Llyfr Cyntaf Nephi.
Ei deyrnasiad a’i weinidogarth
Pennod Ⅰ.
Hanes Lehi a’i wraig Sariah, a’i bedward mab, y rhai a elwid (gan ddechreu ar yr hynaf), Laman, Lemuel, Sam, a Nephi. Mae yr Arglwydd yn rhybyddio Lehi i ymadael o wlad Jerusalem, o herwydd ei fod yn prophwydo wrth y bobl ynghylch eu drygioni; a cheisiant ddyfetha ei fywyd ef. Cymmera daith tri diwrnod i’r anialwch gyda’i deulu. Y mae Nephi yn cymmeryd ei frodyr ac yn dychwelyd i wlad Jerusalem i ymofyn cof-lyfr yr Iuddewon. Hanes eu dyoddefiadau. Cymmerant ferched Ishmael yn wragedd. Cymmerant eu teuluoedd ac ymadawant i’r anialwch. Eu dyoddefiadau a’u cystuddiau yn yr aniolwch. Helynt eu teithiau. Eu dyfodiad at y dyfroedd mawrion. Brodyr Nephi yn gwrthryfela yn ei erbyn. Mae efe yn eu drysu hwynt, ac yn adeiladu llong. Galwasant y lle yn Llawnder. Y meant yn croesi y dyfroedd mawrion i’r tir addawedig, gc. Mae hyn yn ol hanes Nephi, neu, mewn geiriau ereill, myfi, Nephi, a gsgrifenodd y cof-lyfr hwn.
Gan fy mod I, Nephi, wedi fy ngeni o rieni da, yr wyf wedi fy nysgu ryw gymmaint yn holl ddysgeidiaeth fy nhad; ac ar ol gweled llawer o flinderau yn ystod fy nyddiau—er hyny, wedi derbyn llafr fawr oddiwrth Dduw trwy fy holl ddyddiau; ie, wedi cael gwybodaeth fawr am ddaioni a dirgeledigaethau Duw, gan hyny yr wyf yn gwneyd cof-lyfr o’m gweithrediadau yn fy nyddiau; ie, yr wyf yn gwneyd cof-lyfr yn iaith fy nhad, yr hon sydd yn gynnwysedig o ddysgeidiaeth yr Iuddewon ac iaith yr Aifftiaid. Ac yr wyf yn gwybod fod y cof-lyfr ag wyf yn ei wneyd yn wir; ac yr wyf yn ei wneuthur a’m llaw fy hun; ac yr wyf yn ei wneuthur yn ol fy ngwybodaeth.
A dygwyddodd yn nechreu y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Zedekia, brenin Juda (oblegid yr oedd fy nhad Lehi wedi body n byw yn Jerusalem trwy ei holl ddyddiau), ddyfod llawer o brophwydi yn y flwyddyn hono, gan brophwydo wrth y bobl fod yn rhaid iddynt edifarhau, neu fod yn rhaid i ddinas fawr Jerusalem gael ei dinystrio. Am hyny, fy nhad Lehi, fel ag yr oedd yn myned allan, a weddiodd ar yr Arglwydd, ie, sef â’i holl gallon, ar ran ei bobl.
A bu, fel ag yr oedd yn gweddio ar yr Arglwydd, ddyfod colofn o dân a thrigo ar graig o’i flaen; ac efe a welodd ac a giywodd lawer; ac o herwydd y pethau a welodd ac a glywodd, efe a grynodd ac a ofnodd yn ddirfawr.
A bu iddo ddychwelyd I’w dŷ ei hun yn Jerusalem; a thaflodd ei hun ar ei wely gan ei fod wedi ei orchfygu gan yr ysbryd, ynghyd â’r pethau a welodd; ac wedi ei orchfygu felly gan yr ysbryd, cymmerwyd ef ymaith mewn gweledigaeth, nes iddo hyd y nod weled y nefoedd yn agored, a meddyliodd iddo weled Duw yn eistedd ar ei orsedd, wedi ei amgylchynu gan dorfeydd dirifedi o angylion yn yr agwedd o ganu a moli eu Duw.
A bu iddo weled un yn disgyn allan o ganol y nef, a chanfyddodd fod ei ddyscleirdeb ef yn fwy nâ’r haul ganol dydd: a gwelodd hefyd ddeuddeg arall yn ei ganlyn, ac yr oedd eu dyscleirdeb hwynt yn fwy nag eiddo y sêr yn y ffurfafen; a hwy a ddaethant i waered ac a aethant allan ar wyneb y ddaer; a’r cyntaf a ddaeth ac a safodd o flaen fy nhad, ac a roddodd lyfr iddo, ac a’i gorchymynodd ef i ddarllen.
A bu fel ag yr oedd ef yn darllen iddo gael ei lanw gan ysbryd yr Arglwydd; ac efe a ddarllenodd, gan ddywedyd, Gwae, gwae i Jerusalem! Canys yr wyf wedi gweled dy ffieidd-dra; ie, a llawer o bethau a ddarllenodd fy nhad ynghylch Jerusalem—y cawsai ei dinystrio, ynghyd â’i thrigolion; y trengai llawer trwy y cleddyf, ac y cymmerid llawer yn gaethion i Babilon.
A bu, wedi i’m tad ddarllen a gweled llawer o bethau mawr a rhyfedd, iddo lefaru llawer o bethau wrth yr Arglwydd; megys Dduw Hollalluog! Mae dy orseddfainc yn uchel yn y nefoedd, a’th allu, a’th ddaioni, a’th drugaredd sydd dros holl drigolion y ddaear; ac oblegid dy fod yu drugarog, ni ddyoddefi i’r rhai hyny sydd yn dyfod atat, i drengu! Ac yn y modd hyn yr oedd iaith fy nhad wrth foli ei Dduw; canys yr oedd ei enaid yn gorfoleddu, ac yr oedd ei holl gallon wedi ei llenwi, o herwydd y pethau ag oedd wedi weled; ie, yr hyn a ddangosodd yr Arglwydd iddo ef. Ac yn awr, nid wyf fi, Nephi, yn rhoi hanes cyflawn o’r pethau a ysgrifenodd fy nhad, canys y mae efe wedi ysgrifenu llawer o bethau a welodd mewn gweledigaethau ac mewn breuddwydion; ac y mae efe hefyd wedi ysgrifenu llawer o bethau a brophwydodd ac a lefarodd wrth ei blant, o ba rai ni roddaf fi hanes cyflawn; eithr mi a roddaf hanes o’m gweithrediadau yn fy nyddiau. Wele, yr wyf yn gwneyd talfyriad o gof-lyfr fy nhad, ar y llafnau ag wyf wedi wneuthur â’m dwylaw fy hun; am hyny, ar ol i mi dalfyru cof-lyfr fy nhad, yna rhoddaf hanes fy mywyd fy hun.
Gan hyny, yr wyf yn ewyllysio i chwi wybod, ddarfod, ar ol i’r Arglwydd ddangos cymmaint o bethau rhyfedd i’m tad Lehi, ie, ynghyich dinystr Jerusalem, wele, iddo fyned allan i blith y bobl, a dechreu prophwydo a thraethu wrthynt yn aghylch y pethau ag oedd efe wedi weled a chlywed.
A bu ddarfod i’r Iuddewon ei watwar ef, o herwydd y pethau a dystiolaethodd am danynt; canys efe a dystiolaethodd yn wirioneddol am eu drygioni a’u ffieidd-dra; ac efe a dystiolaethodd fod y pethau a welodd ac a glywodd, ac hefyd y pethau a ddarllenodd yn y llyfr, yn egluro yn amlwg ddyfod Messiah, ac hefyd brynedigaeth y byd.
A phan glywodd yr Iuddewon y pethau hyn, yr oeddynt yn ddigllawn tuag ato; ie, megys tuag at y prophwydi gynt, y rhai a fwriasant allan, a luchiasant â cheryg, ac a labyddiasant; ac yr oeddynt hwy hefyd yn ceisio ei fywyd ef, fel y gallant ei gymmeryd ymaith. Ond, wele, myfi, Nephi, a ddangosaf i chwi fod tosturi yr Arglwydd tuag at yr holl rai hyny ag y mae efe wedi eu dewis, o herwydd eu ffydd, i’w gwneuthur hwynt yn alluog hyd y nod i feddu y gallu o ymwared.
Canys, wele, yr Arglwydd a lefarodd wrth fy nhad, ie, sef mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di Lehi, o herwydd y pethau ag wyt wedi wneuthur; ac o herwydd dy fod wedi body n ffyddlawn, ac yn mynegi wrth y bobl hyn y pethau a orchymynais i ti; wele, y meant yn ceisio cymmeryd ymaith dy fywyd.
A bu i’r Arglwydd orchymyn i’m tad, hyd y nod mewn breuddwyd, am iddo gymmeryd ei deulu ac ymadael i’r anialwch. A bu iddo ufyddhau i air yr Arglwydd; am hyny gwnaeth megys y gorchymynodd yr Arglwydd iddo.
A bu iddo ymadael i’r anialwch. Ac efe a adawodd ei dŷ, a thir ei etifeddiaeth, a’i aur, a’i arian, a’i bethau gwerthfawr, ac ni chymmerodd ddim ganddo ond ei deulu, a’i ddarpariadau, a’i bebyll, ac a ymadawodd i’r anialwch; ac efe a ddaeth i wared i’r cyffiniau yn agos i làn y Môr Coch; ac efe a deithiodd yn yr anialwch yn y cyffiniau sydd yn agos i’r Môr Coch; ac efe a deithiodd yn yr anialwch gyda ei deulu, yr hwn a gynnwysai fy mam Sariah, a’m brodyr henaf, y rhai oeddynt Laman, Lemuel, a Sam.
A bu wedi iddo deithio tri diwrnod yn yr anialwch, iddo godi ei babell mewn dyffryn ar làn afon o ddwfr. A bu iddo adeiladu allor o geryg, ac aberthu i’r Argiwydd, a diolch i’r Arglwydd ein Duw. A bu iddo alw enw yr afon yn Laman, a hi a arllwysai i’r Môr Coch; ac yr oedd y dyffryn yn y cyffiniau gerllaw ei enau.
A phan welodd fy nhad ddyfroedd yr afon yn arllwys i ffynnonell y Môr Coch, efe a lefarodd wrth Laman, gan ddywedyd, O na allesit ti fod megys yr afon hon, yn rhedeg yn barhaus i ffynnonell pob cyfawnder. Ac efe a lefarodd wrth Lemuel, O na allesit ti fod megys y ddyffryn hwn, yn gadarn a diysgog ac yn ddiymmod yn cadw gorchymynion yr Arglwydd. Yn awr, hyn a lefarodd efe o herwydd gwargaledrwydd Laman a Lemuel; canys, wele, yr oeddynt yn grwgnach ynghylch llawer o bethau yu erbyn eu tad, oblegid ei fod yn weledydd gweledigaethau, ac wedi eu harwain hwy allan o wlad Jerusalem, i adael tir eu etifeddiaeth, a’u haur, a’u harian, a’u pethau gwerthfawr, i drengu yn yr anialwch. A hyn, meddent hwy, a wnaeth efe o herwydd dychymmygion ffol ei gallon. Ac felly Laman a Lemuel, y rhai oeddynt yr henaf, a rwgnachasant yn erbyn eu tad. A grwgnachasant o herwydd na wyddent am driniaethau y Duw hwnw a’u croedd hwynt. Ni chredent ychwaith fod Jerusalem, y ddinas fawr hono, i gael ei dinystrio yn ol geiriau y prophwydi. Ac yr oeddynt yn debyg i’r Iuddewon, ag oedd yn Jerusalem, y rhai oeddynt yn ceisio cymmeeryd ymaith fywyd fy nhad.
A bu, ddarfod i’m tad lefaru wrthynt yn nyffryn Lemuel, gyda nerth, yn llawn o’r ysbryd, nes yr oedd eu cyrff yn crynu o’i flaen. Ac efe a’u dyrysodd hwynt, fel na feiddient lefaru dim yn ei erbyn; am hyny, gwnaethant megys y gorchymynodd efe iddynt. A’m tad a breswyliai mewn pabell.
A bu ddarfod i myfi, Nephi, gan fod yn dra ieuanc, er hyny yn fawr mewn corffolaeth, ac hefyd yn ewyllysio yn fawr i wybod dirgeledigaethau Duw, i mi am hyny al war yr Arglwydd; ac wele, efe a ymwelodd â mi, ac a feddalhaodd fy nghalon fel y credwn yr holl eiriau a lefarwyd gan fy nhad; am hyny, ni wrthryfelais i yn ei erbyn fel fy mrodyr. A mi a lefarais wrth Sam, gan hysbysu iddo y pethau a eglurodd yr Arglwydd i mi trwy ei Ysbryd Glân.
A bu iddo gredu yn fy ngeiriau; ond, wele, Laman a Lemuel ni wrandawent ar fy ngheiriau: a chan fod yn ofidus o herwydd caledrwydd eu calonau, mi a always ar yr Arglwydd drostynt.
A bu i’r Arglwydd lefaru wrthyf, gan ddywedyd, Gwyn dy fyd di, Nephi, o herwydd dy ffydd, canys yr wyt wedi fy ngheisio yu ddyfal, mewn gostyngeiddrwydd calon. Ac yn gymmaint ag y bydd i ti gadw fy nghorchymynion, ti a lwyddi, ac a arweinir i wlad addawedig; ie, sef gwlad ag wyf wedi barotoi i chwi; ie, gwlad ag sydd yn rhagori ar bob gwlad arall. Ac yu gymmaint ag y bydd i’th frodyr wrthryfela yn dy erbyn di, mi a’u toraf hwynt ymaith o bresennoldeb yr Arglwydd. Ac yn gymmaint ag y bydd i ti gadw fy nghorchymynion, ti a wneir yn lywodraethwr ac yn ddysgawdwr dy frodyr. Canys, wele, yn y dydd y gwrthryfelant yn fy erbyn i, mi a’u melldithiaf hwynt â melldith flin, ac ni chant allu ar dy had di, oddieithr iddynt hwythau hefyd wrthryfela yn fy erbyn. Ac os dygwydd iddynt felly i wrthryfela yn fy erbyn, hwy a gant fod yn fflangell i’th hâd di, i’w cynhyrfu i fyny yn ffyrdd coffadwriaeth.
A bu i myfi, Nephi, ddychwelyd o fod yn ymddyddan â’r Arglwydd, i babell fy nhad. A bu iddo ef lefaru wrthyf, gan ddywedyd. Wele, mi a freuddwydiais freuddwyd, yn yr hon y gorchymynodd yr Arglwydd i mi dy fod ti a’th frodyr i ddychwelyd i Jerusalem. Canys, wele, y mae cof-lyfr yr Iuddewon gan Laban, ac hefyd achyddiaeth dy gyndeidiau, ac y meant ya gerfledig ar lafnau o bres. Am hyny yr Arglwydd a orchymynodd i mi am i ti a’th frodyr fyned i dŷ Laban, a cheisio y cof-lyfrau, a’u dwyn i waerad yma i’r anialwch. Ac yn awr, wele dy frodyr yn grwgnach, gan ddywedyd mai peth called yw yr hyn a ofynais oddiwrthynt; ond, wele, nid wyf fi wedi ei ofyn oddiwrthynt; eithr gorchymyn yr Arglwydd ydyw. Gan hyny, dos, fy mab, a thi a gai ffafr yr Arglwydd, o herwydd na rwgnachaist.
A bu i myfi, Nephi, ddywedyd wrth fy nhad, Myfi a âf ac a gyflawnaf y pethau a orchymynodd yr Arglwydd, canys yr yr wyf yn gwybod nad yw yr Arglwydd yn rhoddi gorchymynion i blant dynion, oddieithr ei fod yn parotoi flordd iddynt, fel y gallont gyflawni y peth y mae efe yn orchymyn iddynt.
A bu pan glywodd fy nhad y geiriau hyn, iddo fod yn dra llawen, canys fe wyddai fy mod i wedi fy mendithio gan yr Arglwydd. a myfi, Nephi, a’m brodyr, a gymmerasom ein taith i’r anialwch gyda ein pebyll, er myned I fyny i wlad Jerusalem.
A bu wedi i ni ddyfod i fyny i wlad Jerusalem, i myfi a’m brodyr ymgynghori â’n gilydd; a ni a fwriasom goelbrenau pa un o honom a gai fyned i dŷ Laban. A bu i’r goelbren ddisgyn ar Laman; a Laman a aeth i dŷ Laban, ac a ymddyddanodd age f tray n eistedd yn ei dŷ. Ac efe a ddymunodd gael gan Laban y cof-lyfrau ag oedd yn gerfledig ar lafnau o bres, y rhai a gynnwysent achyddiaeth fy nhad.
Ac wele, dygwyddodd i Laban fod yn ddigllawn, ac efe a’i bwriodd ef allan o’i bresennoldeb; ac ni ewyllysiai iddo gael y cof-lyfrau. Am hyny, efe a ddywedodd wrtho, wele, yr wyt ti yn lleidr, a mi a’th laddaf. Ond Laman a ffodd o’i wydd, ac a fynegodd wrthym ni y oethau a enaeth Laban. A nyni a ddechreuasom fod yn drist iawn, ac yr oedd fy mrodyr yn nghylch dychwelyd yn ol at fy nhad yn yr anialwch. Ond, wele, mi a ddywedais wrthynt, Fel mai byw Duw, ac fel mai byw nyni, nis awn i waered at ein tad i’r anialwch, hyd nes y byddom wedi cyflawni i pet hag y mae yr Arglwydd wedi ei orchymyn i ni. Am hyny, byddwn ffyddlawn i gadw gorchymynion yr Arglwydd; awn gan hyny i waered i dir etifeddiaeth ein tad, canys wele efe a adawodd aur ac arianm a phob math o gyfoeth. A hyn oll a wnaeth efe, o herwydd gorchtntbuib tr Arglywdd; canys efe a wyddai fod yn rhaid i Jerusalem gael ei dinystrio, o herwydd drygioni y bobl.
Canys wele, gwrthodasant eirian y prophwydi. Am hyny, pe trigai fy nhad yn y wlad wedi cael gorchymyn i ffoi allan o’r wlad, wele efe a ddinystrid hefyd. Am hyny yr oedd yn rhaid iddo ef ffoi allan o’r wlad. Ac wele, y mae yn ddoethineb yn Nuw fod i ni gael y eof-lyfrau hyn, fel y gallom gadw i’n plant iaith ein tadau; ac hefyd fel y gallom gadw iddynt hefyd y geirian a lefarwyd trwy eneuau yr holl brophwydi santaidd, y rhai a roddwyd iddynt gan yr ysbryd a thrwy allu Daw, er dechreuad y byd, ie, i waered i’r amser presennol hwn.
A bu mai yn ol iaith o’r dull hyn y perswadiais fy mrodyr, fel y byddent ffyddlawn i gadw gorchymynion yr Arglwydd. A bu i ni fyned i waered i dir ein hetifeddiaeth, a nyni a gasglasom ynghyd ein haur, a’n harian, a’n pethau gwerthfawr. Ac ar ol i ni gasglu y pethau hyn ynghyd, nyni a aethom i fyny drachefn i dŷ Laban.
A bu i ni fyned i mewn at Laban, a dymuno arno i roddi i ni y cof-lyfrau ag oedd wedi eu cerfio ar y llafnau pres, am ba rai y rhoddem ni iddo ef ein haur, a’n harian, a’n holl bethau gwerthfawr.
A bu pan welodd Laban ein heiddo, a’i fod yn fawr iawn, efe a’i chwennychodd, yn gymmaint ag iddo ein bwrw ni allan, a danfon ei weision i’n lladd, fel y gallai gael ein heiddo. A bu i ni ffoi o flaen gweision Laban, a gorfodwyd ni i adael ein heiddo ar ol, a syrthiodd i ddwylaw Laban.
A bu i ni ffoi i’r anialwch, ac ni oddiweddwyd nig an weision Laban, a nyni a ymguddiasom mewn ceudod craig. A dygwyddodd i Laman fod yn ddigllawn wrthyf, ac hefyd wrth fy nhad, ac felly hefyd yr oedd Lemuel, canys efe a wrandawodd eiriau Laman. Am hyny Laman a Lemuel a lefarasant lawer o eiriau celyd wrthym ni, eu brodyr ieuengaf, ac a’n tarawasant ni hyd y nod â gwialen.
A bu tra yr oeddynt y nein taraw ni â gwialen, wele, daeth angel yr Arglwydd ac a safodd o’u blaen hwynt, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn taraw eich brawd ieuengaf â gwialen! Ai ni wyddoch chwi fod yr Arglhyn o herwydd eich drygioni? Wele, chwi a gewch fyned i fyny i Jerusalem etto, a’r Arglwydd a draddoda Laban i’ch dwylaw chwi. Ac wedi i’r angel lefaru wrthym, efe a ymadawodd.—Ac wedi i’r angel ymadael, Laman a Lemuel a ddechreuasant rwgnach drachefn, gan ddywedyd, Pa fodd y mae yn bosibl y traddoda yr Arglwydd Laban i’n dwylaw ni? Wele, y mae efe yn ddyn galluog, ac y mae deg a deugain wrth ei orchymyn, ie, y mae efe yn medru lladd deg a deugain; yna paham nyni?
A bu i mi lefaru wrth fy mrodyr, gan ddywedyd, Gadewch i ni fyned i fyny etto i Jerusalem, a body n ffyddlawn i gadw gorchymynion yr Arglwydd; canys, wele, y mae efe yn alluocach nâ’r holl ddaear, paham ynte nad yn alluocach nâ Laban a’i ddeg a deugain; ie, neu hyd y nod ei ddegau o filoedd. Gan hyny, gadewch i ni fyned I fyny; gadewch i ni fod yn gryf fel Moses; canys efe yn ddiau a lefarodd wrth ddyfroedd y Môr Coch, a hwy a ranasant tuag yma a thraw, a death ein tadau trwyodd allan o gaethiwed ar dir sych, a byddinoedd Pharaoh a ganlynasant ac a foddwyd yn nyfroedd y Môr Coch. Yn awr, wele, yr ydych chwi yn gwybod fod hyn yn wir; ac yr ydych yn gwybod hefyd fod angel wedi llefaru wrthych; pa fodd y gellwch ammau? Gadewch i ni fyned i fyny; mae yr Arglwydd yn alluog i’n gwaredu ni, ie, megys ein tadau; ac i ddyfetha Laban megys yr Aifftiaid.
Yn awr pan lefarais i y geiriau hyn, yr oeddynt yn ddigllawn etto, ac yn parhau o hyd i rwgnach; er hyny, hwy a’m canlynasant i fyny hyd nes y deathom y tua allan i furiau Jerusalem. Ac yr oedd hyn yn y nos; a pherais iddynt i ymguddio y tu allan i’r muriau. Ac wedi iddynt hwy ymguddio, myfi, Nephi, a ymlusgais i mewn i’r ddinas, ac a aethym yn mlaen tua thŷ Laban. A myfi a arweiniwyd gan yr Ysbryd, heb wybod rhagllaw y pethau ag oeddwn i’w gwneuthur. Er hyny, mi a aethym yn mlaen, ac fel yr oeddwn yn dynesu at dŷ Laban, mi a welais ddyn, ac yr oedd wedi syrthio ar y ddaear o’m blaen, canys yr oedd yn feddw gan win. A phan ddaethym ato canfyddais mai Laban oedd. Ac mi a welais ei gleddyf ef, a thynais e fallan o’i waun, ac yr oedd ei gran o aur pur, a’i wneuthuriad yn neillduol o deg: a chanfyddais fod ei lafn o’r dur mwyaf gwerthfawr.
A bu i mi gael fy nghymhell gan yr ysbryd fod i mi ladd Laban: ond mi a ddywedais yn fy nghalon, Erioed ni thywelltais I waed dyn, ac mi a arswydais ac a ewyllysiais pe gallwn beidio ei lad def. A’r ysbryd a ddywedodd wrthyf drachefn, Wele mae yr Arglwydd wedi ei roddi yn dy ddwylaw di; ïe, ac mi a wyddwn hefyd ei fod ef wedi ceisio cymmeryd ymaith fy mywyd fy hun; ïe, ac ni wrandawai ar orchymynion yr Arglwydd; ac hefyd yr oedd ef wedi cymmeeryd ymaith ein heiddo:
A bu i’r ysbrydd ddywedyd wrthyf drachefn, Lladd ef, canys y mae yr Arglwydd wedi ei roddi yn dy ddwylaw di. Wele, y mae yr Arglwydd yn lladd y drygionus er dwyn oddiamgylch ei ddybenion cyfiawn ef. Mae yn well fod un dyn yn cael marw, nâ bod cenedl yn cael dihoeni a marw mewn anghrediniaeth.
Ac yn awr, myfi, Nephi, pan glywais y geiriau hyn, a gofiais y geiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthyf yn yr anialwch, gan ddywedyd, Yn gymmaint ag y bydd i’th hâd gadw fy nghorchymynion i, hwy a lwyddant yn ngwlad yr addewid. Ië, a meddyliais hefyd nad allent hwy gadw gorchymynion yr Arglwydd yn ol cyfraith Moses, oddieithr iddynt gael y gyfraith. Ac mi a wyddwn hefyd fod y gyfraith wedi ei cherfio ar y llafnau pres. Ac etto—fe wyddwn fod yr Arglwydd wedi rhoddi Laban yn fy nwylaw i i’r dyben hyn, fel y gallwn gael y cof-lyfrau yn ole i orchymynion. Gan hyny, mi a ufyddheais i lais yr yabryd, ac a gymmerais Laban gerfydd gwallt ei ben, ac a dorais ymaith ei ben â’i gleddyf ei hun.
Ac ar ol i mi dori ymaith ei ben â’i gleddyf ei hun, mi a gymmeerais ddillad Laban, ac a’u gwisgais am fy nghorff fy hun; ïe, bod mymryn; ac mi a wregysais ei arfogaeth ef oddiamgylch fy lwynau. Ac ar ol i mi wneuthur hyn, mi a aethym yn mlaen at drysordy Laban. Ac fel yr oeddwn yn myned ya mlaen at drysordy Laban, wele, mi a welais was Laban, yr hwn oedd ag allweddau y trysordy. A myfi a orchymynais iddo yn llais Laban, am iddo ddyfod gyda mi i’r trysordy; ac efe a feddyliodd mai myfi oedd ei feistr Laban, canys efe a welai y dillad ac hefyd y cleddyf wedi ei wregysu oddiamgylch fy lwynau. Ac efe a lefarodd wrthyf ynghylch henuriaid yr Iuddewon, gan wybod fod ei feistr Laban wedi bod allan y nosy n eu plith. Ac mi a lefarais wrtho ef megys pe byddwn Laban. Ac hefyd mi a ddywedais wrtho y buaswn yn cario y cerfiadau ag oedd ar y llafnau pres, at fy mrodyr henaf, y rhai oeddynt y tu allan i’r muriau. A myfi hefyd a orchymynais iddo fy nghanlyn. Ac efe, gan dybied fy mod yn llefaru am y brodyr yn yr eglwys, ac mai myfi yn ddiau oedd y Laban ag oeddwn wedi ladd, am hyny efe a’m canlynodd. Ac efe a lefarodd lawer o bethau wrthyf ynghylch henuriaid yr Iuddewon, fel ag yr oeddwn yn myned at fy mrodyr, y rhai oeddynt y tu allan i’r muriau.
A bu pan ddarfu i Laman fy ngweled i, efe a ofnodd yn ddirfawr, ac hefyd Lemuel a Sam. A hwy a ffoisant o flaen fy mhresynnoldeb; canys hwy a feddyliasant mai Laban oeddwn, a’i fod wedi fy lladd i, a’i fod yn ceisio cymmeryd ymaith eu bywydau hwythau hefyd.
A bu i mi alw ar eu hol hwynt, a hwy a’m elywsant i; am hyny peidiasant a ffoi o’m presennoldeb. A bu, pan welodd gwas Laban fy mrodyr, iddo ddechreu dychrynu, ac yr oedd ynghylch ffoi oddiwrthyf fi a dychwelyd i ddinas Jerusalem.
Ac yn awr, myfi, Nephi, gan fod yn ddyn o gorffolaeth mawr, ac hefyd wedi derbyn nerth mawr gan yr Arglwydd, gan hyny mi a ymaflais yn ngwas Laban, ac a’i deliais ef, fel nad allai efe ffoi.
A bu i mi lefaru wrtho, os byddai iddo wrandaw ar fy ngeiriau, fel mai byw yr Arglwydd, ac fel mai byw finnau, ïe, os byddai iddo wrandaw felly ar ein geiriau, y buasem yn arbed ei fywyd. Ac mi a lefarais wrtho ef, hyd y nod gyda llw, nad oedd achos iddo i ofni; y cawsai fod yn ddyn rhydd megys ninnau, os deuai efe i waered i’r anialwch gyda ni. Ac hefyd mi a lefarais wrtho ef, gan ddywedyd, yr Arglwydd yn ddiau a orchymynodd i ni wneuthur y peth hwn; ac a gawn ni ddim fod yn ddiwyd i gadw gorchymynion yr Arglwydd? Gan hyny, os ai di i waered i’r anialwch at fy nhad, ti a gai le gyda ni.
A bu i Zoram ymwroli wrth y geiriau a lefarais. Yn awr Zoram oedd enw y gwas; ac efe a addawodd yr ai i waered i’r anialwch at fy nhad. Ac hefyd efe a wnaeth lw wrthym ni, y gwnai efe drigo gyda ni o’r amser hwnw allan. Yn awr, yr oeddem yn ewyllysio iddo aros gyda ni o herwydd yr achos hyn, fel na allai yr Iuddewon wybod ynghylch ein ffoedigaeth i’r anialwch, rhag iddynt ein dilyn ni a’n dyfetha.
A bu, wedi i Zoram wneyd llw wrthym, ddarfod i ni beidie ofni o’i herwydd ef. A bu i ni gymmeryd y llafnau pres a gwas Laban, ac ymadael i’r anialwch, a theithio tuag at babell ein tad.
A bu ar ol i ni ddyfod i waered i’r anialwch at ein tad, wele, yr oedd efe wedi ei lanw o lawenydd, ac hefyd yr oedd fy mam Sariah yn llawen iawn, canys yn ddiau yr oedd hi wedi galaru o’n herwydd; oblegid yr oedd wedi meddwl ein bod wedi trengu yn yr anialwch; ac yr oedd hi hefyd wedi achwyn yu erbyn fy nhad, gan ddywedyd wrtho mai gweledydd gweledigaethau oedd; gan ddywedyd, Wele, yr wyt wedi ein harwain ni allan o wlad ein hetifeddiaeth, a’m meibion nid ydynt mwyach, a ninnau a fyddwn farw yn yr anialwch. Ac yn ol iaith o’r dull hyn yr achwynai fy mam yn erbyn fy nhad.
A bu i’m tad lefaru wrthi hi, gan ddywedyd, Yr wyf yn gwybod mai gweledydd gweledigaethau ydwyf; canys pe byddwn heb weled pethau Duw mewn gweledigaeth, ni fuaswn wedi gwybod am ddaioni Duw, eithr wedi aros yn Jerusalem, a threngu gyda’m brodyr. Ond, wele, yr wyf wedi cael gwlad o addewid, yn yr hyn bethau yr wyf yn gorfoleddu; ïe, ac yr wyf yn gwybod y gwareda yr Arglwydd fy meibion allan o ddwylaw Laban, a’u dwyn hwynt i waered etto atom ni i’r anialwch. Ac yn ol iaith o’r dull hyn y gwnai fy nhad Lehi gysuro fy mam Sariah, yn ein cylch ni, tra yr ymdeithiem yn yr anialwch i fyny i wlad Jerusalem, i ymofyn cof-lyfr yr Iuddewon.
Ac wedi i ni ddychwelyd i babell fy nhad, wele yr oedd eu llawenydd yn gyflawn, ac yr oedd fy mam wedi ei chysuro; a hi a lefarodd, gan ddywedyd, Yn awr y gwn yn sicr ddarfod i’r Arglwydd orchymyn i’m gwr ffoi i’r anialwch; ïe, a gwn yn sicr hefyd fod yr Arglwydd wedi amddiffyn fy meibion, ac wedi eu gwaredu hwynt allan o ddwylaw Laban, ac wedi rhoddi gallu iddynt trwy yr hwn y gallent gyflawni y peth a orchymynodd yr Arglwydd iddynt. Ac yn ol iaith o’r dull hyn y llefarasai hi.
A bu iddynt hwy lawenychu yn ddirfawr, ac offrymu aberthau a phoeth-offrymau i’r Arglwydd; a hwy a roddasant ddiolchgarwch i Dduw Israel. Ac ar ol iddynt hwy roddi diolchgarwch i Dduw Israel, fy nhad Lehi a gymmerth y coflyfrau ag oedd wedi eu cerfio ar y llafnau pres, ac a’u chwiliodd hwynt o’r dechreu. Ac efe a ganfyddodd eu bod yn cynnwys pum llyfr Moses, y rhai a roddasent hanes am greadigaeth y byd, ac hefyd am Adda ac Efe, y rhai oeddynt ein rhieni cyntaf; ac hefyd, gof-lyfr am yr Iuddewon o’r dechreuad, i lawr hyd at ddechreu teyrnasiad Zedekiah, brenin Juda; ac hefyd brophwydoliaethau y prophwydi santaidd o’r dechreuad, i lawr hyd at ddechreu teyrnasiad Zedekiah; ac hefyd llawer o brophwydoliaethau a lefarwyd trwy enau Jeremiah.
A bu ddarfod i’m tad Lehi gael allan hefyd ar y llafnau pres, achyddiaeth ei dadau; trwy yr hyn y gwyddai efe ei fod ya ddisgynydd o Joseph; ïe, sef y Joseph hwnw ag oedd yn fab Jacob, yr hwn a werthwyd i’r Aifft, ac a gadwyd trwy law Duw, fel y gallai yntau gadw ei dad Jacob a’i holl deulu, rhag marw o newyn. A hwy hefyd a ddygwyd allan o gaethiwed ac allan o wlad yr Aifft, trwy yr un Duw a’u cadwodd hwynt. Ac felly y darganfyddodd fy nhad Lehi achyddiaeth ei dadau. Ac yr oedd Laban hefyd yn ddisgynydd o Joseph, o ba herwydd y darfu iddo ef a’i dadau gadw y cof-lyfrau.
Ac yn awr, pan welodd fy nhad yr holl bethau hyn, efe a lanwyd o’r ysbryd, ac a ddechreuodd brophwydo ynghylch ei hâd; y cawsai y llafnau prês hyn fyned allan at yr holl genedloedd, llwythau, tafod-ieithoedd, a phobloedd ag oeddent o’i hâd ef. Am hyny, efe a ddywedodd na chawsai y llafnau prês hyn byth eu dystrywio, nac ychwaith eu pylu mwyach gan amser. Ac efe a brophwydodd lawer o bethau ynghylch ei hâd.
A bu ddarfod i mi a’m tad, hyd yma, gadw y gorchymynion a orchymynwyd i ni gan yr Arglwydd. Ac yr oeddem wedi cael y cof-lyfrau a orchymynodd yr Arglwydd i ni, ac wedi eu chwilio a chael allan eu bod yn ddymunol; ïe, o werth mawr i ni, yn gymmaint ag y gallem gadw gorchymynion yr Arglwydd i’n plant. Am hyny, yr oedd yn ddoethineb yn yr Arglwydd fod i ni eu cario hwynt gyda ni, tra y teithiem yn yr anialwch tua gwlad yr addewid.