drigo yn mhresennoldeb Duw, oddieithr trwy haeddiant, a thrugaredd, a grâs y Messiah Santaidd, yr hwn a rydd ei fywyd i lawr yn ol y cnawd, ac a’i cymmer i fyny drachefn trwy allu yr ysbryd, fel y dygo oddiamgylch adgyfodiad y meirw, gan fod y cyntaf i adgyfodi. Am hyny, efe yw y blaenffrwyth i Dduw, yn gymmaint ag yr eiriola dros holl blant dynion; a’r rhai a gredant ynddo ef a achubir. Ac o herwydd yr eiriolaeth dros bawb, y mae pob dyn yn dyfod at Dduw; am hyny, safant yn ei bresennoldeb Ef, i’w barnu ganddo yn ol y gwirionedd a’r santeiddrwydd ag sydd ynddo Ef. Am hyny, y mac gofynion y gyfraith, yr hon a roddodd y Sanct, er gweinyddu y gosb gyssylltiedig, yr hon gosb gyssylltiedig sydd mewn gwrthgyferbyniad i eiddo y dedwyddwch cyssylltiedig, i ateb gofynion yr iawn; canys y mae yn anghenrheidiol fod gwrthgyferbyniad yn mhob peth. Pe amgen, fy nghyntaf-anedig yn yr anialwch, nis gallai cyfiawnder gael ei ddwyn oddiamgylch; nac ychwaith ddrygioni; na santeiddrwydd na thrueni; na da na drwg. Am hyny, rhaid fuasai i bob peth fod yn un cyfansawdd; am hyny, pe buasai yn un corff, arosai o anghenrhaid megys yn farw, heb fywyd na marwolaeth, na llygredigaeth nac anllygredigaeth, dedwyddwch na thrueni, na challineb nac anghallineb. Am hyny, rhaid fuasai ei fod wedi ei greu yn ofer, ac na fuasai un dyben yn ei gread. Am hyny, y peth hwn o anghenrhaid a ddinystriai ddoethineb Duw, a’i fwriadau tragywyddol; ac hefyd allu, a thrugaredd, a chyfiawnder Duw. Ac os dywedwch nad oes gyfraith, chwi a ddywedwch hefyd nad oes bechod. Os dywedwch nad oes bechod, chwi a ddywedwch hefyd nad oes gyfiawnder. Ac os nad oes gyfiawnder, nid oes ddedwyddwch. Ac os nad oes gyfiawnder na dedwyddwch, nid oes gosb na thrueni. Ac os nad yw y pethau hyn, nid oes Dduw. Ac os nad oes Dduw, nid oes i ninnau fodoliaeth, na’r ddaear ychwaith; canys ni allai fod creadigaeth pethau, i weithredu, nac i weithredu arnynt; am hyny, buasai pob peth yn rhwym o ddiflanu.

Ac yn awr, fy meibion, yr wyf yn llefaru y pethau hyn wrthych er eich budd a’ch addysg; canys y mac Duw, ac efe sydd wedi creu pob peth, y nefoedd a’r ddaear, a phob peth sydd ynddynt; pethau i weithredu, a phethau i weithredu arnynt; ac er dwyn ei fwriadau tragywyddol oddiamgylch yn nyben dyn, ar ol iddo greu ein rhieni cyntaf, ac anifeiliaid y maes ac ehediaid yr awyr, ac yn fyr, pob peth crëedig, yr oedd yn rhaid fod yno wrthgyferbyniad; sef y ffrwyth gwaharddedig mewn gwrthgyferbyniad i bren y bywyd; un yn felys a’r llall yn chwerw; am hyny, yr Arglwydd Dduw a osododd i ddyn weithredu drosto ei hunan. Am hyny, ni allai dyn weithredu drosto ei hunan, oddieithr iddo gael ei ddenu gan y naill neu y llall.

Ac yr wyf fi, Lehi, yn ol yr hyn a ddarllenais, yn rhwym o dybied, fod angel Duw, yn ol yr hyn sydd yn ysgrifenedig, wedi wyrthio o’r nef; am hyny, aeth yn ddiafol, gan ei fod wedi ceisio yr hyn oedd yn ddrwg gerbron Duw. A chan ei fod wedi syrthio o’r nef, ac wedi myned yn druenus am byth, efe a geisiodd hefyd wneuthur holl ddynolryw yn druenus. Am hyny, efe a ddywedodd wrth Efa, ïe, sef yr hen sarff hono, yr hon yw y diafol, yr hwn yw tad pob celwydd; am hyny, efe a ddywedodd, Cymmerwch o’r ffrwyth gwaharddedig, ac ni fyddwch feirw ddim, eithr chwi a fyddwch megys Duw, yn gwybod da a drwg. Ac ar ol i Adda ac Efa gymmeryd o’r ffrwyth gwaharddedig, hwy a yrwyd allan o ardd Eden, i lafurio y ddaear. A hwy a ymddygasant blant; ïe, sef teulu yr holl ddaear. A dyddiau plant dynion a estynwyd, yn ol ewyllys Duw, fel y gallent edifarhau tra yn y cnawd; am hyny, aeth eu sefyllfa yn sefyllfa o brawf, a’u hamser a estynwyd yn ol y gorchymynion a roddodd yr Arglwydd Dduw i blant dynion. Canys efe a roddodd orchymyn am i bob dyn edifarhau; canys efe a ddangosodd i bawb eu bod yn golledig, o herwydd trosedd eu rhieni. Ac yn awr, wele, pe ni throseddai Adda, ni syrthiai; eithr efe a arosai yn ngardd Eden. A phob peth a grewyd a arosent yn yr un sefyllfa ag oeddynt ynddi wedi eu creu; a hwy a arosent yn dragywydd, ac heb ddiwedd. Ac ni chawsent hwythau ddim plant; am hyny, hwy a arosent mewn ystâd o ddiniweidrwydd, heb feddu gorfoledd, canys ni adnabuasent drueni; yn gwneuthur dim daioni, canys ni adnabuasent bechod. Ond, wele, gwnaethwyd pob peth yn ol doethineb yr hwn sydd yn gwybod pob peth. Syrthiodd Adda fel y bodolai dynion; a bodola dynion fel y gallont gael gorfoledd. Ac y mae’r Messiah yn dyfod yn nghyflawnder yr amser, fel y gwaredo blant dynion o’r cwymp. Ac o herwydd eu bod yn cael eu gwaredu o’r cwymp, deuant yn rhyddion yn gradywydd, gan adnabod da oddiwrth ddrwg; i weithredu drostynt eu hunain, ac nid i gael gweithredu arnynt, oddieithr gan gosb y gyfraith yn y dydd mawr diweddaf, yn ol y gorchymynion a roddodd Duw. Am hyny y mae dynion yn rhyddion yn ol y cnawd; a phob peth anghenrheidiol i ddyn a roddwyd iddynt. Ac y maent yn rhyddion i ddewis rhyddid a bywyd tragywyddol, trwy gyfryngdod mawr pob dyn, neu i ddewis caethiwed a marwolaeth, yn ol caethiwed a gallu y diafol; canys y mae efe yn ewyllysio fod pob dyn yn druenus fel efe ei hun.

Ac yn awr, fy meibion, ewyllysiwn i chwi edrych ar y Cyfryngwr mawr, a gwrandaw ar ei orchymynion mawrion ef; a bod yn ffyddlawn i’w eiriau, a dewisbywyd tragywyddol, yn ol ewyllys ei Ysbryd Santaidd ef, a pheidio dewis marwolaeth dragywyddol, yn ol ewyllys y cnawd a’r drwg sydd ynddo, yr hyn a rydd allu i ysbryd y diafol i gaethiwo, a’ch dwyn i waered i uffern, fel y gallo deyrnasu arnoch yn ei deyrnas ei hun.

Mi a lefarais yr ychydig eiriau hyn wrthych oll, fy meibion, yn nyddiau olaf fy mhrawf; ac mi a ddewisais y rhan dda, yn ol geiriau y prophwyd. Ac nid oes genyf ddyben arall mewn golwg, na lleshad tragywyddol eich eneidiau. Amen.