Pennod Ⅶ.
A bu yn awr, ar ol i mi, Nephi, ddarllen y pethau hyn oedd yn gerfiedig ar y llafnau pres, i’m brodyr ddyfod ataf, a dywedyd wrthyf, Pa beth yw ystyr y pethau hyn a ddarllenasoch? Wele, a ydynt i’w deall yn ol y pethau sydd yn ysbrydol, y rhai a ddeuant oddiamgylch yn ol yr ysbryd, ac nid yn ol y cnawd? A myfi, Nephi, a ddywedais wrthynt, Wele, yr oeddynt yn hysbys i’r prophwyd, trwy lais yr Ysbryd; canys trwy yr Ysbryd gwneir pob peth yn hysbys i’r prophwydi, ag a ddaw ar blant dynion yn ol y cnawd. Am hyny, mae y pethau a ddarllenais yn bethau perthynol i bethau tymmorol ac ysbrydol; canys ymddengys y ca tŷ Israel, rywbryd neu gilydd, eu gwasgaru ar hyd holl wyneb y ddaear, ac hefyd yn mhlith pob cenedl; ac wele y mae llawer ag ydynt eisoes wedi myned yn anhysbys i’r rhai hyny ag ydynt yn Jerusalem. Ië, mae y rhan fwyaf o’r holl lwythau wedi eu harwain ymaith; ac y maent yn wasgaredig yma ac acw ar ynysoedd y môr; a pha le y maent, nis gŵyr neb o honom ni, oddieithr y gwyddom eu bod wedi eu harwain ymaith. Ac er pan arweiniwyd hwynt ymaith, y mae y pethau hyn wedi eu prophwydo am danynt, ac hefyd am yr holl rai hyny a gant ar ol hyn eu gwasgaru a’u cywilyddio, o herwydd Sanct Israel; canys yn ei erbyn ef y caledant eu calonau; am hyny, hwy a wasgerir yn mhlith pob cenedl, ac a ffieiddir gan bawb. Er hyny, ar ol iddynt gael eu magu gan y Cenedloedd, ac i’r Arglwydd gyfodi ei law at y Cenedloedd, a’u gosod i fyny yn faner, ac i’w meibion gael eu dwyn yn eu mynwes, a’u merched ar eu hysgwyddau, wele, y pethau hyn a lefarwyd ydynt dymmorol, canys felly mae cyfammodau yr Arglwydd â’n tadau; a golyga ninnau hefyd yn y dyddiau dyfodol, ac hefyd ein holl frodyr y rhai ydynt o dŷ Israel. A golyga fod yr amser yn dyfod, ar ol i holl dŷ Israel gael eu gwasgaru a’u cywilyddio, i’r Arglwydd Dduw gyfodi cenedl gadarn yn mhlith y Cenedloedd, ïe, sef ar wyneb y tir hwn; a thrwyddynt hwy y gwasgerir ein had ni. Ac ar ol i’n had ni gael eu gwasgaru, yr Arglwydd a â rhagddo i wneuthur gwaith rhyfeddol yn mhlith y Cenedloedd, yr hwn a fydd o werth mawr i’n had ni; am hyny, cyffelybir ef i fagu y Cenedloedd, ac i ddwyn yn eu mynwes, ac ar eu hysgwyddau. A bydd hefyd o werth i’r Cenedloedd; ac nid yn unig i’r Cenedloedd, ond i holl dŷ Israel, hyd at wneuthur yn hysbys gyfammodan y Tad nefol i Abraham, sef, Yn dy had di y bendithir holl lwythau y ddaear; ac mi a ewyllysiwn, frodyr, i chwi wybod na ellir bendithio holl lwythau y ddaear, oni ddynoetha efe ei fraich yn ngolwg y cenedloedd. Am hyny, yr Arglwydd Dduw a â rhagddo i ddynoethi ei fraich yn ngolwg y cenedloedd, er dwyn oddiamgylch ei gyfamodau a’i efengyl, i’r rhai hyny ag ydynt o dŷ Israel. Am hyny, efe a’u dwg hwy drachefn o gaethiwed, a hwy a gesglir ynghyd i diroedd eu hetifeddiaeth; a hwy a ddygir allan o niwl a thywyllwch; a hwy a gânt wybod mai yr Arglwydd yw eu Hiachawdwr a’u cadarn Waredwr, Israel. A gwaed yr eglwys fawr a ffiaidd hono, yr hon ydyw putain yr holl ddaear, a dry ar eu penau eu hunain; canys hwy a ryfelant yn mhlith eu hunain, a chleddyf eu dwylaw eu hunain a syrthia ar eu penau eu hun, a hwy a fedwant ar waed eu hunain. A phob cenedl a ryfelo yn dy erbyn di. O dŷ Israel, a droir y naill yn erbyn y llall, a hwy a syrthiant i’r pwll a gloddiasant er magiu pobl yr Arglwydd. A phawb a ryfelo yn erbyn Seion a ddinystrir. A’r butain fawr hono, yr hon a ŵyrodd ffyrdd uniawn yr Arglwydd, ïe, yr eglwys fawr a ffiaidd hono, a dreigla i’r llwch, a mawr fydd ei chwymp. Canys, wele, medd y prophwyd, y mae yr amser yn dyfod ar frys, pan na chaiff satan awdurdod mwyach ar galonau meibion dynion; canys y mae’r dydd yn dyfod yn fuan, pan y bydd yr holl feilchion a gweithredwyr anwiredd megys sofl; ac y mae’r dydd yn dyfod pan y bydd yn rhaid eu llosgi. Canys dyfod y mae’r amser ar frys, i gyflawnder digofaint Duw gael ei dywallt allan ar holl blant dynion; canys ni ddyoddefa efe i’r drygionus ddyfetha y cyfiawn. Am hyny efe a geidw y cyfiawn trwy ei allu, hyd y nod pe byddai raid i gyflawnder ei ddigofaint ef ddyfod, ac i’r cyfiawn gael eu cadw, hyd y nod er dinystr eu gelynion trwy dân. Wele, fy mrodyr, yr ydwyf yn dywedyd wrthych, fod yn rhaid i’r pethau hyn ddyfod ar fyrder; ïe, rhaid i waed, â thân, a tharth mwg ddyfod; a rhaid iddo fod ar wyneb y ddaear hon; a daw ar ddynion yn ol y cnawd, os caledant eu calonau yn erbyn Sanct Israel; canys wele, y cyfiawn ni threngant, canys yn ddiau rhaid i’r amser ddyfod, y torir ymaith bawb a ryfelo yn erbyn Seion. A’r Arglwydd yn ddiau a barotoa ffordd i’w bobl, hyd at gyflawniad geiriau Moses, y rhai a lefarodd efe, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi brophwyd megys finnau; arno ef y gwrandewch yn mhob peth a ddywedo wrthych. A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y prophwyd hwnw, a lwyr-ddyfethir o blith y bobl. Ac yn awr, yr wyf fi, Nephi, yn mynegi i chwi, mai y prophwyd am ba un y llefarai Moses, oedd Sanct Israel; am hyny, efe a weinydda farn mewn cyfiawnder; ac nid oes achos i’r cyfiawn ofni, canys hwynt hwy yw y rhai ni chywilyddir. Eithr teyrnas y diafol yr hon a adeiladir yn mhlith plant dynion, yr hon deyrnas sydd wedi ei sefydlu yn mhlith y rhai sydd yn y cnawd; canys daw yr amser ar fyrder, i’r holl eglwysi a adeiladir er mwyn elw, a’r holl rai hyny a adeiladir er mwyn cael awdurdod dros y cnawd, a’r rhai hyny a adeiladir er mwyn dyfod yn boblogaidd yn ngolwg y byd, a’r rhai hyny sydd yn ceisio chwantau y cnawd a phethau y byd, ac yn cyflawni pob math o ddrygioni; ïe, yn fyr, yr holl rai hyny ag sydd yn perthyn i deyrnas y diafol, yw y rhai sydd ag achos ganddynt i ofni, a brawychu, a chrynu; hwynt hwy yw y rhai hyny y rhaid eu dwyn yn isel i’r llwch; hwynt hwy yw y rhai hyny y rhaid eu llosgi megys sofl; ac hyn sydd yn ol geiriau y prophwyd. Ac y mae yr amser yn dyfod ar fyrder, pan yr arweinir y cyfiawn i fyny megys lloi pasgedig, ac y rhaid i Sanct Israel deyrnasu mewn mawredd, a gallu, ac awdurdod, a gogoniant mawr. Ac y mae efe yn casglu ei blant o bedwar cwr y ddaear; ac yn cyfrif ei ddefaid, ac y maent hwy yn ei adnabod ef; a bydd un gorlan ac un bugail; ac efe a bortha ei ddefaid, ac ynddo ef y cânt borfa. Ac o herwydd cyfiawnder ei bobl, y mae satan heb awdurdod; am hyny, ni ellir ei ryddhau ef dros yspaid llawer o flynyddoedd; canys nid oes ganddo awdurdod ar galonau y bobl, oblegid y maent yn byw yn gyfiawn, a Sanct Israel yn teyrnasu. Ac yn awr, wele, yr wyf fi, Nephi, yn dywedyd wrthych, fod yn rhaid i’r holl bethau hyn ddyfod yn ol y cnawd. Ond, wele, pob cenedl, llwyth, iaith, a phobl, a drigant yn ddiogel yn Sanct Israel, os bydd iddynt edifarhau.
Ac yn awr, yr wyf fi, Nephi, yn diweddu; canys ni feiddiaf lefaru ychwaneg yn bresennol, ynghylch y pethau hyn. Am hyny, fy mrodyr, hoffwn i chwi ystyried fod y pethau a ysgrifenwyd ar y llafnau pres yn wirioneddol; ac y maent hwy yn tystiolaethu fod yn rhaid i ddyn fod yn ufydd i orchymynion Duw. Am hyny, na feddyliwch mai fy nhad a minnau yw yr unig rai sydd wedi eu tystiolaethu, ac hefyd eu dysgu hwynt. Am hyny, os ufyddhewch i’r gorchymynion, a pharhau hyd y diwedd, chwi a achubir yn y dydd diweddaf. Ac felly y mae. Amen.